Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

TY YR ARGLWYDDI.I

News
Cite
Share

TY YR ARGLWYDDI. Chwtf.lh.—Rhoddodd larll Derby rybydd y byddai iddo, yn absenoldeb Ardalydd Normandy, ofyn cwestiwn i'r Ysgrfenydd Tramor, gyda go)"g ar broclamasiwn a gyhoeddasid yn newyddia iuron Naples. Iarll Russell.-A fydd ei arglwyddiaeth gystal a hysbysu i mi yn mha le y ceir y proclamasiwn ? Iarll Derby.—Derbyniais ef o newyddiadur Ital- aidd. Y mae hefyd mewn newyddiadur Ffrengig. Yr ydwyf yn credu nad oes un ammheuaeth am y ffaith. Bydd yn dda genyf ei aufon i'w arglwydd- iaeth cyn dydd Iau. Hysbysa y proclamasiwn na chaiff un person roddi ei draed i lawr mewn dos- parth pennodol ar ol diwrnod pennodol; fod pob t £ bwthyn, ac adeilad o bob math, i gael eu gwneyd yn gydwastad a'r llawr acyrymddygir at breswyl- wyr pob amaethdy y ceir mwy na digon o ymborth am ddiwrnod, fel gwrthryfelwyr, ac y sathrir hwynt yn ddioed. Iarll Russell.-Ni dderbyniais un hysbysrwydd oddiwrth weinidog ei Mawrbydi yn Turin, nac ychwaith oddiwrth ein consul yn Naples, a byddaf yn ddiolchgar i'w arglwyddiaeth am gopi o'r pro. clamasiwn. Chwef. 27.-Dywedodd Arglwydd Derby ei fod wedi synu wrth glywed yr adroddiad a wnaed gan Iarll Russell dydd Mawrth, i'r pwrpas nad oedd ef wedi clywed y proclamasiwn a anfonasid allan gan yr awdurdodau Italaidd yn nhiriogaeth Naples. Yr oedd efe (Arglwydd Derby) wedi gweled y newydd- iadur Italaidd oedd yn ei gynnwys, ac yr oedd pob lie i gredu fod yr ysgrif yn awdurdodedig. Cytunai larit Russell ac Arglwydd Derby nas gallai dim fod yn fwy creulawn nag anfon allan y cyfryw broclamasiwn, yr hwn oedd yn condemnio y diniwed i ganlyn yr euog. Ond nid oedd ganddo etto un sicrwydd fod y cyhoeddiad yn un awdurdod- edig. Yr oedd ef wedi anfon bryseb at Syr James Hudson, ond nid oedd wedi derbyn atebiad. Chwef. 28.—Dywedodd Iarll Russell ei fod yn ewyllysio gwneuthur eglurhad ar y proclamasiwn yr oedd Iarll Derby wedi cyteirio ato y nos o'r blaen. Yr oedd y proclamasiwn wedi ei anfon allan gan y swyddog oedd yn llywyddu yn y dosparthheb yn wybod i'w uwch-swyddogion, y rhai oeddynt wedi gorchymyn ar unwaith iddo gael ei alw yn ol. Dywedodd Iarll Derby fod atebiad ei arglwydd- iaeth yn hollol foddhaoi. Mawrth 3.—Cynnygiodd Arglwydd Cranworth ail ddarlleniad yr ysgrif er hyrwydrio Trosglwydd- iad Tir, ac a eglurodd yr amcan a fwriedid ei gyr- haedd. Wedi i ereill siarad ar y mater, darllenwyd yr ysgrif. Mawrth 4. — Cyflwynodd Esgob Rhydychain ddeisebau yn erbyn y Code newydd ar Addysg, a llefarodd yn erbyn y cyfnewidiadau a fwriedid eu gwneyd. Amddiffynodd Iarll Granville cwrs y Llywodractb. Wedi i amryw ereill siarad, rhodd- wyd heibio y pwnc. Mawrth 6.—Ychydig amser fu eu Harglwydd- iaethau yn eistedd heddyw. Gwthiwyd amryw ysgrifau gam yn tnhellach yn mlaen, ac yna gohir- ioddyTy. Mawrth 7. — Rhoddodd Ardalydd Normanby rybydd, y byddai iddo dydd Gwener nesaf, alw sylw y TO atyr erlidigaeth yn Turin. Cynnygiai Argl. Lyttleton gyfres o benderfyn- iadau o berthynas i'r Code newydd ond wedi rhai sylwadau oddiwrth Iarll Granville, ac Argl. Belper, tynodd hwynt yn ol.

TY Y CYFFREDIN.

HANESION CYFFREDINOL.