Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y BEDYDDWYJJ YN Y, BROWYDD.

News
Cite
Share

Y BEDYDDWYJJ YN Y, BROWYDD. LL YTHYRIV. "POB peth newydd dedwydd da." Felly pan ddechreuodd y Bedyddwyr chwythu yn yr udgorn efengylaidd yn Mhenclawdd, lied-, odd y son am danynt trwy yr holl wlad; daethant yn destun siarad o Benclawdd i Worm's Head, ac o Park Mill i Llangeni, a byddai llawer yn cyrchu i wrando eu hath- rawiaeth, ac i edrych arnynt yn gweinyddu yr ordinhadau. Ond pan aethaht hwy i gyf. yngu eu huaain i Benclawdd yn unig, buan y blinodd y bobl deitliio tuag yno. Rhaid i ni fyned at y bobl, ac nid aros gan ddysgwyl wrth y bobl i ddyfod atom ni. Ffolineb ydyw gwneyd Jerusalem o un lie neillduol, adeiladu temi eang yno, a gadaelycymmyd- ogaethau cylchynol yn amddifad o un math o -gyfleusdra. Tybiwnni maiy ffordd oreu i ledu ein hegwyddorion fyddai eyfodi gorsaf bregethu, a chadw ysgol Sabbothol yn mhob pentref, bvdded ef mor lleied ag y byddo. Fel Bedyddwyr, yr ydym wedi bod yn ol yn hyn, yn rhoddi mantais i enwadau ereill fedd- iannu lleoedd cyn y byddwn ni yn ceisio gosod ein traed ar lawr. Credwn fod Aber- dar yn siampl i'r sir, os nid i'r wlad yn gyff- redinol, yn yr ymdrech yma. Pe buasai y Bedyddwyr yn ymdrechu yn Browydd pan ddechreuasant yn Mhenclawdd, diamheu y buasai yno erbyn hyn achos cryf, yn alluog i gynnal gweinidog ei hun. Rhaid cyfaddefmai gwan oeddent yr amser hwnw-nid oedd ond 14 o eglwysi yn y sir; ond yr oeddent; ynlled gref yn Llanelli a Llangyfelach, a gallesid gydagychydig o ymdrech ddanfon pregethwr cysson i'r fro. Mae yn debygol ltukfu llawer, 03 dim pregethu gan Fedydd- wyr yn mharthau isaf y wlad o'r flwyddyn ;1817 hyd y fl. 1851. Felly dyma bedair-ar- ddeg ar bugain o flynyddau yn myned heibio; heb i'r bobl gael clywed am ein hegwyddor- ion dyma y wlad yn rhydd i'r enwadau taen- ellyddol gytodi yr eilun bach i'r golwg, yr hyn a wnaethant iraddauhelaefchiawn. Nid oes neb yn eu gwrthwynebu nac yn dynoethi eu cyfeiliornad, fel erbyn heddyw y mae y Browyr mor selog dros daenellu eu plant ag ydynt dros fedi eu llafur wedi iddo gyrhaedd aeddfedrwydd. Nid cymrnaint efallai am eu bod yn ystyried hyny yn ordinhad grefyddol, ond fel traddodiad ac arferiad eu tadau,— Ein tadau ni a addolasant yn y mynydd hwn—gwnawn ninnau yr un peth. Gwydd- om fod degau yn Browydd yn taenellu eu plant am yr unig reswmv fod eu rhieni yn gwneyd hyny o'u blaenau hwynt. Ond nid y yw y wlad i gael bod o hyd heb ddysgu yr egwyddorion hyny. a gyhoeddwyd gan hen fedyddiwr anialwch Judea, ae. i gario allan gommissiwn y Pen mawr yuflyr iawn gyfeir- iad,—" Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig. Fel y mae rhagluniaeth yn mhob oes. o'r byd, trwy ei chylchdroadau doeth a dirgelaidd, wedi cyflawnu