Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Gwerthu Plwyf. 'CAFODD Mr Dew, yr arwertbydd bydenwog o Fangor, waith wrth fodd ei galon am dridiau o'r Wythnos ddiweddaf, sef gwerthu rhan o ystad enwog Gwydyr, ger Llanrwst, ac yn cynwys bron yr oil o blwyf Dolyddelen-plwyf ar gyfrif ei haues hen a diweddar, yn nghyda'i olygfeydd rhamantus, sydd gyda'r mwyaf dyddorol yn Nghymru. Nid anrhydedd bychan i Gymro I oedd cael arwerthiad mor bwysig i'w ofal a cha i iddo gael prisiau da, ychydig o "with- drawal" a gwell na'r cwbl, gael y tenantiaid gan mwyaf yn brynwyr, gobeithio ei fod yn teimlo'n hapus ar ddiwedd ei waitb, ac Argl. Ancaster, y percbenog, wedi ei lawn foddloni. Cynwysai'r arwerthiad tua phumtheng mil o aceri, llawer ohono yn fynydd dir digon di- ffrwyth, cynefinoedd defaid gan mwyaf ychydig o yd a godir arno, ceirch yn benaf, a dim gwen- ith. Y mae ar y lianerch a werthid dair neu bedair o cbwarelau Ilechi ond eu bod, fel cloc Elis o'r Nant, weithiau'n myn'd ac weithiau'n sefyll. Tanycastill GALWYD sylw dreion yn y golofn hon at gyflwr diymgeledd yr hen furddyn dadfeiliedig hwn, sef y man y ganwyd y pregethwr mawr o Daly. sarn, ac oberwydd hyny yn werthfawr yn ngolwg pob Cymro gwerth yr enw Y mae'n hyfrydwch genyf ddeall fod y lie wedi ei brynu am 80p i fab y Parch John Jones, sef y Parch D. Lloyd Jones, Llandinam. Diau y bydd i Mr Jones adayweirio yr hen ffermdy candryll; ac y cyfyd y Corph y bu yr efengvlydd godidog 0 gymaint add urn a gwasanaeth iddo gofgolofn hardd yn y fan, deilwng o'i goffadwriaefcb, ac a dynai hefyd luaws yno, er mor ddiarffordd ydyw, i'w gweled. Ffordd effeithiol yn mbob oes ac yn mhob gwlad i godi rhai tebyg iddynt ydyw parchu llwch enwogion. Castell Dolyddelen. AR fryncyn uwchlaw Tanycastell, y saif gwedd- "lion adeilad a fu am oesau yn amddiffynfa gadarn rhag y gwylliaid lluosog oedd yn an- nrheithio Nant Conwy, ac efaUai hefyd yn gwarchod y bwlch hwnw rhag ymgyrch byddin- oedd y Saeson i Eryri. Bu rhai o'r hen dywys- ogion Cymreig yn byw ynddo, ac un ohonynt oedd Iorwerth Drwyndwn, tad Llewelyn Fawr yr oedd yn gyrchfa y wledd a'r ddawns a'r rhiaItwch. Ond yn awr Drain ac ysgall mall a'i medd, Mieri lie bu mawredd. Y mae pedwar o'i furiau yn aros wedi goroesi ystormydd canrifoedd, a chynygid yr adfail hon Aj- uchaf ei bns a gwerthwyd hi, yn nghyda ■fban o fferm Bryntirion, i'r tenant am y swm o Gan na ddywedir faint o dir oedd yn y jargen, nis gwn y pris a dalwyd am y Castell pe gallasai r Americaniaid, dyweder, symud y lot hon i ymyl rhai o'u dinasoedd newydd ,tnawrion, buasent yn rhoi Talaeth am dani. o?l uyr Iancwys cywrain wneud pobpeth bron M ^hynafiaeth. Ceidw Amser y gwaith hwn ya ei law ei hun. Teulu Gwydir. AN