Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

MADOG AB OWAIN ; GWYNEDD.

Cyngherdd Fawreddog Mr. Silas…

Advertising

Adolygiad Cerddorol.

[No title]

Eisteddfod Treherbert, Rhagfyr…

News
Cite
Share

Eisteddfod Treherbert, Rhagfyr 27ain, 1880. BEIRNIADAETH Y CYFANSODDIADAU, (Parhad o'r rM/yn diweddaf.) Brawddegau Chwithig. Un casgliad ddaeth i law. Cynwysa 50 o, frawddegau. Nid yw llawer ohonynt ond arabeiriau a ffraethebion. Y mae rhai brawddegau chwithig yn eu plith, ond ychydig nifer ydynt. Dyma un frawddeg chwithig yn engraifft Eisteddai nifer o ddynion mewn ystafell i gydymddyddan, ac yr oedd yno, mewn congl, ddyn na chymerai un rhan yn yr ymddyddan, a gofynai un o'r cymdeith- ion i'r llall, Beth yw, a phwy yw y dyn hyna yn y gong] l' Atebai Nia gwn, ond gwn un peth-os ydyw yn ddyn call, y mae yn ffwl, ac os ydyw yn ffwl, y mae yn ddyn call Y mae chwithigrwydd i frawddeg, yr hyn yw mwysder i air, ac nid yw yagrifen- ydd y caagliad hwn wedi d'od i fyny a'n dys- gwyliad. Bwriadem gael gwledd wrth ddar- lien yr ysgrifau ar y teatyn hwn, ond ni ddaeth ond un, a hwnw heb ddyfod i fyny a'r nod ond cyflwynwn ef i drugaredd a gras y pwyllgor, er mai prin yr ystyriwn ef yn werth y wobr. Efallai y symbylir Cynon- fab i fwy o yni a llafar y tro nesaf. T,t-aethawd Beirniadol. Tri thraethawd a dderbyniwyd, sef eiddo Oatwg Ddoeth, Sylwedydd, ac un heb ffugenw wrtho. RHAG-SYLWADAU.-Mae yr holl gyatadleu- wyr hyn yn ysgrifenu, i raddau, dan ddy- lanwad math o ragfarn, ac eglur yw fod am- gyffrediad naturiol eu meddyliau a gogwydd eu rhagfarn yn ymladd a'u gilydd, ac felly yn methu trin y testyn, yn ei holl agweddau^ gyda'r mantoliad dyladwy. Dylasent ym- ddioag o bob rhag-syniadau ac amgylchiadau, ac edrych ar y testyn o ran ei egwyddor, ac nid ar y cam-ddefnydd a wneir o wahanol gys- tadleuaethau a chwareuon, oblegyd llygriad y peth goreu yw y Ilygriad gwaethaf, medd y ddiareb. Gyda hyn o rag-nodiad, awn yn mlaen at y cystadleuwyr, gan ddechreu gyda Gatwg Ddoeth.-Nid yw ei sillebiaeth na'i gystrawen yn gywir bob amser. Y mae cam- amseriad yn rhai o'i frawddegau, ac y mae yn esgeulus iawn o'r sillgollau. Beth yw iod o hiraeth ?" Diau fod amcan Catwg yn dda, ond nid yw seiliau ei ymresymiad yn safadwy, a'r canlyniad yw fod ei resymeg yn dwyll- odrua, am ei bod yn profi gormod, ac o angen- rheidrwydd y mae ei gasgliadau yn gyfeil- iornus". Gallem nodi engreifftiau o hyn, ond amser a gofod ni chaniata. Sylfaena ei ym- resymiad ar ddeddf cyfleusdra ac amgylch- iadau, ond nis gall yr hyn sydd ddrwg-foesol i un fod yil dda-foesol i'r llall. What is sauce for the goose is sauce for the gander." Ac nid yw Oatwg yn cadw y llinell wahan- iaethol sydd rhwng y moesol a'r anfoesol yn Z:? ddigon eglur, yn ein cystadleaaethau, &c. Heb ffugenw wrtho. Y mae hwn yn ym- aflyd yn y testyn yn dda, ac yn ei ranu yn drefnus. Cyfansoddiad lied gywir o ran iaith, ond dylai gofio nad yw nawr" air yn y byd mewn unrhyw iaith. Nid yw ffurfiad ei frawddegau yn ddesfclus bob amser, ac nid yw yn ofalus am sillgolli ei eiriau pan y galwant am hyny. Hefyd, nid yw treigliad y cydseiniaid yn ufudd iawn iddo. Pa beth yw "tueddbyniad 1" Nid y w ychwaith yn adna- bod lie y llythyren h, na He y llythyrenau penigol ond wedi y cwbl, y mae hwn yn ysgrifenu yn wych iawn, ac yn fwy rhydd oddiwrth ragfarn na'r ymgeisydd blaenorol. Sylwadau da sydd ganddo ar gystadleuaeth dwyllodrus, llwgrwobrwyaeth beirniaid, y cymysgedd annghydrywiol sydd yn ein Heis- teddfodau, trachwant am elw yn y pwyll- gorau, yr ymrafaelio rhwng cystadleuwyr aflwyddianus a'r beirniaid, &o. ond nid ydynt yn perthyn i'r testyn o gwbl. Dam- weiniau cystadleuaeth yw y pethau hyn. Y mae ei nodiadau ar y dllAdd at chwareuaethau yn dda ac amserol iawn, a diau fod llawer chwareuaeth hollol gyfreithlon yn troi yn anfoesol trwy ddilyn gormod arni, fel y mae bwyta gormod yn anfoesol. Sylwedydd.—Yr un peth ellir ddywedyd am hwn ag am y diweddaf, a saif y gystadleu- aeth rhyngddynt. Nid oes un ohonynt yn rhagori, ond y mae sylwadau rhagorol gan y ddau. Eu prif ddiffyg yw dim digon o'i beirniadol a'r dadansoddol. Ar ol darllen a manylu ar y ddau hyd eithaf ein gallu, nis gallwn weled fod y fantol yn troi yn ftafr y naill na'r llall, er nad ydym yn hoffi rhanu gwobrau. Y mae y wobr hon yn haeddu traethawd penigamp ar y testyn, ond gan nad oes un o'r ddau yn hawlio y flaenoriaeth, gor- fodir ni gan gydwybod i ranu y wobr rhwng Sylviedydd a'r un heb ffugenw.-Ar air a chydwybod, ASAPH GLAN DYFI. Rhag. 27ain, 1880. I

Advertising