gweithred- oedd nerthol, ac wedi dyfod a phethau mawr- ion a rhyfedd i'r amlwg, trwy offerynau yn ymddangos i ni yn wael ac annghymhwys, y rhai sydd yn peru i ni ddweyd gyda'r patri- arch Job, Pethau rhy ryfedd i ni, y rhai nis gwyddom, felly y bu yma. Yr oedd yn by w yn Knelston hen amaethwr o'r enw Wilson, i'r hwn yr oedd tri o feibion. Ymadawodd un o honynt &'i dad i fyned i'r Gweithiau, ac aeth i weithio i gamlas Cas- newydd. Tra yno priododd ferch i Mr. Evan Walter, Lantarnau Farm, yr hon oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Soar, Henllys. Yn fuan ar ol hyny, symudodd ei dad o'r fferm, ac ymadawodd y mab a sir Fynwy yfl. 1850, i fyned yno yn ei Ie. Felly dyma'r wraig ieuanc yn gadael ei chartref, a'i pherthynasau, a'i holl gyfeillion, .i fyned i ganol pobl na weloddhwynt erioed o'r blaen— yn myned o blith gwlad o Fedyddwyr mewn ystyr i blith pobl, llawer obarai na chlyw- sant son am Fedyddwyr erioed. Wedi myned yno, ni wnaeth hon fel rhai aelodau Bedyddiedig ag y daethom i wybod am dan- ynt, ymuno gyda'r Methodistiaid neu'r Eg- lwys Sefydledig, neu aros gartref, heb fyned i un lie o addoliad; eithr bu am fisoedd yn myned i Hermon, Penclawdd, neu Siloam, Sketty i'r naill yr oedd ganddi chwech neu saith, ac i'r Hall naw neu ddeg milltir o ffordd. Beth bynag, yn mis Mai, 1851, gwnawd sum o addition yn y teulu. Un o'r pethau pwysicaf yn ngolwg y tad oedd taen- ellu y plentyn, a dysgwyliai y cymmydogion yn bryderus am y christening day, fel y galw- ent ef; oblegid y mae yn arferiad yno i'r rhieni i wahodd rhai o'u cydnabod i gaelpryd da o de ar ddydd y taenellu, yn neillduol os mai yr offeiriad fydd wrth y gwaith-rhaid cael tad bedydd a mam bedydd ae ereill. Ond y farn, er mawr siomedigaeth i'r tad a'r cym- mydogion, oedd mor benderfynol a hyny i beidio taenellu y plentyn, a chymmerodd Air Duw i'w hamddiffyn; ac fel y mae bob amser yn troi allan pan yn cymmeryd Gair Duw yn rheol, cariodd y dydd. Ond i fodd- loni y tad, dywedai y byddai iddi hi ofyn gan Mr. Pughe, Siloam, neuWilliams, Penclawdd, ddyfod yno i'w enwi. Er nad oes genym fwy o sail i enwi nag sydd genym i daenellu, nid yw enwi mor ddrwg yn ei effeithiau a thaen- ellu, am nad yw yn cymmeryd lie un o ordin- hadau y Testament Newydd; etto rhaid i bobl Dduw oddef ychydig mewn amgylch- iadau o'r fath,er rhwyddhaufforddyr efengyl. Enwaedodd Paul ar Timotheus, oblegid yr Iuddewon oeddent yn y partlnu.hyny, er mwyn i Timotheus gael derbyniad mwy croesawus ganddynt. Cafodd y wraig gryn drafferth i wneyd iddynt ddeall beth a fedd- yliai wrth enwi. Dywedai fod y pregethwr yntraddodi pregeth, yn cymmeryd y plentyn yn ei freichiau, yn cyhoeddi ei enw, ond dim yn ei wlychu. Boddlonwyd i hyn, a phen- derfynwyd ar y diwrnod oedd i gymmeryd