deyrnasiad Harri VII., prynwyd y Castell j* tiroedd o'i gwmpas gan Meredydd ab Ifan o 11 Yr oedd yn wel1 San Meredydd, eddai ef, ymladd a gwylliaid a Uadron, nag ■ei 5? ynJ,Elfionydd i ymladd a'i dy a'i dylwyth Ca<^arnhaodd y lie er ei ddyogelwch ai deulu; ond ni feiddiai groesi ei riniog ei yd y" n°d.i fyned i>r ESlwys heb o leiaf gain 0 wyr cryfion i'w warchod. Ond o dipyn Xla caf°dd M eredydd a'i ddisgynyddion y oed^^ ar yr herwyr anneddfol ac fel yr aefh m, yJwylliaid yn lleihau, eangai tiriog- arf P°bl y Castell. Dywedir hefyd ei bod yn enad gan ffriholdars bychain oddeutu dd'od U gweithredoedd i'w cadw er dyogelwch yn y er A X ac na cliafwy^ rhai o'r teitlau byth yn ol 1 Fel hyn' trwy deg ac annheg, riw K Plwyfidolyddelen, Llanrhochwyn,aThref- ? 1 gyd 1 feddiant Meredydd a'i olvnwvr SwoUJl"anf Wynn'oi fab' »th«d y* in,! yi''V a helaetbodd os Dad a dd gyntaf Gastell Gwydir, ger Llanrwst. Hawliau'r Cyffredin? y a roddwyd gyda'r tir a dyogeK yri wythno £ s ddiweddaf yn eithaf ddoroi 7 n?ol7§ y gyfraith ond byddai'n ddy- gw^bod Pa faint ohono ar y dechreu 8elcio n5nj'-°neBt X'r teulu hwn' Pa fain* trwy adlar eraill, a pba faint a berthynai lotkn ystyr foeso1 i'r Wladwriaeth. Un o'r Chu yn y rhestr ydoedd Moel Siabod, un o W"f y Wyddfa. Pa bryd y d'aeth y ei KomlWr yn eiddo personol 1 A oes a e?og hawl i rwystro y cyhoedd i'w Go' a chrydro hyd ei llechweddall '? Y mae'r iadol W„e>1-Sc>es weQi ei gau, lliciiardau awgrym- hafottv Kn!, JUI Sosod gerllaw Moel Fama, a yddfa n ° ^a's wed^ ei g°di ar ben y fy^beth i'm 0es gaa e^n Cynghorau Sirol 0es feT yr atal%dd hyn ? Os °d ganddynt dwyr hawliau'r wlad. dylai Syr Watkin Williaus Wynn. CANGHEN o Wynniaid Gwydir ydyw Wynniaid Wynustay ac fe gofir fod Syr Watkyn wedi ei ddirwyo yn drwm beth amser yn oi gan rai o ynadon sir Amwythig am guro ei geffyl am ym- godi tano with hela. Tystiai rhai ei fod wedi ffonodio yr anifail oddeutu ei ben a'i safn yn afresymol tra y dywedai eraill nad oedd y gurfa ddim yn ormod co,b. Pa fodd bynag, y tystion cyntaf a goeliwyd, a dirwywyd y cy- buddedig i 5p a'r costau. Ond ddydd Mawrth, mewnlys o holl ynadon y sir a gynaliwyd yn Amwythig, apeliwyd yn erbyn y ddirwy, ac wedi gwrandawiad a barhaodd am agos i saith awr, dirymwyd y ddedfryd flaenorol. Bydd yn dda gan luoedd heblaw Toriaid glywed am hyn, canys yr oedd tipyn o sawyr Puariseaeth ar y cyhuddiad o'r dechreu, os nid casineb personol. Gobeithio er hyny y bydd y ddiangfa gyfyng a gafodd y tro hwn rhag y ddedfryd drom, a'i chanlyniadau trymach fyth i wr o'i safle ef, yn rhybudd iddo ac i'w gyd-helwyr, nad yw yn iawn ymddwyn yn afresymol tuag at anifail direswm ac er mai creadur cas, peryglus, ac anhawdd ei wella o'r cast hwn, ydyw