Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Ad lrgia,d ar y DraethganJ…
Ad lrgia,d ar y Draethgan J "St. Paul." GAN REES EVANS, ABERDAR. PEI: FFORMIR yr oratorio uchod yr, Aberdar ardd Mia.) Lion a M>iwrth, Rhagfyr 26ain a'r 27 m. 1381 gan y Cor Undebo\. Er mwyn cleffroi dyddordcb cerddorol y cyhoedd, wele s-dolygiad byr ar y draethgan benigamp. RHAN I. Yr Eglwys Gristionogol erlidiedig yr. Jeru- salem yu gweddio ar yr Arglwydd am gy- mhortli i wrtlisefyll ffyrnigrwydd y Paganiaid. Steplw"< vn c:<e! ei gyhiuldo <> gabledd gan y bobl eriidgav a dialer. ac yn cael ei ddw*- T> gerbron y Cynghor. Ma.e yn cael ei gwestiv u'i gan yr arch-offciriad. ai gwir y oyhudd'a-J ? Yntau yr, ceryddu ei farowyr am en hvstyfnigrwydd hwy n't: tadau yn eu gwrthwyucbiad i'r ffydd wirioneddol a n gwrthoJiad o'r Ysbryd GIac. Flwythau yu gwrthod rhoddi gwrandawiad iddo, ac yu pendurfvnn ei roddi i farwolaetli, heb ystyr- ied am y cerydd fod Jerusalem bob amser wedi lladd y proffwydi, pa rai ooddynt wedi eu danfon ati. Maont yn bloeddio Lla- byddiwn ef." Yn y mart yma, cawn ddes- gtifiad cyffrous o'r bobl gynhyrfus at uu llaw, gnewo dull dramiiyddol, yn gwaeddi Lla byddier ef ("Stone him to death"), mewn corawd mor ddarluniadol o'r amgylchiad fel y meddyliwn fod y cyfansoddwr wedi defn- yddio pob offeryn er gosod allan gynddeiriog- rwydd y dorf yn erbyu Stephan, ac yntau ar y llaw arall, mewii ysbryd hollol wahanol, mewn recitative (i denor) o'i.- mwyaf toddedig a glywsom crioed, yn marw, gan weddiio dros ei elynion yn y geiriau Arglwydd, na dd'od y pechod hwn yn eu herbyn. Ar- glwydd Iesu, derbyn fy ysbryd." Yua, cawn ddynion crefyddol, mewn galar mawr, yn ei gludo i'w gladdfa, ac nwchben ei fedd maent yn dymuno Heddwch i'w lwch," ac yn cysuro eu hunain yn y gobaith a'r addewid mai "Gwyn ei fyd y gwr sydd yn dyoddef profedigaeth; canys pan fyddo brofedig, efe a dderbyu goron y bywyd." Y mae y corawd sydd ar y geiriau hyn yn un o'r rhai mwyaf swynol a ddarfu i iii wrando erioed, ac yr ydym yn credu ras gall unrhyw un sydd yn berchen ar deimlad crefyddol a gaiff y fraint o'i glywed annghofio ei ddylanwad am amser maith. Taler sylw neillduol yn y fan hon— pobl dduwiol, mewn angladd brawd duwiol, yn arllwys eu teimladau allan mown eysur a gobaith. Ar ol hyn, yr ydyrn yn cael yr hanes cyntaf am Saul, ac o hyn allan bydd son am dauo trwy yr holl draethgan. Mae Saul yn bre- senol, ac yn dal dillad y rhai a labyddiant Stephan, ac felly yn cymeryd rhan yn y weith- red ysgeler hono. Penderfyna barhau i erlid yr Eglwys Gristionogol. ac i'r perwyl hwnw cawn ef ar daith tua Damascus mewn ysbryd erlidigaethus. Cawn un o'r alawon mwyaf cynhyrfus i'r geiriau Difa hwynt yn dy lid, difa dy holl elynion, fel y gwypant mai tydi yn unig wyt Jehofa. Tywallt dy ddig arnynt, a chyrhaedded llidiawgrwydd dy ddigofaint hwynt." Yr ydym yn credu y cawn ddatganiac). campus o'r alaw hon gan Sir. Lucas Williams, gan fod ei lais yn ei tharo i'r dim, feddyliwn, ac y mae yma ddigon o le iddo i ddangos ei allu a'i dalent gerddorol. Dymunwn alw sylw neillduol y gwrandawr at yr unawd hwn, gan, yn sydyn, cawn olwg arall ar Saul. Yn nesaf, mae yr Hanesydd mewn recita- tive ac unawd hyfryd i gontralto, ar y geiriau "'Yr Arglwydd a'n cofiodd ni. Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef. Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Mae yr Ar- glwydd yn agos." Gwelwn yn hyn fod yr awdwr wedi bod yn ofalus yn ei drefniant o'r geiriau. Saul yn bygwth yr Eglwys Gristionogol yn ofnadwy, a'r Arglwydd o'r ochr arall yn cysuro ei blant. Y Droedigaeth.