READ ARTICLES (4)

News
Copy
Ibattesfon Cvef\>bboI. ELlMIP ARK.-Cynnaliwydlein eyfarfodydd blynyddol nos Fawrth a dydd Mercher, Hydref 13eg a'r I4eg. Pregethwyr, B. Williams, Tabernacl, Llwynhendy, a W. Trevor Jones, Llanelli. Pregethwyd yn rymus, hwylus ac effeithiol. Dechreuwyd y eyfarfodydd gan W. Trevor Jones, T. W. Morgan (A.), Philadelphia, R. Gimblett, Felingwm, a J. T. Davies, gweinidog y lie. HOREB, GELLIGAER.-Cynnaliodd yr eg- lwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol dydd- iau Sul a LIun, Medi 13eg a'r i4eg, pryd y cawsom y pleser o wrando y ddau frawd rhagorol, sef y Parchn Iorwerth Jones (lorwerth Ddu), Maesteg, a William Davies (Duar), Rhydfelen. LLANFAIRCAEREINION, MALDWYN. — Ar. ddydd Mawrth a Mercher, Hydref 6fed a'r 7fed, cynnaliwyd cyfarfodydd pregethu yr eglwys uchod. Gwasanaethwyd gan y Parchn E. W. Davies, Ton, ac E. Williams, Rhosllanerchrugog. Yr oedd y Parch Hugh Jones, B.A., Caerdydd, hefyd yn bresenol. GLYN ELAN, MAESYFED.—CynnaHwyd ein cyfarfodydd blynyddol eleni nos Lun a dydd Mawrth, Hydref 5ed a'r 6fed, pryd y pre- gethwyd gan y Parchn J. R. Evans, Llwyn- hendy, T. G. James, Tydu, a J. Gimblett, Treforris. Cafwyd cyrddau llwyddiannus a phregethau ardderchog. Z, SARON, LLANDYBIE. — Cynnaliodd yr eg- lwys uchod ei chyfarfodydd haner blynyddol nos Sadwrn a dydd Sul, Medi 26ain a'r 27ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch F. Morgan, Mountain Ash, a'r Parch R. Gimblett, Nantgaredig. Cafwyd cyfarfod- ydd lluosog a llwyddiannus. MORIAH, YNYSTAWE.—Cynnaliodd yr eg- lwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol, Sul a Llun, Hyd. 4ydd a'r 5ed, pryd y pregeth- wyd gan y Parchn D. H. Rees, A.T.S., Penrhyndeudraeth, ac E. Edmunds, Aber- tawe. CALFARIA, PENHEOLGERRIG, MERTHYR.— Sul a LIun, Hyd. 4ydd a'r 5ed, cynnaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol, pan wasanaethodd y Parchn D. Morgans, Argoed, a Miss E. A. Jones, Pendarren. Cymmerwyd rhan yn rhanau arweiniol gan y Parchn T. Davies y gweinidog J. G. Evans (A.), Penheolgerrig, a D. Price, Noddfa, Pendarren. RAMOTH, HIRW AIN.- Cynaliodd yr eglwys uchod ei gwyl bregethu blynyddol, Sul a'r Llun, Hydref 4ydd a'r sed, pan y gwasan- aethwyd gan y Parchn J. Young Jones, Trealaw, a H. Williams, Nantyglo. LLANFACHRETH.—Yr un dyddiau a chyfarfod- ydd yr eglwys, cynnaliodd brodyr y Bedyddwyr a ymgyferfydd yn Mholltyrarw eu gwyl bregethu, a breintiwyd hwythau a rhai o ddoniau goreu yr enwad, sef y Parchn Dr. Rowlands, Llanelli, Iorwerth Jones. Maesteg, a J. Wyre Lewis, Nefin. Diau mai llawen iawn gan bawb oedd gweled a chlywed y Parch J. Rowlands, D.D., Llanelli, yn dyfod i draethu y Gair yn ei hen fam-eglwys, oblegid yma ar ei bronau hi y meith- riniwyd ef, ac y dygwyd ef i fyny yn ofn ac athrawiaeth yr Arglwydd. Bydded iddo nawn- ddydd teg yn ngwinllan ei Arglwydd, a'i draed yn brydferth ar y mynyddoedd yn cyhoeddi Iacha wd wr iaeth. — ♦

News
Copy
