Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
3, POSTERN BUILDINGS, (Yn agos i'r POST OFFICE) A Stall ar y Farchnad bob dydd Sadwrn, ABERTAWE. WE. PINCOTT, Llyfr-werthydd ail-law. Y pris goreu yn cael ei roddi am bob math o Lyfrau ail-law, cerdderiaeth mewn sheets, ac mewn ffurfiau ereill, mewn sypynau mawrion neu bychain, neu cymerir hwynt mewn cyfnewid- iad.-Gelwir gyda boneddigesau a boneddigion yn eu trigfanau.-Rhoddir gwell pris am Lyfrau, &c., na ellir gael am y cyfryw mewn Arwerth- iadau. 2528 To Shoemakers. WANTED immediately, by the Mountain Ash Co operative- Society, Limited, a gold working SHOEMAKER, to take to their shde trade which includes bespoke work and repairs.— Terms on applicatation to the manager. JJeferances repuired.
.BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. JDALTER SYL W.-Oherwydd ein bod yn myned i'r wasg ntor gynar, dymunwn yn barchus ar ein gohebwyr caredÍfJ i drefnu i ni gael eu cynyrchion foreu dydd Sad- wrn, am y byddai hyny yn rwyddineb mawr i ni, ac yn sicrhau cyhoeddusrwydd prydlawn i'r eiddynt. ANNGHYMERADWY :—Eryr yr Alcanwyr-Cyfaill Tramp-Ab Edmwnt-IJlwynog Cwmdyffryn- Almarita. CONGL Y GYFKAITH.—Gyrodd Ieuan Dyfed atom un llith o gyfres a fwriada ysgrifenu i'n papyr o dan y penawd "Congl y Gyfraith," os yn dderbyniol." Boed hysbys i'n cyfaill y bydd yn hyfrydwch mawr genym fforddio colofn yn wythnosol i'w lithiau dyddorol. Y pynciau y bwriada sylwi arnynt yw Deddf Dyledion," Y Llys Sirol," "Deddf Methdaliad," "Deddf Meistr a Gweithiwr," Cytundebau," "Gweith- redoedd," Cyfraith Stampiau," Meichiau," "Bills of Exchange," Meistr Tir a Deiliad," "Y Gyfraith Iawnol," Gwneuthuriad Ewyll- ysiau," ac felly yn y blaen. Dyna ragdrefniant am ddanteithfwyd llenyddol blasus i'n Iluosog ddarllenwyy. Gwyn fyd pe b'ai ereill o'n goheb wyr yn dilyn esianipl Ieuan Dyfed ar ryw bynciau cyffelyb. Ymddengys y Llythyr I. yn ein rhifyn nesaf. W. P. THOMAS.—Daeth eich adroddiad i law boreu dydd Mercher--rhy ddiweddar. Cewch y cardiau yn fuan. YN BIN NESAF —Llwydwedd—Rich. Gwyngyll Hughes. —— —
EIN TELERAU.
EIN TELERAU. Danfonwn y GWLADGARWE, gyda'r post ar y telerau canlynol:- s. c. Un GWLADGARWR, y clnoarter 1 8 Dau 2 9 I America, dbc., y chwarter 1 8 Taliadau i'w gwneyd bob amser yn mlaenllaw. Danfoner stamps at- WALTER LLOYD, "Gwlad- garwr Office, Aberdare. Ni wnawn sylw o tmrhyw ohebiaetliau, dbe., fwriedir i'w cyhoeddi, os na chyfeirir hwynt fel y canlyn To the Editor, "Gwladgarwr" Office, Aberdare. Pob archebion, taliadau, a llythyrau masnachol i'w danfon i Walter Lloyd, Gwladgarwr" Office, Aberdare. Pob llyfrau, &c., i'w hadolygu i'w danfon i Mr. T. E. Davies, (Dewi Wyn o Essyllt), Pontypridd.
Advertising
ft ABWYDDAIR FO RHYDDID rOB GRAIXD HEB NA I ) LLADD NA LLID. j| ($tolafoprtor. ABERDAR, GWENER, RHAG. 16, 1881.
HYNAFIAETHAU BABILONAIDD.
