Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
NEWYDDION DIWEDDARAF
NEWYDDION DIWEDDARAF (GYDA'R PELLEBYR). Nos FAWKTH. Y PRAWFION GWYDDELIG. Dechreuodd prawfion y Land Leaguers am yr ugeinfed dydd, yn Dublin, boreu dydd Llun, trwy i'r Ynad Fitzgerald anerch y rheithwyr. Yr oedd y Ilys yn orlawn, y rhan fwyaf yn foneddigesau. Sylwodd ei arglwyddiaeth fod areithiau Mr. Parnell wedi eu traddodi mewn iaith bwyllog a phender- fynol, ond yr oedd sylwadau Mr. Biggar mewn cysylltiad a saethu y tir-arglwyddi yn ddychrynllyd. Nid oedd araeth ei arglwydd- iaeth wedi ei therfynu pan ohiriwyd y Ilys. Boreu heddyw, terfynodd yr Ynad Fitz- gerald ei anerchiad, ac ymneillduodd y rheith- wyr am haner awr wedi deuddeg. Wedi bod yn absenol am bump awr, dychwelasant i'r Ufa, gan fynegu nas gallent gytuno. Gofyn- odd y barnwr iddynt a oedd tebygolrwydd y deuent i gytundeb, ac atebwyd nad oedd, a dywedodd un o'r rheithwyr, yn anystyriol, eu bod yn ddeg yn erbyn dau. Ymneilldu- asant eilwaith, ac y mae y ltys yn awr yn dysgwyl am eu hymddangosiad eto, ond credir na ddeuant i un cytundeb &'u gilydd, ac y gollyngir hwynt yn rhydd.
[No title]
SABOTH, Rhagfyr 19eg, bu pleidleisio yn Eglwys Gynulleidfaol Utica am olynydd i'r Parch. Ddr. Gwesyn Jones yn y fugeiliaeth ond syrthiodd pob un o'r ymgeiswyr yn fyr o gyrhaedd y nod gofynol. Cafodd y Parch. J. Gwrhyd Lewis 72 o bleidleisiau, y Parch. R. Mawddwy Jones 38, a'r gweddill yn wasgaredig. Rhif yr eglwys yw oddeutu 220 o aelodau. ..if ii •" mm
Advertising
EISTEDDFOD GADEIRIOL MOUNTAIN ASH. BYDDED hysbys y cyneHr yr Eisteddfod uchod Ddydd LLUN SULGWYN, Mehefin 6ed, 1881. Beirniaid y traethodau a'r farddoniaeth, WATOYN WTN y canu, yr enwog CABADOG. Llywydd y dydd, CHARLES H. JAMES, YSW., A.S., Merthyr TydfiL Arweinydd, y Parch KJLSBT JONBS, Llanwrtyd. FBIF DDARNAU. "Hallelujah Chorus (Handel), "Novello's Edition," i gor ddim dan 80 mewn rhif gwobr, 18p., a medal aur i'r arweinydd gwerth 2p. 2s. YrHaf" (gan Gwilym Gwent), i gdr ddim dan 50 mewn rhif; gwobr, 8p., a medal arian i'r Hrweinydd gwerth lp. la Come, Bounteous May (Spofforth), i barti Atim dan 20 na throe 25 mewn rhif, male voices eiTobr, 2p. 10s. TRAEIHODATJ. dyn mewn creadigaeth;" gwobr, lp. 10a BARDDONIAETH. 1 Testyn y Gadair (Awdl), "Y Sabbath," ddim Ön 300 llinell; gwobr, Jp. Se., & chadair yr Eis- '^I^yddeat, "^achyd," dim dan 150 Llinell; sayobr, lp. 10s. Am y gweddill o'r teetynau, &c., gwel y pro- mnm jt hwn svdd yn barod ao i'w gael am j pris aiferol gan yr Ysgrifeoydd, DAym THOMAS, JI8i Frimroae HiU, Koxatoui Asfa.
lHanesion Dosbarthawl.
