Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
- GOHEBIAETHAU.
News
Cite
Share
GOHEBIAETHAU. Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadau yr ysgrifenwyr.
SIR BENFRO A'R CASGLIAD MAWR.
News
Cite
Share
SIR BENFRO A'R CASGLIAD MAWR. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Syr,-Gair yn fyr, os gwelwch yn dda. Y mae cglwysi y sir hon wedi cyfranu yn nghylch £2,000 yn ystod y tair blynedd diweddaf at adnewyddiad capalau a chlirio dyledion. Hysbysir fi mai JE75 yn unig gyfrenir gan yr Annibynwyr, a £ 700 gan y Bedyddwyr, yn y sir at eu casgliadau canrifol perthynol. Mae lie i fod yn ddiolchgar fod ein casgliad ni dros £ 900: er y buaisai yn llawenydd anhraetbadwy i mi pe y gulilasem wneyd y Ddwy Fil a ddisgwylid. Yr eiddoch yn wir, Pembroke Dock, WILLIAM EVANS, Mawrth 20, 1903.
--YSGOL DDYDDIOL GREAT OAK.
News
Cite
Share
YSGOL DDYDDIOL GREAT OAK. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Anwyl Syr,—A fyddwch gystail a chaniatau i mi osod o flaen eich darllenwyr achos ysgol ddyddiol Great Oak, Eardisley, gyda'r amcan o gael ychydig gynorthwy iddi yn ei chyfyngder presenol. Fel y mae yn hysbys i rai, sefydlwyd yr ysgol hon dros ugain mlynedd yn ol, er oSgoi dysgeidiaieth, gul ac anysgrythyrol yr Ucbel-Eghvyswyr, ac oddiar hyny hyd yn awr mae wedi cael ei chario ymlaen yn ngwyneb Mawer o anhawsderau a. gwrthwynebiad- au. Y mae yn awr mewn dyled o dros dueiigain punt. A chan ei bod yn anmhosibl i ni wneyd i ffwrdd a'r baich hwn heb ychydig gynorthwy, yr wyf ar ran y pwyllgor yn apelio at y rhai hyny a deimlant barodrwydd i gydymdeimlo a ni. Yr ydym wedi cael dwy addewid o £ 5 ar^y teler- a.u ein bod yn cilirio y gweddill o fewn y misi nesaf. Yr ydym oil yn gwneyd ein goreu, o gobeithiaf y cawn ychydig gynorthwy gan rai o ddarllenwyr y GOLBUAD. Gan fod yr ysgol mewn cysylltiad a cha'pel Great Oak, uis gallaswn lai nag ufuddhau i ddymuniad y Pwyllgor i fod yn School Correspondent;' ac un o'm gorchwylion cyntaf yw ceisio rhyddhau yr ysgol o'r ddyled, gan gredu y bydd hyn yn un cam pwysig er ei chadw yn fyw. Yn ol y rhagolygon presenol, os cauir yr ysgol hon yn awr, derfydd gobaith Angjiydffurfwyr yn yr ardal. Ein gobaith yw y llwydclwn i gael y ddyled yma. i ffwrdd, ac y bydd dyfodol llwyddianus i'r ysgol. Bwriadwn gyn,a,l Jumble Sale' a Bazaar' yn 0 y mis nesaf, Eh rill 16eg, er lleihau y ddyled a byddwn yn wir ddiolchgar am unrhyw bethau gwerthadwy ar eu cyfer. Yr eiddoch yn gywir, Great Oak, LLEWELYN DAVIES, Eardisley, Mawrth 18, 1903.
EISTEDDFOD QUEEN'S HALL, LLUNDAIN.