HYNAFIAETHAU BABILONAIDD. HYNOD yw y darganfyddiadau sydd wedi eu gwneuthur y blynyddoedd diweddaf hyn, drwy gloddi at weddillion ac adfeil- ion hen ddinasoedd cysegredig mewn hanes, yn neillduol felly hanes Feiblaidd. Y maent yn weithfawr i bob Beibl-gar- wr, am eu bod yn cadarnhau llawer o'r hanesion a rydd y Beibl i ni am ddinas- oedd, breninoedd, rhyfeloedd, y Diluw, a dygwyddiadau cyffelyb. Nid oes llai na phum' mil o fan-lechau Babilonaidd —llawer iawn ohonynt mewn cyflwr o gadwraeth rhagorol, a ddarganfyddwyd gan Mr. RASSAM yn moel.gloddiau Abu- Habba-ar eu ffordd yn awr tua'r Am- gueddfa Brydeinig. Abu-Habba yw y man He y safai Sippara, neu Sepharfaim yr Hen Destament. Nid yw yn beth anmhosibl nad yw y casgliad pwysig a dyddorol hwn yn cynrychioli llyfrgell SARGON I. Ymddengys enw SARGON yn y cerfysgrifau hyn fel Sardinia. Cry- bwyllir am y Brenin hwn yn Isaiah xx., 1, Efe a adeiladodd ddinas, ac a'i galwodd ar ei enw ei hun." Adnabyddir y lie hwnw yn awr wrth yr enw Khor- sabad. Efe oedd tad SESTACHERIB, a'i ragflaenor uniongyrchol ar yr orsedd. Yr,oedd yn frenin ar Assyria, tra yr oedd MERODACH-BALADAKT yn frenin ar Babilon. Efe a gwblhaodd y gwarchae ar Samaria a ddechreuwyd gan SHALMANESER, ac a'i cymerodd. Efe a sefydlodd y Samariaid -27,280 o deuluoedd, meddai ef, yn i Halah, ac ar y Khabour, ar afon Gozan; ac yn ninasoedd y Mediaid. Yr oedd yn adeiladydd mawr. Ganddo ef yr adeil- adwyd un o'r palasau Assyriaidd mwyaf ysblenydd a godidog. Efe hefyd a ad- gyweiriodd yn drwyadl Gaerau Ninefe. Y mae yr hynafiaethau Assyriaidd ag sydd yn y Louvre agos oil wedi eu cy- meryd o'i ddinas ef. Byddai cyhoeddi llyfr o'r hynafiaethau hyn, y cerfysgrifau, a'r deongliadau ohonynt, yn beth dymun- ol dros ben. Nis gallai llyfr o fath lai na bod yn wir ddyddorol.
Marwolaethau Cymry America.
Marwolaethau Cymry America. PROSSER.—Hydref 8fed, yn Burlingame, Kansas, yn 20 mlwydd oed, merch William a Mary Prosser. Genedigol ydoedd o Aber- dar. Cafodd gladdedigaeth barchus iawn. BOWEN.—Tachwedd 8fed, yn 19 mlwydd oed, Gwladys, merch i Thomas ac Elizabeth Bowen, Streator, Illinos. Genedigol oedd o Gwmbach, Aberdar, He yr adnabyddid ei thad wrth yr enw Twm Penycae," am mai o Benycae y daeth yno. Bu yn nychu am chwe' mis, ond yr oedd hi bob amser yn hoffi materion crefyddol. Cafodcl angladd anrhyd- eddus a thoddedig iawn. PRITCHARD.—Hydref 29ain, yn Mineral Ridge, Ohio, Hugh Pritchard. Ganwyd ef yn sir Fon, yn 1810, ond symudodd i Dre- degar, lie y treuliodd saith mlynedd o'i oes. Aeth i America am saith mlynedd, dychwel- odd i Gymry am 15 mlynedd arall, ac yn 1863, aeth yn ol eilwaith i'r Unol Dalaethau. Yr oedd yn gymeriad crefyddol dysglaer. Claddwyd ef yn mynwent Kerr. _I. DAVIEs.-Hydref 19eg, yn West Austin- town, Mahoning Co., Ohio, yn 74 mlwydd oed, Rees T.. Davies, gan adael gweddw aiarus ar ei ol. Ganwyd ef yn Nhy Coch, ger Llangadog, sir Gaerfyrddin, lie treuliodd y rhan flaenaf o'i fywyd, ac a briododd. Symudodd i Ebbw Vale yn 1845, ac i America yn 1860. Crydd ydoedd ei alwedig- aeth. Claddwyd ef yn Ohitown. BRADSHAW.—Yn Nortonville, California, Hydref 25ain, Mr. John Bradshaw, yn 55 mlwydd oed, gan adae^ gwraig a phump o blant ieuainc i alaru ar ei ol, heblaw y rhai sydd wedi eu priodi. Yr oedd yn enedigol o Varteg, sir Fynwy, a symudodd i'r Blaenau, ger Nantyglo, pan yn ieuanc. 30 mlynedd yn ol, ymfudodd i America. Yr oedd gan- ddo duedd uchel i gerddoriaeth, ac yn un o gyfeillion goreu Dr. Joseph Parry. Cladd- wyd ef yn mynwent Somerville, ar y 27ain. REYNOLDS.—Hydref 29ain, yn 41 mlwydd oed, John D. Reynolds, guard, Ohio, o'r cholera morbus, yr hwn sydd wedi ei effeithio trwy'r haf. Ganwyd ef yn Nghydweli, lie mae rhai o'i deulu yn byw yn bresenol. Symudodd i Faesteg, lie y priododd ac yn 1869, aeth i America. Cafodd wyth o blant -pump ohonynt sydd yn ajaru ar ei ol. Cafodd gladdedigaeth fawr ar y laf cyfisol, pryd trodd nifer o gymdeithasau dyngarol allan i ddangos y parch diweddaf i'w weddill- ion. _u
Cymdeithas Ddarbndol y Glowyr.
