Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
MASNACH YR HAIARN A'R GLO.
MASNACH YR HAIARN A'R GLO. GAN nad oes nemawr o gyfnewidiad, os oes dim, wedi cvmervd lie yn masnach yr haiarn a'r glo drwy holl ranau gweithfaol Lloegr, yr Alban, Belgium, Ffrainc, Germany, a'r Unol Dalaethau, ni fydd ond oferedd ynom i ofyn dim o'ch gofod i wneyd adroddiadau am y fas- nach yn y cyfryw wledvdd. Yr wythnos hon, gwnawn nodi yn fyr helyntion masnachol y rhan Gymreig o'n gwlad. Yn adran MERTHYR TYDFIL, y mae masnach y glo yn fywiog, a dysgwyliad cryf y bydd y fath godiad yn y prisoedd y mis hwn a'r nesaf, fel y bydd hyny yn rhoddi lie i godiad yn y cyflogau, yn ol trefr.iadau y Slid- ing Scale. Mae masnach yr haiarn a'r dur befyd yn fywiog, a pbawb yn gweithio en ham- ser yn Daw: Mae Cwmni Dowlas, yn ychwanegol at archebion pwyslg o'r Use! Dal- aetbau, wedi gosod archeb ar eu llrfrau am 12,000 o dunelli o reiliau i'r Greet Western. Mae cynydd mawr yn y glo a'r haiarn a aofon- lr ymaith o'r Gyfarthfa, fel y mae meistr a gweithiwr yma yn cydynivoi gyda llawenydd. Tra nad oes dim yn newvdd yn RHYMNI, neu yn hyncd bwysig i'w adrodd yn raherth- -,e,l ynas a gwahanol gargenau masnachol yr ardal, yr unig feddwl a goJeddir yw, fod amser llwyddianus yn ein haros eleni. Mae yn amlwg fod gwelliant graddol yma yr> myspach y glo a'r haiarn, a tbrwy hyny y gweithwyr yn gweithio yn gvson. Yn ol fel y oeallwn, y mae v cwinni vedi derbyn archebion mawrion, ac y mae hyny wedi peri cynydd yn ngwceuth- uriad rhemau dur Bessemer. Yn rhanbarthau CASNEWYDD-AR-WYSG, y mae masnach yn dyfod ya fwy blodeuog o ddydd i ddydd, yn enwedig masnach yr haiarn a'r dur. Mae drwy yr holl ranbarth ymddir- iedaeth drylwyr y ceir gwell prisoedd yn fuan. Sylwasom mewn adroddiad blaenorol fod rhan- ddaliadau (shares) yn y gweithfeydd haiarn a glo yn codi yn eu pris. Pris rhanddaliadau yn Ebbw Vale i>w 12±, Rhymni, 32, a Newport- Abercarn, 7h Nid ydym mewn sefyllfa ddwevd fod yr un cvfcewidiad yu masnach yr alcan drwy holl weitbfeydd sir Fynwy. Mae yma agerlong wedi ei phenodi i redeg yn ol a blaen oddiyma i Efrog Newydd. Yn adran ARERTAWE, Did yw masnach yn fywiog yn ei gwahanol ddcsbartbiadau, er ces gellir dweyd ychwaith ei bod vn llipa; er hyny, y mae y rhai mwvaf llyeadgrafif yn dweyd ei bod yn meddu setydl- ogrwvdd a chvnvdd ag sydd yn obeithiol a cbalonogol fod gwell gwanwyn a haf on blaen n8* a welwyd er's blynyddau bellach. Mae wmbredd o fio haiarn a cbopr yn dyfod i mewn i'r p rtfcladd. Nid oes arcbebion mawrion wedi cael eu derbyn yn ddiweddar yn y gweith- fa. dd dur yn G'andwr na Phontarddulais, ond y mae cass gwcddol vn parhau am wahanol nwvddau c ddur, a'r prisoedd diweddar yn cael eu taiu vn llawn. Nid yw y bywicgrwydd dvsgwyliedig hyd vn hyn wedi ymaflyd yn y sielthfeydd haiarn, er fod gwell bywyd yn bodoli. Mae v gweitbfeydd alcan, yu neiilduol y rhei mwyaf pwysig yn yr adran, yn rhoddi, feallai, gwaith i fwy o weithwyr ond, er hyny, y maent mewn sefyllfa anfoddhaol. Nid oes cais cvffredinol yn ddiweddar ond am ryw favoured brands, a thrwy hyny mae y meistn wedi rhoddi rhybuddion am ostyogiad cyflog- au, yr hyn sydd i gymeryd lie y dydd olaf o r mis hwn. Nid yw y gweithwyr yn foddlawn » byny, er eu bod yn gwybod fod alcanwyr Llan- elli yn gweithio am o 10 i 12 y cant yn llai na hwynt. Allforiwyd oddiyma yr wythnos ddi weddaf 14,710 o dunelli o lo, a 6,740 o dunelli o latent fuel. Yn adran CAERDYDD, allforiwyd yn ystod yr wvthnos oedd yn di- weddu dydd Sadwrn 99,771 o dunelii o lo. 3 023 o dunelli o haiarn, 2 872 o dunelli o ba- tent fuel, a 108 o dunelli o olosglo. Mae y gweltbfe, cid gloobob math yn gweitbio yn fvwiog drwy yr holl adran, er hyny mae cryn anhawader i gael y cyflenwadau a gei81r ohon- ynt. Mae cais rbvfeddol o fawr am agerlo oddiwrth gwsmeriaid tramorol, a r prisoedd yn ddieithriad yn codi. Mae y rhew mawr sydd wedi dyfod ar ein gwarthaf yn peri fod mwy o alw am lo tai. Mae prisoedd y golosglo lawer yn fwy sefydlog, ac yn codi, fel y deallasom yn Llwvnv pia a lleoedd ereill yn Nghwm Rhondda dydd Sadwrn diweddaf. GOHEBYDD MASNACHOL. Caerdydd, Ion. 17 1881.