News
Cite
Share
EISTEDDFOD QUEEN'S HALL, LLUNDAIN. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Anwyl Syr,—Oarwn gredu mai yn ei fawr sel dros Ddirwest yr ysgrifenodd M.C.' i'r GOLEUAD am y 13eg cyf.; ond oddiwrth ysbryd ei lythyr gellir cymeryd yn ganiataol mai ei amcan ydoedd niweidio yr achos yn Falmouth Road, 31 dwyn anfri ar hyrwyddwyr yr Eisteddfod Ilwyddianus a, gyn- halivyyd yn ddiweddar yn y Queen's Hall. Os mai ei aiddgarweh dros burdeb a. dirwest oedd yn ei gymell i anfon ei lith i'r wasg, yr oedd yr amcan yn ddigon teilwng, a dvlai osod ei enw priodol wrth ei lythyr. Ond gan ei fod yn amlwg ar wyneb y Hythyr mai malais a. chenfigen, sydd wrth ei wraidd, nid ydym yn synu i'r brawd beidio datguddio ei hun. Dechreua gyda sylwadau ar adroddiad eich gohebydd, a chyda'i feirniadaeth rhydd' ddogn helaeth o'r sebon arferol. Beia, ef am adael all an amryw bethau o'i adroddiad, ac am amryw frychau eraill, ond gadawaf 'M.C.' i ofal tyner eich goheb- ydd, yr hwn, mi dybiaf, sydd yn ddigon abl i am- ddiffyn ei hun. Mewn perthynas i'r rhan bwysicaf o'r llythyr, pasiaf heibio ei ensyniad isel-wael ein bod ar ein m jin t a is yn agoriad y Refreshment Bars. Nid oedd a fynom a hwy, a. phe buasai'n bosibl eu cau ar noswaith yi" Eisteddfod, buasem wedi gweled fod hyny yn Gael ei wneyd, neu na. fyddai ond diodydd anfeddwol yn cael eu gwerthu. Yn hersonol, bu- asem yn cau pob tafarn a lie o'r fath drwy y tir, ac nid diffyg sel dros yr achos ar ra+i s^yddogion yr Eisteddfod, y rhai ydynt oil yn llwyrymwrthod- wyr, oedd yn cyfrif am agoriad y bars. A pheid- led darllenwyr y GOLEUAD a meddwl fod yn y bars hyn ymyfed agored a pharhaus fel y dywed M.C., Yr oedd gan awdurdodau y ijeuadd ddynion yn, ar- olygu y rhan yma o'r ystafell, a chawsom ein llon- gyfarch gan y goructhwyliwr, yr hwn oedd yn bres- enol o'r dechreu i'r diwedd, ar drefnusrwydd y cyfarfod, a'r modd y bu i'r gynulleidfa ymddwyn yn, a thuallan i'r netiadd. y Nid oedd raid i 'M.C.' edrych ar ei raglen i gael atebiad i'w gwestiwn ai Eisteddfod perthynol i eglwys Fethodistaidd ydoedd y cyfai-fod. Gwytlclai hyny cyn dod i'r Queen's Hall, a daeth yno i geisio Hei feio ac i feirniadu, nid am ei fod yn eiddi- geddus dros burdeb yr Eisteddfod, ond oherwydd ei obwerwedd personol tuag at y cyfeillion yn Fal- mouth Road a'r swyddogion. Nid wyf am aw- grymu fed y brawd wedi ei siomi yn yr un o'r cys- tadleuaethau, oherwydd mae personau o'r rhyw- ogaeth yma yn rhy fawr i gyd-ymgeisio. mewn Eis- teddfodau—gwell ganddynt feirniadu a beio. Gyda golwg ar yr elw, bydd yn dda. gan gyfeill- ion yr achos wybod,—-er feallai na fydd y newydd 1 yn rhyw felus iawn i 'M.CL', ei fod yn cyraedd tua JE115. Mae yr ymdrech hon ar ran yi- eglwys yn Falrnohtii Road ar wahan i'r casgliadau arferol, pa rai nid ydynt yn llai, er fod gwobrwyon yr Eis- teddfod a nifer o daiiysgrifiadaii wedi eu rhoddi gan aeiodau yr eglwys. Drwy gynal yr Eistedd- fod, cafwyd cynorthwy allan nas gel lid disgwyl am dano mewn unrhyw ffordd ara.11, a, chredwn fod y drafferth a'r costau yn werth myned iddynt er mwyn casghi swm mor sylweddol at amcan teilwng. Wrth derfynu, dymunaf ddioch o galon i'r amryw gyfeillion roddasant eu cynorthwy i ni yuglyn a'r Eisteddfod, ac yn enwedig i M.C.' ac eraill am ddangos eu cymeradwyaeth o'n gwaith drwy brynu tocyhau a, pitresenoli eu hunain yn y cyfarfod. Yr eiddoch, &c., D. R. HUGHES, Ysgrifenydd Eisteddfod Queen's Hall, Streatham, S.W.
WIGAN.
