Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

COLE G Y GWEITHI,WR.I

News
Cite
Share

COLE G Y GWEITHI,WR. I GAN Ap CORWYNT & Co. I Nos Wener, Rhagfyr 9fed. Ap Corwynt.—Ar ol i ni ddarllen darlith y Pytatws" gan yr hen Langollen yn y Coleg yma, dro yn ol, ac iddi, wedi hyny, ymddangos yn y GWLADGARWR, pwy gyfar- fyddais ond y brawd John Thomas, Cwm- aman, yr hwn sydd yn wael ei iechyd er's cryn amser, a diolchai i ni am godi yr hen gymeriad enwog hwnw i sylw. Gyda llaw, dywedai i'r Parch. E. Edmunds, Abertawe, fod yn darlithio yn Nghwmaman, dro yn ol, ac yn nghwrs ei ddarlith, dywedai iddo fod uwchbsn bedd Jones o Langollen yn America, ac nad oedd arno un gareg na cholofn goffadwriaethol! Bobol, a oes dim digon o Gymry arianog yn y 'Merica i wneyd cymaint a hyny o barch i goffadwriaeth yr hen genius hwnw? Codwch ati fechgyn, Cynonfardd, Gwrhyd Lewis, Tafalaw, Llyfnwy, a'r llu mawr o weinidogion Cymreig sydd hwnt i'r Werydd, yn n^hyd a beirdd a chantorion y talaethau, a dodwch gofgolofn ar fedd yr hen Langollen, yr hwn fu yn ddychryn i'r droch am flynyddau, ac yn un o'r creaduriaid mwyaf hirben a fagodd Cymru. Vulcan Fardd.-Ie, pity garw fod yr hen Langollen yn cael can lleied o barch, na fuasai rhywrai yn ymysgwyd i gael careg fedd uwch ei weddillion. Gallem feddwl fod yna ddigon o Gymry twymgalon yn y 'Merica, pe gosodid y path o'u blaen gan bwyllgor wedi ei ffurfio yn rheolaidd i'r perwyl. Yn ddiau, fe ddeuai digon o ddoleri at eu gilydd yn dra buan i gael maeu-golofn hardd ar ei fedd. Pwy newydd sydd o'r byd mawr llydan 1 Agrippa.-Dim rhyw lawer; ond dyna un newydd, fod y brawd Mr. Evan Owen, ysgrifenydd Cymdeithas Ddarbodol Barhaus y Mwnwyr, wedi mynu ymgeledd gymhwys yr wythnos ddiweddaf, sef Miss Thomas o Aberdar, a chyn hyny o Ferthyr. Dyma'r ail briodas iddo, a hyny yn dra buan ar ol eu gilydd, canys priodwyd ef a'r gymdeithas a nodwyd fel ei hysgrifenydd dro yn ol, ac wele fe eto wedi priodi a. Miss Thomas. Wel, byd o hedd a hawddfyd iddo, ddywedaf fi, a llwydded yn ei holl ymgymeriadau. Y mlr9 .Y y Gymdeithas Ddarbodol yn llwyddo fel tan, a'r aelodau yn amlhau bob wythnos. Clywed, ddiwrnod neu ddau yn ol, fod glowyr sir Benfro bob copa walltog yn perthyn i'r Gym- deithas Ddarbodol, a bod rhai o'i gelynion gwaethaf gynt yn Morganwg a Mynwy yn ei phleidio. Huw Ffradach.-Daeth OyfaiU yr Aelwyd, sef y trydydd rhifyn misol, i law yr wythnos hon, ac yn wir y mae yn dal ei dir yn rhagorol iawn ac os dim, yn enill tir. Ceir ynddo ysgrifau dyddorol ac addysgiadol iawn, a dymunwn o galon longyfarch y Gol. galluog am yr amrywiaeth flasus a esyd ger ein bron. Y mae Carnelian, intau, yn myned yn mlaen sig Athrofa'r Gynghanedd yn dra doniol. Hen gynghaneddwr cryf yw Carn', a gobeithiwyf y dwg i fyny luaws o ddysgyblion yn ei athrofa. Yr wyf wedi darllen cryn lawer ar Daith y Pererin" gan Bunyan, ond ychydig wyf wedi weled o hanes y dyn mawr hwnw. Oes un ohonoch all roddi braslun o'i fywyd 1 Samson. Y n ngharchar Bedford y cyfan- soddwyd y rhan gyntaf o "Daith y Pererin," lie y bu efe o 1660 i 1672. Ar ol iddo gael ei ryddhau, ymdreuliodd am y gweddill o'i oes yn nyledswyddau y weinidogaeth. Yr achos o'i