Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

MADOG AB OWAIN GWYNEDD.

News
Cite
Share

MADOG AB OWAIN GWYNEDD. Ffugchwedl fuddugol Eisteddfod Gadeiriol Deheudir Cymru, Awst, 1880. PENOD IX. AR Y MYNYDDOEDD. Yr oedd y foneddiges yn fwy na haner marw pan ddygwyd hi i dir, ac nid oedd y lleill fawr gwell; ond trwy driniaeth a gofal, yr ceddynt yn holliach yn mhen tri diwrnod. Wedi i'n gwron ddyfod yn alluog i gerdded, arweimwyd ef i fyny er cael golwg ar y fferm, neu y lie yr oedd yr anifeiliaid yn pori, a chafodd un o'r golyg- feydd rhyfeddaf a gafodd yn ei fywyd. Rhyw gant a haner o latheni i bwynt y gorllewin oddiwrth y gwersyll, yr oedd gwastadedd eang yn ymestyn yn mlaen i'r deheu a'r gorllewin, yn mhellach nas gall- asai llygad dyn gan fod. Nid oedd llwyn na phreu yn weledig ar hyd-ddo yn un man, ond yr oedd yn un taenfa drwchus o laswellt, yn mesur o lathen i bedair troed- fedd o daldra, ac yn hwnw yr oedd y «readuriaid yn pori. I bwynt y dwyrain, yr oedd coedwig fawreddog, yn meaur wyth cant o filltiroedd o hyd, wrth ddau cant o led. Yr oedd mor wastad a btvrdd, ac yn nghwr gorllewinol y goedwig yma yr oedd -in harwr a'i gyfeillion yn Heehu.* Er ei tod kr y pryd yn tylau yn mlaen tua cbaiiol Hydref, yr oedd yr hin yn hvBod uymerus. "S r oeddynt yn rhan ogled^oi Mexico. Wedi i'n gw«rO& syllu ar y wlad yn mbob cvfeiriai, dvwedodd wrth Caerfall- wch, Y mae golwg brydferth arni." Ardderchog. Yr wyf yn eyfrif ei bod yn ail i baradwys." Y mae yn dda, ac yn dda iawn, ond y pwnc ydyw, a ydym yn penderfynu gwneyd ein cartref yma, ynte symud i ryw fan arall ?" A oes rhyw fan gwell na hwn i'w gael, wys ?" it Wel, ni fyddwn yn gwybod heb edrych. Nid ydym eto, fel y gallwn fedd- wl, wedi cyrhaeddyd i ymyl y wlad. Y mae eisieu cael golwg ar ei rhanau mewnol." "Eithaf gwir. Byddai yn well i chwi osod y pwne o flaen y cyfeillion." "Purion. Gwnaf hyny cyn eysgu nos- waith arall." Wedi iddynt oil ymgasglu o gwmpas y tanau y noson hono, galwodd Madog y C) pump cyfaill o'r neilldu, a gosedodd y materion chwilio a'r symud ger eu bronau, ac ar ol iddynt gael amser i droi y pwnc am ychydig yn eu meddyliau, dywedodd Ifor, Yr wyf yn meddwl ei bod yn iawn i ni gael golwg fanylach ar y wlad cyn aefydlu mewn un rhats ohoni." Yr wyf fi o'r un farn," ebe Goronwy. A finau hefyd," ebe Caerfallwch. « Wel," dywedai Madog, gan syllu fel yn fyfyrgar ar y ddaear, "os ydych oil yn cydolygu mai gwell ydyw chwilio ychydig yn mhellach i ansawdd y wlad, yr wyf yn meddwl y byddai yn well i ni gychwyn boreu yfory, a chwilio i'r deheu yn gyntaf." "Nid ydych ddim gwell o chwilio i'r gogledd. Yr ydym ni wedi gwneyd hyny yn barod, pan yr oeddem yn chwilio am danoch chwi," ebe Ifor. Os oes gwlad well i'w chael, yn y deheu y mae yn aros." it V, el, gall fod yn y gorllewin lawn cystal," ebe Dafydd gan chwerthin. Eithaf gwir," oedd atebiad y tywysog; ond a ydym yn cychwyn boreu yfory ? Gadewch i ni fod yn unol yn y mater. Ni charwn wneyd dim a fyddai yn groes i feddwl un ohonoch." Ydym," ebe Goronwy. Cychwyn gyda thoriad gwawr," ac ar hyny cytun- wyd. Cychwynodd pob un i'r gwersyll, ac yn mhen ychydig fynydau yr oeddynt wedi