CYFARFOD SEFYDLU Y PARCH JOSEPH JAMES, CWMBACH. Dyddiau Snl a Llun, Ilyd. 4ydd a'r 5ed, cynnaliodd yr eglwys yn Ngliwmbach ei chyfar- fodydd pregethu blynyddol, yn nghyd a chwrdd sefydlu y Parch Joseph James, gynt o'r Hafod, yn weinidog arni. Y pregethwyr gwahoddedig oeddynt, y Parchn E. Ungoed Thomas, Caer- fyrddin, S. G. Bowen, Bryncemaes, ac Edwin Jones, Llanfyllin. Cafwyd cynnulieidfaoedd mawrion o ddechreu y cyfarfodydd hyd eu diwedd, a ehafwyd y pleser ar y diwedd o weled rhai yn rhoddi eu hunain o newydd i Grist. Prydnawn Llun, cynnaliwyd eyfarfod neillduol er rhoddi oroesaw calonog i Mr a Mrs James i'r eglwys a'r cylch. Cymmerwyd y gadair am 2 o'r gloch gan y Parch W. Harries, Heolyfelin, hen weinidog yr eglwys yn Ngliwmbach. Dech- reuwyd trwy weddi gan y Parch J. Mills, Abernant. Y cadeirydd yn ei annerchiad pwr- pasol a daflai gipdrem dros hanes y weinidogaeth yn Bethania. Yn mysg y lluaws gweinidogion fu yma, cofiodd ei hunan, a gallai ddwyn tystiolaeth uchel i ymddygiad caredig Bethania tuag at ei gweinidogion. Braint fawr ydoedd cael pregethwr da, a brawd o gymrneriad yn weinidog. Hyderai y byddai i'r eglwys weddio lawer dros ei gweinidog newydd, nid yn unig yn gyhoeddus ond yn ddirgelaidd, er ei helpu i ddod a dynion i afael yr "iachawdwriaeth a fydd byth a/r cyfiawnder ni dderfydd." Dymunai i Mr James a'r eglwys bob llwyddiant. Y peth iusaf ydoedd darlien llythyrau oddi- wrth weinidogion oeddynt yn methu bod yn bresenol yn eu plith. Yr oedd eiddo y Parchn T. E. Williams, Berthlwyd; T. Humphreys, Owmaman, yr hwn er ein gofid oedd yn wael ei iechyd; J. James, Hirwaun a Fred Morgan, Ffrwd, Mountain Ash. Derbyniwyd llythyrau hefyd yn ddiweddarach oddiwrth y Parch H. R. Thomas, Rhondda ac eraill. Yr oeddynt oil yn dwyn tystiolaeth uchel i gymrneriad Mr Jones a'i allnoedd fel pregethwr. Methodd y Parch Thomas Davies, Pentre a chyrhaedd mewn pryd, gan ei fod yn pregethu mewn lie arall. Galwodd y cadeirydd yn nesaf ar y brawd Mr Pardo, sef un o ddiaconiaid yr eglwys i gyflwyno yr alwad yn ffurfiol i Mr James, yr hyn a wnaeth yn hynod o ddeheuig. Yn mblith pethau eraill sylwodd fod yr alwad yn hollol unfrydol, heb un eithriad. Cafwyd gair gan Mr James mewn atebiad i'r alwad. Sylwai ei fod er wedi ateb o'r blaen, ac wedi treulio agos i ddau fis yn y lie, yn ateb eto mewn ffydd o iiyddlondeb yr eglwys. Yr oedd yn argyhoeddedig fod gwaith mawr i'w wneyd dros Grist yn y dyddiau hyn, ac hyderai y gallai fod yn offeryn gyda chydweithrediad yr eglwysi fod o ddefnydd yn yr ardal. Y brawd nesaf a alwyd ydoedd Mr F. Samuel, Ysgrifenydd eglwys yr Hafod, sef cyn-essgobaeth Mr James. Dygai dystiolaeth uchel iawn i'w gyn-weinidog. Profodd Mr James ei hunan tra. yn yr Hafod bobpeth ellid dymuno. Pregethai iddynt efengyl bur. Teimlai yn hiraethus iawn yn ngwyneb ei golli, ond gan y credai fod yr yspryd yn ei arwain i gylch eangach o weith- garwch rhaid ydoedd ymfoddloni. Y Parch T. T. Hughes, Mountain Ash a sylwai ei fod wedi dod i ddymuno yn dda i Mr James a'r eglwys. Llawenhai yn y ffaith ei fod yn declireu ei weinidogaeth yn yr haf, a gobeithiai na byddai iddo ddiweddu yn y gauaf. Gobeith- iai 11a fyddai i'r eglwys wneyd gormod mewn ftordd o ganmol yr