Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
MOR 0 FLODAU!
MOR 0 FLODAU! Kesaulik yw enw pentref poblogaidd yn Roumelia, ac ni thyfir dim yn y wlad o'i amgylch ond rhosynau i gynyrchu peraroglau i farchnad Paris. Wrth sefyll ar ben bryn amlwg yn y lie, gwelir yr holl wlad yn or- chuddiedig gan flodau ac y mae'r arogl mor gryf, fel yr erys gyda'r rhai a ddeuant drwy y lie am ddyddiau lawer wedi iddynt ymadael oddiyno.
YMBAFAEL BHWNG CYMBY.
YMBAFAEL BHWNG CYMBY. Y prif gyffroad yn mysg Cymry New York, yn ddiweddar, oedd fod Mr. Aneurin Jones (Aneurin Fardd), Park Inspector, wedi ei wysio o flaen y llys cyhoeddus am daro a chlwyfo Mr. John Hughes, Inspector of Buildings, a gwlawlen, Ones bron bwrw ei lygad allan. Buont mewn pwyllgor mewn tafarndy, a chyn y diwedd, aeth yn ymrafael rhyncddynt ar ryw bwnc Cymreig. Adrodd- iad Aneurin o'r stori yw, y darfu i Hughes rede» yn "erbyn y wlawlen yn ddamweiniol! Gohfriwyd y prawf hyd Ragfyr 3ydd, a cheir gwybod y ddedfryd yn fuan. Os condemnir Aneurin, y mae yn bur debyg y caiff ei droi allan o'i swydd, am nad yw Corfforiaeth New York yn cyflogi dynion gyda'r fath anifeil- eidd-dra yn perthyn iddynt.
LLOFBUDDIAETH DBIPHLYG GAN…
LLOFBUDDIAETH DBIPHLYG GAN FAM. Adroddir am lofruddiaeth driphlyg a hun- anladdiad o Fulstone, ger Shipley, Hudders- field. Foreu dydd Mawrth wythnos i'r di- weddaf, cafodd Henry Battye, landlord y Junction Inn, fod ei ferch Hannah Moor: house yr hon oedd wedi cael tri o blant ordderch yn flaenorol, eto yn ei gofal, a dywedodd wrthi nas gallai efe wneyd a dim rhagor o'i phlant, a bod yn rhaid iddi fyned i edrych am ryw siop newydd. Aeth hi a'i thri phlentyn i'r t9", a phan yn myned, dan- fonodd ei brawf adref i ddweyd wrth ei thad a'i mam eu bod wedi boddi. Cafwyd hwy mewn deg troedfedd o ddwfr.
CYFARFOD GLOWYR ABERDAR.
CYFARFOD GLOWYR ABERDAR. Cynaliwyd cyfarfod o gynrychiolwyr dos- barth glowyr Aberdar, dydd Sadwrn diwedd- af. Rhagfyr lOfed. Prif amean y cyfarfod oedd -mewn cysylltiad a chael goruchwyliwr dros ddosbarth Aberdar, pryd y pasiwyd, trwy bleidlais mwyafrif y glofeydd o ddigon, ein bod i gael goruchwyliwr dros ein dos- barth, ac mai Mr. David Morgan, Mountain Ash sydd i fod. Y mae taer ddymunjad ar bawb sydd dros 16 oed i gyfranu tair ceiniog yr un ac ar bawb sydd dan 16 oed, i gyf- ranu dwy geiniog yr un, at draul y goruch- wyliwr ac i ddanfon eu cyfroddion i'r cyfarfod misol nesaf sydd i'w gynal yn y Victoria Inn, Cwmbach, ar yr ail ddydd o fis Ionawr nesaf, 1882.—Ysgrifenydd.
TYWYSOG OYMRU YN MOTNTAIN…
TYWYSOG OYMRU YN MOTNTAIN ASH. Ie, ddarllenydd, Tywysog Cymru yn Mountain Ash, ond nid mab Victoria, cofier, eithr ein glandeg Owain Glynd wr." Per- fformiwyd y ddrama wladgarol Owain Glyn- dwr" (Beriah G. Evans) gan Gymdeithas Ddramayddol y Coffee Tavern, yr hon sydd yn cynwys 26 o bersonau, nos Sadwrn, a nos Lun y 3ydd a'r 5ed cyfisol, am y drydedd a'r bedwaredd waith. Y mae y perfformiad hwn yn meddu uchel farn y cyhoedd, ac wedi bod yn hynod lwyddianus. Bwriada y Gym- deithas ymweled a phrif fanau Morganwg, y gauaf hwn, i actio y ddrama ac hyderwn y bydd i bawb ddal ar y cyfleusdra i fyned i'w gweled. Y mae yn llawn gwerth yr arian a delir am fynediad i'r perfformiad.
