Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Yr Eisteddfod Genedlaethol,

News
Cite
Share

Yr Eisteddfod Genedlaethol, YN ABERTAWE. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf). DYDD MEBCHER, MEDI 2. AM naw, cynnaliwyd cyfarfod yn y Royal In- stitution, dan lywyddiaeth y Parch. J. Griffiths, offeiriad Castellnedd. Bu amryw bethau cyssyllt- iedig a llesoldeb Cymru a'i thrigolion dan ystyr- iaeth, a chymmerwyd rhan yn y ddadleuaeth gan Dr. Williams, Abertawy, Glan Alun, y Parch. J. Thomas, Liynlleifiad, Hugh Owen, Ysw., ac amryw ereill. Darllenodd Mr. W. Davies (Myn- orydd), Llundain, bapyr hefyd ar Hunan-gyn- northwy mewn cyssylltiad a Phobl leuainc Cymru." Dechreuodd y cyfarfod yn y babell am un -ar- ddeg, pan yr arweiniwydyLlywydd, David Pugh, Ysw.. A.S., i'r adeilad gan y maer a chorftoriaeth Abertawe, mewn gorymdaith. Yr oedd cynnull- eidfa luosog wedi dyfod yn nghyd, ac ni wnaeth y gwlaw a ddisgynai leihau dim ar sel yr ymwelwyr, Dechreuwyd y gweithrediadau drwy i Gerddor y Deau chwareu solo ar y delyn deir-rhes. Wedi hyny darllenwyd yr anerchiad a barotowyd i'r llywydd gan Gwilym Tawe; ac atebodd yntau mewn modd hyawdl. Yna galwodd Talhaiarn, cyfarwyddwyr yr Eisteddfod am y dydd, ar y beirdd i anerch y cyfarfod, ac atebodd Tegai, Gwilym Mai, lolo Trefaldwyn, Gwilym Elian, a Thaliesin o Fon. Yna cawd anerchiad ffraeth-bert gan Talhai,arn. Darllenodd y Parch. Canon Williams, Llanfair- yn-nghornwy, y feirniadaeth ar y Casgliad goreu o Adroddiadau Cymreig, mewn rhyddiaith a bar- ddoniaeth." GwobrjelO. Barnwydtri cystadleu- ydd yn gyfartal, a rhanwyd y wobr rhyngddynt, sef Mr. J. D. Jones, Ruthin, Rhydderch o Fon, a Gwilym Teilo. Yna canlynodd cystadleuaeth am y wobr £2 2s., attwobr XI Is., i'r gantores a gano yn oreu Alaw Gymreig. Cystadleuodd pedair, sef Mrs. Evans, Aberdar; Miss Margaret Miles, Maesteg; Miss Anna, Evans, Aberaman; a Mies Forey, Merthyr. Cánodd y pedair yn rhagorol; ond ennillwyd y wobr gyntaf gan Miss Forey, a'r ail gan Mrs Brans. Darllenodd Mr. W. Bulkeley Hughes ei feirn- iadaeth efeihun, Mr. C. Wynne, A.S., a Mr. Jas. Bagnall, Caerfyrddin, ar y traethawd goreu ar "Fanteision Newyddiadur Dyddiol i Gymru." Gwobr, tlws gwerth;05 5s. Derbyniwyd tri cbyf- ansoddiad. Ennillodd "Caxton," sef Mr. John Davies (Gwyneddon). Rhoddodd Mr. Ellis Roberts unawdar y delyn; ac anerchwyd y cyfarfod yn Gymraeg gan Myfyr Mon. Darllenodd Clwydfardd ei feirniadaeth ar yr Hir a Thoddaid goreu i'r Llywydd dydd Iau, sef Mr. H. H. Vivian, A.S. Rhanwyd ywobr rhwng Gwilym Mai a Gwilym Elian. Yna traddododd Mr. Brinley Richards ei feirn- iadaeth ar y ddwy dSn Salm neu hymn oreu; yr awdwr i fod yn frodor o Gymru. Gwobr £ 5 5s., gan y Parch. Latimer M. Jones, Caerfyrddin. Daeth 