READ ARTICLES (3)

News
Copy
Ebion 0 Brycheiniog. Mr Gol.Gyda'ch caniatad arferol, y mae genym rai pethau sydd o ddyddordeb cyffredinol i ddarllenwyr SEREN CYMRU, a gymmerodd le yn hanes eglwys fechan Seion, Pontsenni. SUL Y PLANT. Ychydig Suliau yn ol, cafwyd Sul i'r plant yn ol ein harferiad bellaeh bob deuddeg wythnos, a mawr y disgwyl oedd am dano. Am 2 o'r gloch cafwyd cyfarfod adroddiadol, pryd yr aeth y plant trwy eu gwaith yn ardderchog. Pawb o honynt am y goreu. Yn yr hwyr, cafwyd pre- geth i'r plant gan y gweinidog, a mawr y canmol oedd arni gan bawb oedd yn bresenol. GWLLDD 0 DE. Yr oedd pawb am y goreu yn fawr a bach yn gwneyd cyfiawnder a hwy eu hunain wrth y byrddau, ac ar ol y danteithion cafodd y plant fyned i gae eyfagos i cliwareu yn ol yr arferiad i blant. Gwnaeth y chwiorydd anwyl eu gwaith yn ol eu harfer yn ddigymar. Aeth pawb adref mewn hwyl yn canmol y ddeilen ddu a'r bara brith. EISTEDDFOD G ADEIRIOI., o dan nawdd eglwys fechan weitbgar Pontsenni, yr hon a gynnaliwyd Llun, Hydref 5ed, Daeth saitli o gorau i gystadlu ar y dernyn Awn i ben y Wyddfa Fawr," gwobr £10. Cor meibion o Glynncdd aeth a'r llawryf y tro hwn. Cafwyd cystadleuaeth ardderchog. Daeth tri o gorau eymmysg i'r ymgyrch; buddugol, Cor o Dre- castell. Geiriau, Fy nyddiau a ddarfuant fel mwg," gwobr £ 3. Aeth y gadair i Ystradfalltre. Ni ebefais enw y buddugwr. Beirniad y Fardd- oniaeth a'r Rhyddiaeth, y Parch Ogwen Davies, Cray; Beirniad y Gerddoriaeth, Mr R. C. Jenkins, R.A.M., Aberta,we; Beirniaid Celfydd- ydol, Miss Davies, Maesyrhelem, a T. Joseph, Ysw., Graig-goch, Pontsenni. Yr oedd y gwobr- wyon yn amrywio mewn arian, bathodau, cwpan- au, a chadair. Cyfeilyddes y dydd Miss G. S. Watkins, Post Office, Trecastte. Cadeirydd yr eisteddfod, Lewis Williams, Ysw., Y.H., Aber- honddu. Llywydd, y Parch W. Ogwen Davies, ficer, Cray Cadeirydd y gyngherdd, W. R. Jones, Ysw., M.D., Pontsenni. Cafwyd eistedd- fod a chyngherdd yn llawn llwyddiant, yn ymyl jE40 o elw clir. Mae y Bedyddwyr yn myned i fyny yn raddol mewn dylanwad a phwys yn y cyleh hwn o Wlad Bryehan, trwy ymroddiad di- ildio y cenadwr aiddgar a'i eglwys fechan ym- roddo!, a Duw yn bendithio y eyfan a'i wenau hyfryd trwy wyneb ei anwyl Fab Iesu Grist. CYRDDAU DlOLCHGARWCH A ClTENADOIj. Bwriadwn gynnal y cyfarfodydd uchod o dan nawdd y Symudlad Blaenfynedol eleni etto yn Mhontestyll a Phontseni, H vdref 27ain a'r 28ain, pryd y disgwylir rhai o dywysogion y pwlpud i'n hanerch yn mhersonau y Parchu J. It. Evans, Llwynhendy, It. Machno Humphreys, Calfaria, a John Lewis, Caersalem, Llanelli, a