Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

COLEG Y GWEITHIWR.

News
Cite
Share

COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. Nos Wener, Ionawr 14eg. W. Hanfodol Lewis.-Dyma hi wedi dod ar ein traws ni eto yn rew caled, ac 11 awel oer o fol ia" yn mynych chwythu ar ein grudd- iau os dygwydd i ni fyned allan i'r heol. Ond er oered ydyw, y mae rhai o hiliogaeth clas- tiriwns y fall yn gallu, gyru squibs enllib ar h)d y wlad. Un peth garwn i weled, sef rhew mtr ofnadwy ddiadlam yn dod nes rhewi plait athrod ac enllib yn un talp wrth eu gil-. ydd,fel na fedront mwyach golynu eu cyd-t ffordcolion tawal a diymryson. Y mae rhai dynioi megys oe eu oenadaetli i'r byd yw ceisio svrnu ereill. Eu bwyd a'u diod yw troi eu cwrnitwietau &e anelu eu bwa pibrwyn at rai ddygwyddo :od' yn dalach na hwy yn nghoedwig dynolueth. Mae rhyw fath o adar yn hoff iawn o big) clwyfau anifail, ac y mae hen adar dynol hefyd, ar graoh a gwendidau eu cyd-ddynion y raaent hwy yn brecwasta, yn ciniawa, ac yn svyperu. Ap Gor»mjnt.—Oes, mae delight neillduol gan ryw fodach i gjfarth ar eu gwell. Wrth feddwl am danynt, yr wyf yn cofio am ddy- wediad o eiddo yr eiwog Williams o Gastell- newydd mewn cyftiriad at rai o'r fath,- "Swydd corgi yw cj^arth"; ac y mae corgwn dynol wrth eu swyddyn cyfarth ond gallant fod yn sicr na ddilynar brawd hwn hwy i ffos- ydd drewedigeu brwmstaneiddiwch cyfartbol. Y mae ganddo reitiacl. gwaith o lawer. Mewn cyfeiriad at y cyfryw, derbyniais lythyr yr wythnos hon oddiwrth un o enwogion y gen- edl yn dweyd y geiriau hyn :—" What do Welsh editors mean by inserting these black- guardish and cowardly insinuations OIl public men by anonymous scribblers ? Condemn the work by all means.' Ond waeth i chwi gondemnio na dim arall, fe fyn rhywrai luchio baw at eu gwell tra parhao anadl ynddynt. Yr ydym oil yn gwybod erbyn heddyw na newidia yr Ethiopiaid hyn eu crwyn, ac felly rhaid gadael iddynt fel creaduriaid dioruch- wyliaeth a diobaith i bob dylanwad diwyg- iadol. Tomos Sibboleth .Jones.-Da. chwi, gadewch iddynt. "Cenfigen a ladd ei pherchenog," ac fe ladd yr hen feiden lasliw hono y rhai hyn yn farw keg, fel y lloriwyd tad cenfigen ar y cyntaf i lawr oddiar uchelfeydd y Wyn- fa. "Dilynwch heddwch â pha,wb," a gad- dewch i gyfarthwyr y genedl gyfarth eu hun- ain allan o wynt. Fe wnant beth cebyst fwy o niwed iddynt eu hunain yn y pendraw nag a wnant i neb arall. Ond beth am y cynyg- iad a roddodd y Parch. Taliesin Jones i'r glowyr yn ddiweddar ? Yr oedd efe yn barod i roddi prawf iddynt ar gynllun i ladd eu Ueiddiad a'u gelyn mawr, y llosgnwy tan- ddaearol; ond pan hysbyswyd hyny i'r meis- tri, dyna ddywedodd un ohonynt, sef Mr. W. T. Lewis, y gwnai ei introducio i ryw chemid profiadol. Paham na roddid chwareu teg i Mr. Jones i wneyd prawf ar ei scheme yn an- nibynol ar bob chemist? Y mae efe yn ddigon o fferyllydd ei hun, ac yn un aydd wedi gwneyd y gangen hono yn bwnc ei fyfyrdod a'i ymbrawfiadau am flynyddau lawer, ac yr ydwyf fi yn credu y dylai meistri a gweith- wyr neidio ar flaenion eu traed i dderbyn ei gynyg, a rhoddi cyfle iddo wneyd prawf arno. T very wythnos yr oedd efe yn ymddangos o flaen y glowyr yn Nghaerdydd, dyma dan- chwa fywyd-ddinystriol Penygraig yn cymer- yd Ue, nes ysgubo ymaith 101 o fywydau. Yr ydwyf fi ya dysgwyl clywed bob wythnos fod rhyw lo-feistr neu manager wedi anfon gwa- hoddiad i Mr. Jones i wneyd ymbrawf ar ei gynlluu i ddifa ymaith y nwy ag y mae efe Hior ffyddiog y llwydda i wneyd. Evan Sparbil Huws.