Advertising
A Certain Cure for the Nervous and Debilitated. GRATIS, A MEDICAL WORK, SHOWING sufferers how they may be cured and recover health and vitality without the aid of Quacks, with recipes for purifying the blood and removing skin affeclions also chapters on Happy Marriages; When and Whom to Marry; The temperaments; slammerin": Vital Force; How Wasted and How Preserved; Galvanic Anpliances; and the Wonders of the Microscope m Detecting Various Complaints. Post free for Two Stamps. Address, Secretary cf Anatomy, Birmingham. G" WALLT LLWYD Mae Hair Dye hynod ALEX. ROSS yn cynyrchu lliw goleu neu dvwyU perffaith yn union wedi y defnyddix «f. •/mae yn herffaith a pharhaol-3s. 6c. Dajfomr weS ei hacio yn ddiogel am 55 o stampiau. Oil of Cantharides ALBX. ROSS, at gynyrchu gwallt a barf—3s. 6c. Wedi ei bacio, -J4 stamp. Ei Ds- Sory. neu Hair De^tr^yer, y^ symud ymaith wilt arddigonol or gwyneb, y gwdd. neu r breichiau, heb mwa\d—.is. 6c. Li Curiing i luid 6c. Cludiad rhydd am o4_o btampiau E. SVin Tightener, feddygmiaeth at symu« rhychau a brychau d«i odaiar y croen; Bloota »f Ewes at y bochau a'r gwefusau; a l Hair atdrer—3s. 6c. yr un neu danfonir am 54 stwap. SS! Machine ALIIII. Ross, at luuio y ,trwy* i berfEeithrwydd —10i. 6c Wedi ei bacio yn gelaidu. ^1, LamLs Oon««it street High Halboni, London. Danfonir yr hyn gyda' thread y post. Gwakjdjir. llvth^au.
Beirniadaeth Libretto Cantawd…
Beirniadaeth Libretto Cantawd Eis- teddfod Merthyr. (GWOBR GAN Y LONDON WELSH CHOIR.) ANWYL SYR,—Anfonasoch atom bedwar- ar-ddeg o gyfansoddiadau, y rhai ydynt, ar y cyfan, yn lied gaomoladwy. Rhestrwyd hwynt yu lied agos yn ol eu teilyngdod cy- mharol. Gan nad ydych chwi yn caniatau beirniadaeth faith a manol, a bod ein hamser ninau yn fyr, ni cheir genym ond sylw byr ar bob un ohonynt. Dechreuwn gydag 1. Awenydd Anian.-Pryddest i'r "Haf" sydd ganddo, heb yr un trefniant at y gerdd- oriaeth felly, nid yw y peth ofynid. 2. lestyn Morganwg.—Math o adrodd-gan bryddestol ar addysg a "Chynydd Cymru," yn fwy na dim arall, ydyw hon. Ceir cymer- iadau ynddi, eithr y maent oil yn amddifad o arbenigrwydd. 3. Brochwel.—"Madogwys"yw y testyn, a math o ymgom rhwng Madog a'i gyfeillion ar ei ddychweliad o wlad y gorllewin yw y cyfansoddiad. Tebyga fwy i balad hanesydd- ] 01 nag i gantawd. Rhy fach o dan a bardd- oaiaeth sydd yn y llinellau, a'r trefniant yn hynod o ddiffygiol. 4. Gwaedd nwch Adwaedd.—" Teyrn y Byd yw y mater. Mae geiriau y solos yn liawer rhy feithion, heblaw nad oes digon o amrywiaeth yn y trefniant cerddorol, a'r oil yn rhy undonog ac anfarddonol. 5. Elidir.—Canmoi "Taliesyn" neu ar- dderchogrwydd dysg mae yr awdwr. Y trefn- iant cerddorol yn hynod o dead a chlogyrn- aidd, a thra rhodresgar yw ei eiriau, ei fesur, ei odl, a'i feddyliau. 6. Daniel. Y Briodas" yw y testyn. Mae y trefniant cerddorol yn eithaf hwylus, a'i farddoniaeth yn weddol, er nad oes dim tarawiadol iawn ynddi. 7. Tymho,wr,-Testyn rhagorol, sef Y Flwyddyn." Mae trefniant y lleisiau yn wael a rhy undonog. IN id yw newid y cor- fanau mor ami, a mesur mor Seisnig a hwn- yma, yn fanteisiol iawn i lyfndra a phersein- edd y Gymraeg a'i cherddoriaeth. 