Luther Davies, Crickhowell. DARLITII. Disgwylir yr athrylithgar Facbno i ddarlithio Bontestyll, ar y testun poblogaidd ac awgrym- iado!, Goehelweh y Paent." Yr ydym wedi sicrhau hefyd fardd bregethwr i lanw y gadair yn mherson y Parch John Lewis (A.), Libanus, ger Aberhonddu. Disgwyiiwn felly rhwng y ddau fardd le hwylus. Bardd-bregethwr yn darlithio, Bardd-bregetbwr i gadeirio Fe fydd pawb mewn hwyl yn gwrando Ar y dden-fardd yn ymgomio. Adeg y ddarlith ddisgwyliedig yw nos Lun, Hydref 26ain. MEIBION DUON HAM. Bydd dan ymwfilwr Affricanaidd o Colwyn Biy yn talu ymwetind ag amryw o eglwysi Brych- einiog eleni etto. Hyderwn y cant dderbyniad cynhes gan yr eglwysi er rnwyn eu gwaith ac aracan goruchel y Sefydhad. BRYCHAN 0 BRYCHEINIOG.

News
Copy
--0-- Bronchitis a Diffyg Anadl. Dywed G. H. SHARPE. F.C.S., Dadansoddydd, 11 & 12, Uroat Tower Street, Lluiidain, yn ei Certificate o Analysis: Yr wyf o'r tarn y bydd i Veno's Lightning ougn Cure brofj yn feddyginiaeth werthfawr mown gwella pesyohiadau, anwydon, diffyganacll, ac aehwyniongwddf.' Veno's Lightning Cough Cure ywy feddyginiaeth buraf a mwyaf eflfeithiol ellir gael at wella pesyohiadau, anwyd- 011, bronchitis, diffyg anadl, cat-irrh, a phesychiadau plant. Fds 9|c, Is lie, 2s 9c, gan fferyllwyr a masnachdai cyffeiran

News
Copy
YNYSBOETII A'R CAPEL NEWYDD. Mae genyf hyder y caniatewch i'r hyn a ganlyn yn nyiyn a'r aehos nchod ymddangos yn y SEREN. AJae'r yn yr Ynys hon yu adnabydd- us bellaeh i ddarlleuwyr y SEREN, fel aehos newydd mewn lie ag iddo ragolygon gobeithiol iawn gan gynnydd y boblogaetb. Mae yn mryd I y frawdoliaeth fechan yma, yr hon sydd yn llafurio dia gymmaint o aofanteision, godi capel newydd ar oohr y brif Jiordd, mewn lie rnwy pytteus i gytarfod a ehynnydd y boblogaeth. Gwnaeth Pwyllgor adeiladu y gymmanfa ym- chwiliad i'r amgylchiadau trwy gyfrwng Dosbarth Aberdar, a gwelwyd fod amean yr eglwys yn briodol, ac yn symudiad amserol a chadarnha- wyd gwaith y Dosparth yn cymmeradwyo cael capel newydd gan benderfyniad y gymmanfa a gynnaliwyd yn Nghalfaria, Abercynon, yn mis Mehefin, drwy roddi croesaw calon i mi ym- weled a'r eglwysi ar ran yr aehos. Wedi hyny, cychwynais i'r daith. Lie cyntaf fy ymweliad oedd Seion, Cwmamman, Aberdar. Wedi cyr- liaedd cartrefle Mr Humphreys y gweinidog, siomwyd fi yn fawr gan waeledd iechyd ein hanwyl frawd, a drwg genyf orfod dweyd ei fod yn parhau yn analluog i wneyd ond yehydig o hyfryd waith ei galon, ond gobeithio y daw yn fnan. Mae iddo eglwys dda, sydd yn meddu cydymdeimlad parchus ag ef. Aethum i'r capel