Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

COLEG Y GWEITHIWR.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Nos Wener, Ionawr Slain. Ap Gorwynt.•—Fechgyn anwyl, diolchwch eich bod yn fyw ar ol yr ystorm aruthrol gawsom yr wythnos hon. Dyna beth oedd ystorm, ac nid rhyw ledrith. Yn sicr, ni fum i allan ar dywydd gerwinach yn fy mywyd. Yr oedd meginau hen Boreas yn chwythu mor gynddeiriog, fel yr oedd yn berygl i mi fod allan lawer yn hwy, gan fel y teimlwn ef yn treiddio trwy dipyn cig fy ngwyneb hyd vr asgwrn. Er fy mod i yn ryw fath o Ap Corwynt, charwn i ddim aros yn hir iawn o fla,en anadl llawer o dadau corwyntog, fel yr un diweddaf hwn. Wel, chwi wyddoch fod yna ryw "Dysgybl," yn y GWLADGARWR di- weddaf, yn cyfeirio ataf bed war gofyniad parthed Deddf Cyfrifoldeb y Meistri, sef yn 1. A oedd angen am y fath ddeddf ? 2. A ydyw yn iawn ar ran y meistri i wrthsefyll y oyfryw ddeddf ? 3. Beth oedd dyben pasiad y ddeddf ? 4. A atebai y Drysorfa Gynorth- wyol yr amcan mewn golwg yn mhasiad y ddeddf hono ? Nid da gen i ddadleu a dyn gwellt, neu un dan ffugenw, ac ni atebaf ei ofyniadau yn y ffordd a ddysgwylia efe ond mewn ffordd arall, ac mi a draethaf wrthych heno fy meddwl yn deg a diddig ar y pwnc, a gofaled Mr. Cofnodydd am anfon report cywir i'r GWLADGARWR. I ddechreu, dymunaf hys- bysu Mr. Dysgybl a phawb fy mod i yn hollol ddiochraeth yn yr achos hwn, heb fod yn pleidio na meistr na gweithiwr, o ran dim dylanwad a ddygodd y naill na'r llall i weith- redu arnaf fi; ond y mae yr hyn ydwyf wedi siarad yn y Coleg yma o bryd i bryd yn fwy er lies a ffyniant y gweithiwr na dim arall, er fod hyny hefyd yn cynwys llwyddiant y meistr. Yn y cychwyn, credwyf y dylai pawb gydnabod mai goreu oil i'r ddwy blaid yw fod cydberthynasau heddychol yn bodoli rhyng- ddynt. Y mae y ddwy blaid wedi cael profiad hir a chwerw o ryfeloedd costfawr y strike- teuluoedd y gweithwyr wedi dyoddef, a llo- gellau y meistri wedi eu gwaghau. Yn awr, y owestiwn ydyw, Pa un oreu i'r gweithwyr lynu wrth yr act dan sylw, neu ynte dderbyn cynyg y meistri, ac ymuno er ffurfio trysorfa gynorthwyol 1 Ni fum yn siarad ag un o'r meistri; ond bum yn cydymddyddan ag amryw weithwyr profiadol, y rhai a farnent yn hollol fod manteision y drysorfa gynyg- iedig yn pell orbwyso y lleshad ellir ddyagwyl wrth ymddiried i ddarbodion yr act. Gofyna rhai o'r glowyr yn ea cyfarfodydd, ac ereill trwy y papyrau, Pa beth yw y rheswm na fuasai y meistri yn dyfod allan yn gynt i gynyg ffurfio y drysorfa hon, a beth yw y rheswm eu bod yn dyfod allan yn awr, pan y mae yr act wedi pasio ? I hyn, gellir ateb fod y meistri wedi gwneyd yr un cynyg ddeng mlynedd yn ol, sef yn 1871. Darllenaf i chwi, yn awr, allan o Hanes y Strike yn 1871," yr hwn a ysgrif en wyd gan Mr. Dalziel, Caerdydd, ddyfyniad, wrth yr hwn y gwelwch fod y meistri wedi gwneyd yr un cynygiad yn y flwyddyn hono Chapter xxi. One pleas- ing feature of the arbritration was the offer on the part of the masters to establish an Insurance Fund for the relief and support of those who might