Hanesion Dosbarthawl. BRITON FERRY. "AMERICA."—Bydd y Parch. E. Edmunds, o Abertawe, yr hwn sydd wedi dychwelyd o America yn ddiweddar, yn traddodi ei ddarlith ar y testyn uchod i'r Llansaweliaid am y tro cyntaf, mewn cysylltiad a, Chapel y Graig, nos Iau, Chwefror 3ydd. Y mae Mr. Edmunds yn ddiarebol am ei arabedd.-Gwilym Ddu o'r Llan. CWMLLYNFELL. DAMWAIN DEDENUS.—Yr oedd pump dyn yn dychwelyd oddiwrth eu gwaith, dydd Mawrth, y 12fed cyfisol, dros Reilffordd y Midland rhwng Cwmllynfell a Chwmaman, pan oddiweddwyd hwy gan y gerbydres deithiol, a lladdwyd dau ohonynt, Thomas Moses a Morgan Morgans, y rhai oeddynt wyr priod, a diangodd y tri ereill a'u bywydau. PEMBRE. DAMWAIN ANGEUOL.—Fel yr oedd plate-layer o'r enw Thomas Bethel, yn ngwasanaeth y Great Western Railway, yn myned at ei waith fore dydd Mercher, am 7 o'r gloch, rhedwyd drosto gan yr Irish Express. Mewn canlyniad i'r ystorm, yr oedd y gerbydres yn ddiweddar; a chan fod y gwynt yn uchel ar y pryd, tybir iddo yntau fethu clywed trwst ei ddynesiad. Torwyd ei goes yn ddarnau, a llusgwyd ef am tua 10 llath, lie y'i caf- wyd, yn mhen ychydig fynydau ar ol hyny, yn hollol farw. LLANTRISANT. DAMWAIN ANGEUOL I FEDDYG.—Cerddai Mr. H. Stainstreet, meddyg a chynorthwywr i Dr. Williams, Pontfaen, ar linell yreilffordd i Junction Llantrisant, nos Fawrth, yr ystorm, rhwng pump a chwech o'r gloch. a goddiweddwyd ef gan gerbydres, yr hon a'i drylliodd yn ddarnau. Yr oedd darn o'i goes ar goll. Buasai mewn treng- holiad yn Llanharry, a thybir iddo gerdded i orsaf Llantrisant i gyfarfod y gerbydres i Bontfaen, pan gyfarfu a'u angeu. Diau fod rhu yr ystorm mor fyddarol fel na allai glywed trwst y gerbydres. Yr oedd yn 35 mlwydd oed, ac yn un a berchid yn fawr yn nghylch ei adnabyddiaeth. Dydd Mercher, dranoeth i'r ystorm, yr oedd yr eira i fyny hyd at fargodion rhai o'r tai yn Llantrisant. Dydd Sadwrn, yn Mhontfaen, cymerodd ei angladd Ie. Daeth yn nghyd nifer fawr o foneddigion a chymydogion i dalu y gymwynas olaf iddo. TAIBACH. Y C6R UNDEBOL. —Cwestiwn a ofynir gan lawer y dyddiau hyn yw A ydyw y c6r uchod yn myned i Ferthyr Tydfil yr haf netaf ? ac os ydyw, pwy fydd ei arweinydd ?" Dywedir fod ei hen arweinydd, sef Eos Cynlais, yn myned a ch6r ei hunan eleni; ond nid oes eisieu i hyny i'w rhwystro, tra mae rhai yn eu plith eu hunain yn alluog i ymgymeryd a'r gwaith. Hoffem yn fawr weled Mr. Leyshon Davies, A..C., yn ymaflyd ynddo yn gyfangwbl. Y mae yn ddyn sydd wedi enill cymeriad rhagorol, ac wedi llafurio yn galed am ei wybodaeth, ac wedi ei chyfranu yn helaeth i'r bobl ieuainc sydd yn perthyn i'r c6r. G welsom air o'i hanes yn y GWLADGARWR, wedi bod yn beirniadu mewn cyfarfod yn ddiweddar, a chawsom yr anrhydedd o'i glywed yn traddodi ei feirniad aeth, ac wedi rhoddi boddlonrwydd unfrydol i bawb, a'n dymuniad yw ei glywed wrth yr un gwaith yn llawer amlach. Bydded i ysgrifenydd y c6r i 7 oddi gwybod yn fuan, er mwyn dechreu. -Aelod.. MOUNTAIN ASH. DAMWAIN ANGEUOL.—Mewn pwll glo, dydd Mercher diweddaf, fel yr oedd dyn o'r enw Wm. David wedi gorphen ei ddiwrnod gwaith, ac wedi cyrhaedd gwaelod y pwll, yn aros am gael myned i'r lan, torodd y gadwen oedd yn cysylltu y drams wrth eu gilydd, a rhedodd dwy ddram lawn yn eu hoi gan ei ddal yn erbyn y pwll, a'i niweidio mor fawr nes y bu farw cyn cyrhaedd adref. Yr oedd WilHam David yn ddyn a berchid yn fawr gan bawb yn yr ardal. Yr oedd yn ddyn mawr mewn cymdeithas; ac os byddai rhywun yn dlawd ei amgylchiadau, byddai ef yn sicr o'u cynorthwyo. Llawer gwaith y gwelwyd ef yn cerdded o ddrws i ddrws i geisio cymhorth i ryw weddw dlawd. Ei holl siarad bob amser fyddai am y tlawd a'r amddifad. Yr oedd yn ddyn tua 60 mlwydd oed. Yr oedd yn aelod ffyddlawn a gweithgar yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd. Dydd Sadwrn, Ionawr 8fed, daeth torf fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion marwol.