Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
Eisteddfod Merthyr Tydfil,…
Eisteddfod Merthyr Tydfil, 1881. BEIRNIADAETHAU. Odit-" Tyclfil Ferthyres." (Cyfyngedig i Ferched). Gwir ofidus genym mai gwan iawn yw cystadleuaeth y beirddesaa y tro hwn. Buasem yn dysgwyl i'r fath destyn tyner a phersawrus ddeuu allan dalentau uchaf awen lednais, doddiadol, a swynol y wraig ddiwylliedig. Rhaid i ni fel cenedl gyffesu uad ym- ddangosodd llawer o farddonesau yn ein mysy yn ysgrifenn yn yr iaith Gymreig. Y mae yn wir mai Cymraes oedd prif emyneddes yr oes o'r blaen, sef Mrs. Anne (Griffith y mae hefyd yu llawn mor hysbys mai yn Nghymru y magwyd Mrs. Hemans, y fwynaf a'r dyner- af o'r awduresau Seisonig. Ond wrth gym- haru ffrwyth llafur meibion a'r eiddo merched awen, rhaid cyfaddef mai ychydig ydyw cynyrehion yr olaf. 0 Y mae teimlad y ferch ddiwylliedig yn ddyfnach na'r eiddo mab, ac y mae syniadan y wraig ddiwylliedig ya fwy llednais a choethedig na'r eiddo gwr a phe diodid llen- yddiaeth Gymreig a. dyfroedd gloewaf a phureiddiaf y ffynonell hon, byddai yn fantais i'r genedl. Felly, tra yn gresynu ddarfod i'r gystadleuaeth bresenol droi allan bron yn fethiant, ni fynetn er dim ddigaloni y rhyw deg yn ea hymdrech am y llawryf. Pedwar cyfansoddiad a ddaeth i law dan yr enwau Blodwen, Cymreiges, Helena Sabrina, a Ceinwen. Cyfansoddiadau gwein- iaid a gwallus ydyw yr eiddo Blodwen a Chymreiges. Y mae c&n Helena Sabrina ya llawer mwy amcanus. Gall yr awdures lion fydryddu yn esmwyth, ac y mae math o iaenusrwydd boddhaus yn ysgogiad y mesur; -ond y mae ei syniadau yn gymysglyd, a'i chy- mhariaethau yn annghymarus, neu annghyd- Tyw, yn fynych. Nld rhaid iddi ond adolygu vi phedwerydd a'i phumed penill na wel ei gwftllau. Ychydig o farddoniaeth hefyd sydd gan deinwen. Y mae ei chymhariaeth yn xiechreu y gan yn dywyll, ac ychydig iawn yw y dyddordeb ag y mae yn gallu ei enyn yn y darllenydd at y Ferthyres enwog. Y mae y g&n hon yn llai gwallus na'r lleill, ac ar y tir hwnw Y11 oreu o fysg cyffredinedd, a phe na chyfyngasid y gystadleuaeth i gylch yr ystlen a ystyrir y wanaf, ni buasem yn petraso cynghori atal y wobr. Ond dan yr ystyriaeth fod cyfyngiad y testyn yn awgrymu gostyngiad yn safon y teilyngdod, yr ydym yn cymeradwyo i'r pwyllgor, ar sail eu caredigrwydd, roddi y wobr addawedig i CJeiuwen fel yr oreu yn y gystadleuaeth hon. ELIS WYN 0 WYRFAI. LLAWDDEN. HWFA MON. Bhiangerdd-" Gwenllian Cydweli." -Un rhiangerdd a ddaeth i'r gystadleuaeth, yn dwyn yr enw Trefor. Can lied gyffredin ydyw drwyddi. Ychydig iawn o fantais a m 11 gymerir ar y plot i wisgo cymeriadau dysglaer a deniadol, fel ag i enill serch y darllenydd ac.. enyn dyddordeb yn y gweithrediadau. Gwneir hefyd lawer rhy ychydig o ddefnydd iaith addurnol barddoniaeth. Dylai pob Than o gyfansoddiad foddhau, a lie na byddo yr adroddiadau ynJdynt eu hunain yn ddydd- "orol, dylai y mynegiad ohonynt fod yn flasus. Dywedir mai yo. nghymysgiad paent yr .arlunydd y mae cuddiad ei allu celfyddydol, gellir dweyd am ambell fardd fod ei eiriau :yn farddonol. Rhy ychydig o'r swyn desgrif- riadol hwn sydd yu Trefor. Eto daw ei gyfansoddiad i fyny u, safon cyffredin rhian- Serddi gwobrwyedig yr Eisteddfodau ac er mad oes yma ymgystadlu, y mae Trefor yn ieilyngu y wobr. EMS WYN 0 WYBFAI. LLAWDDEN. • HWFA MON, !