Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

RHYS TREFOR.

News
Cite
Share

RHYS TREFOR. NOFEL FUDDUGOL EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1881. PENOD XI. Y PBAWF. Eisr HARWR I'R YMWARED'Y GELYNION. Eosetj dranoeth, gyda chaniad cyntaf y ceiliog, eyfododd ein harwr, ac ni fu yn hir cyn cychwyn i'w daith. Cerddai yn araf, gan synfyfyrio ar yr hyn oedd wedi ei glywed a'i weled y noson flaenorol. Yr -oedd rhywbeth o'i fewn yn dywedyd wrtho mai ei ddyledswydd oedd dychwelyd tua'r gwestdy yn union. Nid aeth yn mlaen yn mhell iawn cyn iddo gael ei oddiweddyd gan un o wyr y dref, yr hwn a'i cyfarehodd yn siriol. "A glywsoch chwi am y llofruddiaeth ysgeler a gyflawnwyd yn y gwestdy neith- iwr, wr dyeithr ?" ebe y trefwr. Ddim gair," ebe ein harwr. A gafodd zhywun ei lofruddio yno, ynte ?" Do, cyflawnwyd yno un o'r gweithred- oedd mwyaf creulawn ag a glywais son am dano erioed yn ystod fy mywyd. Y mae yn debygol i dri o wýr ieuainc, y rhai a ymddangosent fel teithwyr, ofyn am lety am noswaith yno neithiwr, yr hyn a rwydd ganiatawyd iddynt; ond, i ryw bwrpas neu gilydd, ymadawodd un ohonynt a'i gym- deithion, ac aeth ymaith. Ymddengys, gan mad beth oedd hwnw, mai dau ysgelerddyn oedd y ddau arall, ac wedi dyfod yno gyda dyben llofruddiog mewn golwg; a'r boreu yma, pan aeth gwraig y gwestdy i fyny i ystafell ei phriod oedranus, cafodd ei dy- chrynu yn fawr wrth gaufod corff marw ei gwr yn gorwedd mewn Ilyn rhewedig o waed. Ni welais fenyw erioed wedi cael ei dyehrynu agos gymaint ag oedd hi y boreu yma. Yr oedd ei braw a'i gofid y fath, fel o'r braidd y gallasai siarad." A'r ddau deithiwr ddrwgdybir o gyf- lawni y llofruddiaeth ?" "Nis gall amheuaeth fod ar y pwne; ond, costia eu bywydau iddynt." Safodd ein harwr am ychydig, gan adael y trefwr i fyned yn mlaen i'w ffordd. Bu yn petruso am beth amser beth faasai y cynllun goreu iddo er sierhau cyfiawnder i'w ddau gydymaith diniwed. Teimlai ei fod yn rhwym o ddychwelyd er eu hamddiffyn, oblegyd yr oedd yn berffaith ymwybodol y byddent o angenrheidrwydd mewn perygl mawr. Penderfynodd droi yn ei ol er eu cynorthwyo, a da oedd iddynt iddo fod mor ystyriol. Yr oedd cynhwrf nid bychan yn y dref, se yr oedd y ddan deithiwr diniwed eisoes wedi eu condemnio gan y werin gynhyrf- iedig, ac yn sefyll o flaen hen fardd urdd- asol ei olwg, yr hwn a eisteddai fel barnwr ar yr amgvlchiad. Yr oedd y ddedfryd ar gael ei chyhoeddi uweh eu pen, ac ym- ddangosai dim o'u blaen ond angeu creulon a sicr, oni buasai dych weliad prydlon ein harwr, yr hwn, ar ei waith yn dyfod i olwg y dorf ymgynulledig o'u deutu, a waeddodd allan, Aroswûh! aroswch! y mae y dynion ieuainc hyn mor rhydd oddiwrth y cyhudd- iad o lofruddio Siencyn Cadwaladr ag ydych chwithau. Nid adwaen hwy ef, ac nis gwyddent