CYNGHAWS AM ATHROD YN NGHAEBFYBDDIN.
CYNGHAWS AM ATHROD YN NGHAEBFYBDDIN. Profwyd yr achos uchod dydd Iau, yr 8fed cyfisol, o flaen y Barnwr Beresford, yn Nghaerfyrddin, yn y llys sirol Yr erlynydd oedd y Parch. George Evans (T.C.), Pensarn. Daerfvrddin, yr hwn a adnabyddir fel y pre^ethwr dalla'r diffynydd oedd John Lewis* landlord y Friend's Arms Heol Dwr, Caerfvrddin. Yr oedd Mr. VY. M. Griffiths, cyfreithiwr dros yr erlynydd, a Mr. Abel Thomas, bar-gyfreithiwr, dros y diffynydd. Yr oedd rheithwyr wedi eu gwysio i eistedd ar yr achos. Yr oedd swm iawnol hefyd wedi ei nodi, ond yr oedd hyny yn is-raddol i'r amcan o glirio yr erlynydd oddiwrth athrod a gynwysid mewn rhyw fynegiadau o eiddo y diffynydd, y rhai a briodolent i r erlynydd vmddvgiad anfoesol gyda chwaer y diffynydd. Oddiar cylehdaeniad y sibrydion hyn yr oedd yr erlynydd yn gweithredu oddiar aw»rym oddiwrth bwyllgor yr enwad, wedi ymatal yn wirfpddol rhag pregethu. Jroedd Jifer o weinidogion yn bresenol er rhoddi eu tystiolaeth, sef y Parchn. J. Lewis a J. Evans, Oaerfyrddin, a'r Parch Thomas James, M.A., Llanelli. Yn mysg y tystion ereill 4lros yr erlynydd oedd chwaer y diffynydd, enw yr hon oedd yn gysylltiedig a'r achos. Pan alwyd yr achos yn mlaen, Mr. Abel Thomas a ddywedai fod yn foddhaus ganddo hysbysu ei Anrhydedd na fyddai iddo gael ei drafferthu gyda'r gynghaws, gan ei fod ef (Mr. Thomas) wedi ei hyfforddi i alw yn ol bob cyfrifiad yn erbyn yr erlynydd. Mr. W. M. Griffiths a ddywedai, gan fod y dadleuydd dysgedig dros y diffynydd wedi tynu yn ol yr holl gyfrifiadau yn erbyn yr erlynydd, yr oedd efe, wrth gwrs, ar ran yr erlynydd, yn derbyn yr unrhyw, gan, trwy y tyniad yn ol hwnw, yr oedd yr unig amcan oedd gan yr erlynydd wrth fyned yn mlaen a'r achos hwn, wedi ei gyrhaedd. Yr oedd yn dda ganddo ef (Mr. Griffiths) i ddeall fod y diffynydd, ar yr unfed awr ar ddeg, wedi gweled yn addas i roddi i'r erlynydd yr hyn a geisiai, sef adfer iddo ei enw da a'i gymeriad dilychwin blaenorol. Felly, terfynodd achos a fu un- waith yn ymddangos yn dra bygythiol.
BYR EBION 0 L'ERPWL.
BYR EBION 0 L'ERPWL. GAN nad wyf yn proffesu anffaeledig- rwydd, fel y gwna rhai, nid yw yn debyg y bydd i'r darllenydd ddysgwyl am berffeith- rwydd, ac os bydd y gwirionedd ambell dro mewn ffurf glogyrnog, eto bydd fel y maen o'r graig, heb ei gaboli. Ni byddaf yn ceisio ymgadw un amser at helyntion Ileol y ddinas a'r porthladd, am y byddai hyny yn cwtogi ar y terfynau, fel na fydd genyf y cyfleusdra o wibio yma a thraw ar ol helyntion y byd masnachol a chymdeithasol. Mae gan y dar- llenydd hawl ynddo ei hun i dderbyn neu i wrthod unrhyw syniadau a deflir o'i flaen, oblegyd gall y cyfryw fod wedi eu coginio yn mhobtý cenfigen, ac os bydd y rhingyll yn dal yn ei galon gulni, ni waeth am y gwirion- edd, os gellir milwrio o dan faner ffugiol, a thwyllo y werin trwy ymddangosiad cyfeill- gar, a chyrhaedd yr amcan bydglodus sydd yn dra nodweddiadol o gymeriad y rhingyll, fel y teilynga yn wirioneddol yr enw Shon Llygad-y-geiniog. Nid oes dim yn rhy isel a dirmygedig ganddo i'w gyflawni er cyrhaedd