lie. Aethwyd i ymofyn y gweinidogion a enwwyd, ond yn anffodus ni allai un o hon- ynt ddyfod y dydd hwnw. Gorfuwyd myned i Lanelli cyn cael un i gyflawliu y seremoni. Cawsant gam hen weinidog penwyn o'r enw Jones i ddyfod. Yr oedd Hon'd y ty o bobl yn ei aros, ac ymddengys i'r hen wr ddweyd tipyn yn ddonibl ac yn hwylus dros ben, nes peru iddynt oil synu vn fawr. Ar y diwedd, rhoddodd un d honynt sovereign yn ei law, gan ddweyd, God blefes you—when be you coining here again, old man P". Kboddodd y pregethwr y fath foddlonrwydd cynredinol i'r bobl, fel y byddent yn gofyn yn ami i Mr. Wilson,—"When be the Baptist coming again, Sam ?" Yn mhen tua dwy flynedd wedi hyny, ymwelodd un arall a'r teulu, ac yr oedd yn rhaid cael rhy w un i enwi hwnw drachefn. Daeth Mr. Pughe at y gorchwyl y tro hwn, 'ac mor awyddus oedd y bobl i glywed y Baptist, fel y gwnaethant i Mr Pughe addunedu dyfod i roddi pregeth iddynt unwarth y mis, yr hvn a wnaeth am rai blynyddau. Yr oedd y ty fynychaf yn cael ei orlenwio wraasdawwyr, nes o'r diwedd y penderfynwyd gan Mr. Pughe a Mr. Wil- son i adeiladu addoldy yn y pentref er rhoddi mantais i addoli yn drefnus. Prynwyd y fir, adeilad^f d y capel, ac agorwyd ef tua di- weddy flwyddyn 1857, pryd y pregethwyd gan Mr. Rowlands, Cwnjafon, a'r Dr. Price, Aberdar. Ymddengys iddynt gael cyfarfod- ydd da iawn; mae damau o'r pregethau yn cael eu hadrodd gan rai hyd heddyw. Traul yr adeilad oedd rhywbeth gyda chant punt. Cynnwysa eisteddleoedd i oddeutu saith ugain, yr hwn yn awr sydd yn cael ei orlenwi bob nos Sul, a llawer yn ami yn gorfod aros allan, a myned ymaith o eisieu lie y tu fewn. Bu Mr. J. G. Phillips, Llantrisant (yn awr Merthyr), yn ymweled a hwynt ar droion, ond gwelwyd fod yn rhaid cael gweinidog sefydlog cyn y gallesid gwneyd cyfiawnder a'r lie. Yna cymmerodd y Gymdeithas Gen- adol ef i'w gofal, a dewiswyd Mr. Evans, gynt o Salem, Cemaes, yn genadwr, yr hwn sydd yno yn bresenol yn gweithioyn deilwng o genadwr. Mae Knelston yn bentref bychan prydferth, yn sefyll ar wastadedd eang, yn cael ei amgylchynu gan amryw ben- trefydd ereill. Mae yr orsaf genadol yn sefyll yn y man goreu o'r wlad-mae yn centre y cymmydogaethau i gyd. Fel yr oedd Tarsus yn ganolfan i Paul pan yn pregethu trwy Syria a Cilicia, felly Knelston yw y man goreu i genadwr ymsefydlu er efengyleiddio yn Browydd. Symudodd Mr. Evans yno yn mis Mai, 1858. Wedi pregethu y Sabboth cyntaf yno, cyhoeddodd y byddai cyfeillach ar ol; esboniodd natur a dyben y gyfeillach, ond ni arosodd neb i fewn. Aeth llawer nos Sul heibio heb neb yn y gyfeillach ond y gweinidog a Mrs. Wilson. Ami y gofynai y pregethwr, "Pwy a gredodd i'n hymadrodd, ac i bwy y datguddiwyd braich yr Ar- glwydd p" Yn mhen tua dau fis, cawsant brofi gwirionedd geiriau yr apostol, "A chwithau yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd." Ymunodd Mr. Wilson a hwynt, yr hyn oedd yn ddiamheu yn llawenydd i'w briod ac i'r gweinidog. Bedyddiwyd ef gan Mr. Pughe, Gorph. 