137 o gyfansoddiadau i law. Y ddaii oreu oedd eiddo Thomas Este ac I. P. Bach. Dy- wedai Mr. Richards mai eiddo y diweddaf oedd y goreu o lawer o'r oil; yr oedd yn rhaid fod yr awdwr yn dra hyddysg yn y chorales Germanaidd, ac yr oedd yn meddu hyddysgrwydd ma,wr mewn cyfansoddi tonau o wahanol leisiau. Ennillwyd ywobr gyntaf gan Mr. T. D. Lewis, Xlanrhystyd; ond nid oedd yn bresenol. Am y canu corawl goreu o "Ddyffryn Towy." Gwobr 2110 10s., rhodd Valentine Davies, Ysw., Caerfyrddin. Rhanwyd y wobr rhwng C6r Dyff- ryn Tawe a Chor Aberdar. Yna canlynodd cystadleuaeth mewn canu pen- nillion gan frodorion o Ddeheuhartb Cymru yn ol dull y Gogledd. Gwobr gyntaf, £2 2s.; ail wobr, jgl Is. Rhoddwyd y wobr gyntaf i Mr. David Lloyd, Dowlais, a'r ail i Mr. T. D. Howell. Canlynodd cystadleuaeth am y wobr am y caniad goreu o'r Toriad y Dydd." Gwobr, Copi cyflawn o Gasgliad Mr. John Thomas, o Alawon Cymreig. Rhanwyd y wobr rhwng Miss Forey a Mrs. Evans. Hysbysodd Talhaiarn y rhoddid gini o wobr am y tri englyn goreu i Babell yr Eisteddfod. Yna anerchodd Glan Alun y cyfarfod mewn modd hyawdl. Am y canu corawl goreu (lleisiau gwrrywaidd), gan g8r heb fod yn llai nag 20, na mwy na 40 o nifer gwobr £ 1; ail oreu, £ 3. Y darnauydynt: —laf, We are the young musiciana" (Mendel- aahon). 2. "When evening's Twilight" (Hatton). 3. "The tiger couches in the 4. "Star of the Summer Night" (OwamAlaw). BnMUwyd y wobr gyntaf gan Gfir Dyffryn Tawe; a jadawwyd yr ail. yn. agored i gyatadleuaeth (trsdotthji .i" Yaki&rllenwyd y feimiadaeth ar yadeuddeg engfynw* 'tsDytfysog Gytaru,'? Gwobr £ 3 3a. Enmliwwd g«0J'<3wiliyin> Elian. "VCadi taki c&tolbhgarwoh i'r llywydd, &c., ter- fyniyycb y cyfarffod darwy gannyr Anthem Genedl. aetkot: .'1 f ¡;Ciii i Gjamaliwyd'cyngherdd Mfdjiea-ehiOg/yn yr hwyr, paBy !yr i dro? chwe mil yn;w'yddfodoi. cX prif zaatonea • oedch»ntr/s-^Mt8S(i'Edithi Miss, JKaawytlne,!Uissr Wdttsi-,mi. B^lnley iBotha^da,' ■ Mr.-Cboper, Mr. 1'110. 1?holnas{Pto<»rdd Gwalife)^ gydQ chor o 40Q o leisiau, dan lywyddiaeth Dr. E. Datfcia.' <■; '( /tov> tf n'V- glooh; dechrewwyct />y ieyfarfad iyxu .y! BojfWl yfildairUfltowydi ipi^yr gdki Dr. Rees, Abertawy, ar y ".Pyif SDdrygioni Cytaw, deithaM' ■f gadaii^ -yn oehWbg «gan( W. Bulkeley Hughes, Ysw., A.S. Tua hanner awr wedi deg, ffurfiwyd gorymdaith, yn cynnwys aelodau corfforiaeth y dref, a chyfeill- ion yr Eisteddfod, ger neuadd y dref, er.arwain llywydd-y dydd, E. M. Richards, Ysw., Maer Abertawe, i'r Babell. Wedi i'r llywydd gym- meryd ei eisteddle gyda sain udgorn, agorwyd y cyfarfud drwy i Mr. Llewelyn Williams chwareu unawd ar y delyn deir-rhes. Yna galwodd cyf- arwyddwr y dydd, Dr. Evan Davies, ar Mr. W. Morris (Gwilym Tawe) i ddarllen yr anerchiad i'r