ei amcanion, os gall wneyd hyny mewn ffurf guddiedig. Dilyned ei rawd, a bydd yn sicr o gyrhaedd pen y rhaff yn y diwedd. Hwyr- ach y bydd Rhagluniaeth yn ddigon caredig i adael i mi ac ereill fyw i weled y gwr gwen- ffalst yn syrthio i'r ffos a gloddiwyd ganddo i arall. Gall ffugio crefydd a llawer o bethau ereill i gyrhaedd amcanion iselwael, ond nis gall byth gyfnewid ei ffurf gorfforol, yr hwn sydd amlinelliad teilwng o greadur yn ym- symud ar lun dyn, a'i ranau mewnol yn orseddfa malais a chenfigen. Dengys ym- lyniad arbenig wrth yr un ffydd a'i frawd hynaf—Judas, a chawn ynddo bortread teil- wng o'r gwr hwnw a laddodd ei frawd. Os gall fradychu a cheisio disodli cyfaill, beth na wna yn erbyn un fyddo yn wrthwynebol iddo. Digon gwir nad yw ei alluoedd di- gofus yn cyrhaedd yn mhell, a gresyn mawr nad yw y bobl sydd yn ei gadw a'i gynal mewn ystyr dymorol yn alluog i'w adnabod. Gwnaed a fyno, ni'm dawr i, oblegyd, fel y dywedais yn flaenorol, fe dderbynia ryw dro dsil cyflawn am ei holl ystrywiau dichellgar a maleisddrwg, ac hwyrach y caf gyfle ryw ddydd neu gilydd i gyfarch gwell iddo, gan estyn iddo anrheg ag y mae yn hen ddilyngu er's blynyddau, oddiar fy Haw i yn bersonol, heb son dim am neb arall ag y mae wedi bod yn ceisio ei sarnu, pe gallai wneyd hyny. BYDD ami un yn ymholi am fodolaeth Eisteddfod flynyddol y Gordofigion. Yr unig atebiad ellir ei roddi ar hyn ydyw iddi gael ei llethu amser yn ol yn nhý ei charedig- ion. Bu farw am nad oedd iddi ymgeledd- wyr, fel nad yw yn debyg y cyfoda yn fuan, os na ddaw rhyw Samariad Cymreig heibio, a chynyg iddi ymgeledd a chartref gwell. Mae yn mhlith Cymry L'erpwl a Birkenhead leng o lenorion, ond ni cheir ganddynt ddigon o ffyddlondeb a gweithgarwch Cymreig i gyd- weithredu er cynal un wyl flynyddol er cadw mewn cof arferion a defodau y wlad a'r genedl. Nid diffyg arian ydyw yr achos, ond rhyw gulni meddyliol a diffyg ymddir- iad, fel nad yw yn bosibl cael cydweithrediad teilwng mewn cymaint a dwsin ar y ddwy ochr i afon Mersey. Calni sectyddol a syn- iadau hunanol yn cael gormod o le i orseddu yn ein plith, fel nas gellir cychwyn unrhyw gymdeithas ag ynddi elfenau bywyd o barhad. Dirywiodd o fod yn Eisteddfod i gyngherdd, ac yna bu farw, fel nad oes dim ohoni yn aros mwy. Bu yn arferiad i gynal gwledd ar Ddydd Gwyl Dewi, ond mae y cyfarfod hwnw wedi ei rifo yn mhlith y pethau a fu, ac nid rhyfedd, pan oddefir i gawciod i grawcian ar bobpeth Oymreig, gan alw goreugwyr gwlad ya Ddic Shon-Dafyddion. Cynyrchodd Gwyl y Gordofigion gyfansoddiadau campus, a cheir y rhan fwyaf ohonynt yn argraffedig. Awdl "Henaint" Morganwg a "Bethlehem" Glanffrwd yn mhlith y cyfansoddiadau aro- bryn, a lluaws o awdlau, englynion, a phrydrlestau, gan wahanol awdwyr nad wyf yn cofio eu henwau ar hyn o bryd. MAE helyntion a dygwyddiadau y ddinas a'r wlad yn amrywiol. Llawer o ladradau yn cael eu cyflawni, llofruddiaethau yn amlhau, a phob drygau ereill yn cynyddu. Y cwrw a'r gwirod, medd rhai, ydyw ffynonell a thad pob drwg. Os cywir hyn, beth am y drwg a gyflawnir gan aelodau y Blue Bibbon Army, oblegyd