^Translation.—1. u The Prisoner of ChiUon." Received-Ap Bonnivard, Vulcan, Verba- tim, Cyfieithiwr, 0 na bawn yn Fyron, Anacreon, Hugo, Silurius, Anacreon (No. 2), Ap Rhyddid, Bonnivard, Uu pell o'i Wlad, Eiuion ap Collwyn. The best is Einion ap Oollwyn, as being riper in thought, and as conveying the spirit and tone of the original letter than either of the othera. 2. "Molawd Cymru." Received—Maelog, Grey Beard, Bodran, Ctwladwr, Severnside. All undeserving of the prize, and 'utterly unworthy of th' original. Woe betide them if poor Tal's ghost gets hold of them. D. 0. ELlS WYN. HWFA MON. Descriptive Song-" The Newspaper." Received—B. A., Hen Ddarllenwr, Ior- werth Fychan, Coster, Dean Swift, Hanesydd, Bachgen bach o Ferthyr, Un a garai fod yn Fardd, Samuel Finch, Anfoesgar yn y Fasged. The last, viz., Anfoesgar yn y Fasged, is the best in my opinion, as being more purely descriptive, happy in his metaphors, and far superior in the character of his humour. D. II. HWFA MON. ELls WYN.
Cyhoeddiadau.
Cyhoeddiadau. CARMEL, PENRHIWCEIBR, MOUN- TAIN ASH. Efallai fod llawer yn credu mai dynion difywyd a difeddwl sydd yn byw yn y lie uchod os felly, y mae hyn, fel llawer o beth- au ereill, yn gamsyniad. Y mae y lie yn frwd gwyllt mewn cysylltiad a chyfarfod llen- yddol, yr hwn sydd i gymeryd lie nos Lun, Rhagfyr 12fed.—Un o'r lie. -:0:- NWYON Y GLOFEYDD A'R LLUSERN DDIOGEL. Deallwn fod glowyr y Rhondda yn myned i gael darlith ar y testyn uchod gan y Parch. Taliesin T. Jones, Darlithydd Gwyddonol Rhymni. Y mae Mr. Jones er's blynyddau wedi bod yn astudio y nwy, ac wedi darganfod, yn ddiweddar, gynllun i ddifa yr elfen ddi- nystriol, er diogelwch y gweithwyr. Bydd i'r ddarlith gael ei heglurhau gydag experi- ments, yn arddangos y nwy yn tanio, &c. Bydd yn werth i bawb fynu clywed Mr. Jones yn egluro ei system newydd. -:0: CYMDEITHAS DDADLEUOL GYMREIG A SEISNIG ABERDAR. Bwriada aelodau y gymdeithas hon roddi math o gyfarfod amrywiol (entertainment) yn Assembly Room Coffi Tafarn Dance, nos Iau, Rhagfyr laf, trwy ganu, adrodd, darlleniadau, dadleuon byrfyfyr, dialogues, &c. Bydd yr elw yn myned i drysorfa y gymdeithas, amean yr hon ydyw llesoli chwaeth a chwyddo gwybodaeth gwyr ieuainc y lie, ac oddiar ei chychwyniad hyd yn awr, y mae wedi bod yn hynod lwyddianus. Y mae yr assembly room a nodwyd yn eang a chyfleus iawn i gynal cyfarfodydd o'r fath, ac yr ydym yn dysgwyl cael entertainment rhagorol y noson dan sylw. Deued pawb, gan na fydd y pris ond dwy geiniog. — Un o'r Aelodau.
DINBYCH.