-E. M. MAERDY. DAKLITH.—Yn y vestry uchod, nos Lun, Ionawr 17eg, 1881. Traddododd y Parch. J. T. Morgan (Thalamus) ei ddarlith benigamp ar ei hoff destyn, Ysbrydegaeth," o dan lywyddiaeth ddeheuig y gwr ieuanc Mr. D. J. Thomas, Brynawel House, Aberdar. Bglurodd y darlithydd yn y modd mwyaf syml mai trydaniaeth yw prif ddirgelwch Ysbrydegaeth, ac fod Iluaws o Ysbrydegwyr yn berffaith onest pan yn addoli (?) yn y dull yma, am nad ydynt yn medru deall y dirgeledigaethau sydd yn ntlyn a'r elfen ryfeddol hon. Yr oedd yn dangos hefyd mai allan o hen ofergoelion a fodol- eiit ar y Cyfandir y tarddodd y science Ysbrydegol hon. Fel un fu yn siarad acyn dadleu Ysbryd- egwr profiadol, gan glywed llawer iawn o'r hyn y maent yn ei honi, yr wyf yn teimlo fod y ddarlith hon yn ddigon i argyhoeddi yr Ysbrydegwr mwyaf penwan mai twyllac ofergoeliaeth ydyw Ysbryd- egaeth benbwygilydd. Mae y darlithydd wedi llafurio yn galed cyn cynyrchu y ddarlith hon, ac fel y gwyr llawer, ei fod wedi bod yn llwyddianus i ddwyn ger ein bron ddarlith yn llawn difyrwch, addysg, ac Efengyl.-Zorobab6l. TREHERBERT. "Y GLOWYR A'U CYSYLLTIADAU."—Traddod wyd darlith ar y testyn uchod yn Carmel, Treher- bert, nos Lun, Ionawr 17eg, gan Mr. D. Weeks (Honddu) i gynulleidfa luosog. Yr oedd elw y ddarlith yn myned i lowr, aelod o eglwys Carmel, yr hwn sydd wedi ei amddifadu o'i glun, ac yn an- alluog i gynal ei deulu lluosog. Yr oeddwn wedi cael digon o brofion o'r blaen o allu Honddu, yn nghyd a'i wybodaeth eang yn nglyn a'r glofeydd, ond y mae'r ddarlith hon wedi ei godi ddigon -awchlaw ein barn flaenorol am dano. Cadwodd ei wrandawyr weithiau i wylo, ac weithiau i chwer- thyn, am ddwy awr o amser; ac yn y diwedd, rhoddodd i fyny cyn agos gorphen ei ddarlith. Dywedai y Parch. J. Rees, Carmel, a'r Parch. M. Jones, Tynewydd, ar y diwedd, eu bod yn gwybod am allu Honddu o'r blaen fel ysgrifenydd a phre gethwr, ond fod y ddarlith hon wedi ei godi i blith darlithwyr ein gwlad. Y cadeirydd ydoedd Mr. Evans, manager Glofa Ynysfir. Wedi y diolchiadau arferol, ymadawodd pawb mewn awydd clywed gweddill y ddarlith eto yn fuan ganddo. Wrth ddiweddu, dymunwn longyfarch ein cyd-lowr enwog ar y llwyfan fel darlithydd. Pwy bynag sydd mewn angen darlith ddyddorol ar destyn eang a phwysig, dyma gyfle iddynt gael hyny gan un o enwogion coleg y mandrel."— Un oedd yno. DOWLAIS. ANGEU STDTN. -Nos Lun diweddaf, Ion. 17eg, oddeutu chwarter i ddeg, bu dyn ieuanc o'r enw T. C. Jones, mab Mr. Enoch Jones, 20, Wind- street, fbrw yn sydyn. Nid oedd ond braidd wedi cyrhaedd i'r ty, pryd y syrthiodd mewn llewyg. Yr oedd yn hollol iach drwy'r dydd. Nid ydym yn gwybod, pan yn ysgrifenu hyn o linellau, achos ei farwolaeth, gan nad ydyw y trengholiad wedi cymeryd lle. Teimlir yn fawr drwy yr holl gy- mydogaeth oherwydd yr amgylchiad pruddaidd. Yr oedd yn ddyn ieuanc addawol iawn, ac yn cael ei barchu gan bawb yn gyffredinol. Yr oedd yn pupil teacher yn Ysgol Penydarren, ac yn parotoi ar gyfer y weinidogaeth gyda'r Annibyn- wyr. Cleddir ef dydd Iau, yn Hen Fynwent y Pant, a gwasanaethir ar yr amgylchiad gan y Parch, G. Rees, Nelson, a gweinidig Bethania, lie yr oedd yr ymadawedig yn aeIod.-Cyfaill. DAMWAIN ANGEUOL.—Dydd Llun, yr lleg cyf., cyfarfu gyriedydd cab, o'r enw John Edwards, 58 mlwydd oed. yn preswylio yn 4, Graham-street, Merthyr, a damwain angeuol. Yr oedd y dyn an ffodus yn gyru ceffyl a chab i lawr ffordd newydd Dowlais, pan lithrodd yr anifail, ac y syrthiodd Edwards ar ei ben i'r heol. Cariwyd ef adref, a gweinyddwyd arno gan Dr. Dyke, ond bu farw tua naw o'r gloch oddiwrth y niweidiau a dderbyn- iodd.
Eisteddfodau Nadolig America.