hen weinidog fel ag i ddi- galoni y gweinidog newydd. Gwyddai yn dda am rai eglwysi yn fEryndiau eithafol a. gweinidog- ion eglwysi eraill, ond yn tuedda i ddibrisio eu gweinidogion en hunain. Y Parch R. E. Williams (Twrfab) a ddywedai iddo glywed Mr James yn pregethu unwaitb, a tbeimlai yn sicr ei fod yn feddyliwr. Hyderai y byddai i'r eglwys wrando arno, ynfeddylgar, sylwgar, a deffro. Y ffordd i ddigaloni ein brawd fyddai gwrando yn ddidaro arno. Rhoddai groesawiad calon i Mr a Mrs James i'r cylch. Llongyfarchai y Parch Mr Davies (A.) yr eglwys yn Bethania ar ei gwaith yn sicrhau gweinidog mor ragorol, hefyd ar unfrydedd yr alwad. Wedi cael eu dewis eu hunain hyderai eu bod wedi cael dewis y Net. Yn enw eglwys Brynseion (A.) estynai ef groesaw calonog i Mr a Mrs James. Y Parch Mr Roberts (M.C.), Cwmbach a sylwai mai dyna y tro cyntaf iddo gael cwrdd a Mr James, ond ei fod wedi clywed llawer am dano. Rhaid fod Mr James yn bregethwr gwir dda i fod wedi anfon y ser eraill i'r cysgod. Estynai yntau yn enw yr ilen Gorph' groesaw cynhes i Mr James i'r ardal. Y Parch Myles Griffiths, F.T.S., Gaellys, a longyfarchai (1) ei hunan ar gael brawd o'r un oedran ag ef i'r ardal, (2) Yr eglwys, yn un peth am gael brawd o Sir Fon i'w gweinidogaethu. Yr oedd yn brofiadol o garedigrwydd pobl Sir Fon. Pobl Sir Fon sydd yn codi gweinidogion, ond pobl Sir Forganwg sydd yn eu parchu. (3) Mr James ar gael eglwys mor fyw a gweithgar. Y Parch Cynog Williams, Heolyfelin a ddy- wedai iddo glywed fod Mr James yn bregethwr rhagorol. Erfyniai ar i'r eglwys ei wneyd yn well pregethwr. Hyderai y byddai i'w gweddiau fod yn nerth yn ei weinidogaeth. Y Parch W. Thomas, Cwmdar a obeithiai y byddai i Mr James bregethu y gwir. Dymunai bob llwyddiant i'r eglwys a'i gweinidog. Parch T. Davies, Gwawr, yr hwn a wnaeth ymdrech neillduol i fod yn y cwrdd, a ddywedai er nas meddai y pleser o adnabod Mr James, yr oedd yn estyn y croesaw cynhesaf iddo i'r cylch. Dau beth hanfodol i bregethwr, sef pwlpud cryf a ehymmeriad iach. Parch Edwin Jones, Llanfyllin a lawenhai fod llinynau ei gyfaill wedi disgyn mewn lleoedd mor hyfryd. Gailai oddiar flynyddoedd o adnabydd- iaeth agos a Mr James ddwyn y dystiolaeth uchelaf i'w gymrneriad a'i allucedd. Yr oedd yn un o'r cymmeriadau hyny ag y gcllid fforddio myned yn agos ato, heb deimlo yn siomedig. Yr oedd yn gwella wrth ei adnabod. Dygai dyst- iolaeth uchel iddo fel myfyriwr. Meddai ar allu i gyflwyno yr hen efengyl mewn goleuni newydd. Prawf ei fod yn weinidog rhagorol ydyw iddo adael ei hen eglwysi yn well ar ei ol bob tro. Gwyddai ar olwg pobl Bethania y byddai iddynt wneyd pobpeth yn eu gallu i ddal breichiau eu gweinidog i fyny. Gwnaeth y Parch O. M. Owen, Penydarren aberth i ddod i'r cwrdd. Yr oedd yn adnabod Mr James er's rhal blynyddau. Dygai dystiol- aeth uchel. iddo yn mhob ystyr. Ei farn ef ydoedd na sefydlwyd rhagorach brawd erioed na Mr James. Hyderai y byddai i'r eglwys ei barchu er mwyn ei swydd, ag y byddai iddi weddio llawer drosto uwchben ei Beibl. Y Parch Mr Harries (S.), Aberaman, a obeith- iai