DINBYCH. YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL AM 1881.— Y mae y tesfcynau canlynol wedi eu dewis i ymgystadlu arnynt :-Cerddoriaeth-y gys- tadleuaeth fawr gerddorol—" Dyna'r gwynt- oedd yn ymosod" (Stephen), "Judge me, 0 Lord I" (Meddelsshon), a u Ave Verum" (Gounod). Barddoniaeth, wyth o Emynau Gwreiddiol (Eight Original Hymns), 24 llinell bob un, ar wyth o wahanol fesurau arferedig, i fod at wasanaeth Cyfarfodydd Diolchgarwch am y Cynaaaf. Detholiad o benillion cy- mhwys i'w canu gyda'r Delyn mewn Eistedd- fodau Cenedlaethol. Tuchangerdd (Satirical Poem), testyn, Y Coegyn neu y Rhod- .Y seswr" (The Fop). Cerdd Ddesgrifiadol (Descriptive Poem), "Ffair Gymreig"—hyd y gerdd i'w adael i'r bardd. An English Poem, H Home," the metre to be left to the bard. Bugeilgerdd (Pastoral Poem), Y Diwrnod Cneifio (The Shearing Day). Hir a Thoddaidd i Ysgrifenyddion diweddar Eisteddfod Dinbych yn 1860 sef y diweddar Mri. E. Williams Gee, a Martin Smith, un o chwe' llinell i bob un. Gosteg o englynion, Y Goleuni Trydanol (The Electric Light).
PENCLAWDD.
PENCLAWDD. Mae symudiadau rhai dynion, o bryd i bryd, yn werth eu cofnodi, yn enwedig os bydd y dynion hyny yn ddynion teilwng a rhinweddol; ac un felly yw gwrthddrych ein hysgrif. Nos Sadwrn, Tachwedd 19eg, cynal- iwyd cyfarfod yn y Mission Hall i gyflwyno i Mr. T. Francis (diweddar cashier yn y weithfa alcan) dysteb o alwar (purse) yd cynwys y awm anrhydeddus o 50p., fel cydnabyddiaeth o'i lafur, ffyddlondeb, a'i garedigrwydd tuag at bob achos yn ystod y naw mlynedd ddi- weddaf. Yr oedd yr alwar wedi ei addurno & plate arian, wedi ei arysgrifenu yn ar- dderchog gan Mr. W. Williams, jeweller, Castle-street, Abertawe. Cadeirydd y cyfar- fod oeddE. S. Morris, Ysw., yr hyn a wnaeth yn ogoneddus. Ar ol araeth bwrpasol iawn, galwodd ar Mr. Jenkin Thomas (Llew o'r Llwyn), yr hwn a roddodd anerchiad da dros ben. Canlynwyd ef gan Mri. T. Wylde, T. Thomas, ac I. D. Williams yn rhagorol iawn. Galwyd ar yr ysgrifenydd, Mr. J. George, i ddarllen yr address i Mr. Francis fel y can- lyn :— Penclawdd, Nov. 19,1881. MB. T. FRANCIS. Dear Sir,—Our meeting to-night is characterized by mingled feelings of regret and joy; regret at the loss of a friend so highly respected, and joy at the pleasing duty of acknowledging your geniality, good will, and valuable services during the 9 years you have been in our midst. It is gratifying to feel that the efforts of the Committee have met with the most hearty response from all classes of the community. On behalf of ths subscribers, we ask you to accept this purse containing £ 50, not simply for its intrinsic value, but as a sincere token of our highest esteem, and as a recognition of the satisfactory manner in which you have filled the post of Cashier in the Gower Iron & Tin Plate Works, and other local duties. The plate bears 'I the following inscription This purse contain- ing £ 50 was presented to Mr. T. Francis by the officials and workmen of Penclawdd Tin Works, and his numerous friends, as a token of their highest esteem, on the occasion of his leaving Pen clawdd. Nov. 19, 1881." You leave Penclawdd with the best wishea of your friends. Our earnest desire is that God may bless you with many years of happiness and prosperity. May all your efforts be crowned with success, and in great "Here after may you receive that testimonial, which is of infinitely greater value.—Signed on behalf of the subscribers, JENKIN THOMAS, Chairman) T. WYLDE, Treasurer r of Committee. J. GEORGE, Secretary Ar ol hyn, galwyd ar Mr. Francis i dderbyn y rhodd oddiwrth ein parchus gadeirydd, a diolchodd mewn modd teimladwy iawn. Ter- fynwyd un rhan o'r cyfarfod trwy gael c&n gan y Llew. Yna, aethpwyd i'r Club-room yn y Railway Hotel, lie y cynaliwyd y rhan olaf o'r cyfarfod. Wedi dethol y Llew i'r gadair, awd yn mlaen a'r programme. Cafwyd areith- iau dyddorol a gwresog iawn, yn siarad yn uchel am Mr. Francis, ac yn dymuno pob llwyddiant iddo ef a'i deulu gan y brodyr canlynol:—Mri. W. Hopkins, Daniel Owen, D. Lewis, W. Roberts, P. Griffiths, F. Ed- wards, a T. Wylde. Wedi hyny, cawd penill- ion pwrpasol iawn i'r achlysnr gan Mri. W. Hopkins, Levi Morgan, a W. Edwards (Gwilym Lon). Rhwng yr areithiau uchod, cafwyd amryw ganeuon swynol iawn gan Mri. J. Francis (Eos Dafen), Dr. Bruen, W. Ed- wards, a Levi Morgan. Er mwyn tipyn o amrywiaeth, cafwyd piccolo solos gan Mri. D. Thomas a T. Wylde (ieu.). Fe roddwyd cyflawndev o refreshments gan Mr. T. Fran- cis i'w luosog gyfeillion. Yr oedd y Llew yn ei hwyliau goreu-yn deilwng o'r enw. Caf- wyd araeth doddedig dros ben gan Mr. Francis, a therfynwyd y cyfarfod trwy ddiolch i'r cadeirydd am lywyddu mor dda. Aeth pawb gartref wedi eu llwyr foddloni yn mhob yatyr. U-n oedd yno.
