READ ARTICLES (8)

News
Copy
LLONG YFARGHIAOAU. Y mae genym y gorchwyl pleserus o lon- y gyfarch ein hanwyl frawd Dr John James, mab y diweddar Barch D. James, Tabor, Penfro, ar ei appwyntiad yn rheolwr ftddysg, dm Gynghor Sirol Alorganwg-i swydd yn golygu rhwng saith ac wyth gant o bunnau y flwyddyn o gyflog. Fel y gwyr Ilawer o'n darllenwyr collodd Dr James ei dad yn gynnar, ac y mae ei lwyddiant i'w briodoli i ofal ei fam weddw, ffyddlondeb ei frawd a'i ymroad ei hun. Dechreuodd ei fyd fel grocer, a bu yn gwasanaethu yn yr alwedigaeth hon yn Merthyr a Threorci. Troes ei feddwl at efrydiaeth, a llwyddodd i ennill ysgoloriaethau i Goleg y Brif-ysgol yn Nghaerdydd, ac oddiyno i Goleg Baliol Rhydychain. Enwogodd ei hun yn ei ym- drechion yn y sefydliadau hyn a daeth allan yn B.A., a B.Sc. o Rydychain. (Deallwn erbyn hyn ei fod wedi derbyn ei M.A. o'r Brif-ysgol hono), a B.A. o Brif-ysgol Llun- y z, dain. Ar ol dringo grisiau dyrchafiad fel hyn yn ei wlad ei hun aeth drosodd i'r Almaen, ac wedi treulio dwy flynedd yn Mhrif-ysgol Erlemgen, daeth allan yn Ph.D. (Doethawr mewn Athroniaeth). Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Addysg y sir wrth lon- g-yfarch y Dr ar ei appwyntiad ei bod yn ddiamheuol fod y swydd wedi ei rhoddi i'r uchaf ei gyrhaeddiadau. Llongyfarchwn y sir ar gaffaeliad swyddog yn meddu y fath gymhwysderau uchel, a Dr James ar gyr- haeddiad safle sydd yn weddus i'w ragor- iaethau personol ac addysgol. Mae y Dr yn Gymro gJân gloyw-.yn gallu siarad ac ysgrifenu yr iaith yn gywir, yn frawd i Mr D. James (Defynog), Porth, Ysgrifenydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac yn mi fab chwaer i'n blaenorydd yn ngolygydd- ,y iaeth y SEREN, y diwedclar Barch B. Thomas (Myfyr Emlyn), Narberth. Pe buasai yr ewythr yn fyw i weled llwyddiant rhyfeddol ei nai, diau y cawsid ysgrif ardderchog ganddo ar yr achlysur. Dymunwn oes faith a llwyddiannus i Dr James yn ei safle an- rhydeddus ac ymddiriedol. Y mae genym hefyd i longyfarch Mr John D. Jones, cyn Brif-ysgrifenydd Swyddfa y Llythyrdy, yn Nhaerynarfon, ac er ys pum mlynedd yn Bostfeistr Winchfield, Hamp- shire, ar ei bennodiad yn Bostfeistr tref Caerfyrddin. Mae Mr Jones yn frawd naturiol, a brawd yn y ffydd i Mr Thomas Jones, Postfeistr ei dref enedigol Caerynarfon a'r hwn a fu am dymhor cyn hyny yn llanw swydd gyffelyb yn Mhontypwl, Mynwy. Rhadlonach a charedicach tjhvyth na'r Jonesiaid hyn ni sangodd ddaear erioed. Y mae i'n brawd ein dymuniadau goreu ar ei sefydliad yn hen dref y SEREN.

