Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

OYFARFOOYOO MISOL.

News
Cite
Share

OYFARFOOYOO MISOL. Ainser Cymdeithasfaoedo a Chyfarfodydd Misol. Y Gymanfa Gytfredinol-Amlwch. Gorphenaf. 14,-16,1.903. Cymdeithasfa y De-Borth, Abervstwyth, Ebriil 21, 22, 23. Cymdeithasfa y Gogledd,-Machynlleth, Ebriil 15,16, 17. Aberteifl, G ogledd.-Taliesyn. Aberteifl Deheu.—Salem, Mai 19, 20. Arfon,— Brycheiniog.— Caerfyrddin,—Ebenezer, Llanedi, Ehrill 28, 29. Dyffryn Conwy.—Glan Conwy, Ebriil 2. Dyffryn Clwyd,— Fninfc,—Pentrecerni, Mawrth 30. Glamorgan &c., Presbytery.— Henaduriaeth Trefaldwyn- Lancashire, Cheshire, &c.. Presbytery-Hill Street, Rhos, April 1st. Liverpool—Mercher, Ebrill Sfed. Liundain.— flayn ac Eifionydd.-Pencoed, Ebvill 20, 21. Mancbester,-Standard Chambers, Mawrth 31. Montgomery & Salop Presbytery. Meirionydd, GorDewin.—Bontddu, Ebriil 6, 7. Meirionydd, Dwyrain.—Cwmtirmynach, Kbrill 11.15. Morgana. Dwyrain. — Jerusalem, Splotlands. Caerdydd, Mawrth 3lain ac Ebrilllaf. Morganwg. Gorllewin.-Pencoed, Ebiill 8, 9. Mynwy.— Rock, Ebriil 2. Mon.-Rhos, Mawrth 30, 31. Penfro,—Tyddewi, Mawrth 31 ac Ebriil 1. TrefaldWfn Uebaf,—Graig, Mai 21, 22. Trefaldwyu Isaf— BRYCHEINIOG.-Aberhonddu, Mawrth 9 a'r 10. Cadeirydd, y Parch. D. Tyler Da,vies, Bwlch. Eth- ohvyd y Parclm. Vice-Principal E. Williams a T. Prothero, Hay, i ymweled a'r eglwys yn New Rad- nor. Pasiwyd anfon cais am ordeinio Mr. T. O. Phillips, Carmei, yn Nghymdeithasfa Awst nesaf. Cafwyd adroddiad y rhai fu yn ymweled a'r eglwys yn Llandrindod. 'Dymunir ar i'r holl eglwysi l anfon yr ystadegau i'r Ysgrifenydd yn ddioed. Cafwyd gair gan Mr. Roger Williams mewn cysyllt- iad a Thrysorfa, y Lleoedd Gweiniaid. A fydd yr eglwysi sydd heb gyfranu mor garedig a gwneyd liyny ar unwaith. Pasiwyd ein bod yn datgan ein cydymdeimla.d a Mr. T. E. Morgan, Aberhonddu, yn ei afiechyd. Etholwyd y Parchn. R. Evans, Llanwrtyd, a, Rees Davies, Talgarth, i ymweled ag ef ar rati y C'.M. Pasiwyd anfon llythyrau o gyd- ymdeimlad at (a) Mrs. Williams, Aberhonddu; (b) Mrs. James Davies, Boughrood; (c) Mr. Williams, Llangamarch. Yr ydym yn llawenhau yn fawr yn adferiad y Prifathraw Prys. Dymunwn iddo flyn- yddau lawer i'n gwasanaethu gyda'r ffyddilondeb sydd mor nodweddiadol o hono. Cafwyd adrodd- iad Pwyllgor yr Ysgol Sul gan yr ysgrifenydd, y Parch. D. Tyler Davies. Dymunir ar i'r ysgolion wneyd y casgliad arferol tuag at dreuiiau yr ar- holiad, &c., a, llanw y forms' sydd wedi eu hanfon iddynt a/u dychwelyd i'r ysgrifenydd mor fuan ag sydd yn bosibl. Derbyniwyd penderfyniadau y pwyllgor mewn cysylitiad a'r maes llafur am y flwyddyn. Etholwyd y Parch. S. George, Llan- drindod, a, Mr. Jeffrey