Cymdeithas Ddarbndol y Glowyr. I MR. Got.Y peth nesaf a gawn sylwi arno yn Ilithiau Mr. Owen- ar y gymdeithas uchod yw ei ddywediad na feiddiwn ddweyd fod damweiniau yn anocheladwy, ac felly fod mwy o Gristionogaeth mewn talu 5s. yr wyth- nos at y weddw na'i gadael heb yr un ddar- pariaeth ar ei chyfer. Medrwn droi y rhan gyntaf o osodiad Mr. Owen yn ol yn rhanol trwy ddweyd fod haner y damweiniau yn ocheladwy pe byddai y gofal priodol yn cael ei arfer; felly, mae mwy o Gristionogaeth mewn eadw 50 y cant na darparu ar gyfer y weddw yn y dull yna. Cofier nad wyf yn wrthwynebwr i ddarparu ar gyfer y weddw a'r amddifaid ond nid trwy gymdeithas ag sydd yn arwain i esgeulusdod o 50 yn y cant; a pheidied Mr. Owen geisio dallu y glowyr trwy ddweyd am rinweddau ei gymdeithas mewn ystyr arianol, oblegyd swllt drud yw y swllt y mis a delir iddi. Cyfaddefa y brawd ei fod wedi dweyd yn Tylor's Town nad oedd ymwared i'w ddys- gwyl oddiwrth y Ddeddf Iawnol. Profais hyny," meddai, i foddlonrwydd y gwydd- fodolion." Hawyr bach o ba le y daeth yr orator hwn ? Dyna ddywediad wedi tarddu oddiar self-esteem. Cofied ein ffraethebwr o ba beth oedd ei wrandawyr wedi eu cyfan- soddi, sef o swyddogion y lofa, ac o ychydig y gallasant y diwrnod hwnw ddylanwadu ar- nynt i fod yn bresenol; a chofied y brawd mai gwaith hawdd iawn oedd boddloni ycyf- ryw ond cofied, gyda Haw, nad yw corff y glowyr ynderbyn tystiolaeth o'r natur yna heb gael chapter and verse. Gofyna yn nesaf, Pa gyfartaledd sydd rhwng y damweiniau yn gyffredinol a'r rhai sydd yn cael eu dwyn i'r ll £ s 1" Fy ateb yw, nad yw haner y rhai a ddylai ddyfod i'r ltys yn dyfod iddo, am nad oes gydweithrediad rhwng y glowyr a'u gilydd fel y dylai fod ond nid yw hyny yn profi diffyg gallu y Ddeddf Iawnol. Tebyg mai amcan y brawd wrth ofyn hyn yw, ceisio dangos yr angen- rheidrwydd am ddarpariaeth ar gyfer y dam- weiniau anocheladwy, a cheisio dallu darllen- wyr y GWLADGARWR ond nid oes un synwyr, fel y dywedais o'r blaen, mewn y fath ddar- pariaeth, os bydd yn arwain i esgeulusdod o'n bywydau a'n diogelwch yn y glofeydd. Gofyna eto, Pa sawl achos damweiniol sydd wedi dygwydd yn ystod fy mhrofiad tan- ddaearol ag y gallesid codi iawn pe buasai y Ddeddf lawnol.mewn grym ? Fy ateb yw, 25 yn y cant, a byddai yr effaith mewn dio- gelwch yn 50 yn y cant. Dywed ar ddiwedd ei lith diweddaf, fy mod i ac yntau yn gyfeillion mawr er's blynyddau, a gobeithiai nad ydyw wedi cymylu y cyfeill- garwch hwnw. Wel, nid oes dim yn well na bod yn onest gyda phobpeth, a gallaf ddweyd yn gydwybodol wrth Mr. Owen ei fod wedi bod yn un o'r cymeriadau dysgleiriaf yn fy ngolwg yn Nghwm Aberdar ond rhaid cyf- addef nad yw ein cyfeillgarwch mor wresog ag ydyw wedi bod, am y rheswm iddo ddweyd yn Saron, Aberaman, ein bod fel gweithwyr wedi derbyn mwy oddiar law y Llywodraeth Dorïaidd nag ydym wedi ei dderbyn oddiar law y Rhyddfrydwyr ac y mae ei weled