-Recitative i denor a baas sydd yn canlyn. Y tenor yn personoli yr Hanesydd, y bass Saul, a'r corawd benywaidd y Llais a'r Goleuni yn dywedyd, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i 7" Mae yr olygfa hon yn cael ei darlunio yn hynod effeithiol. Rhyw dynerwch neillduol yn perthyn i'r Llais sydd yn dweyd, Saul, Saul," &c., ac yntau, yn grynedig, yn gofyn, "Arglwydd, beth a fynu di i mi ei wneuthur T Fel y g*yr y darllenydd, mae yr hanes Ysgrythyrol hwn yn doddedig ynddo ei hun, ond y mae cynorthwy y gelfyddyd gerddorol, leisiol, ac offerynol, yn ei gwneyd yn fwy darluniadol fyth o'r amgylchiad. Mae yr Arglwydd yn gorchymyn iddo i fyned i'r ddinas, ac y byddai iddo gael gwybod beth oedd ei waith i fod ar pi myned yno. Yn y fan hon, mae y corawd grymus, Cyfod, llewyrcha, canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr Arglwydd arnat, canys wele, tywyllwch a orchuddia y ddaear, a'r fagddu y bobloedd; ond arnat ti y eyfyd yr Arglwydd, a'i ogon- iant a welir arnat" Un o'r corawdau mwyaf grymus a mawreddog yn yr holl waith ydyw hwn, ac, yn wir, nid ydym yn gwybod am un corawd yn fwy darluniadol. Mae yr offerynau, cyn cychwyniad y lleisiau, yn parotoi rhywbeth mawr. Yr ydym yn clywed megys swn corddediad pobloedd lawer, ac wedi hyny rhyw gynhwrf. Y medd-, wl sydd gan yr awdwr, yn ddiau, ydyw Crist- ionogaeth yn brwydro yn erbyn ofergoeliaeth a phaganiaeth y byd. Eto, dymunwn alw aylw neillduol y gwrandawr at y corawd hwn, ac os caiff hamdden, edryched arno cyn. y parfformiad, fel y byddo yn fwy hyddysg ynddo. Yn dilyn hwn y mae un o'r chorales y mae y cyfansoddwr mor hoff o'u gosod yma athraw ar hyd y gwaith, yr hon sydd yn hynod effeithiol. Yn awr, cawn Saul, yr hwn o hyn allan a eLipir Paul, yn gweddio mewn unawd dyner » thlwa, yn y geiriau "Trugarha wrthyf, 0 D.luw Na fwrw fi ymaith oddiger dy fron. Oilon ddrylliog gystuddiedig, 0 Dduw, ni 4dinnygu. Dyagaf dy ffyrdd i rai wawir. < Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant." Yn ei gyfyngder mae A nafLÍas yn cael ei anfon ato, ac wedi clywed oddiwrth hwnw beth oedd ei waith i fod yn y dyfodol, cyduna a'r Cristionogion i foli Duw, yn y geiriau Molianaf di, 0 Arglwydd, fy Nuw, â'rn holl galon. a. gogoneddafdy enw yn dragywydd, canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi, a gwaredaist fy enaid rhag uffern." Yn nesaf, recitative i Ananias. Ar ol j gosod ei ddwylaw arno, cyfarcha ef yn y geiriau a ganlyn Y brawd Saul, yr Ar- glwydd a'm hanfonodd atat, fel y gwelych drachefn, ac y'th lanwer a'r Ysbryd Gl&n." Ilanesyrld, sef soprano recitative, yn rhoddi hanes y modd y cafodd adferiad ei olygou, a'i fedyddio wedi hyny, a phregethu Crist mai efe oedd Mab Duw, yr hyn oedd wedi ei wneuthur yn rhydd. Y mae hyn yn ein harwain at y chorus mawreddog. a climax y rhan gyntaf o'r gwaith, sef 0 ddyfnder golud, gwybodaeth, a doethineu Duw. Mor anchwiliadwy yw ei farnau Ef, a'i ffyrdd mor anolrheinadwy ydynt." Mae geiriau Paul ei hun yn cael eu gwirio ynddo ef ei hun. Ychydig amser cyn hyn, yr oedd ar ei daith i Damascus, yn Hawn llid h digter yn erbyn yr Eglwys Gristionogol, gan ddwyn llythyrau oddiwrth yr arch- offeiriad yn ei awdurdodi i ddal a charcharu y Cristionogion ond yn awr, dyma fe yn gweddio ar yr Hwn oedd wedi bod yn ei erlid. Pa ryfedd ynte fod y bobl yn tori allan i waeddi, "0 ddyfnder golud, doeth- ineb, a gwybodaeth Duw," &c. Mae y chorus hwn yn ddigon adnabyddus, yn enwedig yn Aberdar. Llawer ymdrechfa galed a gafwyd arno mewn cystadleuaeth cyn hyn. Dichon ei fod wedi cael ei ganu yn well nag y caiff y tro hwn ond hyn allwn ddweyd yn ddibetrus, sef na chafodd y fath ddylanwad arnom ag y mae yn ei gael wrth ei arfer mewn cysylltiad a rhanau ereill o'r gwaith. CFID barhau.)