Jones, Llandrindod, i ym- weled ag eglwys Rhaiadr mewn eysylltiad a dewis bugaiil. Cafwyd adroddiad yn ngliylch yr achos yn Mhentrefelin gan Mr. Wm. Powell, Trecastell. Etholwyd y brodyr canlynol i ffurfio pwyllgor i wneyd trefniadau ar gyfer dileu y ddyled sydd arnom fel C.M. mewn cysylltiad a'r Mission Room yn Nghwmelan: -y Parchn. Prifathraw Prys, Rees Davies, Talgarth (cynullydd), Vice-Principal E. Williams, a Mri. Wm. Parry, Bwlch, a D. Morgan, Talgarth. Pasiwyd fod ysgrifenydd y Casgliad Mawr i gyfleu diolchgarwch gwresocaf y C.M. i'r eglwysi am eu ffyddlondeb rhyfeddol. Y maent wedi gwneyd yn rhagorol iawn. Yr ydym yn go- beithio fod yr eglwysi yn ymdrechu yn ddiflino i wneyd y Cymanfaoedd Canu yn llwyddiant,— "Mewn undeb mae nerth." Etholwyd y Parch. P. Evans a Mr. Ellis Owen, Aberhonddu, i ar- chwilio llyfrau Trysorydd y C.M. Etholwyd Mr. Wm. Powell, Trecastell, yn Llywydd y C.M. am y tri mis nesaf. Rhoddwyd rhyddid i'r Parch. L. James, Builth, i fyned trwy gylch y C.M. i ofyn am gynorthwy tuag at ddileu y ddyled ynglyn a'r capel newydd yn Llanfair, os bydd i'r eglwysi gan- iatau hyn iddo. Mater y C.M. nesaf fydd Cyf- iawnhad trwy ffydd,' i agor, y Parch. T. Prothero. Hay. Hysbysir lIe ac amser y C.M. eto. Pasiwyd y penderfyniad canlynolThat inasmuch as the conditions of entrance to our ministry, which the Synodical Examination was designed to meet, are now practically obsolete, and whereas its retent-- ion as a test required of ail candidates for ordin- ation without exception imposes a needless hard- ship upon the great majority of such candidates, the Breconshire Monthly Meeting respectfully urges the Trefecca College Senate to petition the General Assembly with a view to securing the sneedy exemption froni the requirements of that Examination of all such candidates for ordination as have passed through an approved course in our own Theological Colleges, either as graduates or non-graduates, as well as candidates who may have graduated in Theology in a, University, to be approved of bv the Education Committee for the time being." Pregethwyd gan y Parchn. R. Evans, Llanwrtyd, D. Rhys, Defynog, J. Williams. Ystrad- gynlais, Proff. J. Y. Evans, M.A., B.D., Trefecca, E. A. Hughes, B.A., Kenchester. E. Evans, Gor- wydd, S. George, Llandrindod, a T. Prothero, Hay. ff* — To MOTHERS.—Mr. Wi-nslow's Soothing Syrup has been used over fifty years by millions of mothers for their children while teething with perfect success. It will relieve the poor sufferer immediately. It is pleasant to taste; it produces natural quiet sleep, by relieving the child from pain, and the little cherub awakes as bright as a button.' Of all Chemists, Is. l £ d. per bottle. TREFALDWYN UCHAF.