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. AR y lVeg o Dachwedd, yn Gosen y Graig, addoldy y Trefnyddion Calfinaidd, yn y lie uchod, cyualiwyd gwyl de, pryd y daeth yn ughyd luaws o bobl barchusaf ein tref i gyf- ranogi o'r te a'r deisen oedd wedi eu parotoi yn helaeth ar eu cyfer. Yn yr hwyr, am haner wedi saith, cynaliwyd cyngherdd. Y llywydd oedd D. Leyshon, Ysw. Cymerwyd rhan gan yr enwogion a ganlyu :-Ar yr eilioneg, Mr. T. V. Davies ar y crwth, Tafonwy ac ar y picolo, Mr. E. Mills. Can- odd Miss R. James yn dda, a chafodd ail alwad cynes gan y dorf. Canodd Mr. Tom Williams yn dda iawn, a chafodd ail alwad wresog bob tro y canodd. Rhoddodd Mr. T. Williams ei wasanaeth am ddim, am yr hyn y mae yn wir deilwng o ddiolchgarwch mewn modd cyhoeddus, ac am ei barodrwydd i was- anaethu bob amser gyda phob achos da o'r natur yma. Yr nn modd Mr. T. Jenkins, Gyfeillon; cafodd yntau ail alwad a churo dwylaw parhaus, nes iddo ddyfod yn mlaen unwaith yn ychwaneg. Felly y cafodd Eos Lan hefyd. Canodd Mri. D. Gorouwy a J. Leyshou yn wir dda. Treuliwyd dwy awr yn hapas iawn, a phawb fel yn cael eu llwyr foddhau. Yr oedd yr elw yn myned at draul y weinidogaeth yn y lie. Y mae amryw o'r aelodau wedi bod yn llafurus iawn gyda'r gyngherdd hon, ac yn wir deilwng o ganmol- iaeth am eu llafur da a dinino. —.R. Gtoyngyll Hughes.
EBBW VALE.
EBBW VALE. Cynaliwyd cyngherdd fawreddog gan Wes- leyaid Cymreig y lie uchod, nos Fercher, y 23ain, pryd y cafwyd gwasanaeth gwerthfawr Miss S. Davies (Llinos Morganwg), Eos Mor- lais, a Llew Ebwy, yn cael eu cynorthwyo gan barti o dan arweiniad Mr. J. O. Mason. Yr organydd oedd Mr. J. W. Wall. Daeth cynulleidfa luosog a pharchus iawn yn nghyd, a chafwyd canu o'r fath oreu. Da oedd genym weled a chly wed Miss Davies yn yr ardal hon. Dyma y tro cyntaf erioed, ond nid yr olaf, gobeithiwn, iddi fod yma. Canodd mor dda, fel y mae wedi gadael argraff arosol ar y rhai a'i clywodd. Barn cantorion goreu y gymyd- ogaeth hon ydyw, fod dyfodol dysglaer o'i blaen, ac y daw yn fuan iawn yn un o gantor- esau enwocaf Cymru. Trodd y gyngherdd allan yn lwyddiant, er mor anffyddlon y bu Mr. Bowen, arweinydd un o gorau y lie, gyda hi. Rhaid priodoii ei Ilwyddiant yn benaf i ymdrechion Mr. J. W. Mason a'n gweinidog newydd, y Parch. J. Thomas. Mae y budd i gael ei ddefnyddio tuag at leihau dyled y capel.-Amo.
PENDER YN.
