Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

News
Cite
Share

MASNACH YR HAIARN A'R GLO. MAE yr wythnos ddiweddaf wedi bod yn wyth- nos sydd wedi Uesteirio a hualu cryn lawer ar ein gweithfeydd, a thrwy hyny wedi peri cryn lawer o leihad yn ein hallforiadtu. Er hyny, y mae masnach yn adfywio, a'r ceisiadau am lo, haiarn, a dur vn dyfod i fewn, fel y mae y cyflenwadau i ateb y ceisiadau yn lleibau, a thrwy hyny y mae gobsith am godiad prisoedd y nwyddau, ac yn canlyn, bid sicr, godiad cyflogau. Wrth daflu golwg dros wahanol ddosranau masnachol ein bvd bach ni, yr ydym yn canfod yn amlwg fod masnach yn adfywio. Yn FFRAINC A BELGIUM, mae yr archebion am haiarn o wahanol fathau yn parhau i fyned ar gynydd. Y mae bywiog- rwydd rhvfeddol yn bodoli yn ngwahanol weithfeydd haiarn Haute Marne, er nad yw y prisoedd wedi cyfnewid llawer. Mae archeb- ion yn dyfod yn mlaen i wneyd eu hymddang- osiad am yr haner olaf o'r flwyddyn 1881. Mae crvn lawer o ymdrafodaeth wedi cymeryd lie am Rif 3 o haiarn bwrw, am 3p. 4s. y dunell. Y pris cyffredinol, yn Ffrainc, am merchants' iron yw 7p. 16s. y dunell. Mae masnach yr haiarn yn Belgium hefyd yn ym- adnewyddu, er nad yw y prisoedd yn myned nemawr tuag i fyny, ond y mae y farchnad yn sefydlog. Platiau yn cael eu prisio yn 7p. 4s. y dunell. Prisoedd rheiliau dur yn amrywio o 6p. 10s. i 6p. 15s. y dunell, codiad ar yr hyn oeddynt yn ddiweddar o tua 6s. y dunell. Mae masnach y glo hefyd yn y ddwy wlad yn ym- fywiogi a chryfhau. Mae yr adroddiadau sydd wedi ein cyrhaedd, ddiwedd yr wythnos, o EFROG NEWYDD, yn dangos fod ceisiadau taerion yno am haiarn bwrw o'n gwlad ni. Masnach y dur, yn enwedig rheiliau dur, yn parbau yn fywiog. Haiarn bwrw Eglington a Gartsherrie, sef haiarn bwrw Ysgotaidd, yn gwerthu am o 21 £ i 22f a 23 doler y dunell. Y prisoedd presenol am reiliau dur yn Efrog Newydd yw o 57-L i 9 62f doler y dunell, ac am reiliau haiarn, o 46 2 i 49 doler y dunell. Y mae gwerthiad newydd gael ei wneyd yn Philadelphia o 800 o dunelli o: reiliau baiarn Seisnig. Y mae 51,000 o dunelli o reiliau, a 46,000 8 dunelii o'r cyfryw i fod yn ddur, wedi cael eu prynu at y Northern Pacific Railroad, ac i gael eu trosglwyddo drosodd yn ystod y flwyddyn hon. Yn GERMANI hefyd mae yr un cyffelyb adfywiad yn masnach yr haiarn a'r glo, a'r prisoedd yn gwella. Wrth sylwi ar fasnach yr haiarn a'r glo yn y wlad hon, nid oes i'w glywed a'i weled ond swn adfywiad. Yn NGHAERDYDD, yr wytbnos ddiweddaf, er ffyrnigrwydd yrhew a'r ystorm ofnadwy o eira a igawsom, allfor- iwyd erbyn nos Sadwrn 103,172 o dunelii o lo, 1,750 o dunelii o batentfuel, 1,718 o dunelli o baiarn, a 767 o dunelli o olosglo. Yma y mae yn amlwg hefyd fod cyflogau llongau yn dyfod yn well. Mordroswyd i mewn 11,691 o dunelli o ftfn haiarn o'r Ysbaen, a 658 o dunelli o levedd ereill. Mae y wasgfa am ddeliveries yn masnach y glo-ager yn parhau yma. Trwy yr holl adran, y mae glofeydd glo-ager a gweithfeydd glo at wasanaeth teuluol yn gweithio yn fywiog a chyson. Trwy holl ranau gweithfaol SIR FYNWT, er i'r ystorm, yr wythnos ddiweddaf, osod y damper ar y gweithfeydd am ddau neu dri diwrnod, eto ymfywiogi y mae masnach. Tor- aeth o atchebion am lo, haiarn, a dur ar lyfrau y meistri, a phrofion yo dyfod i mewn yn barhaus y bydd y flwyddyn hon yn un o lwyddiant masnachol. GOHEBYDD MASKACHOL. Caerdydd, Ion. 25ain, 1881.

Tan Dinystriol yn Mhontypridd.

YR YSTORM.

Tanchwa Penygraig.

Llith o Fro Morganwg.

[No title]

AT Y BEIRDD.

FY HWYROL WEDDI.

LLINELLAU

Advertising