—Caersws, Mawrth 12, 13. Llywyddion, Mri. John Edwards, Penegoes, a Wm. Ashton, Llanidloes. Mater ymdriniaeth yr awr gyntaf oedd Y modd i gyraedd sicrwydd gyda cmefydd. Agorwyd gan y Parch. R. Edwards, Ceinmaes, a chafwyd gair gan amryw eraill. Caf- wyd hamdden ddymunol a gwlith bendith ar y dra- fodaeth. Dadlenwyd enwau personau, a chadarn- hawyd hwy, fel ymddiriedolwyr ar ddarn o dir per- thynol i gapel y NeUadd. Y C.M. nesaf i'w gynal yn y Graig, Mai 21 a 22. Mater y seiat, Dyled- swydd Deuluaidd,' seiliedig ar Josua xxiv. 15. Pas- iwyd i anfon llythyrau o gydymdeimlad y C.M. a'r personau canlynol mewn gwaeledd Mri. Vaughan Owen, Machynlleth, Evan Richards, Berthlas, a Griffith Jones, Gleiniant. Penderfynwyd ein bod yn cymeradwyo cais o Fachynlleth i ofyn am gan- iatad y Gymdeithasfa i werthu yr hen gapel. Cyf- lwynodd y cynlywydd, Mr. J. Edwards, Penegoes, y gadair i'w olynydd, Mr. Wm. Ashton, Manidloes, a chafwyd anerchiad gwerthfawr ganddo yn cynwys ei brofiad yn ystod tymor ei swydd. Pasiwyd ein bod yn cydnabod yn ddiolchgar wasanaeth medrus Mr. Edwards tra yn y gadair, ynghyda'i anerchiad rhagorol. GafTvycl adroddiad o hanes yr achos yn Caersws, Saron, a'r Drefnewydd, dan arweiniad Mr. Wm. Ashton, a phrofiad y swyddogion dan ar- weiniad y Parch. Edw. Williams. Lie y Gym- deithasfa. nesaf.—Yn wyneb y ffaith fod achosion newydd o'r Frechwen wedi tori allan yn y Dref- newydd, ymgynghorwyd a chyfeillion Machynlleth, a hysbyswyd ganddynt yn y C.M. eu bod hwy yn Machynlleth yn barod i ymgymeryd yn galonog a'r Gymdeithasfa, ac yn dechreu parotoi ar ei chyfer. Pasnvyd fod y Gymdeithasfa i fyned i Fachynlleth. Y Parch. Edw. Williams a Mr. Hugh Davies, Machynlleth, i anfon at yr eglwysi am gasgliad fel arfer. Cafwyd llais yr eglwysi ar achos Mr. E. R. Jones, Cwnielan, ar derfyn ei flwyddyn brawf fel ymgeisydd am y weinidogaeth. Yr oedd- ynt oil yn bleidiol iddo fyned ynilacu. Holwyd ef gan y Parch. Elias Jones, yn nghylch ei brofiad, I ei wybodaeth o'r Ysgrythyrau, ac yn mhynciau y Cyffes Ffydd, a l'hodthvyd derbyniad unfrydol iddo yn aelod o'r C.M. fel pregethwr. Ymddiriedwyd i'r Llywydd a'r Ysgrifenydd drefnu gyda golwg "ar le cynhaliad C.M. Mehefin. Cyflwynwyd adrodd- iad y Pwyllgor Enwi yn ol i'r Pwyllgor i'w ail ys- tyried, a'r un modd adroddiad pwyllgor holi hanes yr achos. Enwyd Mri. G. Edmunds a Mr. David Jones, U.H., yn archwilwyr cyfrifon y C.M. Enwyd y Parchn. D. Lloyd Jones, M.A., Richard Edwards, a, Mr. John Edwards, Penegoes, i edrych dros hanes yr achos yn y C.M. cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Gymdeithasfa. Mater y seiat, Dyled- swydd holl wrandaivyr yr efengyl i ymatal rhag iaith anmhur ac anweddus.' Cylioeddwyd i bre- gethu, Parchn. W. S. Jones, M.A., William Evans, Richard Edwards, J. T. Jones, B.D., Elias Jones, John Evans, H. M. Pugh, a P. M. Pierce. MYNWY.