Eisteddfodau Nadolig America. UTICA. Dydd Calan y cynaliwyd Eisteddfod Utica, yn mha un yr oedd Alaw Dulais, Taylorville, yn oreu ar y traethawd Athrylith." SHENANDOAH, PENSYLVANIA. Ymgasglodd nifer o Gymry yn nghyd yn Eisteddfod Shenandoah ddydd Nadolig, ac yr oedd yn un foddhaol iawn. Yn mysg amryw gystadleuaethau Ileol mewn canu a barddoni, gwelwn mai Gwilym Gwent aeth a'r 4 doler am y eyfansoddiad cerddorol, can a chydgan, Yr hen Gymraeg i mi y goreu allan o 12. MILWAUKEE. Llywydd Eisteddfod Milwaukee, ar ddydd Nadolig, oedd y Parch. J. P. Williams. Beirniadodd Aneurin Fardd ar Ymson y llofrudd gwobr, 10 doler a'r goreu allan o 15 oedd eyfansoddiad Mrs. M. C. Jones, Mineral Ridge, Ohio. Y Parch. H. P. Howells enillodd ar y traethawd Gogwydd- iadau meddyliol;" gwobr, 20 doler a medal. Eisteddfod o'r iawn ryw oedd hon -digon o ganu, a digon o'r hen hwyl Gymreig ynddi. NEW YORK. Cafwyd Eisteddfod Ymerodrol yn New York ddydd Nadolig. Y llywydd oedd Mr. Richard Williams, ieu. Enillodd Mr. R. W. Hughes (Menai Fardd) ar amryw destynau a darfu i'r Parch. D. T. Phillips, Portches- ter, New York, enill tair gwobr. Ond un awdl ar Athrylith ddaeth i law, a barn- odd Cefni ei fod yn rhy ddi-ymenydd i fod yn werth dimai. Ar y prif ddarn corawl, sef y gydgan Molianwn y Nefoedd" (o Blodwen), yr oedd dau gor yn cystadlu, a'r goreu oedd cor o New York, dan arweinydd- iaeth Glanmarchlyn. Yn ystod y cyfarfod, anfonwyd eyfarchiad trwy'r pellebyr i Eis- teddfod Milwaukee. Trodd y cwbl allan yn llwyddianus iawn, ac y mae y brodyr yn peuderfynu oynal Eisteddfod Uwch-Ymerodr- ol y Nadolig nesaf eto. YOUNGSTOWN. Cynaliwyd Eisteddfod Youngstown hefyd ddydd Nadolig, pryd y llywyddwyd gan Mr. J. W. Jones, golygydd y Drych. Daeth 23 englyn i mewn ar y Llafargladydd," a dy- farnwyd Edward Samuel (Cadifor), Cwm- bwrla, Abertawe, yn oreu gan Ap Madoc. Cyfieithu i'r Gymraeg The influences of Natural Scenery goreu, Mr. Rhys Etna Jones, Cleveland. Pryddest ar y Ddelw aur;" 4 cyfansoddiad i mewn goreu, Mul- tum in Parvo, sef y Parch. D. C. Harries (Caeronwy), Mumbles. Englynion i Mrs. J. T. Williams (Gwyddon); 24 o gyfansoddiadau i mewn a dywedai y beirniad mai cystadleu- aeth benigamp ydoedd. Goreu o'r oil oedd Abel, sef Cadivor, Cwmbwrla. Cor New- burgh oedd y goreu ar y ddau brif ddarn. Yr oedd yno nifer mawr o gystadleuaethau ereill, pa rai nid ydynt o fawr dyddordeb i drigolion y tudraw i'r llyn pysgod.
Ffrwydriadau Glofaol.
Ffrwydriadau Glofaol. CYNLLUN ATALIOL. Ymddengys fod Mr. Thos. Jones, Maendy House, perchenog glofa yr Hafod, Rhondda, a glofeydd ereill, a breintydd amryw ddyfeis- iau mwnawl pwysig, byth oddiar danchwa fawr Ferndale yn 1867, wedi talu'r sylw dwysaf i'r cwestiwn pa fodd i atal tanchwa- oedd glofaol. Yehydig amser yn ol, darfu iddo yn achlysurol grybwyll, mewn ynddydd- an ag un o brif oruchwylwyr y Deheudir, ei olygiadau ar y mater, ac anogai y boneddwr hwnw yn gryf am i Mr. Jones osod ei gynllun ger bron y Llywodraeth. O'r diwedd, darfu i Mr. Jones gydsynio i wneyd hyn, ac ysgrif- enodd at Syr W. Vernon Harcourt, yr Ys- grifenydd Cartrefol, yn ei hysbysu ei fod wedi darganfod cynllun trwyadl i ysgoi ail ddygwyddiad ffrwydriadau, ac y byddai efe (Mr. Jones) yn barod i osod ei gynllun o flaen unrhyw un neu bawb o Arolygwyr Mwn- gloddiau ei Mawrhydi. Derbyniodd atebiad oddiwrth Syr William i'r effaith mewn trefn i farnu teilyngdod y darganfyddiad byddai yn well ar unwaith ei ddwyn o flaen y cyhoedd. 