llywydd, yr hyn a wnaeth mewn modd dylanwadol, ac atebodd y llywydd mewn araeth deilwng. Yna anerchwyd y llywydd gan amryw o'r beirdd. Gosodwn yr englynion canlynol gerbron :— I'R LLYWYDD. Ein llywyddwr, gwr tegwedd-gyfarchwn, Cu ferchyg anrhydedd; Ar osteg heddyw'r eistedd, A chalonau'n seiliau 'i sedd. Ein henwog swyddog sy' addas—lywiawdwr Ar oludog ddinas; Penmaen-clo y fro fras, Yw'n Maer hardd, pwy mwy urddas. M. Risiart, mwy croeso—'r oes nesaf, Ar Swansea yn llywio A'i hil o hyd, ar ei ol o, Yn gadarn wedi'n godo. ALLTUD EIFION. Hysbysodd Dr. Evan Davies mai y dyfarniad cyntaf a ddygid gerbron oedd eiddo leuan Gwyllt ar y Llawlyfr goreu i ddarllen Cerddoriath. Gwobr .£5. Eiddo "Bethmu" oedd y goreu; ond wedi galw yr enw, ni chawd ateb. Wedi i Owain Alaw ganu can gyda'r delyn, gal- wodd Dr. Davies ar y Parch. J. Rhys Morgan (Lleurwg), i ddarllen ei feirniadaeth et a'r Parch. J. Evans (1. D. Fraid), ar v traethawd goreu yn Gymraeg, ar Duedd Niweidiol yr arferiad o Ddiotta, a elwir "/etchings" neu "footings" yn mysg gweithwyr, yn enwedig yn Ngweithfeydd Cymru. Gwobr X3, a jEl 10s. Dyfarnwyd y wobr gyritaf i Mr. Thomas Davies, Treforris, a'r ail i Mr. W. Morris, Cwmaman. Wedi anerchiad hyawdl yn Gymraeg gan y Parch. J. Davies, Caerdydd, cystadleuodd y Brass Bands. Gwobr gyntaf 12 gini; ail, pum gini; trydydd, dau gini. Cystadleuodd tair seindorf— eiddo 3ydd Gwirfoddiaid Morganwg, Milisia sir Gaerfyrddin, a seindorf Cwmafon. Y Beirniad oedd Mr. J. F. Davies, Caerdydd. Seindorf Cwmafonennillodd y wobr flaenaf, 3ydd sir For- ganwg yr ail, ac eiddo Milisia sir Ga.erfyrddin y drydedd. Darllenodd Iago Emlyn, Clifton, ei feirniadaeth yn nesaf ar y traethawd goreu ary Fedwen (Birch). Gwobr £ 1 Is. Coedmore ennillodd y wobr. Cystadleuaeth ar ganu goreu y Dalgan (Catch). Gwobr gyntaf £1 10s.; ail wobr 15s. Achosodd y canu ar yr achlysur hwn gryn ddifyrwch, a darfu i'r cystadleuwyr oil ganu mor dda, fel y barnodd y beirniad, Owain Alaw, yn addas i roddi 15s. yr un iddynt. Hysbysodd y Dr. James fod yn mwriad pwyll- gor yr Eisteddfod i gyboeddi y Traethawd Han- esyddol a Beirniadol ar Lenyddiaeth Cymru," yr hwn aennillodd y wobr o £60 yn Eisteddfod Caer- narfon y llynedd, can gynted ag y celid digon o nifer o danysgrifwyr. Beirniadaeth ar y ch wech Alaw Gymreig oreu. Gwobr £ h 5s. Rhanwyd y wobr rhwng Arthur Lloyd, W. Penlin, a Hwntw. Gwilym Ilid ennill- odd y wobr am yr Hir a Thoddaid i lywydd y dydd o'r blaen-D. Pugh, Ysw. Yna darllenodd y Parch. J. Griffiths, Castell- nedd, ei feirniadaeth ar y traethodau ar Ddifyrwch Poblogaidd. Gwobr R5 5s. Ennillwyd y wobr gan Mrs. E. A. Snow, Llanelwy. Testun y Gadair.