be left helpless and penni- less by fatal accidents to the workmen. The masters' proposition was, that if the colliers who were working under arbitration would forego the payment of the 21 per cent., which was their due under the award, and would aubhorise the investment of that sum in a proper fund, for the purpose above named, the masters on their part would supplement the total sum so invested by a similar amount, and thus form a nucleus of an organization that would have for its object the mitigation of evils, which at intervals fall like clouds upon the mining population. The amounts paid by the associated masters for the 2-1 per cent, awarded as additional wages were :— T s. d. Powell Dyffryn Co. 1,800 3 8 Nixon, Taylor, & Cory 578 4 8 D. Davis & Son 624 16 2 Cwmbach 218 10 6 Nantmelyn 223 11 2 Bwllfa 216 19 4 Lletty Shenkin 113 14 2 Ocean 760 0 0 Marquis of Bute 157 17 11 Glamorgan 148 17 6 Pentre 142 19 0 Bodringallt 74 0 10 25,059 1411 Ya awr, dyna swm yr arian codiad a dalwyd i'r gweithwyr ar ol strike 1871, a gwelir fod y meistri y pryd hwnw yn cynyg talu yr un eyffelyb swm o'u llogellau eu hunain tuag at ffurfio trysorfa i'r perwyl a nodwyd, ond cael y gweithwyr yn foddlon i soddi y 2J per cent. i'r un amcan. Felly, mae baldordd y dynion hyny a ofynant, Pa le y bu y meistri cyhyd, yn dangos eu bod yn anwybyddu y gorphen- ol yn wirfoddol, neu o anwybodaeth. Yn awr, y cwestiwn holl-bwysig i'r gweithwyr ar yr adeg hon ydyw, pa gwrs i fabwysiadu i Ymuno a'r Drysorfa Gynorthwyol, ynte glynu wrth ac ymddiried i'r act, doed a ddelp j Gadawaf i ddynion mwy profedig na mi i aiarad. Yn y South Wales Daily News am ddoe, ymddangosodd Uythyr oddiwrth Mr. Simons, cyfreithiwr, Merthyr, ac yn hwnw, dywed nad yw y damweiniau angeuol trwy danchwaoedd yn agos i un rhan o dair o holl nifer y damweiniau angeuol." Dywed hefyd "mai damweiniau trwy danchwaoedd ydynt, yr unig rai a briodolir yn gyffredin i esgeulus- dod y meistri, neu y rhai sydd mewn awdur dod danynt. A chymeryd allan yr engreifft- iau dychrynllyd yn mha rai y mae llawer o fywydau yn cael eu colli mown un trychineb, y mae nifer y damweiniau angeuol trwy fewydriadau yn yehydig o'u cymharu tlchyfan- rif y damweiniau angeuol. Oddigerth mewn 04greifftiau anfynych, nid oes neb wedi anfcurio priodoli y damweiniau mawrion trwy ffrwydriadau i esgeulusdod y meistri neu eu goruchwylwyr. Fel yn engraifft, yr un fwyaf dychrynllyd yn y rhanbarth hwn, hono yn Abercarn, y mae achos gweithredol pob damwain a'i chylch eang trwy y gweithiau wedi bod yn anesboniadwy. Nid oes yn y rhan fwyaf o'r ymweliadau brawychus hyn un gronyn o dystiolaeth i gysylltu cyfrifoldeb wrth y perchenogion. Oddiwrth y ffaith hon, yr absenoldeb o brawf i ategu hawl-ofyniad am iawn yn erbyn y meistri agos yn yr holl achosion o ddamweiniau, yr ydwyf yn gwa- hodd barn bwyllog gweithwyr y dosbarth hwn. Nis gall hyd yn nod bonffaglwyr, fel Mr. David Morgan, Mountain Ash, wrthsefyll nerth y ffeithiau hyn." Dyna gyfieithiad lythyrenol o ddarn o lythyr Mr. Simons. Myfyriwch chwi a Mr. Dysgybl