8. Arthur y Ford Gron.—" Caradawc" yw y testyn. Mae darnau y gwahanol whists, &c., yn rhy feithion o lawer gan hwn eto. Mae y trefniant cerddorol, oddieithr y ter- fyna yr ail ran a solo, yn lied ffafriol. Onid yw y geiriau yn rhy ryfelgar i naws ac ysbryd cantawd ? Ac onid anffafriol i'n cenedl fu yr ymgyrch hono a'r Rhufeiniaid, ac yn weddus- ach testyn galarnad na chantawd. 9. Myrddin.—Nid gwael yw "Merch y Llyn" fel testyn, ar y cyfan, os nad yw y chwedl yn rhy anhysbys a chwedlonaidd, ac yn rhy amddifad o'r swynion sydd yn gysyllt- iedig a'r Tylwvth Teg a'u cyffelyb. Mae y wers neu ergyd y chwedl yn eithaf eglur a phwrpasol, eto gwell o lawer fyddai ymgadw rhag rhoddi achlysur iddi. 10. Elffin ap Gwyddno.—Testyn ardderch- og a ffrwythlon hynod, Cantref y Gwaelod," a cheir un arall o'r ymgeiswyr wedi ei ddewis heblaw Elffin. Mae ei ymgom rhwng "Enid" a "Thaliesyn" yn hapus iawn o ddychymygol, a chanu penillion yn llys Gwyddno yn lied darawiadol a Chymreig ond y mae geiriau y choruses yn arbenig yn rhy feithion, ac yn rhy amddifad o gyffro a bywyd, ac i raddau yn gymysglyd. Eithaf darn yw hwn hefyd, ond oeir ei well yn y gystadleuaeth. 11. Cerddorfardd.—Ar Y Nef Serenog" y cana, ac mae ei ganiad yn ystwyth a lied farddonol drwyddi. Efe yw y mwyaf chwaeth- us eto yn ei drefniant cerddorol. Ofnwyf nad oes digon o Ie i'r minor a'r tyner ymddangos ynddo ond, fodd bynag, mae yn ddernyn pur dlws a chryno. 12. Tubal Gain.—" Gwyl y Cynhauaf yw y testyn, ac anmhoBibl cael un mwy cyffredin a llawnach o fiteinweh. Nid yw yn fftrddonol iawn, ond mae naturioldeb yn arddelwi bron yr oil o'r caneuon. Mae yr olygfa yn hynod o homely a dirodres, a naws grefyddol yn rhedeg drwy yr oil ohoni, ac mae ei threfn- iant cerddorol yn chwaethus a lied glasurol. 13. Borneo.—" Y Ferch o Gefnydfa." yw y testyn. Mae y trefniant cerddorol yn bryd- ferth a lied dramayddol—y subject yn Gym- reig—y cymeriadau yn tra llawn o fywyd a naturioldeb—pob llinell yn ystwyth, a chryn lawer o'r awen wir ynddynt. Ei bai yw gor- mod o g&ru, a charu yn y minor nes rhoddi gormod o abwyd i'r pruddglwyf a sylweddol- iad i'r rhamantus. Gan mai Wil Hopkin ydoedd awdwr "Y Gwenith Gwyn," tybed na ddylai Borneo roddi penill neu ddau ar y mesur hwnw, fel y gallni y cerddor ddwyn yr alaw hono i'w gantawd 1 14. Madog Llwyd. Gorlifiad Cantref y Gwaelod yw testyn Madog. Fel y crybwyll- wyd, mae yn destyn hynod o ffrwythlon a barddonol, ac wedi ymblethu a holl chwedl- euon a thraddodiadau ein cenedl, a cheir gan yr ymgeisydd yma bortread byw a hynod o farddonol o'r dygwyddiad echrydus hwnw. Credwn pe buasai y solos yn fyrach, a phe dygid chorus i mewn i gydganu a solo Mael- gwyn Gwynedd (Rhif 22) gan fechgyn Creig y Wyddfa, y buasai yn welliant. Yn sicr, mae y cyfansoddiad yma yn llawnach o'r light and thade, o'r tyner a'r brawychus, o'r car- trefol a'r mawreddus, na'r lleill. Ceir ynddo fyddinoedd yn ymornestu, a chariadau yn ymgomio hyd lenydd yr afon beirdd a thel- ynorion wedi ymgolli mewn awen a ehan Seithewyn a'i gyfeillion glwth yn feddw gan y methegli i a'r gwinoedd ac ar y foment, dym* donau y cenllif ofaadwy fel byddinoedd