—Y mae yna lot o fech- gyn call sha Lloeger na-eto ryw haner can' mil n e drician mil o goliers ar streic. Busnes bert yw'r streic yna-yn enwedig ar y rhew a'r eira ma Ma hi'n llanw cylla'r gwragedd a'r plant yn noble iawn. Digon o fara a chaws a chig a thatws, ymenyn a bwdran yn y ty, a digon o arians yn y boc. Hynod mor gall y mae dynon wedi dod Wei, dyweder a fyner am deilyngdod neu annheilyngdod y Sliding Scale, y mae wedi llwyddo yn lew rhyfeddol i ladd streics yn My nwy a Deheudir Cymru, ac yr ydwyf yn gobeithio y bydd arddeliad a llwyddiant ar ei gwaith yn y dyfodol. Shiprisv-yson.—Y mae rhyw Glustfeinydd yn Y GWLADGARWR yna yn clywed rhw beth- au disprad. Clywed am Llyfnwy, a chlywed am hwn a'r llall, nes y mae ei glywedigaethau yn dra lluosog. Bydded hysbys iddo y clywaf fi ar fy nghalon i roi pilsen iddo cyn hir, os na cheidw rai pethau a glyw iddo ei hun yn y dyfodol. Yn enw pledreni moesol, pa raid i ddyn fyn'd i sgothi ar g'oedd gwlad pob peth a glyw 1 Y mae path fel hyny mor ddall a stwffwl clwyd. Beth pe dywedswn i yr hyn wy'n glwed yn y pentre lie rwy'n byw Fe fydde'r He yn rhacs mwnws cyn pen pythef- nos. Cymered Mr. Clustfeinydd yr awgrym, rhag i rai o wyr y Coleg yma roi eitha gosfa iddo. If an Gregyn Jones.Da chwi, deowch i ni gael troi ein sylw at betbau buddiol ac angen- rheidiol or addysg a dyddordeb. Dyna bwnc mawr yr Iwerddon—yr ynys afiach hono, sydd yn ddrewdod yn hanes ein gwlad. Nid oes fawr argoel fod y Gwyddel yn dod i'w iawn bwyll. Hwn a'i gyngor a'r llall a'i ad- vice i Gladstone pa fodd i ddelio a'r creadur- iaid anystywallt sydd yn yr Ynys Werdd ond byddai hawddach siarad a hwy pe buasent a'r cyfrifoldeb ar eu hysgwyddau eu hunain i ddelio a hwynt. Rhwng pob peth, y mae gan Gladstone a'i gydswyddogion lon'd breichia\x o waith. Dyna ryfel yn nehenbavth Affrica, y Boeriaid Ellmynig yn codi yn erbyn ein hawdurdod yno. Rhyw adran o drigolion India wedi hyny ar ymgodi mewn gwrthryfel, a theulu grasol yr Ynys Werdd yn ymgecru, fel rhwng pob peth gyda'u gilydd, y mae yn ddifrifo} o sobr ar (Gladstone pa beth i'w wneyd gyntaf, a pha fodd i'w wneyd. Diau fod yr hen veteran, er hyny, yn ddigon galluog i ddelio A'r holl bethau hyn, ac y mae genyf fi berfMth ffydd y gwna efe ei ran yn llwyddianus i lywio llestr y Liywodraeth heibio i'r sugndraethau peryglus y mae yn- ddynt yn bresenol. Os ydyw yn anialwch gwag, erchyll, ac yn chaos o annhrefn yn yr Iwerddon ar hyn o bryd, y mae lle cryf i obeithio y dyga'r cawr o Hawarden bethau i drefn yno cyn canol haf. Cyferthir arno yntau gan y Tories fel bytheiriaid, ond aed efe yn mlaen yn ddisylw ohonynt i gyflawni ei ddyledswyddau. Pothelfab.-Rhwng pob peth at 'u giddyl, y mae argoel da fod y flwyddyn hon yn debyg o droi mas yn well na phac o'r rhai dwaetha ma. Son fod glo a haiarn ar eu codiad, rheil- ffyrdd newyddion yn cael eu marcio allan, a phyllau glo newyddion yn cael eu hagor, fel y mae gobaith y daw'r byd yn wynach ar y gweithiwr. Llawer o son fu genym os tair blynedd yn y Coleg yma am yr amser gwell. Bellach, dyma bob arwyddion o'i ddyfodiad yn sylweddol felly, gwnawn yn fawr ohono i enill eymaint ag a allom, ac i wario mor lleied ag a allom ar yr hyn nid yw fara.

Yr Hyn a Glywais.

Adolygiad Llenyddol.

Advertising

PHONOGRAPHY V. ALETHOGBAHY.

DYGHAN versus TUGHANGERDD.

Y CYNIRO GWYLLT A'R GWYDDELOD.

Y GYMDEITHAS DDARBODOL.