ni a gawn nifer ohonynt yn wyth- nosol o flaen y llysoedd cyfreithiol ? Codi arian trwy dwyll, a llawer o ystrywiau ereill, yn cael eu cyflawni gan aelodau y Salvation Army, heb fod mewn ffordd yn y byd o dan ddylanwad cwrw a gwirod, fel nad yw y cof a'r meddwl wedi eu llygru na'u hanmharu mewn un modd, fel ag i achosi i neb ohonynt lithro oddiar lwybrau rhinwedd a gonestrwydd i dori cyfreithiau y wlad. Prawf hyn nad yw proffes yn gwneyd y lleidr yn onest, na'r llofrudd yn un glan ei ddwylaw. Os cyn- llwyn a bradwriaeth fyddant yn llywodr- aethu y dyn oddimewn, lied annhebyg y gellir dysgwyl dim daioni oddiwrtho, na thrwy ei ddwylaw. Gall ffugio am dymor, ond bydd yn sicr o gael ei faglu cyn diwedd y daith. Cawn engreifftiau o hyn yn hanes gwahanol wledydd, lie mae gwahanol gymeriadau wedi hynodi eu hunain ar gyhoedd y byd. Mae yn ddigon posibl i chwi gymdeithasu a dyn am flynyddoedd heb ei adnabod, ac, er eich syndod, ei gael yn dwyllwr, ie, a bradwr o'r dosbarth mwyaf dichellgar a bradwrus. Mae gwahanol agweddau ar fradwriaeth—bradwr- iaeth gymdeithasol, wleidyddol, gyfeillgarol, a theuluol. Bradwr gwlad a chenedl ydyw llofrudd Garfield, ac un o'r un argraffiad oedd Booth o'i flaen, yr hwn a lofruddiodd Lincoln. Mae graddau mewn pethau fel hyn, a thybiwyf fod y ddau a enwyd wedi dringo i ffon uchaf yr ysgol, ond fe ddylai Llywodraeth y Talaethau godi Guiteau ychydig yn uwch, trwy wneyd esiampl ohono ar y crogbren. ODDIWRTH y newyddion cyffredinol sydd yn ein cyrhaedd o'r America, trwy gyfrwng y Drych a newyddiaduron ereill, gellir casglu fod masnach y wlad yn Ilwyddianus-y glo- feydd a'r melinau dur a haiarn yn rhedeg yn rheolaidd-gwaith a chyflog yn Iled gyfartal. Yn mhlith y teithwyr trosforawl ar hyn o bryd y gwelir nifer mawr o Italiaid ieuainc yn gadael gwlad y mynyddoedd am ddyffryn- oedd a gwastadeddau y Gorllewin. Llwydd- iant yn dynodi y mwngloddiau aur ac arian, a llawer Cymro anturiaethus, fel plant cenedl- oedd ereill, yn ffodus ar droion mewn dargan- fyddiadau cyfoethog a gwerthfawr. Rheil- ffyrdd newyddion yn cael eu gweitbio i gil- fachau y mynyddoedd, nes dwyn y pell yn agos a'r agos yn nes. Bywyd caled, medd y profiadol, ydyw bywyd y mwnwr yn y myn- yddoedd ond bydd ffawd, ami i dro, yn edrych yn ei wyneb, gan wneyd iddo an- nghofio cysuron cartref yn y gobaith o gael elw da yn atdaliad am ei lafur a'i galedwaith. Cyflawnder mawr o fwn haiarn a glo wedi ei ddarganfod yn nhiriogaeth Utah, a chwmni cyfoethog o Lundain yn arfaethu adeiladu un o'r gweithfeydd haiarn mwyaf yn y byd, ac agor glofeydd, lie y bydd gwaith a chartref i filoedd cyn diwedd y flwyddyn 1882. Mae cystadleuaeth fywiog rhwng cwmniau y gwa- hanol reilffyrdd yn yr America, a dichon nad yw y dydd yn mhell pan gludir teithwyr o'r Werydd i'r Tawelfor am haner y pris a godir yn bresenol. Os ydyw Prydain yn myned i lawr mewn ystyr fasnachol, y mae yn eithaf amlwg fod yr America yn cyflym gynyddu felly, mae gobaith am gartref gwell yn awyr y "byd newydd." Ychwaneg y tro nesaf.—Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Helynt y Gantata.