yn rhuthro nes gorlifo yr holl gantref-lluaws yu buddi, ereill yn ffoi mewn dychryn i greig- i-.u Arfon, ac yn cael croesawiad calonog gan Maelgwyn Gwynedd a'i ddeiliaid. Terfynir gyda mawlgerdd briodol iawn i Frenin y gre«tdigaeth. Dichon y galleeid cael rhai ym- a,droddion mwy detholedig a llawnach o ber- seinedd, ac y dylasai ambell linell fod yn fwy caboledig a gOrphenol; eto, ceir pob peth yn y Libretto yma ag sydd fanteisiol i dynu allan athrvlith cerddor i gyfansoddi Cantawd a ddy- lai fod yn anfarwol. I hwn, gan hyny, y dyfarnwn y llawryf.—Ar air a chydwybod, TANYMARIAN, Ion. 3, 1881. HWFA MON. Mr. E. Jenkins. Y London Welsh Choir, H. EDWARDS, ) -««- E. JEMIHS, '}Y^-MYG- 0. V,-Madog Llwyd yw y Parch. D. C. Harries (Caeronwy), Abertawe. Mae y Li- brtitto wedi ei hargraffu, ac yn awr yn barod, a gellir ei chael ond anfon at Mr. EDWARD JENKINS, Gwalia House, 9, Upper Woburn- place, London. Ei phris yw tair ceiniog. Ymbarotowch, gerddorion, i'r ymgyrch gys- Ily tadleuol am y gantawd. Credwn fod ynddi ddigon o swyn i dynu allan eich adnoddau penaf.—E. J.
Mr. Ap Dick alias " Candid…
Mr. Ap Dick alias Candid Welshman." MR. GOL. ,-Ar ol ychydig seibiant y gwyl- iau yma, yr wyf yn dymuno ychwanegu ychydig lythyrau at y rhai a ysgrifenwyd genyf o dan y penawd uchod. Gwn fod digon wedi ei ysgrifenu yn barod genyf i wrthbrofi cyhuddiadau y Candid Welshman yn erbyn ein cenedl ond gan fy mod wedi dechreu cofrestru enwogion Cymreig Gogledd Lloegr, carwn gofrestru yr oil sydd yn adnabyddus i mi yn bersonol, neu drwy hanes. Ar ol i mi wneyd hyny, bydd llawer iawn heb eu henwi; ond gwybydded y eyfryw mai diffyg gwybod- aeth, ac nid diffyg parch, yw yr achos o hyny. Oddiar pan yr ysgrifenais o'r blaen, yr ydym wedi cael prawf diymwad yn Stockton o werth swyddogaeth y Cymro yn nghyfrif y Sais, yn nychweliad ein cydwladwr anwyl, Llewelyn Roberts, Ysw., i ail-lywyddu haiarnfa fawr y Moorfield. Brodor yw Mr. Roberts o ganol gardd Morganwg, sef Aberthaw, gerllaw Pont- faen. Rhyw 16 mlynedd yn ol, efe a ddaeth yma o Bontypridd, i arolygu y Stockton Rail Mill, ac un o'i rollers ef y pryd hwnw oedd fy hen ac anwyl gyfaill William Holmes, yn bresenol, W. Holmes, Ysw., arolygydd haiarn- fa fawr ac henafol Tredegar, Swydd Fynwy. Syndod fod y Welsh element" yn gwneyd y fath brogress yn y "social scale," os (fel y dywed y Candid Welshman) mai bod a'i thrwyn yn y pridd fel twrch daear yw ei hyfrydwch penaf hi D*g hyn i'm cof ad- roddiad y candid (?) Educational Commission- er hwnw, Mr. Ralph Robert Wheeler Lingen: Whether in the country or among the furnaces, the Welsh element is never found at the top of the social scale, nor in its own body does it exhibit much variety of gradation. In the country, the farmers are very small holders in intelligence and capital, no wise distinguished from labourers. In the works, the Welsh workman never finds his way into the office. He never becomes either clerk or agent. He may become an overseer or sub- contractor but this does not take him out of the labouring and put him into the ad- ministrating class. Equally in his new or in his old home, his language keeps him under