Marwolaethau Cymry America.
Marwolaethau Cymry America. MORGAN. — Tachwedd 4ydd, yn Bevier, Missouri, Cynwyd, mab anwyl Mr. T. Morgan (Llyvnwy), Hyde Park, Pennsyl- vania, yn 21 mlwydd oed. Y clefyd oedd y typhoid fever. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. Dr. Cefni Parry. THOMAS.—Hydref 24ain, yn Shenandoah, Pennsylvania, trwy ddamwain yn mhwll glo y William Penn," W. B. Thomas, brodor o Faesteg. Yr oedd y trancedig a'i frawd, Henry, yn cyd-weithio yn y pwll, pan syrth- iodd darn o'r glo, a disgyn ar gorff William, nes ei niweidio mor drwm fel y bu farw mewn yehydig eiliadau. Cynaliwyd trengholiad, a'r ddedfryd oedd Marwolaeth ddamweiniol hollol." Yr oedd yn aelod o'r Shenandoah Tribe. No. 155, Improved Order of Red Men," ac wedi esgyn i'r safle o "Past Sachem ac hefyd o'r Iforiaid Americanaidd. Claddwyd ef ar y 26ain, pryd yr ymgasglodd torf fawr, yn nghyd 4'r eymdeithasau cyfeill- gar y perthynai iddynt.
Nodiadau Nedi Norris.
Nodiadau Nedi Norris. YN y Wasg am Dachwedd 5ed, 1881, ym- ddangosodd yr hyn a ganlyn O'r braidd y gellir rhwystro y brawd ddaeth yma ddi- weddaf o Aberdar i waeddi yn barbaus :— Fresh, fresh cockles, all alivo, Melus, melus, moes mwy eto Garw y fath flas mae y bardd o Lwyn y Dar wedi gael ar gockles Oofied mai "Nid da gormod o ddim gan hyny, er mwyn amryw- iaeth, ymarfered fwyta ychydig o'r pysgod hyny a ddarganfyddodd ar ei fordaith i wlad Jonathan, sef-" porcupines" -:0:- MOESOLDEB Y SAESON —CYPLWYNEDIG I MR. SHAW, NON-CON. QUILL, A'U TEBYG. It is stated that there exists an organisa- tion having for its object the promotion of prize fights, its head quarters being within a short distance of the Mile End-road. A large number of prize fights have been arranged to come off during the ensuing winter months in various places on the outskirts of London, Birmingham, Manchester, St. Alban's, and Hertford. It is further stated that at the head quarters in the East End there is a place known only to members as The Den,' where cock, dog, and prize fights come off every Sunday Dyna ddifyrweh hiliogaeth Hengist yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr Eisteddfod yw prif atdyniad plant Gomer. Pa un o'r cyfryw sydd weddusaf o'r oes oleu hon 1 Atebed Shaw a'i gefnogwyr. -:0:- AT gwir fod awdwr y ddarlith Eietedd- fodau y Capeli" yn bwriadu gwneyd cyfrol arall ar Derfysgwyr Eisteddfod Alban Elfed a Gweddi Habacuc "1 Diamheu fod hyn yn fwy enillfawr, mewn ystyr arianol, na'r grefft saeryddol yn Aberdar ar hyn o bryd. -:0:- ST. PAUL yw'r.draethgan sydd i gael ei pherfformio gan Gor Undebol Aberdar eleni. Gobeithiwyf y try allan yn lwyddiant yn mhob ystyr. Atolwg, aelodau y pwyllgor, os bydd elw arianol mawr wedi deillio oddiwrth y perfformiadau, na annghofiwch roddi cyfrif boddhaol ar ol. hyny i aelodau y cor o'r der- byniadau a'r treuliau. Alltudiai hyny bob drwgdy iaeth a ddichon gymeryd ei sedd ar orsedd meddwl rhywun neu rywrai.
[No title]
KENTISH CHERRIES.-Kent, called the Garden of England, is noted for its Cherries; and of all kinds the Morella stands pre. eminent for richness and delicacy of flavour. From this kind ip pro- duced GRANT'S MORELLA CECBBBT BRANDY. the m«et delicious and wholesome of all Liqueurs. It may be used in place of wine, is a fine tonic, and nice with hot and cold water. Enquire for it at aU Bars, Restaurants, and Wine Stores. Manu. facturer, Thomas Grant, Distiller, Maidstone. 2874
Helynt y Gantata.
