Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Anrhegu Dr. Phillip James,…

News
Cite
Share

Anrhegu Dr. Phillip James, Llwynpia. Nos Fercher, Tachwedd 23ain, ydoedd yr adeg apwyntiedig gan gyfeillion Llwynpia a'r cylchoedd cymydogaethol i ddangos eu parch a'u hedmygedd tuag at Dr. Phillip James. Er na bu arosiad Mr. James yn ein plith ond cymharol fyr, eto, yr oedd wedi dyfod yn boblogaidd a pharchus gan bob dosbarth. Daeth yma i wasanaethu dan nawdd Dr. H. N. Davies, Porth, ac yr oedd, cyn pen ychydig amser, wedi gwneyd lie dwfn iddo ei hun yn serchiadau pob cyleh o gymdeithas. Rhoddodd brofion digonol o'i allu a'i fedrus- rwydd meddygol mewn amryw achosion pwysig tra yn ein mysg. Gwyddem, o ran hyny, fod Mr. James wedi derbyn yr addysg feddygol oreu. Y mae, drwy ddiwydrwydd a dyfalbarhad diflino, wedi graddio yn uchel iawn yn mysg ei frodvr meddygol, er nad yw eto ond dyn ieuanc. Mae gwybodaeth fedd- ygol y Dr. wedi ei chyfuno hefyd a natur ddynol noble. Medda ar galon eang a thos- turiol, yn ogystal a phen goleu. Felly, mae ynddo bobpeth ellid ddymuno mewn meddyg wedi cydgyfarfod, ac ni fu yn ol o roddi yr holl elfenau hyn mewn llawn waith yn ystod ei arosiad yn Llwynpia. Gwasanaethodd yn ufudd a ffyddlon. Yr oedd yn frawd ar bob amgylchiad, nos a dydd. Ymwelai a'r tlawd a'r cyfoethog, a theimlai fod iddo roesaw gwresog i'r bwthyn iselaf, yn gystal a'r palas goreu yn y lie. Yn wir, yr oedd wedi dyfod mor boblogaidd, nes y teimlid mai efe oedd dyn y werin. Daeth y galwadau am dano mor ami, nes trymhau ei waith i'r fath radd- au, fel nas gallai ddal odditano. Felly, pen- derfynodd adael Llwynpia am Dyddewi, sir Benfro. Wedi deall hyn, rhaid oedd i'r teimladau da oedd yn ffynu yn y lie gael dan- gos eu hunain tuag ato ef a'i briod hawddgar, aT eu hymadawiad. Gwnawd hyny gyda brwd- frydedd ac ewyllysgarwch mawr, ac ar y noson crybwylledig, ymgynullodd tyrfa luosog yn nghyd i Bethania, capel y Methodistiaia, i ddatgan eu parch tuag atynt, ac i gyflwyno y llysteb. Cymerwyd y gadair ar yr achlysur gan Dr. C. J. Jones, sef ei gydfeddyg yn Llwynpia. Lluddiwyd y Parch. J. R. Jones i lywyddu gan afiechyd, a darllenwyd llythyr oddiwrtho, yn datgan ei barch a'i ddymun- iadau da i'r Dr. a'i briod. Cymerwyd arwein- yddiaeth y cyfarfod gan Mr. W. Williams (Gwrtydd), Tonypandy. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Mr. Jacob Richards, Llwynpia. Dr. Jones, wrth agor y cyfarfod, a ddywedai fod yn dda ganddo lywyddu y cyfarfod, a'i fod ef a Dr. James wedi byw a chydweithio yn hapus ac heddychol drwy yr holl amser. Mr. Williams, yr arweinydd, a ddywedai fod y dysteb i'r Dr. mor bur a gloew a dyfroedd y ffynon—pawb yn rhoi eu harian mor rhydd a'r ffynon yn rhoi ei dyfroedd. Yna, cafwyd c&n gan Mr. David Evans, Llwynpia. Can- odd "Hen wlad y Menyg Gwynion" yn gampus. Anerchiad gan Sergeant Price, Tonypandy. Siaradodd yn uchel am y Dr., a gofidiai am ein colled. Can, Sweet Home," gan Miss Maggie Price, Trealaw. Darllenwyd can o glod i'r Dr. gan Mr. D. J. Rees, Trealaw, a dilynwyd ef gan y Parch. D. Thomas, Trealaw, yr hwn a roddodd anerchiad byr a phwrpasol. Cafwyd araeth Seisnig gan Mr. Hopkin Knill, builder, Pandy. Canodd Mr. Josuah Lloyd, Pandy, Baner Rhyddid yn dda iawn. Yna, galwyd ar Dr. Price, Treorci, i ddweyd gair yn Seisnig.. Yr oedd efe yn hollol adnabyddus a'r Dr., a