0 barch i'r awgrym hwn, darfu i Mr. Jones gyhoeddi crynodeb o'i gynllun, a dyma fe Cynygia Mr. Jones fod prif awyrffordd ddychweliadol annibynol i gael ei gyru yn y wythien lo yn uniongyrchol uwchlaw y wythien a weithir, yn mhob glofa; fod y ddychwel- BFordd hon a'r cangenau i gael eu cario o Elaen y gweithiau yn y wythien, a bod pwll iwyrxadol i gael ei suddo ar ben pob 300 Hath )'r ddychwel-ffordd, a'r cangenau i'r wythien j cyfeiriwyd ati yn barod. Ni ddylai neb idynion fod ar waith yn y wythien trwy ba in y gyrir y brif ddychwel-ffordd, gyda'r iithriad yn unig o'r rhai fyddant yn ofynol i vneyd y gwaith hwn. Trwy suddo y pyllau ir y pellderau a nodwyd (300 llath), ystyria Mr. Jones y byddai y blowers o'r nwy i gael eu sugno allan o'r glo ac i'r pwll awyrol, ac felly yn gosod y gwythienau a weithir yn ber- ffaith rydd oddiwrth berygl, hyd yn nod gyda'r defnydd o oleu noeth. Ni ddylid cario dych- wel-ffyrdd yn y wythien fyddo ar waith, ond yn syml o bwll i bwll, a chan gynted ag y cyrhaeddir yr ail bwll mewn dilyniad, dylid cau y ddychwel-ffordd dymorol. Gwna hyn y drysau parhaol ar y mewn-gymeryddion yn ddiangenrhaid. Y mae yma fantais hunan- eglur a theilwng o sylw, sef na fydd dim awyr boeth neu anmhur i gael ei gario trwy y gwynebau neu y gweithiau. Gosodir pwys mawr ar y ffaith benaf a nodedig hon, y bydd bob amser haen galed o rhwng 12 i 15 Hath (mwy neu lai) rhwng y mewn-gymerydd a'r ddychwel-ffordd. Bydd pontydd awyr felly yn hollol ddiangen. Mewn ffrwydriadau y mae y eyflensderkn hyn—awyr-bontydd—yn dyfod yn anghyfleusderau byw ataliant y gwaith archwiliadol, a rhwystrant a llygrant yn lie puro yr awyriad. Trwy gyfrwng y pyllau awyr, gall y nwyon a sugnir i'r brif ddychwel-ffordd gael ei deneuo a'i wneyd yn berffaith ddiniwed cyn y cyrhaeddont bwll yr upcast. Managers glofeydd neu beirianwyr a ewyll- ysiant weled cyifllun Mr. Jones a ganiateir unrhyw amser i ddyfod i'w swyddfeydd glo- faol yn Navigation, Trehafod, a Porth. Gellir ychwanegu fod y cynllun ar gael gwneyd prawf ohono yn nglofa yr Hafod.
CYFARFOD MAWR 0 LOWYR Y RHONDDA.
CYFARFOD MAWR 0 LOWYR Y RHONDDA. GWRTHODIAD Y DRYSORFA .GYNORTHWYOL. Cynaliwyd cyfarfod mawr o gynrychiolwyr torwyr glo ager a glo tai yn Nghwm Rhondda, yn Collier's Arms, "Dinas, dydd Llun diwedd- af. Gweithredai Mr. John Hughes, Treorci, fel ysgrifenydd ac yr oedd Mr. W. Abraham (Mabon) yn bresenol, yr hwn, ar gais y cadeirydd, a eglurai fod y cwra a gymerai y meistri i argymhell y drysorfa ar y dynion yn afreolaidd, ac y dylid dwyn y peth gerbron pwyllgor y Sliding Scale. Yna, galwyd ar y dirprwywyr o'r gwahanol byllau i roddi barn y glowyr a gynrychiolent o barthed i'r drysor- fa. Dirprwywr oddiwrth lowyr glo ager y Cymer a ddywedai ei fod yn cynrychioli 700 o ddynion, a'u bod yn gwrthod y drysorfa yn hollol. Dirprwywr oddiwrth dorwyr glo ager yr Hafod a ddywedai fod y glowyr yno yn 400, ac yn gwrthod y drysorfa. Dirprwywr oddiwrth dorwyr global Blaen- elydach a ddywedai ei fod yn cynrychioli 100 o lowyr, a bod rhyw 56 ohonynt wedi talu i'r drysorfa, ond dywedai rhai ohonynt fod yr arian wedi eu cadw oddiwrthynt heb eu cyd- syniad. Cynaliasant gyfarfod wythnos yn ol, a phenderfynasant wrthod y drysorfa. Dirprwywr oddiwrth dorwyr glo ager y Pentre a gynrychiolai 450. Yr oedd 50 wedi ymuno a'r drysorfa; a 400 wedi gwrthod. Dirprwywr o Bodringallt a gynrychiolai 400, ac awdurdodasid ef i ddweyd nad oedd dim a fynent &'r drysorfa. Dirprwywr o'r Coedcae (No. 3) a ddywedai ei fod yn cynrychioli 300 o dorwyr glo tai, a bod 40 neu 50 ohonynt wedi talu, ond i'r 40 neu'r 50 hyny alw cyfarfod, dydd Iau, ac yn hwnw, penderfynasant anfon i'r cyfarfod hwn i ddweyd y byddai iddynt fyned gyda'r Cwm yn y mater. Dirprwywyr o Ynysfeio a gynrychiolai 350, y rhai oeddynt wedi penderfynu ymwrthod a'r fund. Dirprwywyr oddiwrth glo tai y Gilfach a gynrychiolai 206 o lowyr, y rhai