—Darllenodd y Parch. J. James (Iago Emlyn) y feirniadaeth ar destun y gadair, sef Awdl ar "Albert Dda." Gwobr£21; a bathodwyd gwerth £5. Derbyniwyd deg o gyf- ansoddiadau, y goreu o ba rai oedd eiddo "Idwal," sefy Parch. W. Ambrose, Porthmadoc. Yn ei absenoldeb, arweiniwyd ei gefnder, Mr. Ambrose Lloyd, Caerlleon, i'r gadair, yn nghanol arwyddiori o gymmeradwyaeth oddiwrth y dorf. Darllenodd Mr. W. Penrose y feirniadaeth ar y Llawlyfr goreu ar Fetelyddiaeth. Dan gyfansodd- iad ddaeth i law, a barnwyd eiddo Mr. J. Davies, Llandwr, y goreu. Beirniadaeth Glan Alun ac Islwyn ar y Gerdd Hanesyddol oreu.o Gastell Abertawe. Gwobr £ 5, a bathodyn gwerth d65. Rhanwyd y wobr rhwng Mr, W. Morris (Gwilym Tawe), a Mr. Downing Evans (Leon), Casnewydd-ar-Wysg. Cododd rai wrthwynebiad i Mr. Morris gaely wobr, o herwydd ei fod yn ysgrifenydd yr Eisteddfod. Nid ydym yn gwybod ar ba dir yr oeddynt yu gwneyd hyn; fodd bynag. rhoddodd Mr. Morris ei hawl i fyny. Yna, awd yn miMn a'r gystadleuaeth am yr ail wobr o £ & am y canu corawl goreu, Heisiau gwr- rywaidd. Ennillwyd y wobr gan Gor Unol Aberdar. Wedi hynv, cymmerodd y gystadleuaeth le ar ganu Morfa Rhuddlan, gan wrjywod. Gwobr, Qopi cyflawn o gasgliad Mr. John Thomas o Alawon Cymreig. Ennillwyd y wobr gan Mr. John Watkina, Treforris. r Beirniadaethy Cywydd ar y Nefoedd. Gwobr Z5. Y goreu oedd eiddo Mr. John Edwards, (Meiriadog), Llanfair-Caereinion. Rhoddodd canu Miss Walters, o Dredegar, y fath foddlonrwydd i'r gynnulleidfa, fel y rhoddodd Mrs. Davies, o Cheltenham, wobr iddi, fel arwydd o'i boddlpp^wydd. fj D^gwyid y. pyfarfod yn awr i derfyniad yn y 4uU #dwv/ni]1j ri0 i o Wd^vPedwar cymn^rodd cin. ,^w le yn yr Ystafelloedd Cyhoeddus, y maer yn y gadair.^M havoI mW ,v Yr oedd y Gyngherdd i gymmeryd lie am han- ner awr wedi saith, ac erbyn yr amser hwnw yr oedd Pabell yr Eisteddfod yn orlawn,-yn gym. maint felly, fel mai gyda chryn anhawsdra y cyr- haeddodd aelodau y c6r yr esgynlawr. Pan oedd pob peth ar fod yn barod i ddechreu, a phawb wedi gosod eu hunain yn dawel i fwynhau eu hunain, taflwyd y gynnulleidfa i ddychryn drwy y DYGWYDDIAD ANFFODXJS i un o'r trawstiau dan yr oriel ddeheuol gracio. Yn ffodus, daliwyd y trawst yn ei le gan y gwial- enau heiyrn oedd o'i hamgylch, onite nid oes am. mheuaeth na chollai amryw eu bywydau. Achos- odd hyn cryn gynhwrf yn mysg y dorf, yn enwedig yn y gymmydogaeth lley cymmarodd y ddamwain Ie. Ar hyn, er dwyn sylw y gynnulleidfa oddi- wrth y dygwyddiad, drwy orchymyn y Maer, yr hwn a lywyddai, chwythwyd mewn udgorn, yr hyn a gafodd yr effaith o lonyddu y gynnulleidfa. Wedi hyny, canodd y cor gan Tywysog Gwlad y Bryniau," a chanodd Miss Edith Wynne, Mae Robin yn Swil." Fodd bynag, cynhyrfu wnai y dorf, gan y teimlent yn anesmwytho berthynas i'w diogelwch; a dymunodd y maer ar y bobl ymwas- garu, gan