yn ymladd yn erbyn un o brif fesurau y Rhydd- frydwyr yn bresenol yn pregethu yn uchel ei fod a chwant troi yn Dori arnom. Peth arall yr oedd Mr. Owen, cyn cael y swydd o fod yn ysgrifenydd, yn un o'r gwrthwyneb- wyr mwyaf selog yn erbyn y gymdeithas ag y mae yn bresenol yn ei chefnogi ac yn gweithio drosti. Gtvyr Mr. Owen yn dda ei fod wedi bod gyda ni mewn cyfarfodydd yn ei gwrth- wynebu a gofynaf iddo, beth a'i argyhoedd- odd mor ddisymwth ? Mae fy amser yn brin, onide buaswn yn caru dweyd llawer yn ychwaneg.—Yr eiddoch yn garedig, 11 Mountain Ash. D. MORGAN.
Mudiad Teilwng o Gefnogaeth.
Mudiad Teilwng o Gefnogaeth. Nos Sadwrn diweddaf, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Ddirwestol, Aberdar, i ystyried y priodoldeb o ffurfiocangen o'r St. John Ambidance Association yn y lie. Yn anffodiis, nid oedd y cynulliad yn fawr, yr hyn sydd i'w briodoli i'r ffaith nad oedd cynaliad y cyfarfod wedi ei hysbysu yn ddi- gonol yn mlaenllaw. Yn absenoldeb yr Uwch-gwnstabl, etholwyd Mr. James Lewis, Y.H., Plasdraw, i'r gadair, yr hwnaagorodd z: y cyfarfod ag araeth fer ond pwrpasol. Credai efe y byddai sefydliad cangen o'r fath gym- deithas yn mysg y glowyr yn fendith an- nhraethol, oherwydd yr anwybodaeth o elfenau meddyginiaeth a fodolai yn bresenol. Cyn galw ar Major Duncan, y ddirprwyaeth o Lundain, i anerch y cyfarfod, dymunai hysbysu mai ar adeg cyflwyniad y medals i wroniaid Tynewydd y daeth efe yn adna- byddus a'r boneddwr yn gyntaf, a phe byddai y glowyr yn gwybod mai yr un Major Duncan oedd yn myned i siarad y noson hono ag a siaradodd mor hyawdl ar achlysur anrhegu y medals yn Mhontypridd, buasent yn dylifo i mewn i'r dref o bob cyfeiriad. Major Duncan, R.A., D.C.L., a amlygodd ei barodrwydd bob amser i sefydlu cangen newydd o'r gymdeithas ardderchog hon. Yr oedd clod mawr yn ddyledus i Dr. Jones am ei ymdrechion diflino yn y mater. Byddai damweiniau yn dygwydd yn ami iawn, ac nid oeddynt yn gyfyngedig i yn dosbarth, ond yr oedd pawb yn agored iddynt. Wel, rhoddi cymhorth uniongyrchol pan ddyg- wyddai y cyfry w anhapon, a lleddfu poenau y clwyfedigion, oedd amcan y gymdeithas hon. Yn swydd Derby, yr oedd y glowyr oil wedi bod yn astudio cyfarwyddiadau y gymdeithas, a rhoddodd engreifftiau o lowyr yn arbed bywydau eu cyd weithwyr, trwy atal colliad gwaed, &c. Ein dyledswydd, fel Cristion- ogion, oedd i berffeithio ein hunain yn y pethau hyn, er bod o wasanaeth i'n cyd- greaduriaid. Olrheiniodd hanes y gym- deithas hon o'r amserau boreuaf, ac eglurodd ystyr yr enw yr adnabyddid hi wrtho. Yr oedd wedi bod yn foddion i sefydlu llawer o'r sefydliadau cyfleus a defnyddiol hyny a elwid yn cottage hospitals, a rhoddid bwydydd iachus achryfhaol i bobl pan yr ymadawent wedi eu gwellhau o'r ysbytdai, hyd nes y byddent yn alluog i ail-ymgymeryd â'u gwa- hanol orchwylion. Ar amser rhyfel, rhoddid cynorthwy i'r clwyfedigion, heb wahaniaeth i ba ochr y