a ddywedent na dderbynient y drysorfa. Torwyr agerlo y Gelly, yn rhifo 100, a wrthodent ymuno a'r drysorfa. Torwyr glo tai y Gelly, yn rhifo 120, a wrthodent y drysorfa. Dirprwywyr oddiwrth lowyr ager Fernhill, a gynrychiolai 450, y rhai yn unfrydol a wrthodent y drysorfa. Dirprwywyr o Aber Rhondda (Hen Droed- yrhiw) a gynrychiolai 75 o ddynion, y rhai a wrthodent y drysorfa. Dirprwywyr o Tynewydd (Porth), glo tai, a gynrychiolai 200, y rhai mewn cyfarfod, dydd Sadwrn, a basiasant benderfyniad i wrthwynebu y drysorfa. Dirprwywyr oddiwrth dorwyr glo tai Llwyncelyn, yn rhifo 80, a ddywedai eu bod yn gwrthod y drysorfa. Dirprwywyr oddiwrth lowyr ager-lo Ynys- hir, y rhai a rifent 350, a wrthodent y drysorfa yn ei ffurf bresenol. Dylai fod ynddi ddarbodaeth ar gyfer afieohyd yn gystal a damwain. Dirprwywr oddiwrth lowyr agerlo y Dinas, y rhai a rifant 400, eu bod mewn cyfarfod, dydd Sadwrn, wedi penderfynu yn erbyn y fund, Dirprwywr oddiwrth dorwyr agerlo Llwynpia, yn rhifo 650, a ddywedai eu bod mewn cyfarfod wedi pasio penderfyniad i wrthwynebu y fund, os na fydd yn wahanol i'r hyn ydyw yn awr. Dirprwywr oddiwrth lowyr agerlo Pendyrus, y rhai oeddynt 450, a ddywedai eu bod wedi gwrthod derbyn y drysorfa. Dirprwywr oddiwrth dorwyr glo ager Ty'ny- bedw (y cadeirydd), yn cynrychioli 400, a ddy- wedai eu bod mewn cyfarfod, dydd Gwener diweddaf, wedi penderfynu ymwrthod Wr fund. Darllenwyd llythyr oddiwrth lowyr y Rhon- dda-Merhyr Steam Coal, 100 mewn nifer, yn mynegu eu bod yn erbyn y dryaorfa Yna, symiwyd y cyfan i fyny, a chafwyd fod 7,431 o lowyr yn cael eu lynrychioli, a 7,131 yn erbyn y drysorfa, a 300 yn ganolog. Sylwai Mr. Abraham iddo dderbyn llythyr oddiwrth Mr. David Morgan, Mountain Ash, yr hwn a ddarllenodd. Gwrthdystiai Mr. Morgan yn erbyn y cyfarfod fel yn afreolaidd, gan fod cwestiwn y drysorfa wedi ei gyfeirio i gyfarfod dirprwyol cyffredinol Deheudir a Sir Fynwy. Siaradodd ereill i gyfiawnhau cynaliad y cyfar- fod. Yna, pasiwyd y penderfyniad y ganlyn}— Fod y cyfarfod hwn o ddirprwywyr nawnwyr y Rhondda yn gwrthod yn hollol, dan yr am- gylchiadau, y Drysorfa Ymwaredol gynygiedig i r mwnwyr, hyd nes i'r mater ddyfod yS trurnol o flaen dirprwywyr mwnawl Deheudir Cymru a Mwnwy yn y drefn arferol; hefyd, fod y cyfarfod yn datgan ei annghymeradwyaeth gryfaf o'r dull a fabwysiadwyd gan y meistri mewn gwthio y drysorfa ar y gweithwyr yn bersonol. Dymuna y cyfarfod yn mhellach a^rymu !r dymon a roddasant eu henwau yn y ffordd hon i r meistri, fel cefnogwyr y drysorfa. nad oes gorfodaeth arnynt lynu wrth yr hyn a addawsant. Gobeithia y cyfarfod yn mhellach na fydd ychwaneg o enwau i gael eu rhoddi gan y gweithwyr i'r meistai, fel pleidwyr y drysorfa ac y bydd gweithrediad unfrydol yn unol a'r penderfyniad a basiwyd yn awr." Wedi cryn siarad, cynygiodd Mr. Abraham y penderfyniad a ganlyn :—" Fod y cyfarfod hwn, tra nad yw yn dibrisio gwasanaeth ein harolyg. wyr presenol, eto, yn gweled y gwaith mawr sydd ganddynt i'w gyflawni, yn ei hystyried yn dra an h dra angenrheidiol i fwnwyr Mynwy a Deheudir Cymru i gymeryd mesurau i argraffu ar Lywodraeth ei Mawrhydi yr angenrheidrwydd i apwyntio nifer fwy o arolygwyr yn yr hyn a addefir yn ddosbarth nwyd iawn." Ychwaneg. W d!.hyn' y cyfarfod hwn yn ystyried yn mhellach, yn mysg nifer y personau a apwyntir, y dylent fod yn alluog i arolygu rhanau mewnol y gweithiau." Pasiwyd hefyd benderfyniad i ddiolch i Syr W. Harcourt am ddanfon Mr. Wright y Bar- gyfreithiwr, i drengoliad Penygraig. Hysbyswyd fad y Proffeswr Abe yn myned i wneyd prawf ar werth cynllun y Parch. T T. Jones, Rhymney a bod gan Eos Rhondda a boneddwr arall o Blaenafon, gynlluniau cyffelyb.