—Corporation Rd., Casnewydd, Mawrth 5ed. Uywydd, Parch. Evan Price, Ebbw Vale. Cafwyd adroddiad caJoiiogol iawn o ystad yr achos yn Corporation Road. Cychwynwyd yr achos yn y Neuadd hon yn mis Mai, 1901, o dan nawdd y Mudiad Ymosodol. Y mae yr eglwys yn awr yn rhifo 105 o aelodau. Y mae cyfartaledd y gynull- eidfa ar nos Sul yn 600. Rhifa yr Ysgol Sul oddeutu 350. Amlygwyd llawenydd mawr gan y C.M. wrth weled a chlywed am y llwyddiant sydd yn cydfyned ag ymdrechion y frawdoliaeth yn y lie hwn, ac wrth welecl fod Methodistiaeth wedi gwneLithur y fath gynydd yn Nghasnewydd yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf. Pasiwyd pleid- lais o gydymdeinrlad dwfn a theulu y diweddar Mr. Griffith Davies, trwy i'r holl frawdoliaeth gyfodi ar eu traed; ac ag eglwys Ebenezer yn ei hamddi- fadiad gan angeu o amryw o'i swyddogion yn ddi- weddar. Hefyd amlygwyd hyder cryf y bydd i Mr. D. J. Davies, unig fab Mr. Griffith Davies, ddilyn llwybrau ei dad, a dyfod i lenwi ei le yn yr eglwys ac yn y C.M. Cadarnhawyd gwaith yr eglwysi canlynol yn newid 'notes of hand Mission Hall, Abercarn; Malpas, a Marshes Hall, Cas- newydd. Penderfynwyd cyflwyno y pregethwyr canlynol i gael eu hordeinio: Mri. Roderick Morgan, Rock: J. C. E. Morgan, Risca; B. T. Evans, Rhymni; Morgan Richards, Llaneurwg; Talog Davies. Cendl; a S. O. Morgan, B.A., B.D., Pontnewynydd. Cydnabvddwyd presenoldeb y Parchn. J. Pugh, D.D., a C .L. Stephens, diweddar Genhadwr ar Fryniau Kliasia, yn ein plith, ac an- ogwyd ein heglwysi, os bydd ganddynt Suliau gwag, neu os byddant am gyfarfod cenhadol, i geisio gwasanaeth y Parch. C. L. Stephens, yn awr o Gaerdydd. Dewiswyd y Parch. A. Davies, D.D., i vsgrifenu yr anerchiad ynglyn a'r ystadegau. Cyflwynwyd y cais o Six Bells am gael capel newydd i ofal y Pwyllgor Adeiladu. Enwyd y Parch. J. Williams a Mr. W. J. Harris i fyned i Gelligroes i gymeryd llais yr eglwys ar alw bugail: ac i'r un perwyl y Parch. W. Jones a Mr. W. J. Harris i fyned, i'r Babell. Yn ngwyneb y cais a ddaeth o Mission Hall, Abercarn, mewn perthynas i gael prydles ar y capel a'r tir sydd ynglyn ag ef, pas- iwyd ein bod yn taer erfyn ar y Parchn. J. Prys a J. Glyn Davies i gwblhau eu hymdrechion yn y cyfeiriad hwn mor fuan ag svdd yn bosibl,-y Parchn. J. Evans a J. Pugh, D.D., i'w cynorthwyo, os bydd angen. Cyflwynwyd y cais o eglwys Tem- perance Hall, Casnewydd, gyda-golwg