perthvnebt, a chymaint oedd llwyddiant y gangen hon yn y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani, fel y gwasgwyd arnynt i sefydlu ambulances (moddion cludiad) yn y trefydd mawrion mewn amser heddwch hefyd. Yn Llundain, gwasgarwyd y moddion clud- iad hyn ar hyd gorsafoedd yr heddgeidwaid, ac addysgwyd yr heddgeidwaid yn y ffordd i weithredu mewn achosion o ddamwain. Mewn amser, ymledaenasant dros Lloegr i gyd, ac yn awr y mae 121 o orsafoedd ganolog mewn cysylltiad a'r gymdeithas, a nifer mawr o bwyllgorau lleol. Derbynid yn barhaus geisiadau am iddynt ymestyn cylch eu gweith- rediadau dros wahanol wledydd y byd. Yr oedd gan y gymdeithas dros 35,000 o ysgol- heigion trwyddedig trwy'r byd, ond nid oedd erioed wedi derbyn yr un achwyniad oddi- wrth unrhyw feddyg fod yr ysgolheigion hyn yn cymeryd gormod ar eu hysgwyddau eu hunain, ac yn troseddu ar dir y meddygon. Gwaith yr ysgolheigion hyn oedd rhoddi y cynorthwy cyntaf i'r clwyfedig, yn absenol- deb y meddyg, ond can gynted ag yr ym- ddangosai y meddyg yn y lie, yr oedd gwaith yr ysgolor ar ben. Sefydlid dosbarthiadau o'r gwahanol rywiau ar wahan, yn mhob canolfan, ac yna rhoddid darlithiau gan fedd- ygon i egluro yr hyn oedd i wneyd mewn damwain. Dim ond awr a chwarter unwaith yr wyiihnos, am bump wythnos, oedd yn angenrheidiol i wneyd dynion a gymerent ddyddordeb yn y mudiad yn hyddysg yn y materion hyn a phe na ddefnyddid y wy- bodaeth fyth, byddai yn ein gwneyd yn well Cristionogion o'r hyn lleiaf. Yna, dangosodd i'r gynulleidfa ychydig ffyrdd o rwymo braich ddrylliedig, neu asenau briwedig, ac eistedd- odd i lawr yn nghanol cymeradwyaeth mawr. Dr. Price, M.A., a gynygiodd fod canol- fan (centre) o'r St. John Ambulance Associa- tion i gael ei sefydlu yn Aberdar, ac enwodd nifer o'r boneddigion oeddynt yn bresenol fel pwyllgor, gyda gallu i ychwanegu at eu rhif. Eiliwyd y cynygiad gan y Parch. J. W. Wynne-Jones, M.A., fioer y plwyf, yr hwn a eglurodd amcan y gymdeithas yn Gymraeg. Dywedodd fod ar gyfartaledd dwy ddamwain o bwys yn dygwydd yn mysg glowyr Aber- dar yn wythnosol. Mor ofnadwy oedd edrych ar ddyn a'i fywyd yn treio ymaith, ac heb fod yn gwybod am unrhyw foddion er ymdrechu ei achub Gyda'r cyfarwyddiadau a roddid yn y dosbarthiadau hyn, byddent bob amser yn alluog i wneyd rhywbeth er cynorthwyo eu cyd-ddynion anffodus. Car- iwyd y penderfyniad yn unfrydol. Diolchwyd i Major Duncan am ei araeth gan Major Powell, Brecon Old Bank, ac wedi i'r cynyg gael ei eilio gan y Parch. T. Jones, cariwyd ef yn unfrydol. Wrth ddychwelyd diolch, gwasgodd Mr. Duncan ar y rhai oedd- ynt yn bresenol i ddangos pob brwdfrydedd gyda'r mudiad newydd. Cynygiwyd diolch i'r llywydd gan y Parch. R. E. Williams (Twrfabl, ac eiliwyd hyny gan y Parch. B. Evans (Telynfab). Yna, terfynodd y cyfarfod. Deallwn fod y Gwir Anrhyd. Arglwydd Aberdar wedi amlygu ei barodrwydd i fod yn lywydd y gangen yn Aberdar.