Helynt y Gantata. DR. JOSEPH PARRY AT EI GYDGENEDL. (Parhad o'r rhifyn diwedda/J. High-street, Pontypridd, Nov. 5th, 1881. My DBAR PAERY,—I am very sorry to see such a fuss made over the Cantata business, and especially so as they endeavour to cast a reflection upon you. I have great pleasure in stating that your adjudication on the Cantata was written before you came to the Merthyr Eisteddfod, and that you had decided to withhold the prize, as there was not one composition sent into the competition of sufficiont merit to entitle it to the prize.—Yours very sincerely, D. ROSSER, Chairman of the Eisteddfod Dr. Parry, Swansea. Committee. Oddiwrth Dr. Jtees. Abertawe, Tach. 3, 1881. Yr wythnop cyn Eisteddfod Merthyr, gelwais yn nhy Dr. Parry, pryd y gofynodd i mi a oedd genyf amser i wrando arno yn darllen ei feirniad- aeth ar y Cantatas. Atebais y trwrandawn ef, ond nis gallaswn fod o unrhyw gymhorth iddo. gan fy mod yn hollul anwybodus o reolau cerddoriaeth. O," ebe yntau, yr wyf fi wedi penderfynu pob peth perthynol i'r gerddoriaeth. Am gael eich barn chwi yr wyf o bertliynas i gywirdeb y cyfan- soddiad, gan nad wyf yn sicr fod pob brawddeg a gair yn eu lleoeda priodol. Yr ydych chwi yn fwy hyddysg na mi mewn cyfansoddi yn Gym- raeg." Wedi gwrandaw arno yn darllen yr oil o'r feirniadaeth, fel y cyhoeddwyd hi ar ol yr Eistedd- fod, awgrymais y buasai newid dau air yn welliant. Yna, dywedodd wrthyf, Y mae y cyfeillion hyrt wedi llafurio llawer gyda'u cyfansoddiadau, ond y mae yn flin iawn genyf nas gallaf roddi y wobr i un ohonynt, oblegyd eu bod oil islaw y safon. Nid oes ond un ohonynt yn rhydd oddiwrth wall- au gramadegol. ac nid oes digon o athrylith a bywyd yn hwnw i deilyngu y wobr." THOMAS REES. 4, John-street, Llanelly, Tach. 12fed, 1881. ANWYL DR. PARRY,-Efallai y teimlwch yn hynod fy mod i yn ysgrifenu atoch ar Helynt y Gantata yn Merthyr, gau ei bod yn wybyddus i chwi bellach fy mod yn un o'r cystadleuwyr an- ffodus yn y gystadleuaeth hono. Ond gallaf eich sicrhau nad wyf fi yn teimlo yn llai parchus tuag atoch oherwydd i'r wobr gael ei hatal, a chyd- ymdeimlwyf â. chwi yn ddwfn dan yr erlidigaeth ddiachos yr ydych dani yn bresenol yn y Faner, a phapyrau ereill, gan bersonau a ddylasent dewi ar bob cyfrif. Er mai teimlad annymunol dros ben i un yn fy sefyllfa i oedd deall nad oedd fy ngwaith yn ddigon teilwng, ar ol cymaint o lafur, eto gallaf eich hysbysu fy mod yn berffaith foddlon i'r feirniadaeth. fel y dylai pob cystadleuydd gonest ac anrhydeddus fod, gan gredu i chwi a'ch cyd- feirniaid wneyd yr hyn oedd yn iawn, yn ol eich syniad am bwysigrwydd ac amgylchiadau y testyn ar y pryd. Ond ffordd y gallai fod cymaint o wahaniaeth rhwng eich barn chwi a Thanymarian am deilyngdod cymhariaethol y scores sydd yn an- esboniadwy i mi, a gallaf sylwi yn y fan hon nad oedd dim nodiadau ar fy nghopi i ond yr eiddoch chwi, ar ba rai, wrth gwrs, yr wyf yn gosod y gwerth uchaf. Nid yw yn perthyn i mi, nac yn weddus ynwyf, i ymddadleu o un ochr, na datgan fy marn, eto, o berthynas i godi y safon mor uchel ac mor sydyn, nac i ail-agor amgylchiadau rhoddiad y wobr a thelerau y gystadleuaeth, ond gobeithiwyf a chredwyf fod y cwbl wedi ei wneyd gyda'r amcan o godi safon cerddoriaeth yn Nghymru, a dywedaf, heb ofni gwg na gw6n neb, nad wyf yn ystyried neb yn ein gwlad mor addas i gychwyn yn y cyfeiriad hwn a chwi eich hun. Y mae genyf fi y syniad uchaf am eich gallu fel cerddor o ddysg a phrofiad, a'r ymddiried llwyraf ynooh fel dyn o anrhydedd a beirniad gonest, onide ni fuaswn byth yn anfon fy nghynyrch gwael i fewn i'r gystadleuaeth. Bellach, nid oes genyf ond ymroddi ati yn fwy egniol nag erioed, er ceisio d'od yn agos i fyny a'r safon uchel a gymerasoch, naill ai trwy gystadleu- aeth neu yn rhyw ffordd arall. Gan obeithio na fydd y cyfansoddiad a barotoais gogyfer &g Eisteddfod Merthyr, yn nghanol ffwdan y byd a phrinder amser, yn