ac yno yr oedd y saint wedi bod yn mwynhau gwledd o fara brith a chwpanaid o de ac ni fll'1' brodyr anwyl yn ol o gofio am y pererin ar ei daith, a hyny yn anrhydeddus mewn dwy ffordd, fy nghalonogi a phenderfyniad yr eglwys i'n cynnorthwyo gyda'r capel, a rhoddi i mi ran helaeth o'r wledd. Yn dilyn hyny ymwelais a Chalfaria, Aberdar, ac agorwyd y drws led y pen, a'r frawdoliaeth yn gwrando gyda bias. Er nad oedd Mr Griffiths gartref, llonwyd fi yn fawr gan hawddgarwch Mrs Griffiths cyn fy ymadawiad ac mse Calfaria yn gwneyd, a diamheu y gwna yn deilwng o honi ei hun. Lie nesaf fy ymweliad oedd Gwawr, Aberamman, a Mr Davies y gweinidog fel arfer yn llawn hawddgarweh, a breichiau agored yn croesawu'r cardotyn, a gwneyd ei oreu i wasgu y mater i galon y bobl, ac mae Gwawr yn obeithiol iawn. Wedi hyny troais fy ngwyneb i gyfeiriad Heoly- felin. Wedi i mi osod yr aehos gerbron, pen- derfynwyd rhoddi gwahoddiad i'r hen gardotyn yno am Sul, a chasglu ar y Sul hwnw, a thalu supply hefyd. I'; weithred rasol oedd hon a, chardotyn, ac esiampl ragorol i eraill wneyd yr un modd. Mae canlyniad yr ymweliad fel hyn :— Casgliad 92 Is tanysgritiadau-Mrs Jane Wat- kins Is; Mrs Sarah Jenkins Is; Mrs Phillips 2s 6c; Miss Griffiths Is; Mri Henry Lewis 23 6c; John Evans 2s J. John 2s 6c D. M. Davies Is James Edwards 2s 6c Daniel Davies 3s Daniel Jones Is Thos. Davies 6c John Thomas Is; Miss Martha Phillips Is; Mrs Jenkins Is Mrs Davies 6c Mrs Matthews Is Mrs Baton Is; Mrs Harries 6c; Mr Owen Harries tt Is Addewid sicr £ 4 8s 6c; ac amryw addewidion i ddod i fewn etto. Hebron, Dowlais ;-Casgliad 18s 2 £ -c tanys- 2 grifiadau—Mri D. Price 2s; Edmund Williams 5s George Lewis Is Cyfanswm £1 fis 21c. Moriah, DowIais ;-Casgliad £ 1 Is 2c; tanys- griflachu-Mrs Huggins 5s; Mrs Davies 5s; Cyfanswm £ 1 11s 2c. Ond rhaid godro rhagor o Fynydd Moriah. llamoth, Hirw.iin. Ymwelais a'r frawdoliaeth yn Cwmbich ar adeg yr oeddent mewn hwyl fawr yn parotoi i dderbyn y gweinidog newydd, y Parch James, Hafod gynt, yr hwn erbyn hyn sydd mewn gweitbgarweh mawr. Ac nid oes amheuaeth na fydd Bethania i fyny a'i henw, ac a'i hanes yn y gorphenol, gyda help ei gweinidog parchus. Seion, Merthyr. Ymwelais a'r He hwn, cefais dderbyniad brawdol gan y gweinidog y Parch W. A. Jones a'i brlod hoff. Casgliad lIs Ole; tanysgrifiadau—Mr Job Davies 2s 6c; Mr Phillips, Cloth Hall 5s Cyfanswm 18s Cllc. Wedi hyny troais fy Kgwyneb i gyfeiriad y Rhondda. Salem, Porth. Nid oedd y nosor) a enwais yn gyfleus i fy ymweliad, ond gwnawd y casgliad y nos Sul canJYBol-£1 16s. O'r Porth aethum