Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Llythyr o Nova, Scotia.

News
Cite
Share

Llythyr o Nova, Scotia. Wine Harbour, Guysboro' Co., Nova Scotia, Chwef. 8fed. Anwyl gyfeillion yn Nghymru,—Ar fy ym- adawiad o hen wlad fy nhadau" i fyd mawr y gorllewio, addewais ysgrifenu ambell i bwt o lythyr i'r GWLADGABAVIi enwog. Yn 01 eich cais anfonais ddesgrifiad byr o'r fordaith, ond dichon fod wmbredd o newyddion pwysicach yn y swyddfa yn gillw am eu cyhoeddi, a thebyg i "newyddion y mor" fyned efo'r gwynt, am eu bod yn ysgafn neu ynte syrthio i'r fasged gan eu trymder. Diolch i'r Cymro Gwyllt ac Edmwnd y Teiliwr am anfon y GWLADGARWR i mi. Teimlais ddyddordeb mawr wrth ddarllen newyddion Cymreig, er eu bod erbyn hyny'n "hen." Deallais fod "beio'r beirniaid" am atal y cydau a'r cadeir- iau wedi bod mewn full float eleni eto, fel arfer Paham na gyfloga pwyllgorau eis- teddfodau feirniaid enwog a deaJlus ? Ceir digon o honynt ar hyd a lied y wlad, megys Bardd Cadeiriol Pen Craig y Trwyn, Eos Foliog Twmpath y Rhedyn, &c., cai y cys- tadleuwyr tuchanus gyfiawnder ganddynt hwy. Clywais fod beirniad eisteddfod Abertileri wedi colli yn ei amcan, ac iddo gael ei bar- dduo yn gywilyddus, a geiriau duon" gan I rywrai o'r Coed-. Druan o hono. Da genyf ddeall fod meibion a merched Cymru yn dal o hyd i ganu, yn ngwyneb .siomedigaethau wrth golli gwobrau, ac araf- "wch gwaith a masnach. Daliwch ati, fech- gyn- Pan fo'r nos dywyllaf Agosaf ydyw'r wawr." 'Yn ystod y tri mis diweddaf, yr oeddwn wedi myned i Jed gredu mai rhyw grach" o -Sais oeddwn, ond pan dderbyniais y GWLAD- GARWR, ac hefyd lythyron Cymreig, deallais mai Cymro pur oeddwn, oblegyd collais ddagrau o lawenydd Cymreig chwarddais yn Gymraeg am ben rhai pethau digrif Cymreig darllenais newyddion Cymreig gyda bias Cymreig a chenais Cymru f'o am byth" ar alaw Gymreig, sef Harlech," ac mewn'llais Cymreig, yr hwn fu'n dadseinio caniadau Cymreig ganoedd o weithiau rhwng mynydd- oedd cribog Cymru; rhed gwaed coch Cymro drwy fy ngwythienau y fynud lion; a thra byddo anadl yn fy ffroenau nis annghofiaf -1áith anwyl fy iihadau. Gan fod fy nghoelbren wedi disgyn yn Nova Scotia, a minau gyda hi; anfonaf ychydig o hanes y wlad, yn awr ac eilwaith, i'r GWLADGARAVR, er adeiladacth fy nghyfeill- ion ieuainc, ac ereill, yn Nghymru, os der- byniol gan Mr. Gol. a chwithau. GOGLEDD AMERICA BRYDEINIG. Tn mhlith yr amrywiol drefedigaethau o dan lywodraeth Prydain Fawr, saif yr uchod yn uchel ei phen. Cynwysa tua phedair miliwn o filltiroedd ysgwar neu tua un ran o dair o gyfandir America; y mae yn fwy na-holl gyfandir Ewrop, neu Dalaethau Cyngrheiriol ac annghyngrheiriol America. Rhifa ei thrig- olion tua phedwar miliwn, neu un am bob mill- tir ysgwar ac y mae ei masnach bedair gwaith cymaint ag eiddo holl drefedigaethau eraill Prydain. Y mae gwneuthuriad ei rheilffyrdd yn unig yn fwy na holl ffyrdd liaiarn Rwsia, Itali, Denmarc, Norway, Sweden, Holland, Switzerland, Portugal, Twrci, yr Aifft, ac Ymherodraeth Brazil. Yn nhunelliad ei llongau, rhestra ei hun y seithfed yn mysg holl genedloedd y byd ac mewn aur, arian, glo, haiarn, rhuddfeydd, a mwnoedd gwerth- fawr