Y SENEDD.
Y SENEDD. TY Y CYFFREDIN, DYDD LLUN. Y prif atdyniad o ddyddordeb yn ngweith- rediadau y Senedd, dydd Llun, ydoedd dygiad yn mlaen gan Mr. W. E. FORSTER ei fesur er noddi person ac eiddo yn yr Iwerddon. Sylwai, er eymaint a ddywedasid ar y mater hwn, nad oedd llawer o aelodau anrhydeddus, a nifer fawr o bersonau yn y wlad, yn ymwy- bodol o gyflwr brawychus yr Iwerddon. Yr oedd y dychwelebau yn dangos fod nifer yr ysgelerderau tirol yn 1880 yn 2,590. Yr oeddynt wedi ysgaru troseddau tirol oddiwrth rai ereill oddiar 1844, ond nid cyn hyny. Y flwyddyn uchaf yr amser hwnw oedd blwyddyn gyntaf y newyn, sef 1845, pan gyrhaeddodd y nifer 1,920. 0 ganlyniad y mae yr ysgel- erderau hyn 35 yn y cant yn fwy na'r pryd hwnw. Tybiai ei bod yn iawn iddo roddi y nifer yn annibynol ar y llythyrau bygythiol; ac ni thybiai ef fod llythyrau bygythiol mor ddibwys ag y gallai rhai aelodau anrhydeddus feddwl. Yn 1880, heblaw mathau ereill o droseddau, yr oedd nifer y llythyrau bygyth- iol yn 1,253. Yn 1845, y nifer ydoedd 950, yn dangos cynydd o 32 yn y cant yn 1880 o'i chyferbynu a'r flwyddyn flaenorol. Yr oedd aelodau anrhydeddus yn ymwybodol fod gwahaniaeth mawr yn y boblogaeth. Y boblogaeth yn awr ydoedd pum' miliwn o'i gymharu ag wyth miliwn yn 1845 ond a chymeryd i gyfrif y gwahaniaeth yn y bobl- ogaeth, yr oedd yr ysgderderau hyny wedi mwy na dyblu y flwyddyn waethaf a gofnod- wyd er 1845. Carai hefyd ddweyd wrth y T' fod cynydd mawr wedi bod yn nhri mis olaf y flwyddyn ddiweddaf. O'r 1,253 llyth- yrau bygythiol yn y flwyddyn ddiweddaf, yr oedd 719 yn nhri mis Hydref, Tachwedd, a Rhagfyr, h.y., yr oedd dwy ran o dair o gyfanrif yr ysgelerderau yn chwarter olaf y flwyddyn. Yna aeth yn mlaen i fanylu ar yr ysgelerderau a gyflawnesid yn ngwahanol siroedd yr Ynys. Yr oedd tanau wedi cy- nyddu yn ddirfawr yn 1880 yr oedd y nifer yn 210-108 o ba rhai a gymerodd le yn nhri mis olaf y flwyddyn. Yr achosion o anafa anifeiliaid yn nhri mis olaf y flwyddyn yn 64; o ganlyniad, yr oedd yr anfadwaith ffiaidd yn fwy cyffredinol nag mewn un flwyddyn er 1844. Yna deuai ysgelerderau ar y person dan ystyriaeth. Un ffurf o'r rhai hyn ydoedd fod parti o ddynion mewn dillad ffugiol, yn rhifo 10, 20, neu fwy, yn myned i ffermdj)- yn ystod y nos, gan lusgo y ffermwr allan o'r gwely, a gweinyddu arno- fath o gospedigaeth boenus. Yna rhybuddid y dyn anffodus i beidio anufuddhau i eirchion y Cynghrair yn mhellach. Yr oedd y tros- eddau an-nhirol yn yr Iwerddon yn ystod y flwyddyn ddiweddaf yn 2,657, a'r rhai a gymerwyd i fyny yn 1,269, neu 47 yn y cant. A delio a, throseddau heb fod yn dirol nid oedd yr Iwerddon yn waeth, ae, yn wir, yr ydoedd yn well na Lloegr. Yn Lloegr, yr oedd wedi bod am gryn amser uwchlaw 50 y cant. Yna nododd amgylchiad am un dyn yr ymosodasid arno ef a'i wraig am iddo dalu y rent, yr hwn a wrthododd dyngu yn erbyn ei elynion gan ofn. Yna manylodd ychydig ar yr ysgrif fwriadai ddwyn gerbron, a bod yn rhaid amddiffyn personau ac eiddo. Yr oedd y Tf yn benderfynol yn ei ddyledswydd ac yn benderfynol o gyflawni y ddyledswydd hono yn y sesiwn hon. Tybiai ond i'r Tf gario allan yn benderfynol ei ddyledswydd T cyfarfyddent a llwyddiant, ag y deuai yr Iwerddon eto yn llwyddianus a thawel. Cynygiodd Dr. Lyons welliant i'r perwyl fod yn well pasio mesur meddyginiaethol cyn dyfod a mesur gorfodol i mewn. Ceir man- ylion y mesur a'r ddadl arno yn ein nesaf.