ar fy liynt i Glydach Vale, a'r Parch W. E. Davies a'i deulu fel arfer yn hynod gartrefol a cbaredig i Iago. Aethum i'r capel, a chawsom oedfa wrth ein bodd yn ystyr y nefoedd ac mae Caifaria wedi addaw agor ei ljaw i gynnorthwyoy gwan. Wedi hyny aethum at fy nghyfaill cywir Mr D. Williams, Grocer, Cwtriclydach, yr hwn sydd yn aelod, pregethwr, a diicon. yn Noddfa, Blacn- clydach, ac ni ehefais ddweyd yr un gair ond dangos yr appel cyn fod 10s a Man yn y fan fel arfer. Mae genyf obaith am gasgliado'r Noddfa hefyd. Cefais ddau danys^rifiad—• Mr Jonah Evans Is a. Mrs Moses Is. Nos Lun canlynol, ffwrdd a mi etto am Jeru- salem, Llwynpia. Yr oedd ewrdd gweddi dy- munol yno. Wedi'r cwrdd, cafodd y cardotyn ddweyd ei neges, ac nid cynfc nag y dywedais fy stori fach, yr oedd y brodyr a'r chwiorydd am y cyntat yn estyn yn miaen eu tanysgrifiadau. Mri W. liees 2s 6c G. Bradrus Kees 2s 6c U LOvans 2s 6c; T. Thomas 2s; Thos. Old 2s 6c; Thos. Rees Is; Mrs L. A. Gould 2s; Mrs Thomas Is; Mrs Jenkins Is; Mri L. Lewis VI, Dan Morris 2w 6" brawd Is; Cyfanswm £ 1 Is6c] Ond pan af yno etto, riisgwyliaf ragor. Nos Fawrth yn Nebo, Ystrad, codwvd fy nghalon gan y frawdoliaeth yno, a gobeithio y I gwneir sylw ymarferol o awgrymiad a wnawd gan un brawd yno, bydd hyny yn glod i galon pobl Nebo. Wedi'r cwrdd, wele'r buga.il yn arwain y ddafad grwydredig i'w gorlan ei hun am y nos, ac nid oedd dim yn ormod ganddynt er fy ngwneyd yn gystu-us. Ymaith drachefn yr aethum am fynydd Heb- ron, Ton, lie y cefais dcterbyniad cynbes, gan ddweyd yr un stori, yr hon a dderbynid fel manna o'r nef, a'r gweinidog parchus Mr Davies yn cynnorthwyo i wasgu teilyngdod yr aehos at galon y bobl, yn cael ei ddilyn gan yr hen frawd anwyl Mr John Jones gyda hwyl, nes mae gobaith y cardotyn wedi ei godi yn uchel yn y mynydd hwn. Cafwyd mewn tanysgrifiadau gan ddau frawd yn perthyn i'r Ton dranoeth :—Mri J. Phillips 10s, a T. Watkins, Grocer 2s 6c Cyfanswm 12s 6c a chwmmwl mawr ar dori. Yr ydwyf yn byw mewn gobaith am gyrhaedd Moriah yn fuan. Awst 24ain. Arweiniwyd fi yn awr yn nerth ffydd tuallan i gyffiniau gwlad Canaan i gyfeiriad Llanelli. Wedi cyrhaedd gorsaf Llanelli er fy llawenydd, cyfarfyddais ag archangel Bethel, yn Haw yr hwn yr oedd neges o ddyddordeb mawr i mi ar fy nhaith, fod pobl Bethel wedi penderfynu gwneyd casgliad, yr hwn sydd wedi dod i law drwy Mr Job, eyfanswm £112s 8c. Cyrliaeddais Seion. Yr oeddwn yn meddwl ynof fy hun, y byddai y festri yn llawn digon i gynnwys y bobl a ddeuai i wrando cardotyn yr Ynys ond rhaid oedd myn'd i fyny'r mynydd, ac er