Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

MADOG AB OWAIN ; GWYNEDD.

News
Cite
Share

MADOG AB OWAIN GWYNEDD. Ffugchviedl fuddugol Eisteddfod Gadeiriol Deheudir Cymru, Awst, 1880. PENOD XI. Y PENTREP. Cawsant lonydd trwy y nos hyd nes ydoedd yn dechreu dyddhau boreu tranoeth. Gallai fod tua haner awr wedi pedwar neu ychydig yn vchwaneg pan y gwaeddodd y gwyliwr, Bwystfil yn nesu Yr oedd- ent ar eu traed ar unwaitb, a'u harfau yn eu dwylaw. Yn mha Ie?" gwaeddodd y tywysog ar Ifor, yr hwn oedd yn gwylied y cylch. Dyma fe." Yn mha gyfeiriad ?" "Yn gywir ar eich cyfer. Edrychwch allan i'r gwastadedd." Yr wyf yn gweled. Arth eto, a thri o rai bvehain. A ydyw yn rhy bell i ni blanu coed ynddi ?" Nid wyf yn meddwl ei bod," ebe Caer- fallwch. "Gadewch i ni gynyg chwech pren gwenwynig iddi." Boddlon," ebe Ifor. Cyn pen haner mynyd, yr oedd chwech gaeth yn cael eu hanelu ati, ac wedi tynu yn gryf, cawsant eu gollwng. Neidiodd y ereadnr i fyny oddiwrth y ddaear, gan wneyd rhyw leisiau ofnadwy, ae yna rhuthrodd yn mlaen at ei gelynion fel yn- fyd, a chvda chyflymdra, tarawodd Dafydd hi nes ydoedd yn rholio ar hyd y ddaear, a phan yr oedd yn ymbarotoi i'w gofleidio rhwng ei phalfau, yr oedd pump bwyell yn cael eu claddu yn ei chnawd, a bu farw yn y fan. Y rhai byehain, pan welsant farw o'u mam, a wnaethant ryw leisiau truenus, ac a redasant ymaith yn gyflym. Wedi i'r cyfeillion ymborthi, cychwynasant. Yr oedd y mynydd yn hynod serth, a bu raid iddynt fvned i lawr am gryn bellder gyda'i ystlys cyn cael He i fmed i'r lan; ond caw- sant le o'r diwedd, a ffwrdd a hwy. Wedi eyrhaedd corvn y mynydd, eawsant olyg- feydd newyddion a mwy rhamantus na'r rhai blaenorol. Yr oedd y mynydd yn rhedeg i'r de-ddwyrain yn un llinell union- syth am fwy na mil o fill,tiroedd, ac yma a thraw gwelid tyrau mawreddog yn estyn eu corynau i fyny i'r cymylau Yr oedd tri o'r rhai hyn yn weledig i'n gwron a'i gyf- eillion yn sefyll rhyw filltir neu filltir a haner y naill oddiwrth y llall. Y tyrau hyn dynodd eu sylw gyntaf. Yr oeddynt yn methu dirnad pa beth oedd eu dyben. Wedi siarad ychydig yn eu cylch, pender- fynasant fyned i ben un ohonynt, gan gredu y buasai hyny yn rhoddi mantais iddynt wybod pa beth oedd eu dyben. Barnasant mai yr un canol o'r tri oedd y rhwyddaf i'w ddringo, ae felly cyfeiriasant eu camrau tuag ato. Wedi ei gyrhaedd, troisant eu hanifeiliaid i bori, a dechreuasant ddringo; ac wedi gwneyd hyny yn ddyfal am ddwy awr, daethant i'w goryn. Yr oedd ychydig o wastadedd ar ei ben yn lan, tua haner can' Hath ysgwar, ac yn nghanol y gwas- tadedd hwnw yr oedd twll tebyg i enau ffwrnais. Nis gallent weled gwaelod y twll hwn, ond credent eu bod yn canfod tan i lawr yn y pellderau obry. Buont am gryn amser yn syllu arno, ac yr oeddent yn methu dirnad pa beth oedd ei amcan. Nis gallent gredu mai gwaith dynion ydoedd, er fod yno rai pethau yn tebygu i waith llaw celfyddyd. Yr oedd y cervg ar y top yn ymddangos fel pe buasai llaw ddynol wedi eu gosod yno. Tra yn syllu ae yn rhyfeddu at yr olygfa hon, eyfododd Ifor ei ben i fyny, a gwelodd filoedd ar filoedd o greaduriaid yndyfodilawr dros y mynydd, a gwaeddodd, "Edrychwch! edryohwch I" Pa beth sydd yn bod ?" gofynai y tyw- ysog, gan edrych yn wyllt o'i gwmpas. Edrychwch i bwynt y gorllewin." Y nefoedd fawr pa beth ydynt ?" Y ceffylau!" gwaeddodd Dafydd. A ydyw yn bosibl eu hachub ?" gofyn- odd Caerfallwch. Nid wyf yn gwybod," ebe Goronwy; CI gadewch i ni gynyg." Ffwrdd a hwy