helfarch yn rerio, casach fyth fyddai cael Syr Watkin heb fod yn nac ynad heddwch, na rhaglaw sir, ac efallai yn cael ei alw yn Mr Wynn ac nid ar yr hen euw hybarch Syr Watkin. Yr Eglwys yn ''troi at y Baptist." CAFWYPgolygfa ryfedd ddydd Stilgerllaw Siliwen Bangor. Offeiriad yn bedyddio dwy lodes o'i ddeiliaid yn nyfroedd y Fenai i'r ffydd sydd yn ol Eglwys Loegr. Daeth cryn dyrfa yn nghyd i weled seremoni mor ddyeithr can wyd emynau ar y dechreu darlienwyd rhanau o'r gwasanaeth gan y Parch Edwin Jones, ficer St. Mair, Ban- gor a chyflawnwyd y ddefod gan y curad, y Parch Benjamin Thomas. Dwy enethig yn perthyn i Eglwys Mair a fedyddid, un yn ddeg a'r llall yn bedair ar ddeg oed. Fe wna'r offeir- iaid fedyddwyr tan gamp pan ddileer y degwm, ac y caffont eu traed yn rhydd o'r blin gaeth- iwed hyn." Cywiro gwall bychan. TRA yn son uchod am John Jones, Talsarn, ymddengys i'w fywgrapbydd craff a manwl, Dr. Owen Thomas, syrthio i ycbydig amryfusedd parth dydd ei enedigaetb. Dywedir fel hyn yn y Cofiant Yn ol y coffadwriaeth yn y Beibl oedd yn eiddo debygid i'w dad, os nad ydyw y coffadwriaeth hefyd yn llawysgrif ei dad, fe'i ganwyd ar ddydd Iau, Mawrth 1, 1796, am bedwar ar y gloch yn y prydnawn." "Yn awr," ebe un o'r teulu, mewn llythyr ataf, "gan mai dydd Mawrth ydoedd y lof o Fawrth, 1726, rhaid fod rhyw gamgymeriad nailJ. yn y dydd o'r mis neu y dydd o'r wythnos a chan nad yw hyny yn debygol mewn cofnodiad o'r natur yma, nid oes ond chwilio am esboniad yn y coffadwriaeth ei hun. Dyma fel y mae yn y Beibl y cyfeirir ato gan Dr. Thomas :— 'JOHN JONES a anwyd dydd 1 o Mawrth 1796 ar brydnawn dydd Iau 4 o'r gloch,' Disgynai y 10fed o Fawrth, 1796, ar ddydd Iau, a dyna yn ddiau ddyddiad cywir ei enedigaeth." Yr y lym yn dra diolchgar m yr hysbysiad, yr hwn sydd yn bwysig ar gyfrif fod pobpeth yn bwysig yn nglyn a dynion sydd wedi gwneud hanes.
o Tanchwa Pontypridd
o Tanchwa Pontypridd DA genym hysbysu fod swyddogion ac amryw o aelodau Cymdeithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl wedi anfon at Arglwydd Faer y ddinas i geisio ganddo gynull cyfarfod cyhoeddus i ys- tyried beth ellir wneud yn Lerpwl tuag at gyn- orthwyo y gweddwon a'r amddifaid a dioddef- wyr eraill o ganlyniad i'r ffrwydriad dinystriol yn Nglofa'r Albion, Oilfynydd, ger Pontypridd. Y mae'r Arglwydd Faer wedi cydsynio, a chyn elir y cyfarfod am ddeuddeg o'r gloch ddydd Gwener, yn y Town Hall. Y mae'r achos hwn yn gyfryw ag sydd yn galw ar bob Cymro i fod yn bresenol, a gwneud ei oreu i gyfranu tuag at yr amcan gwir deilwng. Dymunir arnom hefyd alw sylw y gwahanol eglwysi Cymreig at y priod- oldeb o wneud casgliadau arbenig y Sul nesaf tuag at y gronfa a agorir gan yr Arglwydd Faer.
