Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

GARDD ABERDAR.

News
Cite
Share

GARDD ABERDAR. TRAETHAWD AR HANES PLWYF A PHENTREF ABER JAR. YR AIL DRAFTHAWD. (CYDFUDDUGOL) AFONYDD. Dwv brjf afon y sidd. 81'f Oynon a Dar. C.YLOU sydd yn tarddu ya mhlwyf Peuderin, 5n agos i dwyn a elwir Twyn-y-Sindrls, ger- aw hen dtlgfan yr euwog awenydd Gwilym Harri; y mae'r fan yn adnabyddus wrth yr enw Llygad Cynon. Mae Cynoa yn ymar- Uwys i Taf yn y Basin isaf, bedair milldir tu allan i'r plwyf. Ystyr y galr Cynon, yw y brif afon, (principal,) (owel Eiriadur Richards,) am mai hi sydd yn llyncu yr holl gornectydd ereill yn y plwyf. Y mae Dar yn tarddu yn y Berw-du, ar daran y Byllfa. Dar, (oak,) dywed fod yr afon yn cael ei henwi felly o herwydd amledd y deri oedd yn y lie; ereill a ddywedant, ac ar well seiliau I'm tyb i, mai dyar, (a noise, a sound,) ystwr cynhyrfus, ac mai wrth yr enw hwn y dylai gael el galw, am fod rhediad ei dyfroedd dros greigydd a chlogwyni geirwon, o ganlyniad fod ystwr mawr gan ei dyfroedd wrth ddisgyn dros y rhai hyn. NENTYDD. Nant y FftwdL-Ffin rhwng Aberdar a Llanwynno; nid oes achos am eglurhad. Nant y Pennar.—Gwel Cefnpennar. Nant y Giocs —Nid wyfyn hysbys o dardd- iad ei henw. Nant y Wenallt, neu Nant-yr-allt-wen, a'r ffin rhwng Cefnpennar a Llwydcoed. Nant y Melyn.-Ffin rhwng y Werfa a'r Gwrhyd. Nant y DarlwmL-Daear lwm medd rhai, ac ereill a fynant taw Nant y Derwlwyn oedd. Nant y GwyddeL—Ar enw y cawr Gwydd- elig a laddwyd yn yr ymgyrch a'r Norman- laid, fel y nodwyd o'r blaen. Nant Hir.—FRn rhwng Aberdar a Phen- derin. Nant y Wemddu, yn ymgiynhol ar Hir- waun, doim pell o'r Bryn Gwyn, ac yn ymar- llwys i Gynon ger Pantysgawen. Nant yr OchaiD.—Ffin rhwng Aberdar a Rhigos, wedi ei egluro eisioes. Nant y Bwlcb.—F&n rhwng yr Tetrad ac Aberdar. Gwel Bwlchylladron. Nant Swyddau.—Yn tarddu o ffos taran y Byllfa, gan adael y mynydd ar ei ochr ddwy- relniol, ac yn ymarllwys i Bont lluestwen. Nid oes dychymyg am ei hystyr. Nant y Byllfa.—Yr un a Swyddau. Nant Rhydyfelen, yn rhedeg o'r Bwlch l'r Rhondda-fechan; nid wyf yn hysbys o dardd- iad ei henw. Nant yr Hwch.—Tebygol yn y cyn oesoedd fod o gylch y nant hon fwy o foch gwylltlon nag un man arall. Nant y loryn.-Gwel Ty'r Ioryn. Nant Shon Shiencyn,—Rhwng Tir Ifan _a_ Wwynhelygj^jT^ jmarllwys i Nant Ti oedrhiwHech,—Gwel Troedrhiw- llech. Gwawr.