beb siarad gair yn mhell- ach, ac ni fuont uwchlaw haner awr cyn bod ar y gwaelod. Neidiodd pob un ar ei geffyl, ond nit gwyddent yn eu byw am fan 0 ddiogelwch. I ba lo yr awn ?" gofynodd y tywysog, gan edrych yn ddifrifol ar ei bump cyfaill. WB i ddim, "n i ddim," oedd yr ateb a gaffai o bob cyfeiriad. "Gttdtwtk i ni fyaed i gysgod y twr mynydd yna, a dtrbya y cllnlyniadau" Boddlon," ebe Ifor, a ffwrdd ag ef, a gwnaeth y Iloill yr un modd; ond ni wnuthsnt hyny fynyd yn rhy gynar, oble- gyd trbyn eu bod yn nghyigod y mynydd, a chael amllr i drefnu eu harfau, yr oedd y ereadurisid yn eu hymyl. Yr oeddent yn ymestyn mewn llinell unionsyth dros ddwy filltir o hyd a thua haner willtir o led. Pan ddaethant at y mynydd, darfu iddynt ym- ratu yn ddwy fintai, un o bob tu iddo, ac wedi iddynt ei basio, aethant yn un fyddin iachefn. Ni ddarlu iddynt dalu un math o sylw i'r cyfeillion na'u banifeiliaid-dim un gradd. Tarawodd yr olygfa ar y rhai hyn ein cyfeillion a mwy o syndod na'r mynydd. Gwir nad oeddent yn ddim am- gen na haid o dda-gwartheg a theirw yn gymysgedig â'n gilydd—a'r rhai hyny yn teithio mor drefnas a byddin o filwyr. Yr oeddent oil yn rai lied fychain, ond yr oeddent yn ymddangos yn rai byehain cryf- ion iawn. Fel yr oeddent hwy yn barnu, gallai fod yno dros bedair mil o nifer, ac yr oedd lleisiau lied aflafar gan rai o'r teirw. Credai y cyfeillion fod dynion gwareiddied- ig yn byw yn y wlad yn rhywle, ac mai eiddo y cyfryw oedd y creaduriaid hyn, pan mewn gwirionedd, nid oeddent yn ddim amgen na luffaloes, neu dda gwylltion yr anialwch. Ond tra yr oeddynt hwy yn syllu ar eu holau, ac yn synu at eu nifer, dyma ryw swn otnadwy yn tori ar eu clust- iau. Neidiodd eu hanifeiliaid oddiwrth y ddaear, a buont. hwythau bron a syrthio i lewyg. Yr oeddynt yn credu fod y swn yn dyfod o'r ddaear, ac yr oedd hyny wedi eu brawychu yn fwy na dim. Pan oedd y da yn ddigon pell, a'r swm wedi peidio, dy- wedodd y tywysog, "Gadewehinigychwyn yn mhellach." I ba gyfeiriad yn awr ?" gofynodd Ifor. Yr wyf yn meddwl y gwnawn ddilyn i'r de-ddwyrain." Boddlon." Cyn pen ychydig fynydau, yr oeddynt yn eu cyfrwyau, ac ar eu taith ond nid oedd- ynt wedi myned uwchlaw can' llath cyn eu bod yn clywed swn arall, a swn arall dra- chefn. Troisant eu gwynebau yn ol, a chanfyddent y mynydd yn ysgwyd i'w wraidd, a chyn pen mynyd arall, gwelent golofnau o dan yn esgyn i fyny trwy y safn neu y twll hwnw a welsant yn nghoryn y mynydd. Yr oedd y tan yn cael ei daflu i fyny i'r awyr i'r uchder o ddau cant o lath eni, ac yr oedd yr olygfa yn fawreddus dros ben. Nid oedd yn awr ond math o farwor tanllyd yn cael ei fwrw allan ond yn fuan, dyma fFrydiau o lava neu hylif teneu yn dyfod i fyny, ac yn rhedeg yn afonydd i lawr dros lechwedd y mynydd i bwynt y deheu. Cyn pen deng mynyd, yr oedd wedi gorchuddio erwau lawer o'r gwastadedd, a chyn pen awr, yr oedd wedi rhedeg ac ym- ledu i'r pellder o bump neu chwech milltir. Safodd y cyfeillion i edrych arno hyd nes ydoedd wedi canol dydd, ac yoa cychwyn- asant eto. Ni chawsant olwg ar y da mwy- a h, a barnent eu bod wedi cadw i'r dwy- rain, tra yr oeddynt hwy yn teithio i'r de- ddwyrain. 