PENDER YN. Cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn Jeru- salem, yn y lie uchod, nos Iau, Tach. 17eg. Y llywydd oedd Mr. D. Beynon, Hirwain, yr hon swydd a lanwodd yn fedrus, ac er bodd- had i bawb yn gyffredinol. Beirniad y canu, Mr. T. Richards, manager, Hirwain y traethodau a'r farddoniaeth, &c., Mr. D. Glannedd Williams, Glyn Nedd. I ddechreu, cafwyd anerchiad bwrpasol iawn gan y llyw- ydd ar yr Eisteddfod fel sefydliad, ac apeliodd at yr ieuenctyd i adael heibio yr arferiad ffiaidd o greu stwr a therfysgu mewn Eistedd- fodau. Yna, awd yn mlaen yn y drefn a ganlyn :—Datganu, "0 am gael bod yn ddi- ddim dau yn cynyg, sef Mri. W. Jones ac M. Davies, Hirwain, a rhanwyd y wobr rhyng- ddynt. Adrodd, Y lleuad noswaith brwydr;" chwech yn adrodd goreu, Miss M. Jenkins, Penderyn. Datganu, Anwyl yw Gwalia fy ngwlad tri yn cynyg goreu, Mr. J. Evans, Hirwain. Btlirlliadaeth y tri phenill i'r Dyn dedwydd;" goreu, Mr. J. Evans (Eurog Nedd), Glyn Nedd. Datganu, "CAn Miriam;" dau barti yn cystadlu goreu, Mr. J. Evans a'i barti, Hirwain. Araeth ar Y Iles y mae Caniadaein y Cyaegr wedi ei dderbvn oddi- wrth yr Eiateddfod un yn areithio, ac yn deilwng o'r wobr, sef Mr. W. Williams, Hep- ate. Datganu, Iorddonen un cor yn cystadlu, sef Cor Penderyn, ac yn deilwng o'r wobr. Datganu, V bwthyn ar y traeth un yn cynyg, sef Mss M. Williams, Hirwain, ac yn wir deilwng o'r wobr. Beirniadaeth y traethawd ar "loan Fedyddiwr;" goren, Mr. W. Williams, Hirwain. Datganu," Y myn- ydd i mi wyth yn cystadlu goreu, Mr. O. Rhys, Hirwain. Canu, Y glowr a'r chwarelwr pump parti yn cystadlu goreu, Mr. J. Thomas a'i gyfaill. Yna, daethpwyd at y brif gystadleuaeth, sef canu "I Ti, Ar- glwydd;" dau gor yn cystadlu, sef Cor o Hirwain, o dan arweiniad Mr. Benjamin Thomas, a Chor Penderyn, dan arweiniad Mr. Joseph Williams—yr olaf yn oreu. Wedi talu y diolchiadau arferol, ymwahanwyd, wedi cael cyfarfod dyddorol ac adeiladol, a phob- peth wedi ei ddwyn oddiamgylch yn dawel ac mewu trefn.—J. Harris.
ABERAFON. ,
ABERAFON. Y mae yn dda genyf hysbysu fod Mr. R. Thomas, neu y "Working Man's Candidate," yr hwn foneddwr a wasanaethodd dair blyn- edd yn anrhydeddus yn y Cynghor Trefol, wedi cael ei ddychwelyd i'r cyfryw Gynghor am y tair blynedd dyfodol. Gwrthododd llawer un o'r gwyr mawrion y dref ef, am yr ystyrient fod gweithiwr yn annghymeradwy i eistedd gyda hwynt yn y Cynghor Trefol. Cafodd bob parch ac anrhydedd ganytrethdal- wyr gweithiol. Profa hyn mai nid aur ac arian sydd yn gwneyd dyn, eithr yn hytrach synwyr. Llwydded yw'm llawen ddymun- iad.-Llwynog Cwmdyffryn.
LLWYNYPIA.