—Ya cael ei henwi am fod ei tharddlad gyferbyn a thoiiad gwawr. Nant Ammaa-fach. Nid wyf 71181111081V dehongli. Nant Amman-fawr, eto. Nant Neuol. Oddiwrth neu, (Saesoneg, to punt;) dychlamu, felly Nant Ddychlamol; gan arddangos buandra'r dwfr yn rhedee mae cwymp rhyfeddol i'r nant hon. ?ant Sychnant, am ei bod yn ami heb ddim dwfr. y Nant-y-bo lied debygol, canys y mae gerllaw yno anedd-dy o'r enw Tv'r bwcL Nant Pltwallt,—Oddiwrth pitt^ & £ W a gallt, yn arwyddo Nant yr allt fechan. Nant Gelllddu, Nant yr allt ddu. 1TYNONAU. Ffynon y bwla, nid oes eisieu ei eglturo. Ffynon Laaha, loyw isaf, neu lisha, am fiynon Letitta. Ffynon y Glog, yn tarddu o dwyn y Clog- WY-IL Ffynon Brynplca, Ffynon Cornety-gam, i Oil ar dir Ysgub- Ffynon ^nt-y-ffald, > orwen, ac heb Ffynon Wern-bwll, (achos am eglur- Ffynon Wein-geryg, deb. gwedi sychu gan waith oddltani Gwel Waun Dyllas* Gw^dddT Bryn Qwydde1' Bryn Ffynon Gwem-y-coed, nid 068 eWtra eglur- deb. ITfynon y Blaidd, lied debyeol gerllaw y ffynon hon, fod Uoches dda i flefddiaid yma. Hirwaun Wrgant, neu Gwaun Hir Wrcant. sydd gwmmin perthynol i gwmmwd Miscin 8V bu, cX £ raith ^wng Ardalydd Bute a Mr Samuel Rees, Werfa, a Mr Rees Philip, Cwm, y ddau olaf yn enw a thros y plwyfolion, y rhai a enillasant y gyfraith. Y maeperaonan yn fyw heddyw yn Aberdar yn derbyn arian yn flynyddol gan Ardalydd Bute mewn canlyniad idd eu tiroedd, ar y cwmmin, gael eu trol yn agored o herwydd 1r Ardalydd golli y gyfraith. Bu y prawf yn Henffordd yn Ngwanwyn y flwyddyn 1790: un Drumond oedd y dadleuydd, a Williams CJafJrMd'T,oedd y cyfreithiwr. Oawd hyn oddiwrth Dr Thomas, un o ynadon Merthyr. CREFYDD. Y mae dau o anhawsderau neillduol yn fy ngwrthwynebu pan yn ceisio olrhain hanes crefydd yn y lie: un peth yw, fod crefyddwyr wedl bod yn esgeulus lawn o gofnodi eu neillduolion; a'ranhawsdra arall yw, fod yr hen bobl ag a fu yn foddion i ddechreu amryw bleidiau crefyddol y lie gwedi eu symud oddi- *wrth eu gwaith i dderbyn eu gwobr, Pe j buasai y gwahanol enwadau o'u dechreuad gwedi mabwysiadu cynllun, neufgyffelyb i'r un a gyclluniodd y Parch Lewis Powell o Gaerdydd, er ys ychydig flynyddau yn ol, buasai yn hawdd lawn i gael gafael mewn llawer o hen adgofion gwerthfawr; ac er fod llawer o'n haddoldai yn feddianol ar "Lyfr Eglwya" yr hen dad a nodwyd, y maent yn esijeulus i'w ddefnyddio, drwy gofnodi ynddo bethau ag allai fod yn werthfawr ac yn ddyddorol lawn yn mhen llawer o oesoedd i ddyfod; gan hyny, nid oes genym yn awr ond gwthio ein hunain drwy yr anhawsderau hyn oreu gallom, er cael gafael mewn cymaint ag a fedrom o hanes crefydd yn Aberdar. Oni buasai yr annhrefn a nodwyd, yr oeddwn yn bwriadu rhoddi yn y Traethawd dafien gryno o sefyllfa pob capel, ond er fy ngofid nid oes modd gwneuthur felly.

[No title]

BEIRNIADAETH CYFANSODDIADAU…

[No title]

Y MAGNITUDES BARDDOL.

~FY NGWIBDAITH.