garchariad oedd am bregethu yr Efengyl. Ni chafodd fawr addysg, ac yn ei Feibl Seisnig y dysgodd brif elfenau a hanfodion iaith. Yr oedd yn efrydydd diflino o'r hen Destament a'r Newydd. Braidd y ceir ffigwr nac amgylchiad yn yr Hen Destament nad ydynt wedi cael eu dwyn i mewn i Daitb y Pererin mewn rhyw ffurf neu gilydd. Dywedai yr arch-hanesydd Macaulay fod arddull Bunyan yn hyfryd i bob darllenydd, ac yn anmrhisiadwy fel maes efrydol i bob person sydd am dd'od yn hyddysg yn y Saesonaeg. Yn y ffaith yma y gorphwys un o brif ddirgelion y poblogrwydd aruthrol a fwynhaodd Taith y Pererin am ddwy ganrif. Gwyddai Bunyan i'r dim pa beth oedd arno eisieu ei ddweyd, a gwyddai yn gywir fa fodd i'w ddweyd. Y mae y Ilyfr hwn, "Taith y Pererin," wedi tynu sylw y dysgedig yn gystal a'r annysgedig. Y mae wedi ei ddarllen mewn tai heb rifedi. Rhestrai Dr. Johnson Daith y Pererin yn mysg yr ychydig iawn o lyfrau, y rhai, pan ddeuir i'w terfyn, y dymunid eu bod yn hwy. Sieryd Cowper am dano gyda'r ganmoliaeth uchaf. Yr oedd yn well gan Syr Walter Scott ei ilegori nag alegori Spenser. Dy- wedai Macaulay na ddarfu i'r haner olaf o'r ail ganrif ar bymtheg gynyrchu ond dau feddwl mawr creadigol, sef Milton a Bunyan. Derbynia yr opiniynau uchod gydsyniad cyffredinol. Ysgrifenodd Bunyan lawer o lyfrau heblaw "Taith y Pererin," megys Helaethrwydd o Ras," yr hwn sydd yn cynwys darlun o'i ymdrechiadau meddyliol ar ol sancteiddrwydd. Tueddai, o ran ei farn, i fod yn Galfinaidd, ond darllenir ei weithiau gyda bias gan bob plaid o Gristionogion, a diau nad oes un Ilyfr, oddigerth y Gyfrol Sanctaidd, wedi ei chyfieithu i gynifer o wahanol ieithoedd a Thaith y Pererin." Ap Corwynt.—John Bwnyan y galwai hen bobl Cymru ef yn yr oes o'r blaen. Ydyw, y mae tincer Bedford wedi llwyddo i enwogi ei hunan mwy cyhyd ag y darllenir yr iaith Saesonaeg, ac y mae hyny yn debyg o bara mwy tra phery dynion ar y ddaear. Tolciog iawn yw pethau yn ngwlad y Gwyddel o hyd -lladd a saethu eu gilydd fel venjans. Pobl yn cael eu saethu yno o hyd am dalu'r rhent! Wyddoch chi, bechgyn nodedig o gall yw'r Gwyddelod. Gallant benderfynu, os tynant hwy grys John Bull allan, hi fydd yn sicr o fod yn waeth na gweyd yn deg. Yr ydys wedi dyoddef digon gan Pat, bellach, ac y mae yn hen bryd gosed atalfa ar y chwiwgi llawruddiog. Agrippa. Ni cheir un Eisteddfod yn Aberdar y Nadolig hwn, ond bydd yno ryw- beth yn llawn mor attractive ag Eisteddfod, sef perfformiad St. Paul, gwaith y cerub- gerddor Mendelssohn, gan Gor Undebol Aberdar, dan arweiniad Rees Evans, a bydd band enwog Cyfarthfa yn chwareu y cyfeill- iant. Bydd yma fechgyn a merched y g&n hefyd, sef Miss Mary Davies, Madame Williams-Penn, R.A.M, Pontypridd, Eos Morlais, Lucas Williams, ac ereill. Felly, gellir ymddibynu fod gwledd ardderchog i fod yn Aberdar eleni ar y Nadolig. Dydd Mawrth, perfformir yn y New Market Hall, lie y ceir eisteddleoedd i dros 3,000. Yr ydym yn dra ffyddiog y bydd hono wedi ei llanw bob congl ohoni. Bydd cerdd-garwyr o Dde a Gogledd yn dyfod i 'Byrdar eleni. "—

Adolygiad ar y Draethgan

[No title]

Carmel, Penrhiwceibr, Mountain…

Beirniadaeth Eisteddfod Merthyr.

St. John Ambulance Society.