Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y Cwestiwn Meddygol yn Absrafoa.…

News
Cite
Share

Y Cwestiwn Meddygol yn Absrafoa. —Cyfarfod Cyhoeddus- Nos Ferclier, y 21ain cyfisol, cynaliwyd cyfarfod, ynyNeuadd Gyhoeddus, i gymeryd n i ystyriaetu benderfyniad y Cynghor Trefol yneu cyfarfod diweddaf mewn perthynas i apwyntiad meddyg dros y fwrdeisdref, ac i ffurfio rhai cynygiadau ar y pwnc. Dylasid nodi i amryw drethdalwyr ddymuno ar y Maer i alw cyfarfod y nos Lun blaenorol, ond gwrthododd ond, er hyny, mynwyd cyfar- fod nos Ferclier, yn ngayda gwahoddiad i'r Cynghor Trefol i roddi eu presenoldeb. Yr oedd yn gynulledig o 500 i 600 o bersonau, pa rai a wrandawsant yn astTid ar y gwahanol siaradwyr. Cafodd y cyfan eu dwyn yn mlaen mewn modd hynod dawel ac anrhyd- eddus. Dewiswyd y Parch. T. Richards i gymeryd y gadair. Dywedai ei fod yn diolch iddynt am yr anrhydedd a osodasant arno drwy ei osod yn y gadair. Yn ddiddadl, byddai y rhai a fu yn foddion i alw y cyfarfod yn nghyd roddi eu rhesymau dros hyny. Y cwestiwn oedd i fod dan sylw oedd yr etholiad diwedd- ar o feddyg i'r fwrdeisdref. Yr oedd y ddau ymgeisydd yn sefyll yn uchel,. yn bersonol ac yn gelfyddydol. Gobeithiai y byddai y siarad a gymerai le fod o fewn terfynau gweddeidd-dra a moesoldeb. Yr oedd y ddau foneddwr yn teilyngu i gael eu parchu ganddynt, ac nid oedd hawl ganddynt i ddolurio teimlad yr un ohonynt. Aelodau y Cynghor Trefol ag oedd yn bresenol a alwycl i anerch y cyfarfod yn gyntaf. Galwyd ar Mr. John David i'nhanerch, a chafodd gymeradwyaeth wresog ar ei waith yn codi ar ei draed. Teimlai yn falch o gael eu cyfarfod i ymdrafod a'r cwestiwn oedd i ddyfod gerbron. Teimlai ei fod mewn awyr burach yn eu plith nag yn y Cynghor Trefol. Gobeithiai na fyddai i'r cyfarfod amcanu at ddinystrio neu lethu siarad cyhoeddus. Nid oedd dim yn fwy dirmygus i gymeriad unrhyw un na chynyg sathru ar iawnderau dynion rhydd. Yr oedd llawer wedi ei, ddweyd yn nghylch y cyfarfod—fod y cyfan wedi myned heibio, a gwell oedd gadael pob peth yn llonydd. Dywedai nad oedd y cyfan trosodd. (Clywch.) Yr oedd y Cynglior wedi rhoddi digon o amser iddynt i wrthdystio, gan eu bo*d yn cymeryd mis cyn sicrhau manylion eu cyfarfod, ac yr oedd y trethdalwyr wedi bod yn ddoeth i alw y cyfarfod i ymdrin a'r cwestiwn. A allai rhywun ddweyd nad oedd y cyfarfodydd a gynaliwyd mewn cysylltiad a'r erchyllderau yn Bulgaria wedi bod o les ? Credai eu bod o ddefnydd i ddiwygio gwein- yddiaeth Arglwydd Derby, fel y gwelir yn ei Ivthvrau cenedlaethol. Y pwynt y noswaith hono oedd yn nghylch y meddyg, ac yr oedd yn gwestiwn o bwys pwy oedd i fod yn y sefyllfa bwysig ac anrhydeddus Yr oedd dau ymgeisydd wedi ymgynyg am y swydd ar yr achlysur o ymadawiad Dr. Jones o'r Ile- un yn "drigianydd yn y fwrdeisdref, a'r llall yn Nhaibach. Nid oedd dim i'w ddweyd yn nghylch cymhwysderau y ddau ddyn, credai eu bod yn gydradd felly, nid oedd dim i'w ddweyd ar y pen hwnw. Yn gwybod beth oedd penderfyniad y Cynghor, teg oedd gofyn beth oedd dyledswydd y trethdalwyr yn ngwyneb hyny 1 Yr oedd y boneddwr a wrthodwyd gan y Cynghor newydd ddyfod i'r fwrdeisdref, ond yr oedd wedi bod yn byw gerllaw yn Nghwmafon; ac er pan ddaeth i'w plith hwynt, yr pedd wedi enill opiniynau euraidd. (Cymeradwyaeth.) Edrychwch ar y cwestiwn ar dir tegwch a chyfiawnder, gan gofio fod Dr. Daniel yn drigianydd a threth- dalwr, ac wedi rhoddi pob