Helynt y Gantata. Mae yr helynt hwn yn air teuluaidd bron erbyn hyn, ac y mae llawer wedi dweyd eu meddwl arno, a llawer wedi cynyg pa fodd i'w benderfynu yn foddhaol; ond yr ydy-n ni yn methu gwybod pa achos cynyg y naill beth na'r Hall. Yn y GWLADGARWR yr wythnos ddiwedd. af, mae un o'r enw Shion Shiams y Chwiliwr yn cynyg fod i'r pedair Cantawd gael eu hysgrifenu gan un gofalus, ac o dan ffugenwau newyddion, &c. Wel, yn enw pob rheswm a chyfiawnder, i beth ? Paham mai eisieu gwneyd hyny ? Pwy sydd i dalu y costau ? Ai dyna'r ffordd y mae yn golygu gwneyd i ffwrdd a'r helynt yn nghylch yr arian gweddill a Yn awr, y cwestiwn ydyw, Pa nifer oedd o feirniaid ? Mae yr ateb wrth law—Tri. Yn nesaf, Oni ddarfu dau o'r tri gydweled mai Cor. elli oedd y goreu, ac hefyd ei fod yn deilwng ? Do. 0 ganlyniad, mae pob un call, diragfarn, a rhydd oddiwrth y felldith sydd yn ein difa fel cenedl-y rhagfarn, y malais, a'r cenfigen sydd yn einlmeddianu fel cenedl pan fyddrhywun yn dechreu cael ei ben uwchlaw'r llaid,—-ie, medd- wn eto, mae pob un gonest yn cydnabod mai Corelli bia'r wobr, a dywedwn ninan eto,- V" A tvado hyn, aed a hi, A gwaded i'r haul godi." Dywedwn yn mhellach, nad ydyw y cyfryw a ddywedant yn wahanol yn deilwng o ddim sylw, ond fel y potelau hyny ag y mae y gair POISON arnynt. Beth bynag oedd barn y trydydd beirn- iad cyn dyfod i'r Eisteddfod, nid yw hyny yn cyfnewid dim ar y mater o gwbl. Yr ydym yn barod i gydnabod fod Dr. Parry wedi penderfynu atal y wobr cyn yr Eisteddfod ond, atolwg, a ydyw hyny yn fwy pwysig na bod y ddau arall wedi penderfynu ei rhoddi i Corelli? Nac ydyw, meddai pob calon onest, os nad ellir dweyd fod un yn fwy pwysig na dau, neu ynte gredu fod tri pherson gwahanol yn dwyn yr enwau Mr. Joseph Parry, Pencerdd America, a Dr. Parry. Os tri, yna mae tri yn erbyn dau, a rhaid i'r ddau ildio, yn ol pob rheswm. Ond os UN ydyw y tri hyn, yna, pe byddai yn anfeidrol, ni byddai ond UN ac felly, mae un yn llai na dau, ae, yn ol pob rheswm, rhaid i'r un ildio i'r ddau. Mae yn wir ddrwg genym fod Mr. Curwen wedi ei hudo i'r llaid ond gwell iddo fod yn llonydd, bellach, nes daw rhyw Samariad tru- garog heibio i'w godi allan, oherwydd mae yr ymdrech a wnaeth ei hunan wedi troi allan yn waeth na methiant. Nid ydym .yn meddwl gwneuthur sylwadau ar y gwahanol bethau a ysgrifenwyd, ond rhoddwn un agwedd newydd, feallai, i'r pwnc, trwy ddweyd y dylai y pwyllgor gymeryd gafael yn y peth, nid trwy fynu beirniadaeth arall, ond trwy roddi y wobr i Corelli, gan mai efe, yn ol cyfiawnder ac arferion gwlad, a'i pia. CERDDOR.
BLAENLLECIJAU.
BLAENLLECIJAU. Enw priodol y buddugwr ar ddatganiad yr alto solo yn yr Eisteddfod a gynaliwyd yn y He uchod ar y 5ed o Ragfyr yw Master Daniel Protheroe (Eos Yorath), Ystradgynlais.
TREFORIS.
TREFORIS. CYFARFOD ANRHEGU.—Nos Sadwrn, Ehajfyr y lOfed, cynaliwyd cyfarfod yn ystafell cyfrinfa "Morfydd Glan Tawe," yn yr Union Inn, yn ylle uchod. i'r dyben o anrhegu y brawd Thomas Gape, yr hwn fu yn ffyddlon ac ymdrechol iawn fel aelod ac ysgrifenydd yn y gyfrinfa am ysbaid hir o am- ser. Gan fod y brawd yn ymadael a'r ardal i Ddowlais, daethpwyd i'r penderfyniad o'i anrhegu a'i ddarlun, fel arwydd o barch a theimlad dyngar- ol y gyfrinfa tuag ato. Cafwyd anerchiadau pwr- pasol iawn gan y cadeirydd, Henry Bowen, Ysw., a'r is-gadeirydd, Mr. Thomas Davies, Brynhyfryd, ysgrifenydd y dosbarth, yn nghyd a'r brodyr J. Gill, T. James, J. Bevan (yr hwn a gyflwynoddyr anrheg), a W. Jones. Diolchodd y brawd Gape am y rhodd mewn ychydig eiriau llawn o deimlad cynes. Canwyd hefyd yn swynol yn ystod y cyf- arfod gan Mri. J. T. Davies, R. George, W. J. Rees, J. Lewis, a B. Williams. Cawsom gyfarfod hapus. —Brawd.
ABERDAR.
