Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

l YR WYTHNOS O WEDDIO.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS O WEDDIO. j A GAWN ni air bach ag eglwysi Morganwg, i alw eu sylw etto ar fin yr adeg atyr wythnos bwysig sydd o'n blaen. Darfu i'r Dr. Davies, fel Cadeirydd y Gymmanfa, yn amserol iawn alw svlw yr eglwysi yr wythnos ddiweddaf. lr ydym m yn diolch i'r Dr. Davies am wneyd hyn dros y Gymmanfa, ac yn diolch i'r Arghvydd am gadeirydd sydd yn cadwgolwg ar symudiadau yr enwad yn y sir. Dyma t?6 j j cadeirydd iawn. Wei, hyderwn y bydd i bob eglwys trwy gylch y Gymmanfa gydsynio a'i gais, trwy dreulio y dydd Sul cyntaf yn mis Medi, gyda threulio awr neu ragor bob nos yn ystod yr wythnos ddyfodol, i ymostwng gerbron y nefoedd, ac o flaen Duw, i weddio ac i ymbil am gael teimlo etto ddylanwadau yr Ysbryd Glanyn ein bywhau gyda gwaith yr Arglwydd. O y fath feddwl -y bydd dros 15,000 yn gweddio rhwng deg a deuddeg o'r gloch boreu y Sul; a phwy a all synied y dylanwad a fydd yn gydfynedol k 15,000 o ocheneidiau yn esgyn i fyny rhwng chwech ac wyth o'r gloch yn hwyr y dydd Sabboth. O! am undeb yn ein gweddiau. 0 am sel wedi ei hennyn gan farwor byw oddiar allor Jehofa. Mae yn rhaid y bydd daioni yn deilliaw oddiwrth y cynnulliadau, ond bydd maint y daioni yn dibynu llawer iawn, iawn, ar yr ysbryd y ceir ni ynddo-y teimladau fydd yn ein llywodraethu, a'r awydd a fyddwn yn ei deimlo am y presenoldeb dwyfol. Ol am i ni oil gael ein bedyddio yn ei Ysbryd Ef.

CYFARFOD BLYNYDDOL Y DRYSORFA.

,'OEg{fugzx!I.,