boddlonrwydd iddynt er pan ddaeth i'w plith ac ar y seil- iau gwahanol hyn, credai ei fod yn teilyngu eu ffafr a'u cymeradwyaeth (Clywch.) Yr oedd ef wedi cymeryd y cyfleusdra yn y cyf- arfod diweddaf o'r Cynghor Trefol i siarad ar gwestiwn y llythyrdy a chan ei fod ar y cofnod-lyfr, credai ei fod yn iawn. Ei amcan, wrth wneyd felly, oedd dangos eu bod, wrth ymranu yn eu barn ar y cwestiwn meddygol, yn codi ar un Haw y peth oeddynt yn dynu i lawr ar y llaw arall-ewyllysient gael meddyg o Daibach, ond hoffent gael yr uwch lythyr- dy yny fwrdeisdref. (Clywch.) Pe buasent wedi dewis Dr. Daniel, cawsent eu meddyg yn y lie, rhagorfraint neillduol pan y byddai galwad arno. Diau fod Dr. Davies a'i gynorthwywr yn gwneyd eu dyledswydd darr yr amgylchiadau, ond yr oedd y werin yn .Y hoffi cael meddyg yn eu plith. Wrth gymhell cwestiwn y llythyrdy, nid oedd y siaradwr am ysbeilio Taibach o'i iawnderau, ond carai i'r fwrdeisdref gael yr un rhagorfreintiau ag oedd yl). eu meddiant hwy. Yr oedd yn sicr y gwnai y Cynghor roddi eu gwahanol opin iynau, ac ymdrechu eu goreu i gael uwch lythyrdy yn y dref. (Clywch.) Gobeithiai y byddai i'r cyfarfod roddi y fath argraff yn ffafr Dr. Daniel, fel na feiddiai y Cynghor Trefol eu dianrhydeddu. (Cymeradwyaeth). Galwyd ar Mr. D. Smith i siarad yn nesaf. Yr oedd yn falch i weled cyfarfod mor fawr ac heddychol. Er pan y cafodd ei ethol i'r Cyngor Trefol, teimlai ei bod yn ddyledswydd arno i roddi cyfrif o'r ymddiriedaeth a osod- wyd arno, a'i bod yn ddyledswydd arno hefyd i barchu eu dymuniadau. Yr oedd yn cyn- rychioliy trethdalwyr yn y cyfarfod, a gobeith- iai nad oedd wedi gwneyd dim yn groes i'w dymuniad en, ond yn eu cyfarfod bob amser mor belled ag y gallai yn gyson ag uniondeb. Er pan oe Id yn eu plith, gwnaeth ei oreu i ddyrchafu y fwrdeisdref yn ol ffurf y Llyw- odraeth, gan gefnogi pob sefydliad o les. Cafodd fod rhagorfreintiau y llythyrdy yn mhell yn ol, a cheisiodd gael yr un iawnderau i'r fwrdeisdref ag oedd trefydd ereill yn eu mwynhau. Yr oedd Aberafon wedi bod yn chwareu yr ail grwth mor hir i Taibach fel y meddyliai y dylent goclily fwrdeisdref i sefyll- fa ganolog-(clywch). Mewn perthynas i'r cwestiwn oedd ger eu bron, barnai ei bod yn annghyfleus i anfon am physigwriaeth i Tai- bach j ond yn awr, nid oedd eisieu hyny, "¡- gan fod boneddwr wedi sefydlu ei hun yn y fwrdeisdref, ac i'r dyben o gadw i fyny y fath berthynas brisfawr, rhoddodd ei bleidla.is drosto fel meddyg i'r fwrdeisdref—(clywch) — a chan fod cymhwysderau y ddau foneddwr yn gydradd, pl^ldleisiodd dros Dr. Daniel, ar dir lleol (clywch.) Mr. T. D. Daniel oedd y nesaf i siarad, a chafodd gymeradwyaeth wresog gan y dorf. Dywedai na ddaeth yno i'r dyben o draddodi k araeth, ond yn unig mewn ufudd-dod i'w gwalioddiad, as i ddweyd wrthynt dros bwy y pleidleisiodd yn yr etholiad diweddar o feddyg i'r fwrdeisdref, a'i resymau dros bleidio Dr. Daniel. Pan ddaeth yn ddyn cyhoeddus yn Aberafon, teimlai ei fod hefyd yn was cyhoeddus a phrif nod ac amcan ei wasanaeth cldylai fod—gwneyd pobpeth yn ei allu er lies a budd y trigolion. Yr oedd llawer cwyn wedi ei osod yn annheg wrth ei ddrws, ond heriai unrhyw un i ddweyd nad oedd wedi gwneyd unrhyw beth nad oedd er lies cyffredinol y dref. (Olywch.) Cafodd allan fod llawer o bethau yn galwym sylw, pa rai oedd ,yn rhy adnabyddus idd eu henwi y nos hono. Un peth oedd yr annghyfleus- dra o fyned i