Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Trychineb Ofnadwy yn Vienna.

News
Cite
Share

Trychineb Ofnadwy yn Vienna. CHWAREUDY WEDI EI DDINYSTRIO. -7 CANuEDD 0 FYWYDAU WEDI EU COLLI. Nos Iau diweddaf, pellebrai gohebydd y Standard o Vienna fel y canlyn -Y mae y Ring Theatre etiwoo, lie, ychydig wythnosau yn ol, y rhoddodd Sarah Bernhardt gyfres o berfformiadau, wedi bod yn olygfa o drychineb ofnadwy henu. Tua saith o'r gloch, pan oedd perfformiad Les Contes d'Hoffmann (Offenbach) ar ddechreu o flaen tyrfa fawr, torodd tan yn sydyn allan, a dilyuodd cyffro arswydus. Ni wyddis pa fodd yr aclioswyd y tan. Priodola un ef i iTrwydriad nwy, arall i syrthiad lamp o ran uchaf y llwyfan. Oyfrifir fod uwchlaw dwy fil o bsrsonau yn yr adeilad ar y pryd. Gyda'r noedd Tan cododd yr hull dyrfa ar eu traed, gan ruthro at y drysau. Yn y myuedfeydd, ac ar y grisiau cerig, ac yn mhrif borth y Ring Strasse, yr oedd y golygfeydd o fraw a gwylltineb yn herio pob desgrifiadaeth. Bloeddiadau yrhai hynyaymdrechent ddianc, yn gymysg A llefau ac ocheneidiau y rhai a sethrid ac y lethid i farwulaeth, benywod a phersonan gweiuiaid yn llewygu ac yn cael eu gwasgu i farwolaeth gan y llifei'riant dynol a ymwthiai yu mlaen, tra y tefld ereill i lawr ac y sengid hwy i farwulaeth. Yr oedd y trychineb mor ddisymwth, fel na chafodd y tan-beirianau gyrhaedd yito mewn pryd i allu bod o nu lies i ddiffodd y tan. Dywed hanes arall, yn y rhuthr at y drysau, i ugeiniau o bersonau gael eu tafln i lawr a'u sathru i farwolaeth. Pan ddaeth y Turner Brigade gydag offerynaa bywyd-achnbol, ysgolion, brethynau, rhaffau, &c., darfu i 50 o bersonau neidio allan o Qenestri y llawr cyntaf, a daliwyd hwy oil heb iddynt gael niwed difrifol. Am 8.30, yr oedd y llwyfan a'r pit ar dan, a'r fflamiau yn d'od allan trwy y ffeilestri, gan uleuo y lie fel dydd. Erbyn canol nos, yr oedd 300 o gyrff wedi ea cael. Yn ol y Standard, am ddydd Sadwrn di- weddaf, gadawodd 720 o bersonau eu cartrefi ar noson y perfformiad, y rhai sydd eto heb ddychwelyd gan hyny, bernir, eu bod wedi myned yu ebyrth i'r tan dinystriol. Dywedir fod y rhan fwyaf, os nad yr oil o'r actors, wedi llwyddo i ddianc yn ddianaf.

BARDDONIAETH.

AT Y BEIRDD.

THE ORPHAN CHILD.

Y FERCH RINWEDDOL.

A Certain Cure for the Nervous…

Advertising

Capel Seion, Llanelli.

Advertising

St. John Ambulance Society.