Eisteddfod Genedlaethol Merthyr
Eisteddfod Genedlaethol Merthyr Y GWEDDILL ARIANOL. Dydd Iau, Rhag. 8fed, cynaliwyd cyfarfod o b^vyllgor yr Eisteddfod uchod yn y Temperance Hall, dan lywyddiaeth Mr. D. Rosser, pan ddaeth yn nghyd tua 40 o aelodau y pwyllgor. Dyben penaf y cyfarfod oedd derbyn y cyfrifon archwiliedig, ac ystyried y dymunoldeb i apwyntio ymddiriedolwyr i gymeryd gofal gweddill arianol yr Eisteddfod. Penderfynwyd gwario y swm heb fod dros 5p. mewn adgyweirio y berth yn mharc Pendarren, a deisyfwyd ar Mr. D. Williams i weled fod hyny yn cael ei gario allan. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. T. Havard a Henry Lewis, y cyfrif-archwilwyr, yn gofidio nas gallent adael i'r pwyllgor gael ffrwyth eu harchwiliad, hyd nes y bydd yr oil o'r cyfrifon wedi eu tyst-arwyddo. Cyfeirient yn fwyaf neillduol at gyfrif man- arianol yr ysgrifenydd. Ar ol eglurhad gan Mr. Rhys T. Williams o barthed i'r swm hwn (12p. 6s. 6c.), penderfynwyd ar gynyg Mr. D. Evans, ac eiliad Mr. D. Davies, i dystarwyddo gyda golwg ar gywirdeb yr unrhyw, ac hefyd i dalu yr ysgrifenydd 30s. am ei bresenoldeb yn nhri cyfarfod diweddaf y pwyllgor. Yr oedd Mr. W. Thomas yn myned i gyfeirio aty gweddill arianol pan ddywedodd yr ysgrifen- ydd y byddai hwhw yn 217p. 7s., allan o'r hyn yr oedd 6p. 10s. i dalu. Yna, Mr. Thomas a gynygiai fod y swm yn nwylaw y trysorydd i gael ei osod yn lenwau pedwar o ymddiriedol- wyr, sef Mr. 'Gwilym James, Uwch-gwnstabl Mr. D. Williams, Taff Vale Brewery Dr. T. J. Webster a Mr. J. Jones; Glanynant. Eiliwyd hyn gan Mr. Southey. Mr. Rhys Davies a ddy- wedai ei bod yn hynod iddo ef nad oedd enw y liywydd yn cael ei grybwyll fel ymddiriedohvr. (Clywch, clywch, a Na, na). Cynygiai, fel gwelliant, fod enw Mr. Rosser i gael ei ychwan- egu. Eiliwyd hyn gan Mr. T. Evans. Y cad- eirydd a ddywedai fod yn rhaicl iddo yntau ddatgan ei deimladau ar y mater. Tebyg fod rhyw whip fawr wedi ei gwneyd i gael cyfeillion yn nghyd. Ni wyddai efe pa mor bell ydoedd mewn trefn i alw is-bwyllgor o gyfeillion Mer- thyr i ystyried pa gwrs a ddilynid, ond yn ddiau yr oedd yn milwrio yn eu herbyn i weithio fel hyn yn erbyn y Pwyllgor Cyffiedinol. Yr oeddynt yn awr wedi dyfod yn agos at derfyn y mater, ac nid oedd efe yn meddwl y dylent ymddwyn yn y ffordd hono-Mr. Gwilym James a gododd mewn trefn, ac a ddywedai mai dyledswydd y cadeirydd oedd gosod y pen- derfyniad, oddigerth fod unrhyw siarad arno. Y cadeirydd A datgan fy marn arno. Mr. James Yr ydych yn camarfer eich safle yn awr. fna, rhoddwyd y penderfyniad i'r cyfarfod, ac apwyntiwyd y boneddigion a enwyd uchod, a dim ond 10 bleidleisiodd yn ffafr y gwelliant. Yna, rhoddodd Mr. D. Davies rybudd y byddai iddo yntau ddwyn yn mlaen gynyg i ddileu penderfyniad o barthed i'r enwau ar y cheque I. Ar ol cryn lawer o siarad, cynygiodd Mr. J. S. Jones fod cadwriaeth yr holl lyfrau, traethodau, ysgrifau, ac eiddo arall, i gael eu trosglwyddo i (Jwch-gwnstabl Merthyr am yr amser. Eiliwyd gan Mr. Southey, a chariwyd ef yn unfrydol ac apwyntiwyd Mr. D. Evans, collector, yn ysgrifenydd anrhydeddus am y gweddill o'r tymor tra fyddai y pwyllgor mewn bodolaeth. Wedi trefnu am y cofnodion (y rhai a gadewsid ar yr un llyfr ag Eisteddfodau Caerdydd ac Abertawe), sylwodd Mr. Gwilym James fod y cadeirydd wedi presenoli ei hun yn y cyfarfodydd, ar golled fawr mewn amser a thraul iddo ei hun, a meddyliai ef mai y peth lleiaf allent wneyd oedd pasio pieidlais galonog o ddiolchgarwch iddo (clywch, clywch). Mr. Southey a eiliodd hyn, gan sylwi nad oedd ganddo un teimlad yn y mater. Cariwyd y c/nygiad, ac atebodd y cadeirydd yn fyr Yr wyf yn diolch i chwi. Dymunai Mr. D. Jones ar y pwyllgor i basio penderfyniad yn ymwrthod a phob cysylltiad ag Eisteddfod Pontypridd, yr hon a ystyriai efe fel opposition i'r cynulliad cenedlaethol yn Ninbych ond gwrthododd y cadeirydd osod y fath gynyg, a dywedai fod y cyfarfod ar ben, pan ataliwyd ef gan Mr. G. James, a D. Williams, yr olaf o ba rai a ddy- wedai y carai gael penderfyniad wedi ei basio yn awdurdodi yr ymddiriedolwyr i suddo y gweddill mewn rhyw drysorfa neillduol. Ni phenderfynwyd hyn, a therfynodd y cyfarfod.