ymestyn ar y glaswellt, gyda rhyw garthen drwchus drostynt. Boreu dranoeth, neidiodd pob un ar ei wadnau, ac wedi adnewyddu eu natur, gafaelodd pob un yn ei ffrwyn a'i gyfrwy, ac allan i'r prairie, lie yr oedd yr anifeil- iaid yn pori, ac yn fuan yr oeddynt ar eu taith, gan wynebu tua'r deheu. Erbyn canol dydd, yr oeddynt wedi dyfod i olwg mynydd serth, yn sefyll yn gywir o'u blaenau, a darfu iddynt ar unwaith benderfynu ei groesi. Wedi iddynt ddvfod at ei droed, gwelent ei fod yn lied serth, ond nid yn rhy serth i'w banifeiliaid hwv i'w ddringo. Yr oedd cystal chwech ceffyl ganddynt a farchogwyd erioed. Cyn dechreu dringo, fodd bynag, penderfymasant gymerrd awr o orphwys, ac felly tynasant y cyfrwyau oddiar y ceffylau, a thaflasant eu hunain i gysgod craig fechan oedd yn dygw dd bod yn yr ymyL Tra yn eistedd yn v fan hono, a phob un a'i walet ar ei glun, ac yn bwyta, gofynodd Ifor yn sydyn, A ydych yn canfod y twmpath du acw sydd o iian y graig fan draw ?" Yn mha le ?" gofynodd ein harwr. Yn union ar gyfer fy mys." Gwelaf—pa beth ydyw ?" Yr oeddynt oil wedi ei weled erbyn hyn, ond nid oedd yr un ohonynt yn alluog i ddwe) d pa beth ) doedd. Y mae yn fyw," ychwanegai Ifor, "ac y mae yn symud yn barhaus." "Rhaid i mi gyfaddef," dywedai ein gwron, "nas gwn pa beth ydyw, ond y mae rhyfeddodau gwlad newydd annhrig- ianol fel hon yn ddibendraw. Cawn olwg ar lawer o bethau hynod cyn y bydd i ni ddychwelyd." Os gallaf fi fyned uwch ei ben," ebe Ifor, mynaf weled pa beth ydyw." Gorphenwyd ymborthi, ae- wedi gorwedd ychydig yn mhellacb, taflwyd y cyfrwyau ar y ceffylau, a ffwrdd a nhw. Wedi dringo am fwy nag awr, nes ydoedd yr anifeiliaid yn berwi o chwys, cyrhaedd w yd copa y mynydd. Neidiodd Ifor oddiar ei farcb, ac aeth yn mlaen i ymyl y graig er cael golwg ar y gwrthddrych hynod, ond er ei syndod, pa beth oedd yno ond rhyw bentwr anferth o nadredd, wedi ymgylymu yn eu gilydd. Yr oedd rhai ohonynt yn fawrion ofnadwy, yn mesur amryw latheni o hyd, tra yr ydoodd ereill yn lied fychain. Yr oeddynt yn ymddangos megys bryn symudol. Daeth y lleill hefyd yn mlaen i gael golwg arnynt, a thra yr oeddynt hwy yn syllu ac yn rhyfeddu, yr oedd Ifor yn tynu glaswellt, ac wedi iddo gael cesailaid bychan, tynodd gostrel o'i logell, athywallt- odd ychydig o'i chynwysiad ar hyd-ddo, ac yna taflodd y cyfan yn un pentwr i lawr dros ymyl y graig. Disgynodd ar y nadredd, a chyn pen mynyd, yr oeddynt wedi peidio gwaa trwy en gilydd fel cynt -yr oeddynt wedi sefyll yn hollol. Yn awr," ebe Ifor, edrychwch arnynt, a chewch eu gweled yn trengu bob un.. Ni fydd un ohonynt byw uwchlaw har er awr." "Pa beth oedd hwna a dafasoch ar eu traws?" gofynodd y tywysog Y peth a elwir pottar arno," oedd yr ateb. Pa effaith v mde yn ei wneyd arnynt. Gwelaf eu bod wedi llonyddu." Atal yr awyr oddiwrthynt y mae. Nid oes gronyn o awyr yn dyfod atynt yn awr." Syndod Pa fodd na buaswn wedi clvwed son am dano—o ba beth y mae yn cael ei wneyd ?" 