-0-Etholiad Attercllffe
-0- Etholiad Attercllffe DRwYfarwolaeth Arglwydd Coleridge, bu raid i Mr Bernard Coleridge, ei olynydd i'r teitl, gym- eryd ei sedd yn Nhy'r Arglwyddi. Yr ymgeisydd Rhyddfrdol a ddygwyd allan gan y gymdeithas ydoedd Mr Batty Langley. Teimlai plaid Llafur na thalwyd digon o barch i'w barn hwy yn newis- iad ymgeisydd, a dygasant Mr Frank Smith, un fu gynt yn swyddog gyda Byddin yr Iachawdwriaeth, yn ymgeisydd drostynt hwythau. Mr Hill Smith oedd yr ymgeisydd Toriaidd, ac ofmd yn fawr yr aethai a'r sedd oherwydd yr ymraniad. Dydd Iau y bu'r etholiad, ac wele'r ffigyrau Langley (R) 4,48b Hill Smith (C) • 3,49o Frank Smith (LI) • 1,249 Mwyafrif Rhyddfrydig. 991 Yn 1892, yr oedd y mwyafrif Rhyddfrydol yn 1,145 ac yn 1886, yr oedd yn 1,407. -:0:-
[No title]
Ddydd Llun, bu Cynghrair y Mwnwyr yn dewis swyddogion, yn Ngwrecsam. Etholwyd Mr Thos. Hughes, Adwy, yn llywydd Mr John Lloyd, Giât- wen, yn is-lywydd Mr Ed. Hughes, Point of Ayr, yn ysgrifenydd arianol; a Mr Samuel George, Plas Kynaston, yn drysorydd. Bu trafodaeth faith ar bwnc y cyflog, a phenderfynwyd codi treth o swllt yr wythnos tuag at gynorthwyo'r rnwvnwyr Ys- gotaidd sydd allan ar streic. Penodwyd y ddau oruchwyliwr, Mr loan T. Williams a Mr Edward Peters, yn gynrychiolwyr ar gyfer cynadledd New- castle. Derbyniwyd adroddiadau misol y gor- uchwylwyr.
Newyddion Cymreig.I
Newyddion Cymreig. I Ddydd Mercher, pasiodd Mesur Glanfa Bangor II trwy ei drydydd darlleniad yn Nhy'r Cyffredin. Yn Ngwrecsam, yr wythnos ddiweddaf, dirwy- wyd Michael Sullen i gini a'r costau, neu fis o garchar, am ymosod yn greulon ar ei wraig. Yn Mwrdd Ysgol Rhiwabon, ddydd Mercher, penodwyd Mr H. W. Jones yn athraw cynorthwy- ol i ysgol Poncie, am gyflog blynyddol o 60p. Yn Mangor, ddydd Mercher, rhedodd cerbyd dros eneth fach i Mr Griffith Williams, cigydd, High Street, gan beri niweidiau trymion iddi. Ddydd Mercher, darganfyddwyd tri o gyrph yn rhagor yn Nglofa'r Albion, Ciifynydd, a bu farw un arall o'r 16 a ddygesid allan yn fyw. Dwg hyn nifer y marwolaethau sy'n wybyddus i fynu i 282. Ddydd Sul, sefydlwyd y Parch William Morgan' M.A., yn rheithoriaeth St. Ann, Bethesda, yn He'r Canon D. W. Thomas, yr hwn a godwyd i fywol- iaeth Winstanton, Rugby. Araf a difywyd a fu'r tymhor yn Llandudno hyd yn hyn, ond dechreuodd pethau fywiogi, a lluaws o ymwelwyr ddod i'r dref yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Mae'r Parch R. 0. Morris, B. A., Llanelwy, ac yn flaenorol o Drallwng a Phorthmadog, wedi pasio'n llwyddianus drwy'r arholiad cyntaf am y graddau o Bachelor of Medicine a Master of Surgery yn Mhrifysgol Edinburgh. Ymddengys fod amryw Iddewon yn byw yn Mangor a'r cyffiuiau, ac y maent wedt sicrhuu synagog yno at eu gwasanaeth. Ddydd Sul, buwyd yn ei chysegru, a gweinyddwyd