the hatches, being one in which he can neither acquire nor communicate the necessary in- formation." Yn yr adroddiad uchod, mae ge.n y boneddwr (?) hwn fwy o gelwyddau nag sydd o ddim arall. Ai wedi gweled report y respectable (?) Englishman hwn mae y Candid Welshman, wys ? Beth bynag am hyny, barned y darllenydd diduedd bwnc fy llythyr- au i, ac eiddo y ddau-pwy ohonom sydd agosaf i'r gwirionedd. Dywed y gwr hwu a'r pedwar enw The Welsh element is never found at the top of the social scale." Pe elem i'r cylch Eglwysig—y raddeg uwchaf—gallem, k chofres annherfynol braidd, ddangos fod yr elfen Gymreig mor amlwg yno ag unrhyw elfen arall; ond ni pherthyn i mi yn y llyth- yrau hyn ond a. chylch gweithfaol Gogledd Lloegr, a cheir yma ddigon, a mwy nag sydd eisieu, i brofi annghywirdeb y report uchod. Ychwanegai Mr. Lingen, "Nor in its own body does it exhibit much variety of grada- tion." A all fod mwy o variety of grada- tion mewn rhywbeth nag sydd mewn bod Welsh puddlers, bailers, a rollers yn cael eu [ graddoli yn head managers, directors, ac iron masters ? Dywed hefyd fod iaith y Cymro yn ei gadw dan yr "hatches." Fiddle sticks i gyd. Fe feistrola'r Cymro mwyaf annysgedig yr iaith Seisnig yn berffaith, cyn byth y dysg y Sais clasurol i ddweyd cymaint ag hwch a chwech o berchyll bach yn Gymraeg. Ei iaith yn ei gadw dan yr "hatches" yn wir Wyddoch chwi beth, Mr. Gol., llai nag ugain mlynedd yn ol, cychwynodd Cymro ieuanc, a gwledig, ei daith o Gymru i Stockton, pan na wyddai ond un gair o'r Seisnig o gwbl, a'r gair hwnw oedd "No;" a gallwch wybod ei bod yn galed i&wn arno i weithio ei ffordd o waelod Sir Gaer i Ogledd Lloegr, a dim ond No i'w gynorthwyo. Ond gan mai Cymro ydoedd, a "digon o fyn'd ynddo" (chwedl Dai Goch Glyn Ebwy), daeth yma yn ddiogel, er iddi fod yn gyfyng arno yn fynych. Ar ei ffordd, filltiroedd tu yma i Gymru, dywedodd guardy train wrtho, "Ticket, pleaee." H No," I want to punch it, sir." "No," You are a foolish man." "No." Where are you going to ?" "No." H Good gracious, the fellow is msd "No." Gorfu Vr.guard ei adael, ac yr oedd ei gyd-deithwyr yn methu yn lan a'i gynorthwyo, gan fel j r oeddynt yn chwerthin am ei ben ond wedi i'r chwerthin beidio ychydig, gvnHwd iddo ddeall beth oeda eisieu ei wneyd, ac yn y station nesaf, fe estynodd ei docyn i'r guard, i'w dyllu. Wedi cyrhaedd pen ei daith, dywedwyd wrtho, "This is your destination, air." "No." Yes, sir." No." "Yes, you must go out here." "No," Ond o'r diwedd, llwydd- wyd i wneyd iddo ddeall ei fod ar ben ei daith. Wel, beth ddaeth ohono, a pha le y mae yn awr ? Nid o dan yr hatches oherwydd ei iaith. Y n fuan, fe ddaeth yn weithiwr campus fel shingler. Meistrolodd yr I iaith Seisnig—carodd Seisniges, ac a'i priod- odd ac erbyn heddyw, y mae yn fasnachydd cyfrifol yn nhref henafol Stockton. Gallaswn yn rhwydd ychwanegu engreifftiau er profi mai progressive ydyw y Welsh element;" ond meddyliwyf fod hynyna yn ddigon i ddinystrio athrawiaeth yr hatches." Ond i ddychwel- yd at Mr. Roberts. Dyma Gymro a'i dafod yn y ddwy iaith fel pin yr ysgrifenydd buan„ a chanddo gorff y mwyaf golygus a ellir ei weled mewn siwrnai