[No title]
YR oedd treth y Bwrdd Ysgol am y saith mlynedd diweddaf, yn Nghaernarfon, o dan dair a dimai y bunt. Y fath draul fechan am fantais mor fawr DYMA'R fath newyddion mae ein brodyr lanciaidd yn caru darllen Bu farw hen wraig ddu, yn Brazil, yn 187. Dyma'r tro cyntaf iddi wneyd y fath beth."—Boston Transcript. Ac yr oedd yn ddigon hen i wybod yn well, hefyd. N orriston Herald. Ai hwn yw fy nhren i?" meddai teithiwr, mewn gorsaf rheilffordd, i hogyn oedd yn sefyll gerllaw. Wn i ddim yn iawn," oedd yr ateb, ond gwelaf fod enw y cwmni ar ochrau y cerbydau, ac efallai fod y tren yn perthyn iddynt hwy. A gollsoch chwi dren yn rhywle ? BYDD i Mri. Longmans, y mis nesaf, gyhoeddi "Areithiau Arglwydd Beaconsfield," mewn dwy gyfrol. Mr. T. E. Kebbel a ddewisa ac a osoda hwynt mewn trefn, ac nefyd a ysgrifena rag- ymadrodd, a nodiadau eglurhaol. Unid oedd Ceidwadwr llenyddol mwy adnabyddus i'w gael ?
Tystiolaethau Pwysig I QUININE…
Tystiolaethau Pwysig I QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Brynhyfryd, ger Abertawe « £ n-w?rl vT.r ~Y,f y'hvJ'f wedi bod yn gwerthu y Quinine Bitters am rai bJynyddau beikch. Y maent wedi gwneyd liawei o les yn yr ardal vma ac y mae ciyrodiad dysglaer iddvnt. Yr ydwvf wedi sylwi yn fanol ar eu Iieffaitli ar wahanol bersonau, ac yr ynwyf wedi gweled rhai o'r dolur- lau gwaethaf a a-llai neb ddychymygu vn cael eu Hwyr welihau trwy ddefay.ldiu y meddyglyn yma. Y mao plant o bob oedran, dynitm ienanc a hen. gwragedd a inerohed, oll yn ty.ti.Jaethu i'w heffavth datonus. Y mae yn drueni na eJlid eu darostwng ychydig yn eu pris, heb wanychu eu heifaithgan fo.; cr.noecid o bobl weini.onyn sychedu am (ll-ein ei heriaith, ond eto heb fodd i wneyd hyny. — Yr eiadoch 3 n serehog. ISAAC OWEN. From Griffith WiUtcms, Llanerchymedd Angle- sea Syr,—Da genyf gael y cj-3exis.)ra i anfna U:Ar gantno;iaet!w ch Quinine Bitters." Y maent yn duerbyniol iawn yn v avmvdogaeth 1!'m. Gwerthais lawer ohtmynfc yn>st>^ y blvnvddaa diweddai, ac y mae y arnynt vn pairhau gynydau Nid oes ineddyginiaeth yn debvg iddynt at lselder ysnrvd, d:ftvg tranl, dvchlamiad- au y gaion, a chur yn y pen. Yr eiddoch yn gy.n'v, Mecli 8, 1880. GRIFFITH WILLIAMS From Mr. John llw>,l rinn*. Cynffig), Ilynydd t-yitliiti Syr,-Bu'm yn dyoddef llawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, lselder y-brvd, difyg arch^aeth at fwyd, ac ar ol ei fwyta, blinder maw. Prvnais botelani 4s. 6d. oddhvTth Mr. Richard Jenkins, i enil» ar. ?,11 ei chymeryd, teimlais fy bun wedi aaferyd 3 m lechvd arferol. ac vn r^uoe i ddilyn fy ngalwedigaefch. Yr ydwvf \ù,Ji eu cymeradwyo i ereill, a tliystiolaeth" y rhai ry«v yw eu bod wed! derbyn lies annhraetholtrwvcidynt a byddaf yn teimlo yn ddyiedswydd arnaf eu cadw bob amser fei tryser penaf y teulu. From the Bev. J. H. Williams (Brvnfnrdd) Head Master of the Dowlais Grammar School. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,The wonderful efficacy of your Quinine Bitters to restore health and vigour after lingering illness and debility, has been recent- ly and sufficiently proved by my family, and elicits this volunta.ry and conscientious testimony from me for the benefit of others. From J. Ellis Edvjards. M.B.0.8. L.S.A., &c. Saint Clears Carmarthenshire. To Mr. Gwilym Evans. Dear Sir,-Having been so frequently asked by my patients as to the desirability of taking your Quinine Bitters," I have for the last two yeaM given it a fair trial, and find it, without exception^ the raost pleasant and effectual means of admin- istering that remedy. (Signed) J. ELLIS EDWARDS, M.R.C.S. L.S.A. Testimonials of the most flattering nature have been recently received from Mr. Joseph Rees Cardan, Mr Griffith Willhms, Llanerchymedd; Mr. W. H. Thomas, Dowlais; Mr. John Francis Wrexham Mr. Myrddin Davies, Swansea j Hugh G. Hughes, Holyhead; Mr. W Sims Aberaman; Mr E P. Wynne, Aberystwyth^ Mr. Jones, St. Asaph Mr. D. Evans, Cemmaes, Montgomeryshire Mr. J. P Jones, Aberayron all chemists and gentlemen who have every facilitv for testing the respective merits of different pre- parations offered to the public by advertisements and other means. A^r-1J"atkia,_ J" Thomas, Chemist. Aberdare, Aug 17th, certifies to its extensive sale and good results produced in several cases that came under his immediate notice. To Mr Gwilym Evan. F.C.S., Manufacturing and Analytical Chemist, Llanelly. Llangadock, August 15, 1880. Dear Sir.—I am happy to state that the sale of the Qnimre Bitters" is rapidly increasing in this neighbourhood. All the patients who have tried it speak most highly of its beneficial effects and very lately two very distinct and remarkable cases came under my own notice. The one was a case of nervous indigestion, and the other was a case of hypochondria, pure and sim^e. It is one oi the few patients I strongly believe in. -Yours&c.. E. D. GEORGE. From Robert Watts, Veterinary Surgeon Peny. groes, North Wales. TV + 1 .AuSust 1880. I have taken your "Quinine Bitters" for in- digestion and the many inconveniences arising therefrom. Tiie benefits derived are great and permanent. From Dr. G. A. Jones. T 4-V, 4~ 4.1 Sel3t- 2?th, 1880. .t;ertlfy t}XQ..Preparation known aa Gwilym Evans s Qumme Bitters is quite free from minerals, and that tl- e ingredients contained in it are mixed in the most. suitable proportions to DebilitytS °aSeS °f Indiferestioii and (Signed) G. A. JONES, M.D. From Mr. John David Evans, Post Offiee, Tre. lech. TXT J CV A, Sept. 15th, 1880. My dear Sir,-Although you must be overload- ed1 w^ tfstimomais m favour of your now celebrated Quinine Bitters,yet I considered it my duty to inform you that many who have obtained it from me have taken it with very bene- ficial results, and those o my customers who have truly proved its renovating properties always take one, two, or three bottles thereof (as the caae may require), every Spring and Autumn, testifying that they derive much more benefit thereby thai they obtained when spending so many weeks at the seaside. Have kept it on sale for many yeare, and find the demand for it m this part continually increasing. The last supply arrived safely. Sept. 24th, 1880. ,¥r- •' Is§rfdJ°ne3 Chemist, Llanrwst, has Mid grosses of the Quinine Bitters," and ftom cl*se •bservatien of their effecfe, caA vouch for .a tonic in cases of ei&eml debility, &c., being particularly suitably to patients recevearisgfroip ions illness.