Daibach i ymofyn am feddygin- iaeth a chynorthwy meddygol, a gwelodd ar unwaith yr angenrheidrwydd am feddyg yn y fwrdeisdref. Cyhyd ag oedd y clodadwy Dr. Prichard yn arolygu pethau yno, byddai yn annoeth ar ei ran i gymeryd unrhyw lwybr i ddiwygio pethau y pryd hwnw. Pan gymer- odd Dr. Phillips ei Ie, gwnaeth ef (Mr. Daniel) symudiad, a gwnaeth y boneddwr hwnw beth oedd yn wir angenrheidiolj sef agor meddygfa (surgery) yn y lie. Yr oedd Dr. Daniol wedi gosod ei hun i fyny yn en mysg yr oedd yn drigianydd yn eu plith, ac wedi gosod i fyny meddygfa ragorol yn y dref. Carai ddweyd yn barchus am aelodau y Cynghor Trefol, ond cafodd ei argyhoeddi yn ei feddwl eu bod, trwy ethol meddyg heb fod yn drigianydd yn y lie, wedi gwneyd camsyniad. Os oedd y cyfarfod o'r un farn, yr oedd gan y trethdalwyr allu i wneyd iddynt wneuthur yr hyn oedd iawn. Yr oeddynt wedi cwrdd y noswaith hono i ddweyd wrth y Cynghor Trefol en bod yn gwylio ei hysgogiadau, ac fod yn rhaid iddynt ymddwyn yn onest, megys wrth liw dydd. Yr oeddynt wedi cwrdd y noswaith hono i ddweyd wrthynt mai arwyddair trethdalwyr oedd— Perish policy and cunning, Perish all that fear the light; Whether losing, whether winning, Trust in God, and do the right. A hyny oedd rhaid iddynt gyflawni. (Uchel gymeradwyaeth.) Mr. E. Evans a ddywedai na ddaeth yno i gymeryd rtian arbenig yn y cyfarfod, ond ar wahoddiad amryw o drethdalwyr dylanwadol. Yr oedd yn falch i weled y fath gynulliad parchus, a bod y cyfan yn cael ei ddwyn yn mlaen mor weddus a brwdfrydig. Gwyddent iddo roddi ei bleidlais i Dr. Daniel, ond ar y cyntaf nid oedd yn meddwl pleidleisio o gwbl, ond credai mai cam a Dr. Daniel fyddai myned allan o'r dref i chwilio am feddyg i'r fwrdeisdref. Er cymaint o barch oedd ganddo i Dr. Davies, teimlai na dclylent fyned oddicartref i chwilio am feddyg tra yr oedd ganddynt foneddwr cydraddol yn y fwrdeisdref. (Clywch, clywch.) Gwnaeth Mr. Howel Davies, Pantdu, ar- aeth gampus cyn darllen y cynygiad cyntaf, pa un oedd fel y canlyn :—"Fod y cyfar- fod hwn o'r farn, fod y penderfyniad y daeth y Oynghor Trefol iddo y dydd Mercher blaen- orol mewn perthynas i apwyntiad dyn an- nhrigianol i fod yn feddyg swyddogol i'r fwrdeisdref, nid yn unig yn ddirmyg ar urddas ac anrhydedd y fwrdeisdref, ond yn groes i ddymuniacl mwyafrif y trethdalwyr." Eiliwyd y cynygiad gan Mr. Jenkin Rees, a chariwyd ef yn unfrydol. 2. Cynygiodd Mr. Thomas Jones, builder: Fod y Cynghor Trefol i dynu eu pender- fyniad yn ol o apwyntio Mr. J. H. Davies fel meddyg swyddogol dros Aberafon, a'u bod i apwyntio yr ymgeisydd arall, Mr. E. B. Daniel i'r swydd." Eiliwyd y cynygiad gan Mr. Rees Thomas, Pantdu, a chariwyd ef yn unfrydol. Cynygiodd Mr. Jones, Anchor House, fod diolchgarwch gwresocaf y cyfarfod i gael ei roddi i'r aelodau o'r Cynghor Trefol a rodd- asant ei presenoldeb yn y cyfarfod y nos hono. Eiliwyd y cynygiad gan Mr. John Crowley, a chariwyd ef yn unfrydol. Cynygiodd Mr. John Harries, ac eiliwyd ef gan Mr. T. Jones, arwerthwr, fod y cadeirydd i gael ei awdurdodi i anfon copi o'r penderfyniadau i'r Cynghor Trefol. Cynygiwycl pleidlais o ddiolchgarwch i'r cadeirydd gan Mr. T. D. Daniel, ac eiliwyd ef gan Mr. D. Smith, a chariwyd ef gyda chymeradwyaeth. Felly terfynwycl y cyfar- fod. HAKRI DDU.

Gurnos Jones a'r Dadgysylltiad

BRIWSION 0 LLANSAMLET.

CAERFFILI.

MAESTEG.

BARGOED, RHYMNI, A'R DERI.

.CWMPARC.

[No title]