News
Cite
Share
WIGAN. Anarnl y gwelir enw y lie hwn ar ddalenau y GOLEUAD, ac ni buasai i'w weled yn awr1 onibai am agoriad capel newydd hardd perthynol i'r eglwys genhadol feelian a gweithgar sydd yn yTle. Yr oedd yr hen ga,pel wedi myned ymron a-i ben iddo, a, buwyd yn son am flynyddoedd am wneyd cyfne- widiadau ynddo. Ond pan yr aed i drefnu ar gyfer 'hyny, gwelwyd mai gwell, oherwydd amryw resym- au, fuasai ei ail wneyd; ac erbyn. hyn, wedi llawer o bryder, y mae y gwaith wedi ei orphen, a'r gost yn rliywle tua mil oi buna,u. Cynhailiwyd y cyfar- Sf'od cyntaf ynddo, cyfarfod; gweddi, nos Fercher, Mawrth lleg, a'r noson ddilynol traddododd y gweinidog a'r cenhadwr, y Parch..Owen Jones, y bregeth gyntaf yn y capel newydd. Nos Sadwrn pregethwyd gan y Parch. John Williams, B.A., Gwrocsam, a'r Parch. Richard Humphreys, Liver- pool a.'r Sabbath, pregethwyd yn Saesneg, y boreu a'r hwyr, gan y Parch. W. Wynn Da.vies, Liver- pool a'r prydnawn gan weinidog y Presbytenaid Saesneg. Y nos Sadwrn dilynol pregethodd y Parch. David Williams, B.A., Caergybi; ai bore a hwyr y Sabbath yn Gymraeg, y Parch. Owen Owens, Liverpool; ac yn y prydnawn yn Saesneg, gweinidog yr Annibynwyr Saesneg. Glafwyd cyn- ulliadau rhagorol, ac yr oedd y weinidogaeth yn iymns ac efFeithiol. T'eimla, y ddeadeM fechan yn Wigan yn dm. rhwymedig i'r holl weinidogion fu yn gwasana,ethu am y paiAdrwydd a arddangoswyd ganddynt i'w cynorthwyo. Gwasanaethwyd gan rai o honynt yn rhad ao am ddim, a, chan yr oil yn rhwydd a chyda" phcb cydymde-imlad. A gwerth- fawrogir, yn fawr garedigrwydd eglwys: David St., Liverpool, yn rhyddhau y Parch. Owen Owen fel y gallai fyned i Wigan. Wele y desgrifiad o'r capel a, ymddangosodd yn un o newyddiaduron y dref The. church, which has been built, at a, cost of about tl,000, has a frontage of 27} feet facing Greenough St. In addition there are two. porches 7} feet square, the 2 front elevation is built with Ruabon bricks with Yorkshire stone dressings, the inside of the porches being cased with enamelled bricks in various shades. There are all so two vestibules about 7 feet square, formed of pitchpine, the upper part of which is glazed with coloured glass. There is com- fortable seating accommodation for 175 persons. In addition there is a schoolroom behind, 35 feet by 13 feet. The walls are plastered to imitate stone, with moulded arches over the front windows and over the rostrumi. The floor is laid through- out with pitchpine wood blocks on a, bed of con- crete. To insure greater'comfort; the ceilings have been boarded with tongued and groved pitchpine boards. There is also a pitchpine dado round the church about 4 feet high. The seats and rostrum are also of pitchpine, the latter being beautifully carved. The building is lighted by electricity, carried out by Messrs. Heyes and Co., .Wigan. The heating arrangement has been completed by Messrs. Wadsh and Co., Bolton. The contract has been satisfactorily carried out under the super- vision of the architect, Mr. R. Flemming, and great praise is due to the builder, Mr. David A. Ablett, of Wigan, who has completed the whole con e contract, this being the third church which has been completed by him within the last twelve months." Y mae yn perthyn i'r achos bychan hwn amryw o ffyddloiiiaid, ac ni ddigia yr un o honynt am i mi enwi y swyddo'g hynaf, Mr. John Wiilliams, 23, Greenough St., fel yr un a.g y mae pen trymaf y baich ynglyn a,'r capel newydd, ac a'r achos er's llawer o flynyddoedd bellach, wedi bod ar ei ys- gwyddau. Y mae y wedd sydd ar yr achos yn awr, ac i raddau mawr, bodolaeth yr achos yn y lie, yn ddylledus, o dan fendith yr Arglwydd, i'r mawr ofal calon a'r llafur oariad a arddangoswyd ganddo ef. Y mae ef a Mrs. Williams wedi bod a'u ty yn agored i letya y pregethwyr ar hyd y blynyddoedd, ac i groesawu y bobl ieuainc a ddeuant i'r dref; ac y mae Mawer yn Nghymru yn awr yn teimlo yn gynes tuag at y ddau, am y caredigrwydd a dder- bynnvydj oddiar eu Haw. Nis gellir dweyd y nifer sydd wedi cael eu cadw, nid yn unig gyda'r Meth- odistiaid, ond gyda chrefydd, drwy ffyddlondeb Mr. a Mrs; Williams i'r achosi cenhadol Methodistaidd yn Wigan. Ac ni byddai dim a roddai fwy o gallon- did iddo ac i eraill sydd yn meddwl am enw Iesu Grist yn Wigan, nag i rai o.'ch lliaws darllenivyr a, allant anfon swm iddo tiuag at, doddi rhyw gy- maint ar y ddyled fydd yn aros ar y capel newyddi. Nid oes ond tua/r haner o'r gost yr aed iddi wedi ei addaw. fel y bydd yn rhaid cael ,£500 o rywle i orphen cUrio'r ddyled.—B.