gan ddau weinidog, y naill o Lerpwl a'r Hall o Fanceinion. Dyma'r synagog gyntaf a sefydlwyd yn Ngogledd Cymru. Y mae'r ager!ong Mersey, o Lerpwl, yr hon a suddodd ar greigiau Porthydafarch, ger Caergybi, yn mis Mehefin, wedi ei chodi gan y Liverpool Salvage Association, a'i thywys i borthladd Caer- gybi, er ei gwneud yn barod i'w dwyn i Lerpwl at gael ei hadgyweirio. Ddydd Sadwrn, cododd Gwirfoddolwyr Cyflegrol Caer a Chaernarfon eu gwersyll, yn Aber, wedi bod yno am wythnos. Ymadawodd adranau New Brighton, Caer, ac Egremont gyda thren arbenig, eithr arosodd adran Bangor yn y gwersyll tan ddydd Mercher, gan fod galw am danynt i edrych ar ol Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad. Tra'r oedd John Hewitt, Connah's Quay, yn pysgota yn y Ddyfrdwy brydnawn Llun, efe a ddaliodd sturgeon anferth, a thrwy gryn anhawsder llwyddodd i'w ladd. Mae'r pysgodyn ar ddangos yn Nghaer mesura saith droedfedd a deng mod- fedd o'i ben hyd ei gynifon, a phwysa ddau gant a haner. Mae ei gylchfesur gymaint ag eiddo corph dyn. Deallir yr anfonir ef i Gastell Windsor, yn ol arferiad. Mewn trengholiad diweddar ar gorph hen wraig a. losgwyd i tarwolaeth, darfu i'r rheithwyr, at bwys y tystiolaethau, basio pleidlais o gerydd ar Warcheidwaid Pwllheli. Yn nghyfarfod y Bwrdd, ddydd Mercher, addefodd gwr yr hen wraig ddar- fod iddo ddweyd "ychydig o gelwydd" wrth y rheithwyr. Cyfarwyddwyd y clerc i anfon at flaenor y rheithwyr i'w hysbysu am addefiad yr hen wr, Y dydd o'r blaen, galwodd yr ymgeisydd Tori- aidd dros Orllewin sir Ddinbych (Capten Wynne Edwards) gyda'r Parch W. Venables Williams, Colwyn Bay, i ofyn am ei b'eidlais a'i gefnogaeth, a dyma'r atebiad a gafodd, Ydych chwi o blaid Dadsefydliad? ydych chwi o blaid Dadwaddoliad ? ydych chwi 0 blaid cau'r esgobion allan o Dy'r Arglwyddi ? ydych chwi o blaid diwygio Ty'r Ar- glwyddi ? Os nad ydych, ni roddaf fi na phleidlais na chefnogaeth i chwi." Ddydd Gwener a Sadwrn, cynaliodd Cymdeithas Ddirwestol Arfon a Dyffryn Conwy ei chyfarfod blynyddol yn Llanberis. Traddodwyd pregethau arbenig yn y gwahanol gapelau nos Wener, a chyn- aliwyd cyfarfod cyhoeddus dan lywyddiaeth y Parch J. Evans Owen, NantPadarn. Fore Sadwrn, cynaliwyd cynadledd arbenig, a chynaliodd Cym- deithas y Merched gynadledd yr un pryd. Y pryd- nawn, cynaliwyd cynadledd unedig, a chyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr. Hvsbysir mai dydd Iau, Awst 23, yw'r dyddiad penodedig gan gadeirwyr Pwyllgor Gweithiol Cynghreiriau Rhyddfrydig Gogledd a Deheudir Cymru, i gynal y Gynadledd Genedlaethol yn Llan- drindod, er trafod safle cwestiwn Dadsefydliad. Yn Nghynadledd Cymru Fydd, yn Nghaer, pen- derfynwyd cynal cymanfa genedlaethol yn Llan- drindod y diwrnod blaenorol i'r dyddiad uchod, i ystyried y cynllun er sefydlu