hysbysu y gwnelai eu tocynan y tro am y noswaith ganlynol; a chyn pen hanner awr, yr oedd yr adeilad eang yn wag. Y mae clod mawr yn ddyledus i'r maer am y modd y meddiannodd oi hun dan yr amgylcbiad, ac i'r dorf hefyd, am wasgaru mor rheolaidd. Cynnaliwyd pwyllgor yn union ar j mater, a sicrhawyd yr oriel erbyn gweithrediadau y dydd canlynol. DYDD GWEXEE. Cynnaliwyd cyfarfod o'r pwyllgor cvffredinol yn y Royal Institution am naw o'r gloch, y Parch. J. Griffiths, Castellnedd, yn y gadair. Darllenodd yr Ysgrifenydd fynegiad y pwyllgor, wrth ba un y deallwn fod amgylchiadau yr Eisteddfod yn argoeli yn dda am y dyfodol. Wedi pasio y myn- egiad, ad-etholwyd aelodau y pwyllgor am y i. flwyddyn ddyfodol, Cynnaliwyd GORS ED D hefyd yn y cae cyssyllt- iedig a'r Babell, a derbyniodd amryw bersonau urddau barddonol. Am un-ar-ddeg, agorwyd yr Eisteddfod, pan ar- weiniwyd llywydd y dydd, Arglwydd Esgob Tyddewi, i'r gadair gyda sain udgorn. Wedi' chwareu ton ar y delyn gan Gerddor y Deau, darllenwyd anerchiad i'r llywydd gan Gwilym Tawe, ac atebodd yntau mewn araeth hy- awdl. Yna dywedodd y Dr. James ei fod wedi cael caniatad ei arglwyddiaeth i'w wisgo ag urdd hen- afol y Derwyddon; ac wedi gosod ysnoden wtin am ei fraich, cyflwynodd Dr. James yr Arglwydd Esgob i'r gynnulleidfa fel Arch-dderwydd." Yna, cyfarchwyd y llywydd mewn barddoniaeth gan amryw o'r beirdd. Wedi hyny, darllenodd Mr. Hugh Owen ei feirniadaeth ef ei hun, ac eiddo Geo. O. Morgan, Ysw., Llundain, ar "Gyfrifiad y boblogaeth yn Nghymru, a'r hyn a ddysga." Gwobr zC5, a bathodyn gwerth £5. Dau ymgeisydd, Gwilym ap Thomas a loan Censor. Rhanwyd y wobr rhyngddynt. Darllenodd Mr. Griffiths feirniadaeth Mr. G. T. Clark, ar Hanesiaeth (yn Saesneg) o drefi corfforiaethol sir Forganwg." Gwobr, gan y pwyllgor, £ 50; Esgob Tyddewi* t6. Y Parch. R. Richards, gweinidogy Bedyddwyr yn Nhre. forris, a ennillodd y wobr, a gwisgwyd ef gan y Llywydd. Canodd Owain Alaw hen gan Gymreig. Yna darllenodd Mr. Brinley Richards ei feirn- iadaeth ar y testun Cadeiriol—y Gantawd (Com- tata) wreiddiol oreu. Gwobr 21 gini, a bathodyn gwerth pum gini. Daeth amryw gyfansoddiadau i law; y goreu oedd eiddo Mr. J. Ceiriog Hughes, Manchester. Am yr Hir a Thoddaid goreu i'r Maer, Llywydd y dydd blaenorol. Rhanwyd y wobr rhwng Gwilym Elian a boneddwr arall. Canodd Miss Watts Hen Wlad fy Nhadau." Wedi hyny cymmerodd y gystadleuaeth le am yr YSGOLOBIABTH DELYNOL rhwng tri ymgeisydd. Gwobr £ 52 10s., yn cynnwya telyn deir-rhes, gwerth ^15 15s. a < £ 36 15s. tuag at addysgiaeth yr ysgolor am 12 mis. Rhoddwydy wobr gan Mr. John Thomas, yr hwn a'i cyflwynodd i Mr. W. Frost, Merthyr. Anerchwyd y cyfarfod mewn araoth hyawdl gan y Parch. J. Griffiths, Castellnedd, y cyfarwyddwr am y dydd; yn benaf ar gymhWyllilerathrawon mewn ysgolion dyddiol. Daliai Mr. Griffiths mai yr athrawon oedd yn deall Gymraeg oeddynt y rhai mwyaf Uwyddiannus i ddyagu plant Cymreig. YSGOLORIAETH LEISIOL.