hollol ddifudd i'm cydgenedl pan gyhoeddir ef, yr hyn a olygwyf wneyd heb fod yn hir iawn,-Ydwyf, yr eiddoch, mewn cariad a chin, W. T. REES (Alaw Ddu). Fair View, Up. Bangor, Nov. 12th, 1881. DEAR DR. PARRY,—I very much regret that you get so much annoyance for acting impartially. •I certainly consider you the finest chorus writer Wales has produced, and consequently I should aecept yonr decision on a cantata competition without any hesitation, even against a host of less experienced writers. Mr. Jarrett Roberts seems to possess a peculiar faculty for obtaining the opinions of adjudicators prematurely. This may or may not be question- able taste, but to call upon an adjudicator, and to tell him that, amongst the manuscripts sent in, one is from yourself, and of a certain length, &c., &c., is, I think, dishonourable. Such a dis- tinguished visit Mr. Jarrett Roberts paid me previous to the Conway Eisteddfod, and I then heard, and have heard since, that if he were less busy in getting at adjudicators and secretaries of Eisteddfodau he would be thought more highly of. As a composer, he stops at melody. When he couples to it a knowledge of harmony and counter- point, he will take prizes I have no doubt.—With kind regards, I am, yours sincerely, ROLAND ROGERS, Mus. Doc. (Oxon.), Organist of Bangoi Cathedral. 4, Meyrick-terrace, Hereford, Nov. 14th, 1881. DEAR DR. PARRY,—The virulent attacks so persistently made in the columns of our Welsh papers upon your integrity and truthfulness re- specting the adjudication on the Cantatas at Merthyr make it the bounden duty of every Welsh musician to do all he can on the side of truth and jujitice-affecting you, more particular- ly, in this instance, but indirectly and in the long run all of us, our art, and our national institution, the Bisteddfod. That, and the fact of my being a member of the Eisteddfod Committee, and the one through whom our London friends offered their liberal prize, need be my only explanation in penning this. First of all, I would state that your written adjudication on the Cantatas and the other musical compositions was handed by yourself to me, as editor of Oronicl y Cerddor, immediately after Mr. Curwen gave the verdict. This adjudi- cation bore, date "Augt. 27th i.e., three days before the Eisteddfod commenced, or six before it was plaaed in my hands, and in it you definitely record your decision to withhold the priae. Your traducera still continue to assert, notwithstanding the publication of the above, that you did not write it then, and that you did not decide to withhold the prize until you came to Merthyr, and found who CoreUi (one of the competitors; waal V I Secondly, we want to know—and, depend upon it, we shall know-who informed this Corelli, before the Eisteddfod, of his position in the adjudication. Not Mr. Curwen, nor yourself, nor the secretary, or any member of the committee, as they did not know! That this scheming and perpetually- wrangling competitor, and" his unscrupulous sup- porters, did know we have ample proof of :—(1.) In Mr. Curwens's letter. (2.) It was commonly reported before the Eisteddfod, in the town where Corelli resides, that the Cantata prize was to he awarded him. (3.) Arrangements had been made with a gentleman to represent him in case his Cantata should be declared successful; but after- wards a telegram was sent that he would be present himself, a decision evidently arrived at after being made the recipient of certain gratify- ing information. (4.) The writer of the "pro- test handed in after the adjudication was given stated he had written and oral proofs that the majority of the adjudicators had agreed that Corelli was best. Cruel as what I must term your persecuti on los been in the case, it will not have been in vain if thereby these disgraceful tactics, and this gross breach of confidence and Eisteddfodic honour, are thoroughly exposed, and their authors, be they whom they may, exhibited in their proper light. Before I conclude, pray accept my sincere sym- pathy, and, if I need add it, my unshaken con- fidence in your uprightness. Your marked capacity for adjudicating works like these Cantatas I need not dwell upon.