y byddai i'r eglwys wertbfawrogi gweinidog- aeth Mr James. Os digwyddai bregethu yn wael, mai mantais ddylai hyny fod i weled ei werth pan yn pregethu yn dda. Sylwai y Parch M. Jenkins, Abercwmboy, mai hwn ydoedd un o'r cyfarfodydd goreu y bu erioed ynddynt o'r fath. Calonau yn gollwng allan ffrydlifcedd o ddymuniadau da. Yr eglwys wedi cael brawd rhagorol yn weinidog a vice versa. Gwelai yn Mr James y myfyriwr, y dyn, y pregethwr a'r gweithiwr. Hyderai y byddai i'r eglwys ei werthfawrogi trwy roddi gwrandawiad astud iddo. Angen nerth neillduol i bregethu i bobl fydd a'u llygaid tuag i lawr, ac ar adegau eu llygaid yn nghau, a'u pen yn agored. Y Parch W. R. Jones, Penrhiwceibr, a obeith- iai y byddai i'r pethau da a ddywedwyd gario dylanwad. Da oedd ganddo ddeall fod Mr James yn bregethwr da, a'r hyn oedd fwy yn feddyliwr da. Er i'r cyfarfod redeg yn faith nid oedd arwydd fod neb wedi blino gan faint y dyddordeb a deimlid. Darparwyd gwledd odidog ar derfyn y ewrdd gan foneddigesau yr eglwys. Yn yr liwyr dechreuwyd gan y Parch O. M. Owen, Peny- darren, a phregethwyd gan y Parchn Edwin Jones, Llanfyllin, a S. G. Bowen Cemaes. Cafwyd cyrddau a hirgofir. Yr Arglwydd yn ei nawdd a aroso gyda'n brawd a'r eglwys. --0--

News
Copy
CYLCH DOSBARTH YSTALYFERA. Cyfarfyddodd nifer o athrawon ac athrawesau y cylch uchod yn Bryn Seion, Cwmtwrcli, pryd- nawn Hydref y 3ydd, i sylwi a gwrandaw ar y chwaer ieaanc dalentog, Miss Jeremiah, Ysgol- feistres, Yniscedwyn, yn rhoddi model-lesson, ac yn ddiau yr oedd yn fodel o wers yn ystyr ddyfnaf y Gair. Cafwyd gwledd i galon a phen, a mawr byderir y cerir allan ei hawgrymiadau buddiol a gwerthfawr. Fel y dywedodd un o I ddiaconiaid Bryn Seion, y dywedwn ninnau y dylem fel enwad fod yn falch o'r ehwaer rhag- orol hon, a'i bod yn liaeddol o bob cefnogaetli. Blin oedd genym fod y cynnulliad mor wael, ond llawenycha y rhai oedd yno am yr hyn a gafwyd,

News
Copy
Beb^bbiabau. Penybont, Llandyssul—Boreu Sul, Hydref lleg, arweiniwyd unarddeg, sef deg brawd ac un chwaer ar ol v Ceidwad trwy iedydd. yn afoB Teift. Yr oedd torf fawr wedi dyfod yn nghyd, a y thraddodwyd annerchiad galluog ar fedydd gan y gweinyddydd, y Parch J. Jones, gweinidog. Noddfa, Penydarren.—Hyd. 4ydd, un, gan y gweinidog, y Parch D. Glyn Price. Ramoth, Hirwain.—Boreu Sul, Medi 27ain, dwy o ddeiliaid yr Ysgol Sul, gan ein gweinidog, y Parch George Hague. Noddfa, Pontycymmer. — Sul, Medi 27ain claddwyd dan yn nyfroedd y* bedydd gan y gweinidog, W. Saunders, Ereill o flaen yr eglwys. mHorob, Llandudno Junction.— Sul, Hydref: lleg, un, gan y gweinidog, y Parch Win. Edwards. Swn eraill yn dod. Seion, Pontsenni.—Nos Sadwrn, Hydref 3ydd, bedyddiwyd un chwaer gan y gweinidog, y Parch E. T. Jones, yr hon oedd wedi pwysleisio y peth yn ei meddwl am tua deunaw mis cyn tori trwyddi mewn ufydd-dod i Ben Mawr yr eglwys. Yr oedd o'r blaen yn aelod parchus gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Nid o herwydd ifrae a ffrwgwd y daeth atom, ond oddiar argyhoedd- iad mai dilyn Ei gamrau Ef sydd yn iawn a diogel. r I