—I'r cantor neu y gaa- tores mwyaf gobeithiol; yr ymgeisydd ifod yn enedigol o Gymru, a rhwng 16 ac 20 oed. Gwobr, 250 tuag at addysgiaeth yr ennillwr. Miss Watts, Caerdydd, yr hon a ganodd y Gwenith Gwyn," ennillodd y wobr. Ennillwyd y wobr o £10 am y Llawlyfr lechyd goreu gan Mr. Wm. Harris. Hysbysodd Mr, Ambrose Lloyd fod y wobr o £ 5 5s. am y tair canig (¡¡lee) oreu wedi ei hennill gan Rossinni; a'r wobr o XS, a bathodyn gwerth £ 2 2s., am y Motett goreu, i bum llais, i Bachgen Bach." I'r cantwr agano yn oreu Alaw Gymreig. Gwobr gyntaf, Rq 2s.; ail wobr, jgl Is. Rhoddwyd y wobr gyntaf i Mr. Silas Evans, Aberdar; a'r ail i Mr. John Watkins, Treforris. Prgantores a gano yn oreu Alaw Gymreig. Gwobr gyntaf £ 2 2s.; ail wobr, £1 Iff. EnnUl- wyd gan Mr. Evans, Aberdar, a Miss Forey, Merthyr. Am ydarlleniad cerddoriaeth goreu, gan g6r o leisiau cymmysg, heb fod dan 15 o nifer. Gwobr JE5. Cystadleuodd tri ch3r, sef cdr Undebol Aberdar, Cor Cwm Tawe, a ch6r Abertawe a Threforris. Rhanwyd y wobr rhyngddynt. Cynnygiodd Mr. Grenfell ddiolchau goreu y cyfarfod i'w Arglwyddiaeth, Esgob Tyddewi, am ei ymddygiad yn y gadair, yr hyn a eiliwyd gan D. Pugh, Ysw., A.S. Cefnogwyd y cynnyg araethddylanwadolgaa Dr. James. Cydnabyddodd ei arglwyddiaeth y bleidlais; a therfynodd y cyf- arfod trwy ganu yr Anthem Genedlaethol. Am hanner awr wedi saith, dechreuodd y Gyngherdd, gyda Chantawd Llewelyn; y geiriau Seisnig gan Mr. Thomas Oliphant, Llundain, y geiriau Cymreig gan Talhaiarn, a'r gerddoriaeth gan Mr. John Thomas (Pencerdd Gwalia). Yr oedd y Babell yn orlawn, ac nid yw yn debyg^1 neb weled cynnulleidfa mwy ardderchog erioedof blaen yn Nghymru. Cyfansoddwyd y Gantawd yn bwrpasol ar gyfer yr Eisteddfod, ac awd drwy yr holl ranau yn wir lwyddiannus. Ar ddiweddy Gantawd, canodd Mr. Lewis Thomas y gan nwyfus. "I am a roamer," a chanwyd "Ymdaith Gwyt Harlech gan y cor; a therfynwyd y gyngherdd drwy ganu yr Anthem Genedlaethol gan Miss Edith Wynne, y gynnulleidfa yn uno yn y gydgan. Hysbysodd Dr. Davies fod y wobr am y Ger: ddoriaeth i Gantawd Ceiriog Hughes wedi el hennill gan Mr. Edward Lawrence, organydd, Merthyr Tydfil. Fel hyn dygwyd gweithrediadau yr Eisteddfod Genedlaethol am 1863 i derfyniad, ac nid oes alu, heuaeth na chofir am dani am amser maith i ddod gan y miloedd a gawsant y pleser o fod yn wydd- fodol ynddi. Gyda'r eithriad o'r ddamwain n08 Tau, pasiodd y cwbl yn Uwyddiannus; a chredwB fod yr Eisteddfod Genedlaethol bellach wedi ei sef- ydlu ar sylfaen sicr.

LLANDUDNO.

[No title]