ddim am ei gyfoeth Safai Elsped a Dafydd yno gyferbyn a'r ddau deithiwr, ac aeth eu gwynebau yn wyn gan fraw pan y clywsant leferydd Rhys Tarawyd y dyrfa aflonydd a chyn- ddeiriog a rhyw syndod dystaw gan ei eir- iau rhyfedd Yn mheu ychydig, llefarodd yr hen fardd oddiar ei eisteddle wrth Rhys, gan ddywedyd, Wr ieuanc, os oes yn dy feddiant rhyw brawf drwv ba un y galluogir ni i ddyfod o hyd i'r euog yn y mater hwn, er mwyn Duw, llefara allan heb oedi dim. Cyfiawn- der yw fy arwyddair bob amser, ac hyd eithaf fy ngallu, cyfiawnder yr wyf yn weinyddu ar bob pryd." Gan estyn ei law at y man y safai Daf- ydd ac Elsped, gwaeddodd ein harwr allan, Acw y saif mwrddwraig Siencyn Cad- waladr, yn ughyd a'i chydblaid!" Aeth y geiriau fel saeth drwy galon El- sped, ac vn ofer y ceisiai wisgo ymddangos- iall diniwed a diofal. Ei hedrychiad gwyllt, ei gruddiau newidliw, a'i gwefusau sigled- ig a'i bradychai. Yr oedd yr euogrwydd a ymweithiai allan ar ei gwyneb yn rhy am- lwg i neb gama nied. Syrthiodd Dafydd mewn Uewyg wrth swn yr ymadrodd. Yn y cyfamser, traethodd Rhys yr hyn a wet- odd ac a glywodd y noson o'r blaen yn eglur a syml, gan arddangos y dernyn a dorodd & gweltaif oddiwrth odreu yr hugan, yr hwn oedd yn cyfateb yn gywir i'r twll hwn y cymerwyd ef. Safai Elsped a Dafydd yn gondemniedig. Arbedwch Dafydd," gwaeddai Rhys Trefor. "Arbcder ef. Uwyr fod yr hyn a draethwyd genyf yn wir. Y ddynes acw gyflawnodd y weithred!" Yn fuan, teimlai y wraig ieuane anffodus ddwylaw awdurdodol rhai o'r swyddogion a safent o'i bamgylch yn disgyn ar ei hys- gwyddau, a chyn hir, deibyniodd ei chyf. iawn haeddiant am yr hyn a wnaeth, tra y cafodd y teithwyr ieuainc eu gosod yn, rbyddion, y rhai a neidiasant yn orwyllt o lawenydd tuag at ein harwr, ac a dywallt- asant ffrydiau o ddagrau o ddiolchgarwch iddo am ei ffyddlondeb. Ei ddychweliad ef, yn nghyd a'i ymddangosiad prydlon, a achubodd eu bywydau rhag myned yn ebyrth i gynddaredd y werin. Yr oeddynt yn gyfoethog iawn, a mynent yn mhob modd gael rhanu eu eyfoeth ag ef; ond gwrthwynebai ein harwr hyny. Modd bynag, yr oeddynt yn benderfynol o wthio arno yr hyn a gynygient. Dangosent iddo y modd y darfu i'w amddiffyniad gwrol ac ac eglur ef eu gwaredu rhag bradwriaeth ystrywgar y westdywraig, ac ymosodiadau cynddeiriogwyllt y bobl. O'r diwedd, ildiodd Rhys i dderbyn dau cant o ddarnau o aur ganddynt, er y mynent hwy iddo gymeryd llawer yn rhagor. Gwnaethant iddo addaw dyfod gyda hwy, gan sierhau y mynent ddigon o chwareuteg iddo yn mhob man, ae, os byddai yn ddichonadwy, i gael derbyniad i wasanaeth eu hewythr, y Tyw- ysog Llewelyn, tuag at gastell yr hwn y teithient ar y pryd. (I'w barhau.)

Eisteddfod Genedlaethol 1880.

Sylwadau Gwleidyddol.

Islwyu-Nid yw mwy!

|Taith Beryglus ar y Mor.

[No title]