0 gwmpas pedwar o'r gloeh, daethant i olwg dyffryn eang, trwy waelod yr hwn yr oedd afon fawreddog yn llifo. Yr oedd coed mawrion o bob tu iddi, ond nid oeddynt ond ychydig. Penderfynasant or- wedd dros y nos ar ei glan. Yr oedd yn tynu yn mlaen tua phump o'r gloch pan yr oeddynt yn tynu y cyfrwyau oddiar eu han- ifeiliaid, ac yn ymbarotei i orphwys. Yr oedd yno borfa rhagorol i'r ceffylau, a barn- ent hefyd fod yno le rhagorol iddynt hwythau. Yn fuan, defnyddiasant eu dur a'u cellystr (flints), a chyneuasant dan campus. Yr oeddynt yn awr mewn hwyl at ymborth, ae ni fuont yn hir cyn bod â'u hwaledau rhwng eu cluniau, ac yn bwyti Yr oedd cynwysiad y waledau yn lleihau y naill ddydd ar ol y llall, ac yr oedd yn rhaid adnewyddu y stoc cyn hir, neu fyw heb ddim. Wedi iddi ddechren tywyllu, estyn- asant eu hunain ar y glaswellt, a thaflasant eu cartheni drostynt, a chyn pen ychvdig fynydau yr oeddynt yn dawel yn mreichiau cwsg. Yr oedd yn noswaith hyfryd-yr awyr fel gwydr gloew, a'r lleuad yn ym- ddangos yn y dehau. Chwythai y gwynt yn araf ac esmwyth o bwynt y gorliewin, ac nid oedd dim braidd i'w glywed end swn gwahanol greaduriaid rheibus y tu arall i'r afon. Yr oeddynt wedi cyagu oil, ond nid oedd eu cwsg ond byr, a dichon nad oedd yn felus iawn ychwaith, pan ddaeth Dafydd i'w mysg, yr hwn oedd y gwyliwr ar y pryd, ae ysgydwodd y tywysog yn enbyd. Deffrodd y tywysog yn fuan, gan ofyn pa beth oedd yn bod. Deffroweh "Dywedwch, pa beth sydd yn bod ?" Y mae dau neu dri o gychod yn dyfod i lawr ar hyd yr afon, ac y mae rhywrai ynddynt." "Cychod yn dyfod i lawr ar hyd yr afon!" ebe ein gwron, gan gyfodi yn ei eis- tedd, a rhwbio ei lygaid. "Tn mha Ie, dywedwoh ?" Yn ddystaw. Canlynwch fi." Yna aethant yn mlaen at yr afon, a gor- weddasaat ar ei glan, gaa wrando yn astud. Cyn hir clywent rywrai yn siarad, ond ni ddealleat ua gair a ddywedent. Ya fuan, daeth y fintai i'r golwg. Yr oedd yno dri chwch bychan, ac yn yr un canol o'r tri yr oedd boneddiges ar ryw haner gorwedd, a rhyw ddau ellyll du yn rhwyfo y cwch. Yr oeddynt yn myned heibio yn araf a phwyll- og, ac felly yr oedd y ddau Gymro yn cael digon o amser i sylwi arnynt. Ychydig wedi iddynt baaio, tynaaant at y lan, a di- flanasant o'r golwg. "Pa beth oeddynt ?" gofynodd Dafydd. "Nid wyf yn gwybod." Ellyllon, gellwch benderfynu." Yr wyf o'r un farn; ond i ba le yr aethant ?" Aethant i mewn o dan geulan yr afon nid oedd ganddynt un lie arall i fyned." Gadewch i ni fyned i orphwys, a boreu yfory mynwn weled yn mhellach yn eu cylch." Aeth y tywysog i orwedd, a Dafydd i wylied, a chawsant lonyddweh hyd y boreu. Boreu tranoeth, wedi iddynt ymborthi a dyfrhau yr anifeiliaid, aethant i edrych an- sawdd y cylch, ac yn y pellder o bedwar neu bump cant o latheni i bwynt y dwy- rain o'r man yr oeddynt hwy yn gwersyllu, yr oedd pentref bychan yn gorwedd yn agos ar 1*» yr afon. Nid oedd ond pentwr o gabanau-rhai yn fychiin, a rhai yn fawr- ion. Nid oedd un creadur byw yn weledig, ond yr oedd mwg yn esgyn i fyny o rai o'r cabanau, a dyna yr unig arwydd o fywyd oHdd yn y lie. N esbaodd y cyfeillion yn mlaen o gam i gam hyd nes oeddynt yn ymyl y dref. Yr oeddynt yn sefyll o flaen y palas breninol, neu yr adeilad gwychaf oedd yn y lie, pan yn sydyn, gwnaeth hen ddvnes benllwyd ei hymddangosiad. Yr oedd ei chroen yn felyngoch, a'i gwallt yn daenedig dros ei hysgwyddau. Nid oedd un math o wisg am dani, ond rhyw ddarn o groen arth am ei chanol, yr hwn a estynai i lawr ychydig yn ol ac yn mlaen. Fan gwelodd y Cymry, gwnaeth ryw leisiau anynad, a chyn pen mynyd yr oedd yno ugeiniau, os nad canoedd, o fodau o'i bath yn y golwg, a phob un yn ffoi am ei einioes. (Tw barhau.)

Cyngherdd Fawreddog Mr. Silas…

Advertising

Adolygiad Cerddorol.

[No title]

Eisteddfod Treherbert, Rhagfyr…

Advertising