PENFRO.
News
Cite
Share
PENFRO. Cyfarfod. Gweinidogion y ddwy dref a. gynhal- iwyd yma, prydnawn yr 16eg, pryd yr oedd wyth allan o'r deuddeg yn bresenol. Cafwyd ymdrin- iaethau buddiol ar amryw o faterion neillduoi a chyffredinol. Cynlielir y cyfarfodydd hyn unwaith y chwarter, a theimla y brodyr lawer o adnewydd- iad trwyddynt, ac y maent yn feithrinol i wir undeb crefyddol. Mae capel bychan yn y wlad o'r enw Nebo, per- thynol i'r Annibynwyr. Bu y Parch. J. H. Owen, yr wythnos cyn y ddiweddaf, yn rhoddi.eyfres o gyfarfodydd cenhadol yma gyda, graddau o lwydd- iant. Mae gan Mr. Owen ddawn arbenig nt, y cyfarfodydd hyn. Mac yn gwneyd defnydd gwerthfawr o'r ddawn hon yn ei eglwys ei hun. Mae yr ychwanegiadau at eglwys Westgate er dechreu y flwyddyn bellach yn ddeugain.
LLUNDAIN.
News
Cite
Share
LLUNDAIN. Camden Town.—O dan lywyddiaeth y Parch. 4 Peter H. Griffiths, bu aeiodau Ysgol Sul CamdeU Town yn rhoddi cyngerdd nos! Fercher diweddaf; a daeth llond y neuadd o bobl ynghyd i wrando ar y rhai bach yn adrodd a chanu mor swynol. 'Roedd yn eglur fod y plant wedi cael disgyblaeth ragorol, ac mae'r cyfeillion ynglyn a'r gwaith yn haeddianol o'r clod uchaf. Yr unig ddiffyg a, deim- lem oedd na, roddid mw.' o amlygrwydd i'r Gym- raeg. Cynorthwywyd y plant yn yr,a,il ran gan Y cantorion a ganlyn —Miss Mary Daviøs" Miss May Pierce, Mr. Gibbs, Mr. Jenkins, a Mr. Dan Jones. Eisteddfod y Plant, Falmouth Road.—Cynhal- iwyd yr uchod yn neuadd y capel, nos Fercher, yr lleg, o dan lywyddiaeth W. L. Rees, Ysw., Brix- ,ton. Arweiniwyd gan y Parch. S. E1. Pryddei ch- Yr oedd y cynulliad yn bur lliosog, ac ymhlith lliaws o gefnogwyr eisteddfodau, gwelwyd Mr- Caradog Jones, A.C., a'r cyfaill Mr. Kean, o King's Cross, yr hwn oedd wedi cymeryd cryn ddyddordeb yn llwyddiant yr Eisteddfod. Beirniadwyd v gwa- hanol gysitadleuaethau gan Mr. Madoc Davies, A.R.C.M. y Parchn. R. Roberts, Wililesden; J. Wilson Roberts, Stratford; Mrs. T. Williams. Miss J. Jenkins, a'r Mri. T. 0. Jones, Lewisham; W. Hughes, a D. R. Hughes, Falmouth Road. Yr oedd nifer enwau yr ymgeiswyr dras, 100, a chaf- wyd cystadlu o radd uchel ar yr oil.