ar brynu tir i adeiladu capel, i Gyfarfod Dosbarth Casnewydd mewn cydweithrediad a'r Pwyllgor Adeiladu, a gosodwyd arnynt i gyfarfod yn ddioed. Anfonwyd cais Cyfarfod Dosbarth Rhymni am ordeinio Mr. E. R. Jones, yr Efengylydd, yn Elliott's Town i'r Pwyllgor Addysg Sirol. Caniatawyd i'r eglwys yn Corporation Road i gyfodi hyd at j6200 i gwblhau yr adgyweiriadau o gwmpas y Neuadd. Darllen- wyd llythyrau cyflwyniad y Parch. S. O. Morgan, B.A., B.D., a J. W. Perry, Marshes Hall, o G.M. Saesneg Morganwg. Rhoddwyd derbyniad croes- awgar iddynt i'n plith. Caniatawyd i'r Parch. Thos. Powell i gyfnewid a'r Parch. John Evans fel cynrychiolydd i'r Cymdeithasfaoedd. Dewiswyd Mr. D. J. Davies, Casnewydd, yn drySorydd y Casgliad Mawr, fel olynydd i'w dad, Mr. Griffith Davies, ac anogwyd yr eglwysi i anfon yr arian iddo ef, a'r llyfrau casglu i'r Parch. John Evans, yr ysgrifenydd. Darllenwyd penderfyniadau Pwyllgor y Blanche Evans' Fund gan yr ysgrifen- ydd, Mr. R. W. Jones, B.A., a chadarnhawyd hwynt. Darllenwyd y rhan o benderfyniadau Pwyllgor yr Ysgol Sul, gan y Parch. D. Meurig Jones, a, chadarnhawyd of: -Macs Llafnr Arholiad yr Ysgolion Sabbothol am 1903-4.—I'r Dos. dros 21 oed, Rhuf. ix-xiii., a'r Hyfforddwr, pen. xiii. ArhohAr, Parch. T. Davies, Pontlottyn. I'r rhai dros 16 oed: Actau xiii-xxi. 17. Arholwr, y Parch. James Llewelyn, Tredegar. I'r rhai dros 13eg oed Actau xiii-xxi. 17,—yn hanesyddol a daearyddol. Arholwr, Mr. A. Morris, F.R.H.S., Newport. I'r rhai dan 13eg, Hanes lesu Grist o'i Enedigaeth hyd y Pasg Cyntaf. Arholydd, Miss, I Phillipps, C.M., Abertileri. Hysbyswyd y dar- Uenir y gweddill yn y C.M. nesaf. Penodwyd y rhai canlynol, ynghyda'r swyddogion oeddynt yn bresenol o Ddos. Blaenafon, yn bwyllgor i ystyried amrywiol agweddau yr achos yn Earlswood: — Parchn. J. Evans, J. M. Lloyd, J. Glyn Davies, a Mri. E. Harries, R. W. Jones, B.A., W. Griffiths, U.H., A. Morris, F.R.H.S., a Rees Edwards, Tre- Jegar. Yn ddiweddarach yn y cyfarfod rhoddasant 3U hadroddiad, a, chadarnhawyd yr hyn a ganlyn: "Ein bod yn penodi y Parchn. A. Davies, D.D., ill. Price, a D. Meurig Jones, ynghyda Mr. Thomas Hughes, Cyfreithiwr, Ebbw Vale, i wneuthur ar- chwiliad ar brydles Earlswood, a, dwyn eu hadrodd- iad i mewn i'r C.M. nesaf." Cyflwynwyd y rhan arail o'r adroddiad i ystyriaeth Cyfarfod Dosbarth Blaenafon. Galwyd sylw fod y C.M. nesaf i'w gynal yn Rock, Ebrill 2il, ac nid y 9fed, fel y mae ar garden y gylchdaith, pryd y derbynir blaenor- iaid newydd yn aelodau o'r C.M. Pasiwyd pleid- lais o gydymdeimlad a'r Parch. W. Arthur Roberts, gynt o Marshes Hall, Newport, ar ol ei hir gystudd, a'n llawenydd wrth ddeall am ei