ereill, cymwysderau amaethyddol, a manteision ereill, saif yn uchel ei bri, ac ychydig wledydd fedr sefyll yngyfochrog a hi. Ei Thsrfynau. —Amgylchir hi ar y dde gan For y Werydd a Thalaethau America ar yr ochr orllewinol gan y Mor Tawel ac America Rwsiaidd gogleddol, gan For y Gogledd a Morgilfach Baffin; dwyreiniol, gan Gyfyng- for Dafydd a Mor y Werydd. Ei hyd mwyaf, o'r Werydd ar derfyn Nova Scotia hyd y Tawelog ar derfyn Vancouver, ydyw tairmil o filldiroedd-, ei lied mwyaf ydyw Tin fil a chwe' chant o filldiroedd. O'rpedair miliwn o filldiroedd gwynebfesurol, cynwysa tua dwy filiwn a chwe' chan' mil o filldiroedd ysgwar o dir (a'r gweddill yn ddwfr, bid .siwr), rhan fawr o ba un a orwedd tufewn i'r cylch tymherus gogleddol. Admniadau,Rhenir y wlad i drefedig- aethau a thiriogaethau fel y canlyn :-N ova Scotia a Newfoundland ar y dde-ddwyreiniol; New Brunswick a Prince Edward's Island ar y gogledd i Nova Scotia; British Columbia ar y Pacific Ocean ac yn y gwagle cyd- rhwng yr uchod y gorwedd Canada a'r Hudson's Bay Company's Territory. Ar ol ysgrifenu eymaint a hynyna am y tir, teimlwyf yn sychedig, a diau y teimlwch chwithau yr un modd gan hyny, gadewch i ni fyned at y dwfr, canys nid oes cwrw na gwirod o fewn y sir yma. Dywedaf o galon yma, gwawried y boreu pan na fyddo dafn o'r sothach meddwol i'w gael o fewn i holl siroedd Cwalia Wen hyd hyny, mwy teil- wng ydyw o'r enw Gwalia Ddu. Dwfr ddaw a'r du yn wyn, ac a dyr y sychod, oni-le i Wel at y dwfr, ynte. D-yfrocdd Allanol neu Gylchynol Gogledd America. —Amgylchynir y tiriogaethau a'r tvefedigaetliau uchod gan saith cant o filldir- oedd o ddwfr ar y de-ddwyreiniol, yr hwn sydd yn fordwyol bob tymhor o'r flwyddyn dwyreiniol, ar y Werydd, am un fil a dan cant o filldiroedd, yr hwn sydd yn fordwyol dros bedwar mis yn yr haf, pan na fyddo ia felly gwelir fod y gweddill, sef un fil a naw cant o filldiroedd, ar For y Werydd. Cy- nwysa Gyfyngfor Davis, Morgilfach Baffin, a Chyfyngfor Barrow-cyfanswm o un fil wyth cant o filldiroedd, pa rai ellir fordwydo am ychydig wythnosau yn y flwyddyn. Ar For y Gogledd ceir uh fil a thri chant o filldiroedd, ond yma, erys yr ia oesol, ac o ganlyniad nis gellir ei fordwyo yn ddy-igel. Cynwysaglan- au y Tawelfor tua phum' cant o filldiroedd, y rhan fwyaf o ba rai sydd fordwyol bob tymhor o'r flwyddyn. Gwna y cwbl y cyfan- swm mawr o bum' mil a phum' cant o filldir- oedd, heblaw yr amrywiol gilfachau a fan- nodant lanau y moroedd. Y Moroedd Ganoldirol.—Ond dyna, rhag i mi eich boddi, gadawaf yn y fan hon, gan obeithio y bydd hyn yn ddigon o ddwfr i'm cyfeillion ieaainc i feddwl am dano ond fel na chafFont amser gormodol i feddvrl am y diodydd meddwol, anfonaf i chwi ragor o ddwfr yn fuan. Cofion cynes at y Cymro Gwyllt, Islwyn, Edmwnd y Teiliwr, Eos Cynlais, Cerddor Coch, Shencyn Ofnadw, Dwrfab, a holl feibion a merched hen ac ieuainc, yn Mynyddislwyn, a phob mynydd arall lie mae'm ceraint a'm cydnabod.—Yr eiddoch, gyfeillion anwyl, mewn serch a chariad Cymro, Alaw WYLLT.

Nodiadan Cerddorol.

Llith yr Hen Bydler.

AT YSGRIFENYDD EISTEDDFOD…

"A fDD."

HE LA LLWYNOJUD.

Y ORVPWR ETO.

HYNODION Y PRESENOL.