-Believe me, yours very cordially, D. EMLYN EVANS. Yn awr, gadawaf y mater i'ch barn deg chwi, gyda'r hyder cryfaf y derbyniaf yn y dyfodol, fel yn y gorphenol, eich ymcldiriedaeth lwyraf ynwyf, ac y bydd i'r ymdrafodaeth hon brysuro yr amser y cawn orphen bythol o'r arferion a'r cymeriadau amheus ag sydd eto yn rhy ami yn cymylu awyrgylch ein Heisteddfodau.-Ydwyf, yr eiddoch, yn ffyddlon a didwyll, JOSEPH PARRY. O.S. Ymddangosodd llythyv Mr. Curwen yn y rhifyn cyn y diweddaf. MR. CURWEN AC "UN O'R PWYLLGOR." Yn y dyfyniad nesaf, yr ydym yn cael rhyw chwim chwam tebyg i hyn Writing from London a week or so before the meeting, I said to Rev. E. Stephen that I thought Corelli's the best Cantata." Yn awr, cysoner y term yma, sef I thought," a r un a gynwysai ei lythyr at Tanymarian, Awst 2Gain, pan y dywed efe, I quite agree that Corelli is the best." Y mae yn fwy na thebyg fod rhywrai yn dewis iddo wneyd y cyfnewidiad yna, fel y byddai yn fwy cyson a'u haeriadau hwy, sef heb yr "I quite agree." Ond, "ddaw hi ddim." Dywed Mr. Curwen hefyd, When I met you at Merthyr, you showed me your adjudication already written in Welsh, and said that if the prize were given at all you were for awarding it to another competitor, whose motto I forget." Yn awr, dyma'r ochr arall o'r'stori," ac wele hwynt A minau yn deall ein gilydd. I have you now where I want you. Your adjudication written in Welsh," meddai. Yn awr, ddarllen- ydd, pa fodd y gallai Mr. Curwen ddweyd mai beirniadaeth ar y Cantawdau oedd yr hon a wel- odd gan Dr. Parry in Welsh," os gwelodd hi hefyd, mwy nag y gallai ddweyd mai rhywbeth arall y gallai fod ? Ond, deallir fod rhywrai yn honi gwybod, ac yn herio fod rhyw feirniadaeth wedi ei dyddio Awst 27ain, a mwy na thebyg eto mai cael gan Curwen a wnawd i gredu mai beirniadaeth ydoedd y peth oedd yn written in Welsh yn y llythyrau cyfrinachol hyny, a chan iddo ddweyd hyny yn y llythyr hwn, y buasai yn elfen gref i gadarnhau eu hachos hwy. Wel, am y gweddill o'r frawddeg-" and said that if the prize were given at all you were for award- it to another competitor." Ai tybed nad ydyw hynyna, ddarllenydd, yn ddigon am byth i brofi fod Dr. Parry wedi penderfynu gwobrwyo arall heblaw Corelli, fel ag y dywedwyd gan ohebydd galluog o'r adeg yna hyd yn awr, a thrwy yr holl "helynt" hwn? Diolch i chwi, Mr. J. Spencer Curwen, am eich dadleniad anfwriadol. Ond wedi diweddu y frawddeg yna, y mae yn debyg fod difference of opinion (fel y dywed- ir yn nes yn mlaen) wedi cymeryd lie rhwng y ddau hyn, gan i Curwen gofio ei fod wedi en- dorsio beirniadaeth Tanymarian, Awst 2Cain, ac nis gallai efe gydweled for awarding the prize to another competitor," a dywed, "But you added that you preferred to withhold the prize." Cofied y darllenydd y gair added yna. Pan welodd Dr. Parry nas gallai droi Mr. Curwen i fod o blaid Taliesin Ben Beirdd, efe a ychwaneg- odd (" added "), yn hytrach nag i Corelli gael y wobr, y buasai efe (Dr. Parry) yn dymuno atal y wobr. Ie, yn ol cyfaddefiad Mr. Curwen ei hun, added argument oedd yr esgus dros ddyrch- afu y safon ac atal y wobr, pan welodd Dr. Parry nas gallai wobrwyo ei gyfaill a'i gymydog. Gwyddai pob un o'r ddau nad oedd yn bosibl i Dr. Parry gael ei ffordd ei hun yn gyfangwbl, sef awarding the prize to another competitor." Nid oedd dim i'w wneyd ond fel y dywed Cur- wen am dano, sef, this alternative had not oc- curred to me, new as I was to the task of ad- judicating." Happy thought! Ond nid oedd modd yn y byd arall i osgoi y gwobrwyo "but to withhold," ar ol ffaelu "awarding the prize to another competitor." Dywed