fy syndod daeth torf i fyny, a'r bugail ac eraill o'i amgylch yn Manw'r sedd fawr, yn cynnorthwyo'r gwan a'u hamenau, a phawb yn ymddangos wrth eu bodd. Gwnawd casgliad da ar nos o'r wythnos. £1 15s 6c tanysgrifiad- Mr Thomas, Grocer 2s 6c Cyfanswm £117 s 6c. Dydd Mawrth aethum am dro at Dr Rowlands, Moriah, a chefais ef yn dra hawddgar, yn en- wedig pan ddeallodd mai y cardotyn bach oedd- wn, a ehefais addewid y cofiai pobl Moriah yn frawdol am bobl dlawd yr Ynys. 0 Lanelli aethum i Zoar, Llwynbendy, lie y gwrandawyd fy stori ac yr addawyd cymhorth yn mhellach yn mlaen. Ocldiyno cyfeiriais fy nghamrau am Manordeilo, cartrefle y Parch D. J. Davies, Cwmifor, ac oddiyno am Llansawel; ac oddiyno i fyny am d'aio erbyn y Sul. Cyrhaeddais babell y gwein- idog, y Parch J. E. Thomas, yr hwn a darawyd â syndod mawr fy ngweled, ae etto yn Uawen fel fy hun. Aethum i'r gwasanaeth boreu Sul yn Salem. Cafwyd gwledd o'r fath oreu, y pryd- nawn a'r hwyr. Disgwyliwn bethau mawr o Salem a Bethel. Dydd Llun troais yn fy ol i Llansawel, yn cael fy hebrwng gan Mr Thomas a'i hoffus briod. Cafwyd tanysgrifiadau yn Llansawel. Mri J. Myles Jones 2, J. Evans, Rhydymeirch Is; Mrs Griffiths, Angel Is. Ar daith etto i gyfeiriad Cwmdu ar ymweliad a'r brawd rhagorol Mr David Jones, Gedeon, yr hwn sydd yn enwog am ei garedigrwydd i weision Duw, yn enwedig rhai mewn angen, ac aehos lesu Grist. Rhoddodd dderbyniad tywysogaidd i'r pererin ar ei daith. Er fod y tywydd yn arw, ymwelais ag amryw, y rhai fu yn hynod garedig i mi. Tanysgrifiadau—Mr D. Jones, Gedeon tt Mrs Davies, Gelli Farm Is; Mr M. Morgans, Cwmifor 2s Mrs Davies, Pistyll Farm 2s 6c; Miss Thomas, Cwmcerrig Is; Mrs Griffiths, Bank Is; Mr H. Davies, Penrhyw- geinen Is Cyfanswm Y.1 8s 6e. Mawr obeithiaf am ragor o Gwmdu. A r fy nhaith yn ol bellach i Langennech, i balasdy y brawd hyfwyn Mr Morris y gweinidog a'i ehwaer. Er yn ddieithr, eefais groesaw calon a Ilety eysurus am y nos. Wedi myn'd trwy'r gwasanaeth a dweyd fy neges, cymmerodd y brawd rhagorol Mr T. Richards, Draper, at gasglu tanysgrifiadau, a rhoddodd ei hun 5s i ddechreu. Disgwyliaf gynnyrch da yn fuan o Langennech. Ffwrdd a mi etto am Ammanford, a ehefais yno hefyd osod fy aehos gerbron y frawdoliaeth, a'r gweinidog, y Parch Mr Williams yn hynod galonogol. Wedi hyny dyehwelais gartref yn flinedig gan y daith, ond buan yr ymwelaf A gorsafoedd y saint i'r un amcan ac mae genyf bob hyder y llwyddir yn yr amcan. Gobeithio nad wyf yn trethn gormod ar eich amynedd cliwi Mr Gol., addtwaf fod yn fyrach y tro nosaf. Ynysboeth. J. B. DAVIES.