LLWYNYPIA. Gwelir heno Llwynypia Heb un pia yn y llwyn Nis gall pia, ta phwy pia, Wneyd Llwynpia'n f6r o swyn; Ond un Llinos fwyn a'r Eos, Gyda'u nef-anedig sain, Hwy a'u pia, 0 Llwynpia! Beth dal pia wrth y rhai'n. Nos Iau, Tachwedd 17eg, y cynaliwyd un o'r cyngherddau goreu erioed yn nghapel Jerusalem, yn y lie uchod. Sonir yn ami am y London Concerts. Mi a wn beth ydynt. Ni chafwyd yno erioed well y gyngherdd hon. Yu gyntaf, yr oedd genym artistes o'r radd flaenaf, ac yr oeddynt yn eu hwyliau goreu. Dechreuwn eu darlunio. Dacw yn gyntaf ac uwchaf oil, Miss Lizzie Williams (Llinos y De)—soprano heb ei hail yn y Dywyaogaeth. Yr oedd yn gwefreiddio yr holl Ie. Braidd nad oedd yn ynfydu o dan ddylanwad hynod ei llais. Y mae ei hymddangosiad mor bryd- ferth, ei gwedd mor syml, ei manners mor berffaith, a'r dull y daw gerbron y dorf ar y stage mor bewitching, fel nad ydym yn petruso rhoddi y lie blaenaf iddi yn mhlith cantoresau ein gwlad. 0 ie, gyda Haw, os gwir y si sydd ar draws y wlad, yn fuan bydd yn Mrs. Glan- ffrwd Thomas. Llwydd lawer iddi (a madd- eued y ddau i mi am wneyd y sylw hwn). Mae nef yn mhob rhyw nodyn A dery ei thafod byw, A nerth a bar i'n ofyn Ai eiddo angel yw ? Y llais, y wedd, yr osgo | Sy'n gwneyd i'r galon brudd I guro'n gynt a theimlo O'i gofill oil yn rhydd. Mil gwell na thelyn Dafydd Yw llais y Llinos Ion I yru'r drwg ysbrydion, Blinderon, o bob bron Mae anian lon'd ei chaniad, Mae purdeb lon'd ei gwedd; Boed nef yn llon'd ei chariad, A Duw yn llon'd ei hedd. Dacw, eto, Eos Morlais,-pawb yn faleh i'w weled mor wylaidd, mor Gymroaidd, ac wedi ei refinio i'r dim. Mae ynddo alluoedd natur- iol cryfion, wedi eu caboli yn berffaith, nea synu y rhai sydd yn gwybod am yr anhaws- derau y mae wedi eu gorchfygu. Eos anwyl, boed i'th bibell Gadw'n gyfan flwyddau hir Ti yw brenin adar Cymru, Ti yw Eos oreu'r tir. Tom John.—Balch oeddem i'w weled a'i glywed yntau yn cael yr encore cyntaf yn y gyngherdd, yr hyn nad yw yn eymeryd lie yn ami i unrhyw berson yn y gymydogaeth y mae yn byw ynddi. Well done Tom, siarada hyn gyfrolau am dy ddylanwad yn y gymyd- ogaeth. Dos rhagot, er prawt pellach ein bod yn gwerthfawrogi ein local genius. Y mae efe bron bob amser yn ffeindio cord newydd yn ein calon pan yn canu, nes yr ydym yn dywedyd,- Mae athrylith yn ei lygad, Yn ei law a'i droad lion Plentyn natur yn gwefreiddio Pob un ydyw Thomas John. Ap Arwystl.—Mae yr ysgolor a'r cerddor yn ei wedd ef. Gofala lai am foddio pobl na llawer un. Meddylia fwy am gywirdeb y gan i a nodau y gerddoriaeth nag am ei dderbyniad gan y dorf. Y gwir am dano —talp o intellect ydyw ef. Cryf a hoew'i ymddangosiad, Eglur yw ei ymddadblygiad; Dysg a dawn, athrylith hefyd, Ydynt nodau clir ei fywyd. Y mae Mr. D. Evans, Ystrad Rhondda, yn feistr perffaith ar ei waith, ac felly yr oedd yn ddywenydd mawr i ni ei weled ef a Mr. Rees R. Davies a John yn cytuno yn nghanu Mae Breniniaeth." Oanwyd yn gampus. Na fydded i bwyllgorau cyngherddau o bwys, pell ac agos, fod heb eu cyflogL Yn wir, mae gems cerddorol Cymru yn amlhau Siaradai yr offeryn cerdd o dan ddwylaw meistrolgar Mr. D. Bowen, Dowlais, fel y dywedem,- Y seiniau bach sy'n ei big I gyd yn fendigedig, Llywyddid gan y boneddwr gwylaidd a pharchus, W. W. Hood, Ysw., Glynoornel House, Llwynypia, yn wir fedrus a phwrp s-1 ol, yr hwn, hefyd, sydd yn dra charedi. a pharod i wneyd unrbyw beth tuag at; hyrwyddo pob achos da yn y gymydog»eih. Nid ydym yn dysgwyl treat mor rhagorol am dro eto, na chydgyfarfyddiad y fath la o wahanol dalentau. Ond brysied yr adeg, er hyny, fel y caffom ei debyg yn fuan. Trodd. y gyngherdd allan yn lwyddiant perffaith ym mhob ystyr. Nid rhyfedd hyny, gan fod y fath gewri o ddylanwad yn y gymydogaeth wedi cymeryd at y gorchwyl o'i gario allan— neb llai na Gwrtydd, Wrexham House MR E. Meredith, a'r gweithiwr difefl Mr. Phillip Davies, contractor. Yr oedd elw y gyngherdd yn myned i dalu am harmonium Capel Jertt- salem. Brysied yr adeg pan y caffom y fath wledd eto yw gwir ddymuniad—Homo Ddu.