chafodd ef yn gyfaill ffyddlon a chywir bob amser. Mr. Evan Richards, Trealaw, a ofid- iai yn fawr am ymadawiad Mr. James. Prof- odd ef yn feddyg trylwyr a ffyddlon, pan ymwelodd afiechyd a'i deulu. Ar ei ol ef, canodd Miss Mills Merch y Melinydd yn swynol a hapus. Yn nesaf, galwyd ar Mr. David Evans, Caerdydd, i anerch y cyfarfod, yr hyn a wnaeth mor athrylithgar ac arafaidd ag erioed. Yr oedd ef yno i ddiolch i'r pwyll- gor, ac i bawb am eu hymdrech o blaid y dysteb, ac am eu parch mawr i'r Dr. Siarad- odd yn uchel am Mr. James, gan ei anog i fyned rbagddo, ac i haeddu parhad o'r un anrhydedd. Cododd araeth Mr. Evans y cyfarfod i hwyl gampus. Dr. Evan Davies (mab Dr. H. N. Davies, Porth), a ddilynodd Mr. Evans, gydag ychydig eiriau yn Seisnig. Yr oedd Mr. James yn hen gyfaill iddo ef, ac yn gyd-efrydydd iddo am flynyddau. Gwyddai yn dda am ei alluoedd meddygol. Nid oedd dim ond afiechyd allai atal ei dad rhag bod yn bresenol i ffarwelio a'r Dr. Cafwyd can eto gan Mr. D. Evans, sef I Bias Gogerddan." Yna, awd at brif waith y cyfarfod. Galwyd ar Mr. John Rees, Tre- alaw, fel un o ddiaconiaid hynaf eglwys Bethania, i gyflwyno y dysteb. Siaradodd Mr. Rees am y Dr. fel meddyg, dyn, a Christion. Cododd Mr. James, a derbyn- iodd yr anrheg yn nghanol banllefau o gy- meradwyaeth. Yr oedd y dysteb yn cynwys 54p., case of instruments gwerth 9p., a llyfr gwerth gini. Diolchodd y Dr. yn gynes a diymhongar. Gyda theimladau drylliog y siaradodd ychydig eiriau llwythog a thodd- edig. Wedi cael y gan hwylus, Dyna'r dyn a aiff a hi," gan Mr. Joshua Lloyd, cafwyd anerchiad yn llawn o synwyr a theimlad gan weinidog y lie, sef y Parch. Rhys Morgan. Dangosodd adnabyddiaeth drylwyr o'r Dr; Siaradodd to the point. Sylwodd ar ddynoliaeth fine, caredigrwydd, a diwydrwydd y Dr., heblaw am ei allu medd- ygol. Teimlai braidd yn eiddigeddus at ei boblogrwydd. Aent i'r un tai-y Dr. yn gofalu am eu cyrff, ac yntau am eu heneidiau. Cyfeiriodd hefyd yn effeithiol at y cyfuniad hapus wnaeth y Dr. yn y cysylltiad priod- asol. Yr oedd wedi cael gwraig yn Mrs. James (sef merch Dr. ldris Davies, Heol- fach) oedd yn meddu llawer o debygolrwydd iddo ei hun. Boneddiges nodedig am ei rhinwedd a'i moes. Dymunodd hir oes a llwyddiant mawr iddynt i wasanaethu eu gwlad a'u Duw. Canodd Miss Miles Y 'Deryn pur," a chafwyd gair gan y Parch. H. W. Hughes (Arwystl), yr hwn a derfyn- odd ei anerchiad drwy adrodd englyn i'r Dr. Rhedai y ddwy linell olaf fel hyn Iechyd ddaw-daw bob dydd, 0 gilfach ei law gelfydd." Tynodd hyn y rhaglen i derfyniad. Cafwyd cyfarfod anrhydeddus yn mhob ystyr, heb ddim lol. Hwyrach y dylwn grybwyll fod Mrs. Dr. James yn bresenol, yn nghyd a mam y Dr., yr hon sydd bellach yn Mrs. David Evans, Caerdydd. Gwelais hefyd y Dr. Washington David yno, yr hwn sydd wedi cymeryd lie Dr. James yn Llwynpia, yn nghyd ag amryw foneddigion a boneddigesau ereill o urddas. Teg ydyw hysbysu fod clod nid bychan yn ddyledus i Mr. R. Lewis, Tonypandy, fel ysgrifenydd y mudiad. Wedi talu y diolchiadau arferol, canwyd emyn i ddiweddu y cyfarfod. Iechyd a llwyddiant i'r Dr. a'i briod hawddgar yn eu cartref newydd yw dymuniad GOHEBYDD.

BYR EBION 0 L'ERPWL.

[No title]

Llawer mewn Ychydig.

[No title]

CYFADDEFIADAU LEFROY.

Cyfrifeb Crefyddol o Lanelli.

Newyddion Diweddaraf. --,

Ymfudiaeth. '">

IOAN ARE ON WEDI MAR W I