Cynghrair Cymru Fydd. Yr oedd lluaws'o bechaduriaid yn Mrawdlys Leol Colwyn Bay, ddydd Sadwrn. Dirwywyd John Owen, Tanygraig, Llanfairtalhaiarn, i 10s a 10s 6c o gostau am greulondeb at geffyl Ann Davies i 10s a 22s 8c o gostau am ddyfrio chwisci; W. Foulkes, Llysfaen, i 20s a 10s 6c o gostau am esgeu- luso hyshysu fod y clafr ar ei ddefaid; David Jones, Colwyn Bay, i 5s ac 8s o gostau am or-yru ceffyl; ac Owen Davies, Daniel Jones, a Robert Roberts, i symiau'n amrywio o 10s i 40s am herw- hela ar dir Mrs Lloyd Wynne, Coed Coch, Bettws. Fore Sadwrn, ar lan y Ddyfrdwy yn agos i Salt- ney, cafwyd hyd i gorph Thomas Foulkes, yr hwn gyda mab a chefnder iddo, a foddwyd yn y Ddyfr- dwy nos Iau. Cynaliwyd y trengholiad ar gorph John Foulkes, y mab, gan drengholydd sir Fflint nos Wener. John Hewitt a dystiodd ei fod ef a'r tri Foulkes yn rhwyfo i Queen's Ferry mewn cwch bychan nos Iau, pryd yr aethant i wneud rhvwbeth hefo pysgotlong berthynol i Thomas Foulkes. Tro- wyd y cwch, a thaflwyd y pedwar Ïr dwfr. Bodd- odd y tri arall, eithr llwyddodd y tyst i gyrhaedd y lan. Dodwyd rheithfarn o "Farwolaeth Ddam- weiniol. Yn Nghorwen, nos Wener, cynaliwyd cyfarfod gefnogi'r symudiad er caelnurse i weini ar gleifion i'r ardal. Llywyddid gan Mr E. O. V. Lloyd, yr hwn a ddywedodd fod yn gywilydd i glerigwyr a gweinidogion y dref gadw draw oddiwrth y symud- iad. Ymddangosai iddo ef y dylasai rheithor y plwyf fod yno, ond deallai fod y rheithor yn groes i'r cynllun, am yr honid fod arwedd boliticaidd ar y peth, yr hyn oedd yn hollol anwireddus. Syndod oedd gweled y fath ragfarn yn y 19eg ganrif. Pas- iwyd penderfyniad yn rhwymo'r cyfarfod i gefn- ogi'r symudiad. Wrth gydnabod y diolchgarwch a dalwyd iddp am lywyddu, dywedodd Mr Lloyd iddo glywed nad oedd yr Esgob yn bleidiol i'r cynllun, ond nis gallai efe yn ei fyw ddeall paham.
Blaenau Ffestiniog.
Blaenau Ffestiniog. Yx Mwrdd y Gwarcheidwaid diweddaf, yn y Pen- rhyn, hysbyswyd fod y Penrhyn am wynebu at y Cydbwyllgor i ofyn ychwaneg o warcheidwaid. Y pa gn'tiaed yn hysbys os oedd y Penrhyn am wneud oais y gwnai Porthmadog a Ffestiniog yr un peth -Anfonai Dr Fraser, Caernarfon, i orch- ymyn cau Ysgol Prenteg, oherwydd yr English cholera. -0- Yn y Bwrdd Ysgol, yn y Blaenau, gwnai Mr G. J. Williams, prifathraw Ysgol Uwchraddol y Bechgyn, gais am gael talu ymweliadau achlysurol ag adranau o Feirion i draddodi cyfres o ddarlith- iau ar ddaeareg, tan gyfarwyddyd y Cynghor Sirol. Arweiniodd hyn rai o'raelodaui wneudsylwadaulled blaen menys, pa faint o amser oedd Mr Williams yn ei roddi i'r ysgol ei fod yn colli gormod, &c. Ar y diwe Jd, pasiwyd y cais trwy bleidlais y cad- eirydd. Wedi hyny, rhoddodd Mr Owen Jones, Erwfair, rybudd y byddai yn y cyfarfod nesaf yn gofyn am gyfrif o'r hyn a gullai Mr Williams o'r ysgol. --0- Bu y dyddiau diweddaf yn lluosog eu breintiau crefyddol. Nos Lun, cynaliwyd cyfarfod yn Dghapel Engedi, y Llan, i groesawu y Parch Thos. Lloyd, gynt o Tyldesley, yn weinidog i'r M.C.