ABERDAR. Y GYMDEITHAS DDADLEUOL. — Cyfarfod Adlon- iadol.-Nos Iau, Rhag. 8fed, cynaliodd Cym- deithas Ddadleuol Gymreig a Seisnig y lie uchod fath o gyfarfod amrywiol (entertainment) yn yr Assembly Room, Dance's Coffee Tavern, pryd y cafwyd adroddiadau, caneuon, darlleniadau, dia- logues, &c., gan aelodau y gymdeithas pRc ereill. Llywyddwyd gan y Parch. D. Brythonfryn Grif- fiths, yr hwn a wnaeth ei waith er mawr foddhad y nifer lluosog oedd yn nghyd. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y personau a ganlyn Mri. J. D. Morgan, Trecynon; D. H. Richards, Ro. berts' Town Richard Jones; J. Devonald; H. W. Howells E. W. Watkins; D. Phillips, Tre- cynon D. Jones, Trecynon Miss Mary Lewis, Gadlys; Miss Margaretta Jones a Miss M. J. Jones. Cyfeilliwyd mewn modd deheuig gan Miss L. Watkins, Gadlys. Cynygiwyd diolchgarwch i'r llywydd gan Mr. J. H. Jenkins (Gwyndaf), ac eiliwyd ef gan Mr. D. Phillips. Hefyd, cynyg- iwyd diolchgarwch i Miss Watkins a'r boneddiges- au ereill gan Mr. T. Jones (Didymus Wyn), ac eil iwyd ef gan Mr. H. W. Howells. Aeth pawb adref gan dystiolaethu eu bod wedi cael cyfariod hwylus a dyddorol dros ben.-Gohebydd..
LLWYNYPIA.
LLWYNYPIA. CYNGHERDD.-Nos Iau diweddaf, cynaliwyd oyngherdd gampus yn nghapel Salem, yn y lie uchod, dan nawdd yr eglwys. Llywyddwyd ar yr achlysur gan yr yswain ieuanc, W. W. Hood, yr hwn sydd bob amser yn barod i wasanaethu mewn cyfarfodydd o'r fath, ac i gefnogi llenyddiaeth ac addysg yn ein plith. Yn ei araeth agoriadol, sylw- odd fod yn dda ganddo lywyddu cyngherdd o'r fath, a'i fod yn credit mawr i'r Rhondda ei bod yn meddu ar ddigon o allu cartr-efol i droi allan pro- gramme o'r fath oedd ger ei fron. Yr artistes oeddynt Llinos Rhondda a'i chwaer, Miss Gwladys Jones, Treorci; Miss M. J. Evans, Clydach Vale; Mri. Rhys Davies, David John Evans, a Thomas John, Llwynypia; Idris Thomas (Llew Gwalia), Porth, yn nghyd a'r Bethania Choral Union, dan arweiniad Mr. David John Evans, Llwynypia. Y chwareuwr enwog, Mr. D. Bowen, Dowlais, oedd wrth y perdoneg. Yr oedd y cynulliad yn lluosog iawn-y capel braidd wedi ei orlenwi. Cafwyd cyngherdd hwylus, bur, a chwaethus. Yr ydym yn sicr fod yr anturiaeth wedi troi allan yn lwydd- iant perffaith mewn ystyr arianol yn gystal a cherddorol. Nid yn ami y ceir y ddau hyh yn nghyd, oblegyd 'arlwyir y bwrdd cerddorol yn rhy gyffredin â chaneuon # isel a llygredig. Yr ydym yn llongyfarch y cyfeillion hyn am eu hymdrech i baro y chwaeth a dyrchafu y safon gyngberddol. Y "JUBILEE SINGEBS."—Yr ydym yn deall ein bod i ddysgwyl gwledd gerddorol eto yr wythnos nesaf, gan fod y cyfeillion hyn i fod yn Jerusalem, Llwynypia.
LLANBEDR Y FRO.