LLANEGRYN.
News
Cite
Share
LLANEGRYN. Tan DinystrioL-Føl y crybwyllwyd yr ivythno ddiweddaf, torodd tan allan yn masnachdy Mr- Hugh Pugh, Ffery/llydd, Llanegryn, yr hwn barodd ddifrod mawr ar yr holl eiddo. Ymddengys fod Mr- Pugh rhWllg un a dan o'r glocih boreu Sabbath; wedi deffro, ac iddo arogli mwg yn dyfod i'w ys" tafell. Cododd yn ebrwydd, ac aeth lawr i'r gegin- Agorodd y drws oedd yn arwain i'r Faelfa, a rhuthrodd y ffiamau i'w gyfarfod. Rhedodd i fyoY i'w ystafell wely gan feddwl gwisgo am dano, a gwaeddodd drwy y ffenestr am gymorth. Daetb y cymydogion yno mewn ychydig funydau, a thrwy anhawsder mawr y llwyddwyd i'w waredu, gan fo1" y tan erbyn hyn wedi ymledu drwy yr oil o'i* adeilad. Aeth y ty a'r faelfa, a.'r oil oedd ynddynt yn aberth i gynddaredd y ffiamau, fel nad oes dlIII yn arcs ond muriau moeilion di-do! Go,ly,gfa naa anghofir mohoni oedd gweled Mr. Pugh; yn hen v* r 80 mlwydd oed—wedi colli ei gartref, a'i hdj eiddo, a hyny mewn ychydig oriau. Nid oedd ganddo erbyn toriad y wawr boren Sabbath hyd nod dillad i'w gadw rhag yr oerni ond a roddwy" ,"an gyfeil'lion caredig Mewn cyfarfod cy- hoeddus a gynhaliwyd ddechreu yr wythnos, VeK derfynwyd gydag unfrydedd a brwdfrydedd wney" tysteb i Mr. Pugh, a phenodwyd casglyddion y11 y gwahanol ardaloedd, pa rai sydd wedi dechre« ar eugwaith o ddifrif, ac yn cael derbyniad sirio1 ymhob man. Gwyddom y bydd yn dda gan gared- igion y symudiad hvrn ymhell ac agos gael tafltt eurhoddion i'r drysorfa. Mae yr achos hwn Jll mthnadol-gan nad oedd yr eiddo wedi ei vswirio- Bydd yn llawenydd gan y Trysoiydd, y" Parch- William Davies, Tynewydd, Lianegryn dderby11 unrhyw symiau a chydnahod y cyfryw.
Ewymon fe) Meddyginiaeth.
News
Cite
Share
Ewymon fe) Meddyginiaeth. Ei Effeithiau Rhyfeddol ar yr Ystumog, yr Afu, yr Elwlod, a'r Coluddion. Perthyna, i'r GWYMON yn naturiol, rinwepd cryfhaol ac iaohaol ymhell tuhwnt i feddygipiaeth; a,u adnabyddus eraill. Addefir hyn yn awr awdurdo-dau cydna-byddedig. Cyflwynwyd gyntaf gan Mr. Veno, fel un o elfena'u YENO'S WEED TONIC, ac er hyny mae VENO'S TONIC yn cael ei ddefnyddio mewn ysbytai c y meddygon eu hunain oherwydd ei rinwed^" iachaol uwchraddol. Gwelir ei effeithiau peiiaf y, nglyn ag anhwylderau yr ystumog, yr afu, elwlod, ac y mae yr engreifftiau rhyfeddol o had drwyddo, hyd yn nod yn yr aehosion gwa| yn brawf diymwad o'i werth, mawr fel meddyS|i^ iaeth. Mae yn fendith anmhrisiadwy i rai yn odd oddiwrth ddiffyg treuliad, gwynt, cur yn Y P g, gwendid, anhwylderau yr elwlod, oefn, dolurus, syrthni yr afu, anhwylderau benyw' gwaed teneu, a, RHWYMEDD PAHHAOL. Gofyner VENO'S SEAWEED TONIC. Pris lilt a 219 Fferyllwyr a gwerthwyr cyffyriau meddygol- Sit Rhagora y feddyginiaeth dra llwyddianusi h<>n. unrhyw beth yn y gelf feddygol, ac y mae gwerthiant helaethaf yn y byd.