[No title]
Y SALVATION ARMY.—Y mae Mr. Booth pen y Fyddin, newydd gyhoeddi cylchlythyr* yn mha un y cyhoedda ystadegau o lwyddiant yr achos mewn ystyr grefyddol ac hefyd mewn ystyr arianol. Cyrbaedda swn yr Efengl 3,000,000 o bobl yn wythnosol trwy y cyfarfodydd yn yr awyr agored. Perthyna i'r fyddin 363 o swyddogion, 172 o orsaflb- oedd, a thelir 9,676p. yn flynyddol fel r*n& am y gwahanol adeiladoedd a ddefnyddlimt. Casglwyd a thalwyd allan, yn y flwyddyn ya diweddu Tachwedd, y swm o 17,669p.
GAIR YN G YFFBEUlNOL.
liyd nes y blinont. Ategaf, fel arfer, bync-- iau cvhoeddus, yn wleidyddol a masnachol, yn ol mesur fy ngwybodaeth, er nad yw yn ddw-fn iawn ond credwyf fod y tipyn gwy- bodaeth a feddwyf yn agosach i'w lie na llawer sydd yn ceisio bod yn oraclau cy- hoeddus- y werin, neu, ynte, a dweyd yn fwy eglur, y dosbarth gweithiol. Ni charwn broffesu antffaeledigrwydd, fel y gwna rhai yn yr hen ardaJ ond credwyf hyn, nad oes achos i mi ofni beirniadaeth ar ddim a wnawd genyf yn gysyfNiedig a'r GWLADGARWR. Cofied y darllenydd na raid i asgre lan ofni ymchwiliad felly, nid oes arnaf gywilydd arddel pob brawddeg a ysgrifenwyd genyf o dan ffugenwau ac o dan fy enw adnabyddus Cymro Gwyllt, yi- hwn enw adawir allan o Iythyrau, os bycnd ynddynt air da i'r Cymro gan ambell i olyigydd, ond a ddefnyddir fel cymeradwyaeth i gymychiaid diymadferth sydd yn methu byw heb enw y Cymro Gwyllt, er saled ydyw. Hid wyf yn erbyn i'r cyfryw fyw fel fy hunata, ond nid wyf yn foddlon cario neb ar fy n^hefn ar hyd y blynyddoedd, am y dylai pob creadur fyw arno ei hun, heb farchogaeth ar ei.iwogrwydd neb arall. Beth bynag FJIM y GWLADGARWR yn ei gysylltiad a'r do.sbarth gweithiol, nid wyf yn meddwl fod achos iddo guddio gwyneb am ddim, er nad yw yn honi perffeithrwydd. Arfer rhai ydyw poeri ar garedigion, fel y gwelir yn wythnosol, a mel ar fara y cyfryw ydyw fod y Golygydd a Clustfeinydd wedi cwrcydu, fel y dywedir, i ofyn ffafr am wneyd camsyniad.. Tamaid melus gan Cofnodydd ydyw fod "Orad Glan y Mersey" wedi gwneyd camsyniad trwy gymeryd y naill Vrobr yn lie y llall. Beth, tybed, am Cof- nodydd 1 Y mae yn ymddangos ei fod ef wedi myned yn mhellach na neb, trwy aw- grymu nad yw y deg llinell gwobrwyedig yn deilwng o'r wlad nac o'r wobr. Gwnewch a fynoch, ni waeth genyf, gan fod ymdroi mewn parddu yn digymod a'r chwaeth ar- uchel Mor ddymunol o dda. Prawf cy- meriadau cwsmeriaid y siop beth ydyw teil- yngdod yr hyn a bwrcasant, a chan fod gwerthiant mor dda ar bethau mor gyffredin, nid teg beio y prynwyr, gan fod pethau cyff- redin yn ateb y chwaeth. Crach-fasnachydd welir fynychaf mewn cwmwd a glyn yn gwica, yr hyn a brawf fod yn rhaid wrth lawer o sebon meddal cyn y gellir gwneyd masnach. Mae estyn b's a gwneuthur gwen fradwrus yn nodweddiadol i rai pobl, a chan fy mod yn weddol adnabyddus a rhai o'r llwyth, nid yw yn un math o syndod i mi. Gwell peidio ymyraeth Ag ysgubwr simneiau, rhag iddo eich baeddu gyda chynwys ei g*d, yr hwn sydd, fel ei hunan, yn ddigon du, — Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT. Llynlleifiad, Ion. 22ain, 1881.