AR GOLL 0 BONTYPRIDD.
AR GOLL 0 BONTYPRIDD. Adroddir fod Mr. Simpson, manager y weithfa nwy yn Mhontypridd, ar goll er ya gynar yr wythnos ddiweddaf. Y mae ei deuhf a'i gyfeillion mewn pryder mawr yn ei gylch.
CLWB LANDWR, ABERTAWE.
CLWB LANDWR, ABERTAWE. Dydd lau, wythnos i ddoe, gwysiwycl manager y clwb uchod o flaen y fainc ynadol yn Abertawe, ar y cyhnddiad o werthu cwrw i rai heb fod yn aelodau. Ar ol gwrandcJ. llawer o dystion, dirwywyd ef i lOp.
DAMWAIN ANGEUOL YN RHYMNI.
DAMWAIN ANGEUOL YN RHYMNI. Nos Fercher, wythnos i'r diweddaf, cyfarfa Edmwnd Thomas 32 mlwydd oed, a damwain yn ngweithfa ddur y lie hwn, trwy gael ei lethu rhwng y trucks, yr hyn a brofodd 111 angeuol iddo.
YMADA WIA D Y PARCH. T. JER-MAN…
YMADA WIA D Y PARCH. T. JER- MAN JONES. Yr ydym yn deall y bydd y cenadydd uchod yn hwylio o L'erpwl ar y 14eg o Ragfyr, yn y City of Edinburgh. Mae Mr. Thomas Lewis yn bwriadn myned gyda- Mr. Jones ar ymweliad o ychydig fisoedd â. Bryniau Cassia. Cynelir cyfarfod ymadawol gyda Mr. Jones a Mr. Lewis yn nghapel Fitzclarence-street, L'erpwl, nos Lun, Rhag- fyr y 12fed.
LLONGDDRYLLIAD YN MOR Y GOGLEDD.
LLONGDDRYLLIAD YN MOR Y GOGLEDD. Hysbysir am lwyr golliad y Hong Colzean o Greenock, 1,572 tunell, yn nghaincfdr Iura. Gadawodd Tobermory dydd Llun, yn cael ei llusgo gan y tug Conqueror; ac yn ystod yr ystorm y nos hono, torodd y rhaff, a gyrwyd hi ar y traeth. Darganfyddwyd hi, foreu dydd Mercher, yn ddrylliau a 17 o ddwylaw. Cadben Pirnie, ei frawd-yn-nghyfraith, Cad- ben Duncan, pilot, a dau ereill, oil wedi boddi.
LLOFRUDDIAETH MEWN TLOTDY.
LLOFRUDDIAETH MEWN TLOTDY. Yn nhlotd^ Devizes, dydd Iau, wythnos I ddoe, darfu i ddyn o'r enw Geddish wthio poker gwynias i wddf dyn o'r enw Coleman, yr hwn a fu farw yn uniongyrchol. Yr oedd Coleman yn 77, a Geddish yn 70 mlwydd oed. Cynaliwyd trengholiad y diwrnod can- lynol, pan ddychwelwyd rheithfarn o "Lof- ruddiaeth Wirfoddol yn erbyn Geddish, yr hwn a osododd y poker yn y tan gyda'r bwriad- neillduol o niweidio Coleman.
HEN WR 0 70 YN GROGI EI HUN…
HEN WR 0 70 YN GROGI EI HUN WRTH GOEDEN. Oddeutu canol nos Fawrth, yr 22ain o Dachwedd, cafwyd hen wr 70 mlwydd oed, o'r enw Thomas Llewelyn (alias" Twmi Glyncornel") yn grogedig wrth goeden ger Gwaunblyfiog, ar ochr y bryn, ychydig bell- der i'r deheu o Benygraig, Cwm Rhondda. Ganwyd yr anffod-ddyn oedranus yn Ffarm Glyncornel, yn agos i Lwynpia, a threuliodd ei oes yn y cyfryw gymydogaeth. Pan dor- wyd ef i lawr oddiwrth y goeden, yr oedd jr bywyd wedi darfod.