News
Copy
NODION 0 LANELLI. Boreu Iau, Hydref 8fed, yn nghapel Caersa!em, y dref hon, unwyd mewn priodas y Parch Alfred Morris, gweinidog Salem, Llangennech, â Miss Thomas, o'r un lie. Priodwyd hwynt yn ngwydd y cofrestrydd gan y Parch W. Trevor Jones, Bethania, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch J. Lewis, Caersalem. Ymadawodd y par ieuanc i Gaerdydd i dreulio eu mis mel. Dymunwn iddynt oes faith, a llawer o lwyddiant a chysur. Sul a'r Llun, Hydref 4edd a'r 5ed, cynnal- iodd eglwys Moriah ei chwrdd banner blynyddol, pryd y pregethwyd i gynnulieid- faoedd mawrion gan y Parch R. Lloyd, Caerdydd. Nos Iau, Hydref i5fed, cynnaliwyd cyfar- fod yn nghapel y Trinity gan eglwysi rhyddion Dosran 3ydd. Pwnc y cwrdd oedd "I Anhawsderau yr Eglwysi Rhyddion yn y gorphenol a'r dyfodol." Cadeirydd y cyfarfod oedd Alfred Davies, Ysw, A.S., a siaradodd gyda dylanwad a chymmeradwy- aeth. Yr oedd y gynnulleidfa fawr oedd yn bresenol yn ei dderbyn ac yn gwerthfawogi ei annerchiad ar annhegwch y Mesur Addysg i't graddau helaethaf. Wedi hyny cafwyd annerchiad nad annghofir yn fuan ar Oliyer i Cromwell, gan y Parch E. Lloyd Jones, Manceinion. Dyma y tro cyntaf i'r gwr uchod ymweled a'r dref, ond yn sicr nid dyma y tro diweddaf. Yr oedd egwyddor- ion Ymneillduaeth a Rhyddfrydiaeth yn cael eu dangos a'u dysgu yn y ddarlith hon gyda'r dylanwad mwyaf. Erbyn hyn y mae helynt y Dock Newydd mewn cyflwr difrifol. Beth fydd y canlyniad sydd anhawdd dyfalu. Mae yr awdurdodau wedi eu gwysio gan y Bank of England, ac efallai mai i ddwylaw y Bank uchod y disgyn y Dock Newydd etto. Mae hyn yn dysgu yn amlwg mai goreu pob fwyaf o ddyddor- deb a gymmera pawb mewn materion lleol. Dylai y cyhoedd chwilio yn fanwl i amgylch- iadau trefol a deall yn drwyadl bob sym- udlad sydd yn cvmmeryd lie. GOHEBYDD.

News
Copy
Cyfarfodydd Pregethu. Hydref 6fed a'r 7fed, bu y Parchn E. W. Davies, Ton, Rhondda, ac E. Williams, Rhos, yn cynnal ein cyfarfodydd pregethu. Cawsom hin dymunol yn nghanol dyddiau t, gwlyb ac ystormllyd, cynnulleidfaoedd llu- osog (gorfu i ni fyn'd y noson olaf i gapel yr Annibynwyr), casgliadau da, a phregethu rhagorol iawn. Gobeithio y gwelir ol daionus o'r pregethu yn mhob teulu a chapel trwy y cylch.

News
Copy
Pwnc y Town Hall. Da genyf ddweyd fod rhagolygon da am gael gweled ein Town Halt newydd yn cael ei adeiladu yr haf dyfodol.

News
Copy
Cenllifodd A nferth. Cawsom ddau genllif uchel iawn, yr uchaf er's tua deugain mlynedd, yn afon Banwy, yn ystod yr wythnosau olaf.

News
Copy
Gwobr Ymroad. Diau fod eich darllenwyr wedi sylwi mai unig ferch y brawd S. Ellis oedd ail oreu yn holl Gymru yn y Dosparth Uchaf yn Arhol- iad diweddaf Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae ei chynnyrchion wedi bod lawer gwaith yn yr Undeb o'r blaen. Mae hyn yn dangos beth all penderfyniad ac ymroad ei gyrhaedd. Llawer merch a weithiodd yn rymus, ond ti a ragoraist arnynt oil." AB EINION.

News
Copy
0-- SALEM, PORTH. Hydref i leg a'r I2fed, cynnaliwyd cyfar- fodydd hanner-blynyddol yr eglwys uchod. Cawsom i'n gwasanaethu y tro hwn y Parchn T. Davies, Felinganol, a P. Williams (Pedr Hir), Lerpwl. Cyrddau da yn mhob ystyr. o Y mae ein hen gyfaill "Cochfardd" wedi bod yn cicio nyth cacwn yn ddiweddar, trwy roddi gormod o amlygrwydd i Wrth- wynebiad Goddefol yn ei golofn i un o bapyr- au Toriaidd Caerdydd. Mae "Cochfardd" yn bur iach yn y ffydd ar fater addysg, ac yn hynod groyw yn ei gondemniad ar ymosod- iadau yr Eglwys a chefnogaeth y Llywodr- aeth iddi i lychwino y dyfroedd, a'r canlyn- iad yw fod llawer o'r darllenwyr yn gwaeddi "Caled yw yr ymadrodd, pwy a ddichon wrando ? A bod colynau lawer yn estyn- edig tuag at y lienor. Nid oes dim o hyn yn menu ar "Cochfardd," mwy na dwfr ar gefn hwyad, ond er mwyn heddwch a rhag drygu y papyr rhydd i fyny ysgrifenu ych- waneg am y presenol i'r papyr hwnw, ar y mater, a gobeithia nad yw yr adeg yn mhell pan all ganu, u Caf edrych ar stormydd ac ofnau," &c.' Un o'r bobl yw Maer Caerdydd, ac fel y cyfryw y mae mewn cydymdeimlad dwfn a'u buddiannau pwysicaf.