blwyddyn, chwaithach diwrnod, a chystal calon yn curo yn ei fynwes a gurodd dan fron mab goreu Ceridwen erioed. Ei bendithion hi ddisgyno yn Niagara ar ei ben ond peidied a'i foddi er dim. Wedi iddo lywyddu y Stockton Rail Mill yn llwydd- ianus am lawer o flynyddau, cafodd alwad i uwch sefyllfa lywyddol yn y Moorfield, ac wedi bod yno am rai blynyddau, yr un mor llwyddianus, os nid yn fwy, nag yn y Rail Mill, efe a gafodd alwad i lywyddu haiarnfa fawr Jarrow-on-tyne, lie yr oedd ei awdurdod yn llawer helaethach, a'i gyflog yn llawer yn uwch. Wedi bod yn Jarrow am tua chwe' mlynedd, neu ragor, wrth fodd calon meistri a gweithwyr, a ninau yn Stockton wedi canu yn iach iddo, gan feddwl yn sicr na chaem (ond yn ddamweiniol, efallai) byth mwy olwg ar ei gorff golygus, ei lygaid craffus, a'i wyneb serchus, na chlywed byth mwy ei dafod parablus, na'i awen ddifyrus yn gwneyd i ni, fel y gwnaeth lawer tro cyn hyn, grechwenu yn iachus—dyna'r newydd dymunol fel gwefr- daniaeth yn disgyn ar ein clustiau fod Mr. Roberts yn dychwelyd i Stockton i ail-ym- gymeryd y llywyddiaeth yn haiarnfa Moor- field, ac erbyn heddyw, mae'r newydd yn ffaith, a da genym ddeall ei fod yn uwch ei awdurdod yn awr nag y bu erioed o'r blaen. Wedi ei ddychweliad, daeth arianydd (banker) cyfrifol o Lundain, yn nghwmni un o berch- enogion penaf haiarnfa Moorfield. i ymweled a'r lie, yr hwn a adwaenai Mr. Roberts yn flaenorol yn Nghymru, ac yn yr office, cymer- odd yr ymddyddan canlynolle rhyngddynt yn ngwydd y perchenog dywededig :—" I believe you are a Welshman." "I am, sir." Were you not some years ago in the service of the Aberdare Iron Co. 1" I was, sir." Well, what in the world brings all you Welshmen into these parts of the country 1" To keep the works going, sir-they cannot go without us." Well done, Welshman," ebe'r banker, a chwarddodd efe a'r perchenog yn iachus, ac unodd Mr. Roberts yn ddiseremoni yn y grechwen. Nid geiriau parod yn unig sydd gan Mr. Roberts, ond awen barod hefyd, ac hynod o ffraethbert yn y ddwy iaith a charem yn fawr weled rhai o'i gynyrchion awenyddol yn ymddangos yn ngholofnau y GWLADGARWR yn awr ac eilwaith, a gobeithiwn mai felly y bydd hi, a hyny ar fyrder. Yn awr, ddarllen- ydd, beth am athroniaeth yr "hatches"? Ac onid camsyniad ofnadwy wnaeth y Candid Welshman wrth ddweyd mai creadur a'i drwyn yn y pridd yn barhaus yw y Cymro? Yn ddieithriad bron, mae ei drwyn yn vice versa hollol, a'i lygaid yn barhaus ar yr haul-nid oes gwrthddrych is a'i foddlona. Ac onid yw ail ddyfodiad Mr. Roberts i'r Moorfield yn llefaru yn uchel am werth y Cymro medrus hwn fel llywydd yn nghyfrif perchenogion y weithfa ? Wel, gobeithiwn mai yma yr erys bellach, ac y cawn, fel cynt, fwynliau llawer ar ei gyfeillach dyddorol ac adeiladol. Gobeithiwyf, Llewelyn, mai yn Stockton, bellach, Y bydd i chwi dreulio y gweddill o'ch hoes, Yn nghanol cyfeillion, rhai hoff o'ch cyfeillach A'ch awen, pan fyddo hi genych dan goea 0 boed i chwi hefyd, tra bywyd ac iechyd, I harddu ffyrdd hyfryd gwir grefydd y Groes, Ac yna. cewch helaeth fynedfa i'r gwynfyd, I oiphwys yn dawel ar ddiwedd eich hoes. (Tw barhau.)
Llith o'r Bwthyn Barddol.