adferiad. Hefyd pasiwyd ein bod yn anfon ein cydymdeimlad a gweddw a, theulu y diweddar Mr. Thomas Lewis, Penygroes; ac a Mr. M. Howell Griffiths,, New- port, ar farwolaeth ei anwyl fam, yr lion ydoedd yn ferch i'r pregethwr seraffaidd Morgan Howells. Cadarnhawyd adroddiad y Parch. W. S. Jones, Abergafeni, parthed amodau pryniad y tir at gapel* newydd Pontypool. Cafwyd yn nghyfarfod y urydnawn anerchiad galluog gan y Parch. Thomas Powell, Twyncarno, ar 'Dduwinyddiaeth yr En- wad,' a chafwyd trafodaeth fedrus a melus arno gan amryw frodyr. Pregethwyd yn yr hwyr gan y Parch. E. Armstrong, Ebbw Vale.—U.S.—Cynhelir y C.M. nesaf yn nghapel Rock, dydd lau, Ebrill 2il, 10. 30 a.m., pryd y derbynir blaenoriaid ne- wyddion yn aelodau or C.M. Holir hwynt gan y Parch. E. Price, a thraddodir y cyngor gan Mr. W. Griffiths, U.H., Casnewydd. SIR GAERFYRDDIN.—St. Clears, Mawrth 10 a'r 11. Cadeirydd, Parch. David Phillips, Glogue. Dar- llenwyd llythyr oddiwrth weddw a phlant y diwedd- ar Mr Wm. Lewis, Llwynhendy, yn cyflwyno diolch- garwch am gydymdeimlad y C.M. yn eu trallod; llythyr oddiwrth Mr. D. R. Williams yn hysbysu ei fod wedi derbyn pum' punt oddiwrth y Parch. B. F. Richards, sef yr elw oddiwrth y cylchgronau. Penderfynwyd fod Mr. Williams i'w cadw hyd nes. y byddo ei heisieu. Gohiriwyd darllen llythyr trosglwyddiad y Parch. H. F. Morgans, o G.M. Penfro hyd nes y byddo yn bresenol mewn C.M. Adroddiadau y Dosbarthiadau :—Dos. Mydrim.—- Enwyd personau o'r C.M. mewn undeb a phersonau wedi eu dewis gan y dosbarth i fod yn bwyllgor i gymcryd o dan eu hystyriaeth sefyllfa eglwysi Pen- dine, Red Roses, Lacharne, ac i ddyfod a'r adrodd- iad i fewn i'r C.M. hwn. Fod y Parch. John DaN- ies, Whitland, a Mr. C. James. Bancyfelin, i fyned trwy y Dosbarth i gyflwyno y Genhadaeth Gartref- ol i sylw yr eglwysi. Enwyd personau i arolygu arholiad yr Ysgol Sul o fewn y Dosbarth. Trefn- wyd fod cyfarfod dirwest i'w gynal yn St. Clears, a'r personau canlynol i gymeryd rhan ynddo, Y Parchn. J. Walters, J. T. Davies, Llanstephan, a Mri. Evans, Cefnonen, Haries, Pilroth. Cafwyd hanes am yr ymweliad o fewn i'r Dosbarth. Dos. Caerfyrddin.—Cadarnhawyd cais y Dosbarth, Cod Mri. R. Thomas, Conwil, Isaac Davies,, Nanit- garedig, i gael eu cyflwyno i'r Gymdeithasfa i'^ hordeinio y flwyddyn hon. Rhoddwyd caniatad i'r Parch. Samuel Evans i fyned i'r gist haiarn i edrych 'leases' Conwil a. Rhydargaeau, mewn trefn ychwanegu ymddiriedolwyr. Penodwyd brodyr 1 fod yn ofalwyr am yr Arholiad yn y Dosbarth. Dos. Llangyndeyrn, y Parch. D. G. Owens a Mr- J. G. Anthony i ofalu am y Genhadaeth Gartrefoj yn y Dosbarth. Rhoddwyd caniatad i ymgeisydd

Advertising