arnynt, a mynegwch eich barn, pa un gwell ai gadael gweddwon ac amddifaid y trueiniaid a gollant eu bywydau yn y tanchwaoedd mawrion i drugaredd neu ddarbodion yr act, pan na fedr hono estyn un ddimai goch iddynt, neu ynte gael trysorfa ddigonol i gyfarfod a. phob dam- wain, bydded fawr neu fach 1 Darllenais ysgrif gan olygydd y Genedl Gymreig, yr wyth- nos hon. Y mae rhai o feistri y chwarelau yn y Gogledd yn gwneyd yr un cynyg i'w gweithwyr, ac y mae gplygydd y Genedl yn anog y gweithwyr i beidio bod yn ystyfnig, ond ystyried y mater yn bwyllog, a chael barn dynion profiadol, cyn y penderfynont pa lwybr i fabwysiadu. Gwelir, wrth hyn, fod y rhai sydd yn arfer darllen a meddwl llawer o'r un farn a'ch ufudd was Ap Corwynt yn y pwnc hwn a rhoddwch chwi yr ansicrwydd o gael iawn dan yr act yn un pen i'r glorian, a'r sicrwydd dios i gael ymwared dan y Drysorfa Gynorthwyol yn y pen arall, ac nid wyf fi yn meddwl fod eisieu myfyrio llawer ar logic cyn penderfynu pa ben bwysa hyd y llawr. Ofn- wyf, fechgyn, fy mod wedi cadw gormod o amser y cyfarfod heno ond yr wyf wedi cynyg ateb Dysgybl "-nid yn rhifyddol, yn ol ei ofyniadau, ond yn sylweddol, yn ol yr hyn a geisia ynddynt. Oa gall efe droi yu ol yr hyn a ddywedais heno, gwnaed hyny mewn ysbryd fine (chwedl yr hen Bowell Caerdydd), a pheidied, er dim, myned i nwydau drwg, a byddaf finau yn foddlon i'w gyfarfod eto, er dadlu y pwnc yn deg. John Gawnen Jones.—Ond bachan, ti'n gwel'd, dyna lie byddwn ni, fel gwithwrs, yn llai na dynon—'n bod ni wedi bod yn moyn yr act ma er's blynydde, a Mr. Mucdonal yn gwitho droso ni, a dyna ni wedi chal hi yn troi round, wedi 'ny, ac yn gweyd nad i ni moyn dim o hi, ac yn cytuno'n sly bach sha'r mishtri i'w gosod hi'n llythyren farw Dyna whare pert, on te fe 1 Ble gallwn ni gal north na gwyneb i fyn'd at y Parlament byth, wedi 'ny, os mai dyna nawn ni ? Agrippa.—Ie, ond gwrando, frawd. Beth yw'r gwahaniaeth am yr act nac actau, os gelli di gael hyd i rywbeth a wna fwy drosot ti a'th deulu na dim o'r cyfryw 1 Yr wyf fi yn methu yn lan a chanfod pwys digonol yn ngwrth- resymau y rhai a anogant aros dan yr act, yn hytrach nag ymuno a'r Drysorfa. Os gelli di, neu Mr. D. Morgan, Mountain Ash, neu rywun arall o'r Valley Ash, fy argyhoeddi i fod byw mewn gobaith a dysgwyl wrth yr act yn well na'r drysorfa, mi a ddeuaf i'r un tir a thithau mewn wincad. Yr wyf fl yn credu fod Ap Corwynt wedi statoW case yn eithaf teg a chlir, ac nad oes gan neb ohonoch le i'w syflyd oddiar y tir y saif arno. Ond yn hytrach na gwneyd dim yn fyrbwyll, fe gyng- horwn i i'r gweithwyr fynu deall yr act yn dda, a mynent hefyd gopiaa o reolau y Gym- deithas Gynorthwyol, neu ddarbodol, beth y gelwch chwi hi, ac yna, galwch gyfarfodydd o bob pwll i gydymddyddan, cyd-ddadleu, a chyd-benderfynu, ac yna, ni fydd genych neb i'w feio ond chwychwi eich hunain. Y mae wedi myned yn hwyr, fechgyn. Nos da.

Y Fasnach Alcan.

EISTEDDFOD GADMRIOL MOUNTAIN…

BWRDD YSGOL YSTRADGYNLAIS.

Y GLOWYB.

ATEBIAD I "EISTEDDFODWR 0…

DUOHANGERDD, DYOHANGERDD,…

GAIR YN G YFFBEUlNOL.