LLANBEDR Y FRO. EISTEDDFOD. —'Nid mynych y breintir pobl y Fro ab unrhyw fath o Eisteddfod eithr pan gant un, mawrygant hi a'u presenoldeb yn lu mawr, fel y mae y peth nesaf i'r anmhosibl i Eisteddfod yma droi allan yn fethiant. Prydnawn dydd Iau, y laf cyfisol, cynaliwyd Eisteddfod yn nghapel Croesyparc, ger y lie uchod, ac yr oedd y capel yn gysurus lawn erbyn yr awr apwyntiedig i ddech reu. Llywyddwyd gan y Parch. W. O. Evans (A.), Carmel; beirniadwyd y gerddoriaeth gan Eos Llan; a'r farddoniaeth, &c., gan Gwilym Deulwyn. A ganlyn oedd trefn y cyfarfod :—4 o feibion yn cystadlu ar ganu "Gogoniant i Gymru," cyd-fuddugol—John Petty, a Noah Jones. 6 englyn i fewn i'r." Arlunydd," a'r goreu oedd eiddo Ap Rhydderch. Dwy ferch yn cystadlu ar ganu "Dyffryn Clwyd," goreu--Miss John, St. Fagan. 3 can i fewn i "Iforiaeth," goreu-Ap Rhyddereb. Dau barti yn cystadlu ar ganu'r deuawd, Y glowr a'r chwarelwr," buddugol-Perorydd, St. Fagan, a'i gyfaill. Pedwar yn cystadlu ar ddarllen bardd- oniaeth ar y pryd, goreu—loan Tri thy d. Dau fab yn cystadlu ar ganu Plas Gogerdda goreu— 1. Perorydd. 2 bryddest i fewn ar "Yr hwyr, goreu- Ap Rhydderch. 3 englyn i fewn ar Yr Alarch, goreu-Mr. Evan Thomas, Llanbedr. « 2 barti yn cystadlu ar ganu Cydgan y Morwyr," goreu-parti o'r Felin Newydd. Gwobrwywyd Mr. James Price, Llantrithyd, am y traethawd goreu ar "Y daioni o gau y tafarndai ar y Sabath." Cafwyd Eisteddfod lewyrchus iawn—y llywydd yn llanw'r gadair i'r ymylon, y beirniaid yn cyflawnu. eu gwaith i foddlonrwydd, a'r dorf yn ymddwyn yn hollol weddaidd. Diolch i gyfeillion Llanbedr am yr Eisteddfod, a gobeithiwn y cynaliant un eto yn fuan, ar raddfa dipyn yn fwy eang, os gwelaut ffordd glir. Oenin.
| • Llawer mewn Ychydig.
• Llawer mewn Ychydig. YN Soar, Llwydcoed, nos Lun, Rhagfyr 5ed, traddododd y Parch. B. Evans (Telyn- fab), Gadlys, ei ddarlith ar Balchder a'i Garcharorion," sef balchder corfforol ac ysbrydol, balchder swydd, gwisgoedd, iaith, llinach, cyfoeth, tlodi, &c. DAMWAIN ANGEUOL YN MawLL Y TWNEL. —Dydd Gwener diweddaf, Rhag. 9fed, yn Mhwll y Twnel, Abernant, Aberdar, cyfar- fyddodd Evan Davies &'i ddiwedd yn ddi- symwth trwy gwymp o lo o dop gwythien y naw troedfedd. Yr oedd yn 36 mlwydd oed, ac yn preswylio yn Ynys-cynon-row, Cwmbach. Gadawodd wraig ac un plentyn ar ei ol yn eu galar a'u colled. Claddwyd ef dydd Llun, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. R. James, gweinidog y Bedyddwyr, Cwmbach. TONYREFAIL. — Cynaliodd yr Urdd Deml- yddol yn y lie uchod ei gwyl lenyddol nos Sadwrn, Rhag. 3ydd, yn Ysgoldy y Bwrdd. Cadeiriwyd gan y Parch. Mr. Prichard, o'r lie. Mr. Taliesin Hopkin, Cymer, a feirn- iadai y gerddoriaeth, ac Aaron Eryri, Tonyr- efail, oedd yn pwyso y beirdd, &c. Mrs. Jones, Vicarage, wrth yr harmonium. Awd trwy y rhaglen fel y canlyn Chwareu ar yr harmonium; tri yn cynyg goreu, Mr. Williams, Tonyrefail. Hen Lane, o'r lie, aeth a'r adroddiad i fechgyn. Solo bass; daeth amryw yn mlaen goren, Mr. Richard Thomas, Tonyrefail. Daeth 18 o draethodau i mewn ar Joseph," ond y goreu o ddigon oedd Mr. Richard Bevan, Tonypandy. Canu y deuawd, Cwynfan y Meddwyn pump parti yn cystadlu, ond Mr. Evan Morgan a Miss Esther, Rowlands, Tonyrefail, oeddynt y goreu. Mr. Thomas Rees, Llanharran, oedd y goreu, allan o bump, ar adrodd Di- wydrwydd." Ap Owen, Dinas, a wobrwy- wyd am ganu y solo ten-or, allan o 15 o ym- geiswyr. Am y duchangerdd, "Y Tafarnwyr a'r Sunday Closing," gwobrwywyd Mr. D. J. Rees, Trealaw. Ap Owen, Dinas, a'i barti, enillodd ar ddarllen cerddoriaeth ar y pryd. Canodd tair y soprano solo, ond y goreu;oedd Miss Gibbon, Trewilliam. Daeth pedwar parti yn mlaen i ganu y prif ddarn cerddorol, ond eiddo Mr. Evan Morgan oedd y goreu. Cafwyd gwyl luosog, hapus, a gwir fuddiol. —Gohebydd.
Advertising
TABERNACLE, ABERDARE. A GRAND BAZAAR AND FANCY FAIR CONNECTED with the above Church, will be held at the TEMPERANCE HALL. Further particulars will appear in a few weeks. 'N::>
Ymfudiaeth.