UNDER GWAITH A GWEDDI YN NEHEUDIR…
UNDER GWAITH A GWEDDI YN NEHEUDIR CYMRU. Mae y gymdeithas uchod wedi ei sefydla gan y Parch. L. Railton, gweinidog Wesley- aidd, Abertawe, mewn cysylltiad & Chenad- aeth Wesleyaidd Talaeth Abertawe. Ei hamcan yw dwyn yn nghyd y rhai sydd yn caru Crist mewn gwirionedd, ac i gyfuno eu hymegnion er iachawdwriaeth y rhai sydd y tuallan i'r eglwysi a'r capeli. Amcenir sicr- hau hyn, yn benaf, trwy gefnogi ymdrech personol. Mae pob aelod o'r undeb yn ym- rwymo i weddio .bob dydd am adfywiad cref- yddol yn Neheudir Cymru. Ymrwyma hefyd i wylio yn ddyddiol am gyfleusderau i ym- ddyddan a'r annychweledig, a'i arwain i edifeirwch. Mae'r undeb eisoes yn rhifo rhai canoedd drwy y Deheubarth, ac addawa fod yn gynorthwy gwerthfawr i gyfryngaa arferol yr eglwys. Er ei fod wedi ei ddech- reu dan nawdd yr Eglwys Wesleyaidd, ni fwriedir iddo fod yn sectol yn ei sylfaen na'i amcanion. Gwahoddir aelodau o eglwysi ereill i ymuno, ac y mae lluaw8 wedi gwneyd eisoes. Ceir pob hysbysrwydd yn nghylch yr undeb gan y Parch. L. Railton, Walter Terrace, Swansea.—Goheb.
IOAN ARE ON WEDI MAR W I
IOAN ARE ON WEDI MAR W I Prin y gallwn lywodraethu digon ar ein teimladau i ysgrifenu brawddeg ar y newydd athrist, calonrwygol, a drywana galon Cymru benbaladr-sef fod y bardd, y beirniad, y gwladgarwr, yr Eisteddfod wr, y maanachwr y moeaolydd, a'r hanfod hwnw o onestrwydd a chyfiawnder, loan Arfon, wedi marw Nid oes ond ychydig nosweithiau er pan yr oedd yn areithio mewn cyfarfod cyhoeddus yn neuadd drefol Caernarfon ar y pwnc o wneyd y Morfa yn bare cyhoeddus. Nid oedd wedi mwynhau iechyd da er'a cryn amser, ond nid oedd ei gyfeillion a'i gydnabyddion goreu a mwyaf cyfarwydd Ag ef yn dychymygn fod amo ddim gwaeth nag ychydg anhwylder yot
Nodio-l o Fro Morganwg.
y mae amaethwyr y Fro Y'111awer mwy (efalla yn rhy) Ryddfrydol. Mynant hwy fwyta a twisgo yn debyg i ddynion, a mynant, doed a ddelo, roddi ychydig addysg i'w plant, ac yn iller, y mae merched y Fro yn tra rhagori-ar ferched y Blaeuau mewn addysg. Dichon fod ychydig fwy o sylltau gan ferched y Blaeuau ■—»ffrwyth cybydd-dod eu rhieoi; ond pa un oreu genyt ti, ddarllenydd deallus, lodes fach nice a tbipyn o wybodaetb yn ei pheu, ac a fedr Siarad a thi air rywbeth beblaw gwaith, gwaith, gwaith, yn dragywydd, ueu ynte globeu o ferch fedr weithio fel negrves « foreu hyd hwyr, ond heb fwy o wybodaeth m ei plien nag sydd y. y mochyn yn v twic ? Ma6'r nodyn hwn yu aayoed yit fttitb dychwelwu ato eto ryw drcL Eisteddfod Carmel, Tresimim. Tebyg mai Oarmel fydr ir unig fan v gall •csttwyr lien y fro droi eo gwyoebitu am Eis- teddfod dydd Llun ar o! Nadolig. Bydd y iydenwog Wyu o Essylli yn pwyso'r beirdd a'r tfaetbodwyr Y')O, a'r cerddor camp'is, Mr. D. C. Davies, arwetcydd Cymdeithas Gorawi CJaerdydd, vn estyo cyfiawnder j'r cerddorio<t. Bydd yr elw yo mynerl1 dttileu dyled dragyw- yddol y capel.