— Yn ngwahanol gapelau Annibynwyr yr ardal. cyn- aliwyd cymanfa bregethu o nos Yvener hyd nos Sul. Gwasanaethwyd gan y Parchn Towyn Jones, Cwma-nan E. Evans, Llanbedr; J. O. Williams (Pedrog), Lerpwl) Wm. James, Aberdar Robert Thomas, Lerpwl; W. J. Nicholson, D. Adams, B.A., David Rees, Capel Mawr Ll. B. Roberts, Caer- narfon O. LI. Roberts. Pwllheli; a D. C. Jones, Llundain. Cafwyd pregethau campus a chynull- eidfaoedd mawrion.—Ddydd Llun, cyna'iai Meth- odistiaid y pen hwn o'r sir eu Cyfarfod Misol yn nghapel y Tabernacl. Pregethid nos Lun a dydd Mawrth gan amryw o weinidogion y cylch. -0- Bwriedir gwneud tysteb i'r Parch Samuel Owen, Tanygrisiau, am ei sel mewn cysylltiad a. dirwest. — Mae seindorf y Llan mewn hwyl anarferol at ymberffeithio gogvfer ag Eisteddfod Caernarfon.— Ctfodd dyn o L'anygrisiau ei ladd yr wythnos ddi- weddaf.—Nid oedd nemawr neb oddiyma yn dig- wydd gallu bod mor gefnog i fforddio myned i Ddolyddelen i brynu tir.-Mae rhyw son am roddi math o bistylloedd hyd ochrau ffyrdd yr ardal er mwyn i bererinion sychedig gael diod o ddwfr.
:o: Lleol
:o: Lleol GWELIR fod dau o'r ardal hon wedi llwyddo yn yr ar- holiad am raddau yn Eisteddiod Caernarfon, sef Mr John Jones (Trefor), Briar Street, fel bardd ac Alaw Garmon, King's Road, Bootle, fel cerddor. Mil POWELL, goruchwyliwr canghen Gwrecsam o'r Noath and South Wales Bank, sydd wedi ei benodi yn olynydd i Mr T, Rowlands, fel is-oruchwyiiwr yn y brif swyddfa yn Lerpwl; ac olynir Mr Powell yn Ngwrecsam gan Mr Edward Jones, goruchwyliwr canghen Granby Street yn bresenol. WARRINGTOM.— Y mae y Parch Thomas Lloyd, gweinidog y Methodistiaid yn Tyldesley a Warring- ton, wedi ein gadael, er mawr golled i'r ddwy eglwys hyn, ac mae yn sicr o fod yn en ill i eglwys Engedi, Llan Ffestiniog, i ba un y mae wedi myned. Nos Iau, Meh. 28, cynaliodd eglwys Warrington gyfarfod ymadawol iddo, dan lywyddiaeth Mr W. H. Prit- chard, un o ddiaconiaid ac ysgrifenydd yr eglwys. Dechreuwyd fel arfer trwy ddarllen a gweddio gan y Parch Thos. Lloyd. Cyflwynodd Mr Evans, y diacon hynaf, ar ran yr eglwys timepiece hardd iddo, ac hefyd gan Mr Pritchard cyflwynwyd darlun o ddosparth yr olaf, yr hwn hefyd oedd ddosparth i Mr Lloyd ar noson neillduol o'r wythnos. Ar ol hyn, dangosodd Mr Lloyd ei ddiolchgarwch gwresocaf mewn araith bwrpasol a.theimladwy a chafwyd anerchiadau yn mheilach gan Mr Humphreys, Mr E. Lloyd, Mr Pritchard (Rhuthyn), ac amryw eraill. Y mae'r cysylltiad oedd yn bodeli rhwng Tyldesey o War- rington yn awr wedi ei ddiddymu, ac un llawer gwell wedi cymeryd ei le, sef cysylltu Warrington ac Earlestown.