23; oddiar hyny hyd yn awr y mae yn parhau yn .e. aelod ffyddlawn a dysglaer-efe, ynnghydag un arall, yn gwasanaethu y swydd ddiacon- aidd. Nid yw yr achos yno yn llew- yrchus iawn, ond y mae cystal ag y gallwn ddysgwyl iddo fod yn y cwr tywyll hwnw o'r wlad. Mae yr eglwys, fel v gwelwn ar lythyr y gymmanfa, wedi cynnyddu yn lied dda yn ystod pum mlynedd. Y mae llawer o well- iantau wedi eu gwneyd ar y capel o bryd i'w gilydd—bedyddfan gyfleus yn yr ymyl, a'r ddylederbynhynynagos a chael ei llwyr dalu. Gwnant wyl de flynyddol, a chyfar- fodydd pregethu er casglu at y ddyled. Y rhai syad wedi gwasanaethu yn y cyfarfod- ydd hyd yn hyn ydynt y Parcha. Mr. Pughe, C. Griffiths, Merthyr, H. Thomas, Briton Ferry, B. D. Thomas, Castellnedd, a J. Gruffyth, Clydach. Fel y dywed Mr. Evans yn anal, byddai ymweliadau amlach o eiddo gweinidogion cymmydogaethol yn sicr o fod o les mawr. Dangosa y trigolion serch a charedigrwydd mawr at yr achos yn Knels- ton. Pan vn gwneyd te, rhoddant bob peth angenrheiaiol yn rhad ac am ddim, felly y mae yr elw i gyd yn myned i dalu y ddyled. Yn hyn yn ddiau y maent yn siampl i lawer cymmydogaeth sydd yn uwch ei breintiau yn Nghymru. M ae Mr. Evans yn pregethu yn gysson mewn amryw fanau heblaw Knelston. Dechreuodd bregethu yn Llangeni, pentref bychan ar lan y m6r, oddeutu tair milltir i'r gorllewin, Tach. 23, 1858. Dechreuodd yn Landymor, Hyd. 17, 1860. Pregethodd gyntaf yn Middleton, pentref arall ar lan y mor, oddeutu tair milltir i'r dehau, Rhag. 21, 1860. Dechreuwyd pregethu yn Llanmadog, r pentref boblogaidd oddeutu tair milltir1 i'r gogledd, gan yr ysgrifenydd a'r gweinidog, Hyd. 9, 1861. Yr oedd yma gapel segur yn perthyn i°r Methodistiaid Cyntefig; cymmer- wyd ef, ar ardreth gan Mr. Evans, ac y mae yn awr yn pregethu ynddo bob Sabboth, ac unwaith ymis gyda hyny. Y mae y cyn- nulleidfaoedd yn mhob un o'r lleoedd hyn yn lluosog, ac y mae rhai o bob un o honynt yn aelodau yn Knelston.' Felly y mae yr eg- wyddorion yn myned ar led, a'r pren yn lledu ei ganghenau mae gweinyddu yr ordinhad o fedydd, yn ol y dull apostolaidd, yn peru mwy o chwilio ar y Beibl na fa erioed o'r blaen, a'r canlyniad yw, fod rhai yn talu ufvdd-dod gwirfoddol iddi. Hiraethwn am weled y dydd pan y bydd cyfeiliornad wedi ei daflu i'r wadd ac i'r ystlumod, egwyddorion crefydd Iesu yn Ilywodraethu, nid yn unig yn I Z, Browydd, ond yngordoiyddaear megys y mae y dyfroedd yn gordoiy m6r. Clydach. GWALIAIAW.

[No title]

- CYFARFOD CHWAETEROL Y BEDYDD'…

AGORIAD CAPEL NEWYDD Y BEDYP#'…

'-IBODOLAETH DUW.