Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

o Nodiadau Cerddorol.

News
Cite
Share

o Nodiadau Cerddorol. DYMA'B gweithiau a berSFormir yn ngwyl gerddorol Birmingham nesaf. Wrth gwrs, ceir yn eu mysg orchestwaith Mendelssohn-ei Elias.' yn Birmingham y perfformiwyd y gwaith gyntaf erioed yn y wlad hon ? Boreu bythgofiadwy oedd boreu Mercher, y 26ain o Awst, 1846. Wyth niwrnod cyn hyny, yr oedd yr awdwr newydd gyrhaedd y Brifddinas o Leipzig, a chafodd rehear sal yn uhý Moscheles gyda'r berdoneg yn unig, dwy rehearsal gyda'r band yn Hanover Square, a'r Sul canlynol cyrhaeddodd Birmingham er mwyn cael rhagor o rehearsals gyda'r cantorion a'r gerddorfa. cyn y per- fforrniad cyffredinol. Dyma ddywed Syr George Grove yn ei Eiriadur Cerddorol am yr achlysnr The Town Hall was densely crowded, and it was observed that the sun burst forth and lit up the scene as Mendelssohn took his place amid a deaf- ening roar of applause from band, chorus and audience. Standigl was the Elijah, and Mr Lockey sang the air Then shall the righteous,' in a manner which called forth Mendelssohn's warmest praise." Ni fu Mendelssohn fyw yn hir iawn ar ol hyn, canys bu farw y 4vdd o Dachwedd y flwyddyn ganlynol, ar ol oes fer o 38 mlynedd. Ganwyd ef ar y 3ydd o Chwefror, 1809, yn Hamburg, yn 14, Grosse Michaelisstrasse, lie y gwelir y dydd hwn, os eir yno, wrth ben y drws, gerfiad coffadwnaeth- ol ohono wedi ei osod trwy haelfrydedd y ddiweddar Jenny Lind a'i gwr. Cof genyf weled y cerfiad pan ar ymweliad a'r hen ddinas yn 1882. Cenir hefyd yn yr wyl ei Hymn of Praise.' Ceir yn y rhestr ddewisedig Te Deum Berlioz, Un o symphoniau Brahms, overture gan Dr Mack- enzie ('Britannia'), 'Fourth Rhapsodie' gan Lizt, un o gantodau y diweddar Goring Thomas (' The sun and the skylark '), overture Sullivan ('In Memoriam '), y 'Messiah,' Egmont Overture (Beet- hoven), Stabat Mater' Henschel, aymphoni an- orphenedig Schubert, Brahm's Rhapsodie for alto solo and chorus,' Dvorak's 'Husitska Overture,' Offeren yn D leiaf (Cherubini), cerddoriaeth Gwen. er y Groglith allan o Parsital' Wagner, a'r over- ture Tannhauser' gan yr un awdwr, I Stabat Mater eto gan yr hen Palestrina, un o symphon- iau (E leddf) Mozart, rhan o Faust,' nid Gounod, ond Schumann, a chloir yr wyl i fynu gyda Choral Symphony Beethoven. Dyna faes eang o Pales- trina i Wagner, yn cynrychioli pob math bron o gerddoriaeth. Yr unig fai wyf yn weled na fuasai rhai o'n cerddorion Cymreig yn cael eu cynrychioli hefo rhai o'u gweithiau. Ond waeth tewi. A welodd rhai o'm cyfeillion cerddorol Y teulu dedwydd,' cantata ddirwestol teilwng o sylw cyf- rinfaoedd y Temlwyr Da, a'r gwahanol gymdeith- asau dirwestol sy'n y wlad. Y mae'r gerddoriaeth —cerddoriaeth dra swynol—wedi ei hysgrifenu