Llith o'r Bwthyn Barddol. MR. GoL., — Gan fod eich gohebwyr yn llawer, yr wyf fi o fvvriad wedi cyfyngu fy hun y flwyddyn a aeth heibio at helyntion lleol, yn hytrach ma gwneyd nodiadau ar wleidyddiaeth a materion ereill, er osgoi ysgrifenu llawer o'r un pethau a'r gohebwyr ydynt yn traethu ar y materion yma, ac y mae ambell benill yn nghanol y ilith, fel siwgr mewn te, er ei felusu. Er fod y gwr o dre'r llongau yn clywed llawer o bethaa, fel pe b'ai ganddo ddau cant o glustiau yn lie dau, ond rhaid cofio fod y flwyddyn newydd wedigwawrio, a'r almanack newydd wedi dyfod hefyd, ac ambell un sydd ar lanau y moroedd yn debyg i'r olaf, gan eu bod yn cael llawer o newyddion dychymygol gyda'r awelon a'r tonau. Yr wyf yn darllen y gwahanol ddadleuon a ymddengys yn y GWLADGARWR gyda dyddor- deb, a gwelaf fod plant y gan yn vmgynenu. Daw englyn Dafydd Morganwg, yn y Tem- perance Hall, Merthyr, i'm cof, yr hwn a gyfansoddodd i'r cerddorion anfoddog oedd- ynt yno. Fel y canlyn y dywedodd Rhyw ddyrus yw'r corddorion,—o chanant Achwynant yn gyson; Mwy, rywsut, eu hymryson Na chwn a moch, neu chwain Môn. Ond ceir heddwch bellach, gan fod y pro- gramme yn cael ei daenu drwy y wlad. Y mae dadl y bechgyn o barth yr ail oreu ar Fariteision arian parod ar ben bellach, ond nid teg rhoi tratrerth i'r beirniad i ail- feirniadu, gan fod y cyhoedd yn feirmaid, ac f d gan bob un fantais i fod yn sicr yn ei f ddwl ei hun, a chan fod un ohonynt yn beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol er's amryw flynyddau bellach, ac wedi newid ei arddull o feirniadu, sef chwilio y goreu allan, a hyny yn unig, gan adael i'r gweddill o'r cystadleuwyr i bsnderfyuu eu svfh-oedd eu hunain yn y gystadleuaeth, ac nid ysgrifenu darn i anerch y pwyllgor, a rhanu y cystadleu- wyr i dri dosbarth, a phob un yn gyntaf, ail, a thrydydd, yn y dosbarth y dygwyddai fod. Ond yn ol fy nhyb i, dylasai gael llouydd y waith hon. Nid oes a fynwyf fi 4 hyn, ond yn unig gwneyd y nodiad wrth fyned heibio. Y mag y Nadolig a'i Eisteddfodau wedi myned heibio. Cynaliwyd dwy Eisteddfod yn y plwyf hwn, ac yr oedd pob peth yn gwneyd Eisteddfod y Nelson yn lwyddiant perffaith — doethineb y pwyllgor, amlder y corau a'r cantorion, safle y llywyddion a'r beirniaid, a lluosogrwydd y cystadleuwyr ar desiynau lien a chan. Ac fel y mae brenin neu frenines deyrngarol yn gwneyd yr orsedd yn sicr trwy ymddwyn yn garedig tuag at y deiliaid, felly y profodd Dr. Leigh ei fod yn caru ei raith, ei wlad, a'i genedl, gan iddo roddi ail wobr ar y rhan amlaf o'r testynau, ac yr oedd y teimlad caruaidd hwn yn cael ei adlewyrchu yn ol arno gan y dorf yn gyffred- inol. Y mae Dr. Willie Leigh hefyd yn enill serch trigolion y lie yn gyffredinol, gan ei fod mor fedrus yn ei broffeswriaeth feddygol, ac mor fwyn, tyner, a charedig i bawb drwy y lle-y tlotaf yn gystal a'r cyfoethocaf, a dywedwn Hir oes i'r ddau feddyg fwyneiddlon, Fel gwenau yr huan o hyd, Yn serchog was'naethant y tlodion, Yn gystal a'r bonedd bob pryd Su tymer a'u teimlad sy'n hawddgar, A gwir gymwynasgar yn glau Pob bendith o'r nef ac o'r ddaear Fo'n eiddo i bob un o'r ddau. Dygwyddodd i mi gyfarfod hefyd a'r cyfaill William Hopkin a'i wraig, yn nh;9' y serchog a'r cyfeillgar Mr. William Thomas, ger yr Holly Bush. Bnom yn cyfranogi o ddateith- fwyd yno ddydd Nadolig, a llawen oedd genym gyfarfod a'r tenor hawddgar a'i briod serchog, a da genyf iddo tod mor llwydd- ianus yn y gystadleuaeth. Diau genyf ei fod yn canu llawer can, yn hamddenol, o waith yr Hen Fardd anwyl o Don Coch, er anrhyd- edd i'w fendigaid goffadwriaeth, gan fod Mrs. Hopkins yn esgynydd i'r anfarwol Edward Evan, o du ei thad, enw yr hwn a bery yn glodfawr tra afon Taf yn llifo i'r m6r, a'r Ton Coch, ar ei glan, yn hulio ei ddolydd. & meillion, yn nghyd ag ymborth i ddyn ac anifail. Mwynhawyd yr ychydig amser rhwng y ddau gyfarfod mewn cvflawn hapusrwydd, gan adgofio am lawer awr ddedwydd a dreul- iasom gyda'n gilydd. a llawer ereill o gyfelll- ion lien a chan yn ein cwmni, yn yr adeg pan yr oedd- Eisteddfodau y Rhos, Mountain Ash, yn eu gogoniant. Wel, rhaid terfynu y llith hwn, rhag myned yn rhy faith, gyda dymuno Blwyddyn newydd dda" i chwi, Mr. Gol., a staff y GWLADGARWR, yn nghyd a phob bardd, llenor, cerddor, a chantor trwy Gymru Wen, sydd heddyw'n ben y byd, medd llawer heblaw MABONWYSON.