Marchnadoedd.
Marchnadoedd. YD. Lerpwl, Gorphenaf 10. Gwenith Jc y cental yn is ar y dechreu, eithr cod- odd drachefn cyn y diwedd, a therfynodd y farchnad yr un fath a'r diwrnod cynt. River Plate, 19s 6c Chiliaidd, 22s i 23s 9c. Ic y cental yn uwch, pys yn araf, ffa yn rhatach; ceirch yn farwaidd ond heb newid. Caer, Gorphenaf 7. Ychydig o wenith cartref a gynygid, ac ni chymer- odd cyfnewidiad le yn y prisiau, ar y cyfan, Ceirch, haidd, pys, a ffa yn araf am brisiau diweddar. Indrawn ychydig yn uwch gwenith tramor yn ddi- tywyd, a'r prisiau yn is. Gwenith coch, 3s 8c y 75 pwys; haidd bragu, 4s y 60 pwys ceirch, 2s 8c i 2s 10 y 46 pwys ffa, 5s y 80 pwys; Indrawn, 10s 6c y 240 pwys. ANIFEILIAID Caer.-Melefin 28. Ychydig o gyfnewid er yr wythnos cynt. Cyflen- wad ychydig llai o wartheg a defaid, eithr yr oedd y galw yn debyg, a'r prisiau heb gyfnewidiad. ."Gwrecsam, Gorphonaf 9. Cyflenwad cyffredin o anifeiliaid, a gwell masnaeh, yn enwedig mewn biff, yr hwn a gyrhaeddai 6|c y pwys. Molltgig, 6c i 7c y_pwys cig lloi, 4|c i 6c a chig wyn, 7c i 8c' Ychydig o foch a gynygid, a chyr- haeddent o 7s 6c i 8s j scdr. Ychydig wartheg tewion oedd yn y farchnad, a dim llawer o alw. Birmingham Gorphenaf 10. Cyflenwadau helaeth. Biff, 4c i 7-c; molltgig, oic i 8ic cig lloi, 5c i 7c wyn, 8c i 8 £ c y pwys. Sloch baewn., 8s 8c i 8s 10c; pyres, 9s i 9s 6c; hychod, 6s i i 6s 3c y scor. Salford, Gorphenaf 10. Cyflenwad cyffredin o wartheg a llai o ddefaid. Gwartheg, 5c í 7jc defaid, 6c i 8c; wyn, 7c i Dc: lloi, 4c i 6c y pwys.
[No title]
-0- Diau y bydd yn hyfryd gan y Frenhines a'i thy- lwyth glywed fod maerod a chyngorwyr llawer lie yn Nghymru yn eu llongyfarch hwy ar yr ychwan- egiad diweddaf at y wehelyth ac at faich y wlad. Aeth Mr T. J. Jehu, M.B.C.M., mab hynaf Mr J. Jehu, Y.H., Llanfaircaeroinion, yn llwyddianus trwy yr arhoUad am y gradd o B.Se. yn Edinburgh yr wythnos ddiweddaf.
----0--DIWYCI0 YR EISTEDDFOD.
dyben. Llawer o beth i ddechreu a fyddai Thoi'r contract i'r un adeiladydd, dyweder am dair neu bum mlynedd. Ceid felly gelfyddydwr o brofiad i wneud y gwaith, deuai llawer o'r defnyddiau yn wasanaeth- gar iddo o flwyddyn i flwyddyn, ac o gael y dyn iawn, fearbedid i'r sefydliad ugeiniau o bunau. Ond rhaid ymatal. Diau y ca y mater- ion hyn eu trafod yn deg a diduedd gan yr Eisteddfod-garwyr heddyw yn Nghaernar- fon a hyderwn y cedwir mewn cof, mai un o'n gwendidau cenedlaethol ydyw byr- hoedledd ein sefydliadau cyhoeddus. o