gan y cerddor medrus Mr J. T. Rees, Mus. Bac., Aber- ystwyth, ar eiriau hwyliog gan Mr Twynog Jeff- reys, Cyhoeddir y gwaith yn y ddau nodiant gan I. Jones, Treherbert. Ymoroled y cyfeillion dir- westol am gopiau o'r gwaith ar unwaith. Gallaf hefyd alw sylw at gan Dr Joseph Parry, &r eiriau Hwfa Mon, gydag aralleiriad i'r Saesneg gan Miss E. Hugh-Jones. Testyn y gan yw JAoff wlad fy ngenedigaeth,' ac er dangos pa mor dda yw, cenir hi gan Mr Ben Davies yn ei wahanol gyngherddau. Y mae hyn yn ddigon heb unrhyw 8ymbyliad o'm heiddof yn ei chylch, gan na fuasai y cantor enwog yn dewis unrhyw gan heb fod i fynu a'r safon. Os aiff rhai o'm darllenwyr i'r Eisteddfod yr wythnos hon, clywir y gan yno gan Mr Davies. 0 ran hyny, y mae yn dra thebyg y bydd wedi cael ei chanu cyn y darllenir y nodiadau hyn. Cyhoeddydd y gan yw Mr D. Trehearn, Rhyl. Deallwyf fod caneuon erail! cyhoeddedig yi Rhyl i'w canu yn yr Eisteddfod, sef 'Elen fwyn' S. Hughes, gan Mr Maldwyn Humphreys, a'r IMilwr Clwyfedig' (R. S. Hughes), gan Mr David Hughes. Da iawn fod ein cantorion cyflogedig "ellach yn meddwl am gynyrchion Cymreig yn ttihrogram yr Eisteddfod, yn lie royalty songs y cyhoeddwyr Seisnig. Wrth son am gyhoeddiadau Mr Trehearn, Rhyl, deallwyf ei fod wedi cymeryd a'r gwaith o gyhoeddi pydgan newvdd spon danlli o waith Dr. Joseph Parry i leisiau dynion. Gobeithio y bydd yr an- Wiaeth yn llwyddiant. Gwelais y gydgan yn Uawysgrif yr awdwr, a gallaf sicrhau fod y gerdd- oriaeth y peth goreu a ysgrifenodd y doethawr o Gaerdydd erioed. Beth ddywed y Cymric am y Sydgan hon ? Bydd allan yn fuan. 0, ie, dylaswn ddweyd fod cydgan Dr. Parry wedi ei dewis yn destya cystadleuol i'r corau gwrywaidd yn Eis- ^ddfod Llanelli y flwyddyn nesaf. Nid oes geiriau Cymraeg yn nglyn a'r gerddoriaeth yn yr ysgrif a ^elais i. Cpnghorwn y cyhoeddwr i ymorol am btth bynag. Cofied row Dewi Sant yn Nghaer- liarfOI2. Byddai yn hwylusdod mawr i gorau y bhvharelau, llawer aelod o ba rai na wyddent ystyr eth y maent yn ei ganu, ac felly doeth fyddai eu 5,yfarfod rhyw ffordd. Enw y gydgan yw The Quid's Chorus," ac y mae o ran hyd rywbeth yn i'r gydgan hono a greodd y fath chwilfryd- edd yn eisteddfodau y Deheudir yn ddiweddar. y gwn nad oes genych, Mr Gol., lawer o le truth yr wythnos hon, am fod adroddiad Eis- eddfod Caernarfon, fe ddichon, yn myn'd &'ch fOfod, terfynaf yn y fan yma yn unig trwy ddweyd 1wed inau am fyn'd i'r Eisteddfod er clywed Dewi Sant." Y maent yn dweyd y bydd y per- ffOrrnlad yn un ardderchog o'r dechreu i'r diwedd, y.fo(i y cydgan olaf y peth mwyaf bendigedig a aeth o ben dyn erioed. WALAS,

-:0:m p Cwrelohion.

--0--Confooasiwn Caergaint…

i Budd Cyngherdd Cor Gwrecsam.

Cwibnodion o Odyffryn Maelor.

Advertising

RHYD Y WYLFA AIBOBLOD.