Llew yn Ymosod ar Ddyn.
Llew yn Ymosod ar Ddyn. Yn arddangosfa greaduriaid Mri. Sangers, yr wythnos ddiweddaf, yn Birmingham, bu amgylchiad cyffrous iawn, trwy i lew ymosod ar ddyn o'r enw Harris, yr hwn oedd yn glanhau ffau y llewod. Daeth y llew-ddofwr yn fuan i'r lie, a tharawodd ergyd mor ofn- adwy rhwng dau lygad y Hew, fel y gollyng- odd ei afael ar ei ysglyfaeth. Archollwyd y dyn yn dost, a diau y buasai wedi ei ladd, oni b'ai i ymwared amserol dd'od iddo.
Ymladdfa rhwng Eryr a Bull…
Ymladdfa rhwng Eryr a Bull Terrier. Ceir hanes dyddorol yn Land and Water am ymladdfa a gymerodd le ychydig wyth- nosau yn ol, yn Nhalaeth New York, America, rhwng un o'r cwn uchod ac eryr mawr. Disgynodd yr eryr i glos fferm ger Elizabeth City, gan ymosod ar un o'r gwyddau tewion oedd yno. Ond nid cynt y dechreuodd yr ymosodiad nad ymosodwyd arno yntau gan tua deg-ar-ugain o wyddau oedd gerllaw. Glynai yr eryr wrth ei ysglyfaeth, fodd bynag, hyd nes y daeth rhyfelwr mwy galluog na byddin o wyddau yn mlaen, sef y bull terrier, a dyma yr eryr yn rhuthro tuag ato gyda ffyrnigrwydd mawr. Rhuai a chnoai y ci, a brathai yr eryr ei big a'i ewinedd i'w gnawd. Yr unig lygaid-dystion o'r ymladdfa oedd y gwyddau a Miss Martha Brothers. Ymladdodd y ci a thywysog yr awyr yn galed am amser, pan y trodd yr eryr i ehedeg ymaith ond araf iawn y codai o'r ddaear, gan fod 15 pwys o bull terrier yn crogi wrth ei gorff, a methodd fyned yn mheUach na chlawdd y buarth, pan yr aeth Miss Brothers yn mlaen gan daro yr eryr ar ei ben, fel y bu farw. Mesurai naw troedfedd o flsen un aden i flaen y llall. I
[No title]
Y mae gan y QUININE BITTERS un cymer- adwyaeth anarferol, sef bod meddygon o bob gradd yu cydnabod heffeithiau trwy eu rhoddi i'w cleif- ion (patients), pan yn fynych y methant gyda'u cyfferi meddyginiaethol eu hunain. Gwelir man- ylion ar dudalen arall o'r papyr hwn. L. 163 WARNING! RECKITT'S PARis BLUE.-The marked superiority of this Laundry Blue over all others, and quick appreciation of its merits by the puDlic, have been attended by the U; iial result, viz., a nood et imitations, the merit of the latter mainly consists in the ingenuity exerted, not simply in imitating the square shape, but making the general appel,rance of the wrappers resemble that of the ger: uirre article. The manufacturers beg therefore to caution all buyers to see Reck- tt's Paris Blue on each packet. 2183 PELENI HOLLOWAY yw'r feddyginiaeth fwyaf mewn bri am we 11a yr arurywiog ddoluriau a ymosodant ar ddynoiiaeth, pan fyddo tywydd gwlyb ac oer yn rhoddi lie i hinoedd mwy cynyrchiol. Yn fyr, nu.e'r peleni hyn yn rhoddi esmwythder, os nad ydynt yn gaiiu gwella y cylchrediad, y treuliad. a grym gieuol, pa rai ar brydiaa, a orthrymant ran aruthrot o'r t.)oblo- aeth. O dan y gailuoedd iachus, pureiddipl, °a chryfhaol a osodir allan g in y peleni rhagorol hyn, mae'r tafod yn dyfod yn lanach, yr archwaeth yn gwella, y treuliad yu cael ei fywiogi, ac ymdebyjr iad yn cael ei adferyd yn berffaith. Mae meddyg- iniaeth Holloway yn meddu y rhinwedd u livi- sidd o Innhau yr holl wasd, pa un, ya ei sefyllfa adnewyddoi, a garia burdob, cryfder, a gfym bob gwe o'r corif,