News
Copy
yn ganiataol yr hyn fyddai yn annheg i'r Trefedigaethau, ac yn afresymol i ninnau ei ddisgwyl oddiar eu Haw. Gwnaeth gam- gymmeriadau pwysig yn eu ffigyrau, a phan Z" alwyd ei sylw at hyny dywedai yn sionc a thafodrydd, nad oes pwys i'w osod ar ffig- yrau ond mai y dadleuon a ddygai yn mlaen oedd yn galw am sylw. I ba beth y defn- yddiai ffigyrau os nad oedd pwys ynddynt, ac os nad oedd y ffigyrau i ddibynu arnynt pa fodd y gall y dadleuon sylfaenedig arnynt fod yn safitdwy ? Mae ei gyfrwystra mor amlwz a'i ddiofalwch. Gwir ei fod wedi ymddiswyddo fel aelod o'r Llywodraeth, ond y mae mor wir a hyny ei fod wedi ennill Mr Balfour, yn parhau i'w arwain, ac yn rhinweddol yn Brif-weinidog er allan o'r Cyfringynghor a rhag na buasai hyny yn ddigon gofalodd fod ei fab i mewn yn gofalu am ei fuddiannau yn ei absenoldeb, ac nid yw yn annhebyg fod ganddo law yn y tro brwnt tuag at yr aelodau rhydd-fasnachol o'r Llywodraeth. Mae yr anturiaeth yn fawr, ond dyn anturiaethus yw diweddar Ysgrifenydd y Trefedigaethau, ac nid yw wedi arfer bod yn llwyddiannus yn ei antur- iaethau. 0 ddyn galluog y mae ganddo lai o waith i'w ddangos na nemawr un o'i gyfoedion. Ond y mae hyn yn ei ffafr, ei fod yn bur barod i droi ei gefn arno ei hun pan fydd ei gestyll yn yr awyr yn syrthio ar ei ben. Beth bynag am ein dyfaliad yn ei gylch ef a chenadaeth y diwygiad cyllidol, nid yw dylanwad uniongyrchol y mudiad yn ffafriol i'r Llywodraeth sydd yn gondemniedig ar gyfrif ei gwastraff, ei haneffeithioldeb a'i gorthrwm ac yn llesg ac yn barod i ddiflanu. 0'( tu arall y mae wedi profi yn foddion ad-uniad ac megis bywyd o farw i'r Wrth- blaid. Mae blaenoriaid y blaid wedi codi allan o'u pebyll ac yn siarad yn groyw ac unol ar y sefyllfa gan ddangos eu condemn- iad llvvyraf i'r cynnygion dieithr a gwlad- weiniaeth y Llywodraeth yn gyffredinol. A pheth sydd yn fwy addawol fyth, y maent wedi dechreu ysgrifenu. Cofir cynghor Arglwydd Rosebery i lanhau y llechen. Pa un a gymmerwyd y cynghor neu beidio, ychydig o ysgrifenu fu ar y rhaglen Rydd- frydol ar ol hyny, ac nid llawer a sonid am yr hyn oedd wedi ei ysgrifenu eisoes. Dichon fod y llong wedi ei gorlwytho yn mhorth- ladd Newcastle acmai cynghor buddioloedd ysgafnhau y llestr, neu mewn trofeg arall glanhali y lleehcn. Mae pob un sydd wedi siarad ar gwestiynau y dydd, yn cynnwys Rosebery, CampbeU-Banerman, Askwith, &c., wedi dechreu ysgrifenu, a phob un yn ysgrifenu yr un pethau ac yn yr un drefn. Dyma hwynt—Addysg, Dirwest, Gwerth tirol ac anneddau i weithwyr. Prin y mae eisiau ysgrifenu effeithioldeb a chynnildeb. Y mae y rhai hyn yn elfenau hanfodol Rhydd- frydiaeth, ac yn sicr o gael sylw, a gwir achos am hyny. Hon weithian yw awr y wlad. Ni all etholiad cyffredinol fod yn mheil oddiwrth- ym. Na fydded i neb gael eu hud-ddenu gan addewidion teg am ddigon o waith a chyflog da am dano gyda diffyndollaeth a bywioliaeth uchelbris. Cofier fed yr un cwynion mewn gwledydd eraill a gwaeth gyda diffyndollaeth ag sydd yn y wlad hon gyda masnach rydd. Ac na fydded i ddi- faterweh gadw neb draw yn nydd y frwydr na'i wneyd yn glaiar i'r canlyniadau. Mae Z, y yr argraff ar y banerau yn ddigon eglur- annghyfiawnder, gorthrwm a thiodi ar y naill, cydraddoldeb, tegweh a ffyniant ar y Hall.