eto :_u But I thought we were bound to award the prize, so I voted (ychydig yn gryf- ach na "thought") for Corelli, whom I had placed first." Yn first, aie? Yn awr, dyma ni megys ag yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon." Os wyf yn ei ddeall yn iawn, ymddengys ei fod yn cydnabod eto mai "Corelli is the best," ond y ffordd y ceisiai ddyfod allan o hyny yw dadleu ei anwybodaeth o'r drefn,-h.y., fod yn rhaid gwobrwyo y goreu, ac mai y Dr. a agor- odd ei lygaid ef gyntaf i ganfod fod yn bosibl atal y wobr, gan nas gallai y Dr. ei chael i'w gyfaill. Wel, esgus gonest iawn, a chyffesiad didderbynwyneb Onid anfonwyd iddo raglen o'r testynau ? Ac ai nid ail reol yn yr amodau ydoedd,—"Adjudicators shall have power to divide or withhold any prize according to merit" ? Pe yr ystyriasai Mr. Curwen yr amod yna, a hono yn ei iaith ef ei hun, ac nid cymeryd ei arwain gan ddim "written in Welsh," buasai yn fwy cadwedig. Dywed Tanymarian yn ei ysgrif i'r Tyst a'r Dydd am Hyd. 21ain, iddo anfon llythyr i Curwen, Awst lleg, yn traethu ei syniadau am y cyfansoddiadau, a phwy yr ys. tyriai efe yn oreu. Trown yn ol enyd i'w feirn- iadaethau fel y maent yn y cyhoeddiad hwnw am Medi 23ain, a chanfyddwn yn ei feirniadaetb ar y Gan Pencerddes yr hyn a ddywedodd yn ei lythyr at Curwen, sef mai Once again a ystyriai efe yn oreu, ond a ydyw yn teilyngu y wobr anrhydeddus o bum' gini sydd fater arall." Oni chafodd Carwen fantais i ystyried sylw Tanymarian ar Once again, pan y cawn Tanymarian yn doubtful a ydoedd yn deilwng? Pa le y mae ei doubt ef, sef Curwen. am Oorell" Dim un gair nes myned i Ferthyr, lie yr ym- ddengys iddo gael ei droi a'i, drosi nes methu gwybod beth i'w wneyd, fel yr addefodd ei hun yn yston. yr Eisteddfod. A phaham yr oedwyd heb hysbysu Tanymarian hyd yr awr olaf ? Ac onid ei esgus dros "withholding the prize" yn y telegram ydoedd ddarfod iddo going over Can- tatas again," ac nid ei anwybodaeth o'i hawl to divide or withhold ? Gair yma eto. Onid -yw yn ffaith, pan y daeth adeg darllen y feirn- iadaeth ar y Cantawdau ar ddydd olaf yr Eis- teddfod, fod y beiruiaid mewn dwys ymgynghor- iad "a gilydd parth y Cantawdau ? Ac hefyd, ai ni awd yn mlaen gyda'r programme, am nad oedd y beirniaid yn barod gyda'u beirniadaeth ? Y mae yn ffaith na thraddodwyd hi fel y'i rhestr- wyd ar y programme. Ac fe ddywedwyd ychyd- ig eiriau gan Mr. J. S Curwen, a'i wynt yn ei wddf, heb gymaint a chyhoeddi enwau yr ym- geiswyr, a thra.ddododd yr ychydig eiriau mwyaf llipa a ddaeth dros wefus unrhyw feirniad Eis- teddfodol erioed. Am y sylw a wneir yn nglyn a'r hybarch Tanymarian, buaswn yn hawlio iawn ganddo am ei ymosodiad anfoneddigaidd, brwnt, maleisus, a. chospadwy. Ond galwaf sylw eto at dwyll-ymresymiad y boneddwT (?) hwn. Dywed — "I found that he (sef Tanymarian) had communicated to CorelH, or Corelli's friend, the contents of my private letters.to him, and the fact that a difference of opinion existed among the judges." Wel, yn awr, a ellir cymeryd yn ganiataol fod modd i Tanymarian communicatio i'r cyfeillion yna am ei "Ilwyddiant"? Y mae y fath syniad yn infra dig. i feddwl am dano am yr hen, a'r hir- brofiadol, a'r hybarch feirniad Tanymarian, ao insult anfaddeuadwy i'r genedl ydyw caniatau i ryw lâ.s-Ianc dibron.an o'r fath yma feiddio (nae ychwaith gael ei oddef) i ddweyd gair anmharch- us am un o'n hen feirniaid mwyaf parchus ac athrylithgar, ac un ag y mae Cymru benbaladr yn ei edmygu fel prif awdwr a chyfansoddwr y genedl. Pa fodd, atolwg, y gallai hysbysu "the fact that a difference of opinion existed between the judges ? Nid oedd difference of opinion" cydrhwng Curwen a Thanymarian yn nghylchy Cantawdau neu. o leiaf, nid oes dim felly yn cael ei gydnabod yn y llythyrau a fu cydrhwng y ddau hyn ond y mae yn ffaith (fel y mae Curwen yn cydnabod)fod "difference of opin- ion cydrhyngddo ef a Dr. Parry. Ond nis gallai