0 lysiau. Yr wyf yn gwybod am dano, ac yn gwybod y ffordd i'w wneyd hefyd, oddiar pan y bum yn Strath Clyde. Yno y daethum i wybod gyntaf am dano, ac oddiar hyny hyd yn awr yr wyf yn cadw eostrelaid yn fy llogell. Nid wyf un amser hebddo. Clywais chwi, neithiwr, yn gorchymyn i'r dynion i adeiladu saith o gabanau coed erbyn y buasech chwi yn dvchwelyd, a phob un ohonynt i fod yn ddeuddeg troedfedd yn y clir; ond daliaf a chwi wydriad o fethyglyn y tynaf yr awyr allan o bob un ohonynt, fel na fydd gwi- bedyn fyw ynddynt!" Dichon y gwnewch mewn lie cauedig felly, ond yr wyf yn synu ei fod yn effeithio mor ofnadwy mewn lie agored fel hwn." Nid yw cyfyngdra yn gwneyd un gwa- haniaeth. Cyfodi yr awyr i'r lan y mae, a'i atal i ddyfod yn agos ato. Y mae yr awyr yn teithio tuag wvth Hath uwchlaw y creaduriaid hyna, ac nid oes un gronyn yn dyfod atynt hwys ac felly y maent yn mogi." 1, Felly, yn wir. Pan y byddom yn dychwelyd, os bydd i ni ddychwelyd y ffordd yma, galwn heibio iddynt, er gweled pa olwg a fydd arnynt. Yn awr, gadewch i ni gychwyn." Cyn pen ychydig fynydau, yr oerldynt yn eu cyfrwyau, ac ar eu taith. Yr oeddynt eto ar wastadedd eang, ac nis gallent weled pendraw iddo. Teithiasant yn galed drwy y prydnawn, ac erbyn ei bod yn dechreu tywyllu, yr oeddynt wedi drfod i olwg mynydd arall, yr hwn a ymddangosai yn hynod serth. Darfu iddynt benderfynu, os gallent gael dwfr i'w hanifeiliaid, i orphwys yn nghysgod hwn trwy y nos. Aethant yn mlaen ato, ond nid oedd dim dwfr yn weledig. Fodd bynag, wedi iddynt deithio i lawr gyda ei ystlys am ryw haner milltir, daethant at ffrwd ragorol, yn dyfod allan o'r mynydd, ac yn ymdroelli i lawr dros y gwastadedd i rywle. Tynasant eu cyfrwyau ymaith, a throisant eu hani- feiliaid i bori. Wedi iddynt adfywio ychydig ar eu natur, taflasant eu hunain ar y glaswellt, a thaenasant eu carthleni dros- tynt, a chyn pen ychydig fynydau yr oedd- ynt yn dawel yn mreichiau cwsg. Nis gwyddent yn iawn pa faint o amser oedd- ynt wedi gysgu — credent eu bod wedi cysgu dwy neu dair awr, pan, yn sydyn, elywent eu ceffylau yn carlamu tuag atynt. Neidiasant ar eu traed, a chyda cyflymder y goleuni yr oedd llaw pob un ar goes ei fwyell, ac yn barod i waith. Yr oedd yr anifeiliaid wedi casglu o'u cwmpas, ac yn ffroeni ac yn syllu allan tua'r gwastadedd,, ac yr oeddynt fel pe buasent yn siarad a hwynt. Nid oedd dim yn weledig, ond er hyny yr oeddynt yn gwybod fod y ceffylau wedi canfod rhywbeth. Yr oedd Jbleidd- iaid yr Hen Wlad wedi eu dysgu i ffoi man y gwelsent greadur ysglvfaethus yn nesa atynt. Yr oedd y chwech cyfaill yn estyn eu golygon yn mlaen trwy y tywyllwch, ac yn ymdrechu canfod rhywbeth, ond i ddim pwrpas. Nid oedd dim yn weledig, ond yr oedd y ceffylau yn canfod rhywbeth yn barhaus. Yn fuan, daeth eeffyl y tyw- ysog yn mlaen ato ar ryw haner cylch, gan osod ei ffroen ar ei ysgwydd, a thra yr ydoedd yn y eyflwr hwnw, dyma arth yn neidio ar ei gefn, ond cyn iddi gael amser i gladdu ei danedd yn ei gnawd, yr oedd ei phen yn ddau, a syrthiodd yn swp i'r j llawr. Wedi hyny dychwelodd y ceffylau i bori, ac aeth y cyfeillion i orphwys i gyd ond un. Yr oedd yn rhaid cadw gwyliad- wraeth bellach, a chytunasant i wneyd hyny bob yn ail ar gylch. (Tw barhau).

Eisteddfod y Tabernacl, tfreforis,…

Eisteddfod Treherbert, Rhagfyr…

Eisteddfod y Forth, Cwm Rhondda,…

[No title]