Ymfudiaeth. YSWYDDFA YMFUDOL GYMREIG. Goruchwyliwr Cyffredinol a Chynrychiol- ydd Trwyddedig y gwahanol gwmniau agerawl a fordwyant o Lynlleifiad i wahanol wledydd y byd. Manylion a chyfarwyddyd i'w cael drwy anfon llythyr fel y canlyn :-N. M JONES (Cymro Gwyllt), Passenger Broker, 28, Union-streot, Liverpool. Amser hwyliad y gwahanol agerlongau, a phris- oedd y cludiad yn y trydydd dosbarth Llinell Inman-yn wythnosol, pris, 6p. 6s. White Star „ „ 6p. 6s. Y National Line 6p. Os. Llmell y Cunard i Boston, dydd Mercher; a'r Sadwrn i Efrog Newydd; pris y cludiad, 6p. 6s. Llinell Allan, yn morio i wahanol borthladdoedd, megys Halifax, Boston, Baltimore. Portland, a, Montreal; pris y cludiad, 6p. 6s. lie canol, 8p.. 8s. Llinell y Qtdon yn morio bob dydd Sadwrn am Efrog Newydd pris, 6p. 6s. lie canol, 8p. 8p. Llinell y Dominion i wahanol borthladdoedd, fei yr Allan Line, gydag ychwanegu New Orleans, gan droi i mewn i Galveston o Texas; pris, Gp. 6s. Llinell agerawl Lamport & Holt yn wythnosol i Buenos Ayres, a pborthladdoedd ereill. Y pris i Buenos Ayres—lOp. i berson unigol; ac uwchlaw hyny, fel y canlyn :— Cwmni uwchlaw 6 a than 10 9p. 10s. Cwmni uwchlaw 10 a than 15 9p. Os. Cwmni uwchlaw 15 a than 20 8p. 10s. Cwmni dros 20 a than 40 8p. Os, Cludiad plant yn amrywio yn ol yr oedran. Dyma y porthladd He y glania teithwyr fyddant yn myned i Patagonia; ond cofied y darllenydd fed y llywodraeth Argentaidd yn anfon pobl i wahan- ol barthau o'r wlad yn rhad o BueDos Ayres, yr un fath ag y danfonir hwynt i'r Wladfa Gymreig. Barned pob ymfudwr drosto ei hun am y wlad oreu i fyned iddi, ac na fydded i neb fod mor ddwl a chymeryd ei arwain yn fyrbwyll gerfydd ei drwyn, heb yn gyntaf bwyso y mater cyn chwalu. cartref. Mae yn elvv a chynaliaeth i mi gyfar- wyddo ymfudwyr; ond ni charwn fod yn enog- o gamarwain a thwyllo neb er mwyn ychydig geiniogau. Gallaf ddweyd hyn, fod genyfytt Cymreig helaethaf yn L'erpwl, a digon o le e^sur- us i letya ymfudwyr yn ddidrafferth. Byddai yn ddoeth i ymfudwyr ffurfio minteioedd bychain, er myned gyda'u gilydd, lie bynag y byddont"wedi meddwl am ymfndo, yr hyn fyddai yn -gysiar ychwanegol iddynt ar y daith drosforawL Crofted ymofynwyr y cyfeiriad CYMRO GWYLLT, American Eagle, 28, Union street, Liverpool. O. T. -Mae o bwys arbenig i deithwyr i amfon i'r porthladd am gyfarwyddiadau, yn hytrach naff I ymddiried t orucbwylwyr yn y wlad, Ilawer < ba
YCHYDIG FFIGYRAU I DRIGOLION…
goreu i ddynion, yn ol 10s. yr un-250p. 500 o flancedi, yn ol 10s.—250p. 500 o sheets cotwm, yn ol 7s.—175p. 500 o ffrocau i fenywod, yn ol punt yr un -500p. 500 o foneti, yn ol 10s.-250p. 500 o esgidiau i fenywod, yn ol 10s.—250p. 5000 siwtiau o ddillad i fechgyn, yn ol lp. 5s.-625p. 500 par o esgidiau i fechgyn, yn ol 7s.—I75p. .500 o gapiau bechgyn, 39. yr un-75p. 500 o ffrocau i ferched, yn ol 103.—250p. 500 o foneti i ferched, 5s.-125p. 500 o esgidiau i ferched, 6s.—150p. 500 sach o bytatws, 10s. yr un-250p. 500 sypyn o siop y grocer, yn ol Ip. yr un-500p. 500 o sypynau o siop yr ironmonger, yn ol Ip. yr un—oOOp. Gyda'r gweddill, gellid talu ymaith yr holl ddyledion sydd ar y capeli, adeiladu neuadd gyhoeddus ardderchog, cael llyfrgell ogoneddus, a thalu yr holl drethoedd.-G. P. Ivey, Tyle Morris.