Tanymarian amlygu hyny, er cymaint pechadur ydyw. Dywed eto —" Had Mr. Stephen come to Merthyr, I am sure that the interests of justice would have been served." Da iawn, Mr. Cur- wen. "Free confession is good for the soul." Gallaf finau ddweyd yn awr, "The moral to be drawn from this seems to be a double one." Yn gyntaf, "Had Mr. Stephen come to Merthyr," &c. Dywed Un o'r Cyhoedd, Yr^oedd Dr. Parry a Mr. Curwen wedi eu cyflogi i fod yn bresenol yn yr Eisteddfod, ond nid oedd Tany- marian i. fod yno yn bersonol, eithr beirniadu y cyfansoddiadau gartref." Hefyd, yn ail, "Had Mr. Stephen come to Merthyr," &c. Yr wyf yn hollol unfryd unfarn am y tro cyntaf it Mr. Cur- wen y buasai cyfiawnder yn cael ei wneyd pe b'ai Tanymarian wedi myned yno. Ond y mae Cur- wen cystal a chydnabod na ■chafodd cyfiawnder ei wneyd, gan nad oedd Tanymarian yno. Eto, ond manylu, ceir golwg arall ar ystyr y frawdd- eg, sef, Had Mr. Stephen come to Merthyr, I am sure the interests of justice would have been served." Eithaf gwir; a dywedaf finau yr un peth ag yntau yn hollolfelly, gydag ychydig o welliant, "that I am sure the interests of justice would have been served," had Mr. J. Spencer Curwen stayed at home and had not gone to Mer- thyr. Un sylw arall. Dywed :—" I am convinced that the work of the adjudicator is made very difficult when he recognises, as Mr. Stephen and yourself did, the personality of the competitors by their handwriting." Dyma haeriad disail ac anmhrofadwy ar y naill law, sef yn nghylch Tan- ymarian, a chydnabyddiaeth, ar y llaw arall, mai adnabod llawysgrif Taliesin Ben Beirdd oedd yr achos i un o'r beirniaid ddymuno ei wobrwyo, neu ynte atal y wobr. Yn mha Ie, a pha bryd, y darfu i Tanymarian ddweyd (neu ysgrlfenu) ei fod yn recognisio llawysgrifau yr ymgeiswyr? Nid ydyw yn son gair am hyny yn ei lythyrau at Curwen, ac ni chafodd Curwen y fraint o siarad âg ef yn bersonol, a pha fodd y gall wneyd ensyniad mor ddisail a hyn? Cywilyddied y glas-lanc dibrofiad a cheiliog-gwyntog. Troed yn ei gogwrn yn Lioegr, a gwahodded Dr. Parry i'w gymdeithas. Yn awr, y mae y ffaith wedi ei phrofi fod Dr. Parry yn adnabod llawysgrifau yr ymgeiswyr, ac nid oes yr un amheuaeth ychwaith na chafodd hyny ddylanwad ar Dr. Parry, fel y mae Curwen yn ein sicrhau. A dywed yn mhellach, fel rhybudd yn y dyfodol, mai gwell fyddai cael dyeithriaid i feirniadu y cyfansoddiadau cerddorol rhagllaw; felly, ni fyddai amheuaeth yn bosibl, na hoffder na chasineb yn cymylu meddyliau y beirniaid. Ond, cyn ymadael a'r pwnc yma, dylid gwneyd yn hysbys mai nid yn llawysgrif Corelli yr oedd ei Gantata ef, ond yn eiddo copyist cyflogedig Dr. Parry ei hun I ac nis gellid gwybod wrth y llawysgrif hono pwy oedd awdwr y Gantawd oreu, sef Corelli; ond y mae pawb, erbyn hyn, yn sier fod Dr. Parry yn adnabod yr un ag oedd efe am ei gwobrwyo, a phrofodd hyny, fel y dywed Curwen am y gwaith ei fod (o dan yr amgylchiadau hyny) yn very much more dim- cult," sef ei fodyn llawer mwy anhawdd i Dr. Parry weithredu cyfiawnder, oblegyd ei fod yn adnabod llawysgrif Taliemn. Diwedda Mr. Curwen ei lythyr gyda chydym- deimlo yn ddwys & Dr. Parry, ac ymgeisia ei gysuro drwy haeru eu bod wedi gwneyd eu dy- ledswyddau, ac heblaw hyny, eu bod wedi rhoddi boddlonrwydd cyffredinol. Os felly, paham y gwnawd yr holl "helynt" hwn? Naddo I ni roddwyd boddlonrwydd cyffredinol," ond y mae pawb o'r tuallan i'w cylch hwy eu hunaia wedi syrffedu ar yr annghyfiawnder mwyaf a wnawd byth wedi "helynt" yr Awdl ar Elusengarwch" yn Ninbych. Cysursd Cur- wen a Parry eu hunain goreu y medront yn ngwyneb y llythyr hunan-daamniol hwn o eiddo glas-lanc y Tonic Solfa. UN O'R BYD.
[No title]
CAFODD Stephens (yr hwn a saethwyd gan y Ffeniaid yn Sheffield, dro yn ol) wared o'r fwled oedd yn ei ben, ar ol i'r meddygon roddi y gorchwyl i fyny, mewn modd tra rhyfedd. Ua diwrnod, pan yn yamocio ei bib, disgynodd y belen i'w geg I