Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYNGHERDD EISTEDDFQDOL.

News
Cite
Share

CYNGHERDD EISTEDDFQDOL. Ar nos Lun, Mawrth 3ydd, cymmerodd Cyng- herdd Sisteddfodol le yn yr Ystafell Gyhoeddus yn Nghaerfyrddin, pryd y gwelwyd golygfa gan y gwyddlodolhwi na fydd. iddynt byth ei hannghofio. Hysbysid y huasai y drysau yn agored am chwech 0'r gloch, a'r eyfarfod i ddechreu am saith. Yr oeddya wedi gwertbu oddeutu saith cant o docynau. a chan ly dysarwylid y buasai y cyfarfod yn nIl, dyddorol dros ben, a'i bod yn hysbya fod cynnifer o docynau wedieu gwerthu, yr oedd awydd mawr yn cael ei atnlygu i sicrhau seddau da yn yr ystafell. Cyn gynted, gan hyny, -ag yr agorwyd y drysau, y dorf ag oedd wedi yrngynnull mewn parodrwydd yn yr heol a ruthrasant i mewn fel llifeirianfc an. wrthwynebadwy, gan gludoydor. geidwaid 1 mewn o'u blaen i ben eithaf yr ystafell. Y canlyniad 0 hyn oedd, ddaTfod 1 ddau neu dri chant 0 rai heb docynau wthio eu hunnin i mewn heb dalu. Nid ydym yn meddwl fod nemawrohonyntyn,,bwriadu myned i mewn heb dalu, and gan nad oedd neb a allai dderbyn tal wrth y drWs, i mewn yf aethant. Pum cant ddeil yr ystafell yn gysarns,ond yr oedd yno ar yr achlysur bwn, drwy y dygwyddiad cry- bwylledig; o leiáf 61 o heisonau. Fel y gellir yn rhwydd dybied, ychydig a gysur personol allasai. fod mewn lie o'r fath; ac i wneyd y drwg yn waeth, codai rhai o'r gynunlleidfa ar. eu traed ar y meinciau, yr hyn a achosai i ereill wneyd yr un modd, nes yn mbeir cyn amser dechreu yr oedd pawb yn sefylt yn Ile eistedd. Yr oedd dwndwr cynrdier o gannoedd o bobl mewn poen ac an- nghysur yn gyfryw ag a rwystrai y cychwyniadau yn fawr; a chymmaint oedd y gwasgu a'r IIethu fel y darfu i amryw fenywod lewygu, a bu gorfod eu llusgo, nid eu cario, allan. Heblaw fod yr ys- tafell yn y cyflwr hwn, yr oedd y grisiau, y fynedfa, ac hyd y nod yr heol, a channoedd 0 bobl yn dys- gwyl yn ofer am fyned i mewn. Wedi i Feirniad y canu, Mr. T. H. Jonea, o Aberdar, ganu y Solo gyntafGwatia," yr oedd yr ystwr gymmaint fel y darfu i'r cadeirydd, Dr. Lloyd, fyned allan, ac hysb^swyd y dorf fod yr eisteddfod ar ben, gan na ellid myned yn mlaen oherwydd y benben ofnadwy. Tawelwyd tipyn wedi hyny, a chymmeiodd Dr. Lloyd y gadair drachefn; ond wedi canu o'r trydydd o'r pedwar cor oedd yn cystadlu ar, Parotowch y Ffordd," aeth y cynhwrf a'r terfysg yn annesgrifiadwy, dau neu dri chant o bobl oedd ar hen y meinoiau yn cwympo fel un corff ar y rhai oedd yn eistedd ar y faine fiaenaf, gan achosi braw yn mynwesau y rhai oedd ar yr esgynlawr dros eu diogelwch. Yr oedd y menywod yn ysgrechain yn oerllyd, ereill yn llewygu, ac ereill yn givneyd eU goreu i'w hadfywio a'u dadebru, Gyda byn, wele rhyw ddegau yn rhedeg i'r Ian i'r esgyulawr, a rhai yn myned i maes drwy'r drws cefn, gan ddiolch am ymwared. Yr oedd yr esgynlawr erbyn hyn mor dyn o bobl a'r rhefaau ereill o'r ystafell, a'r eanlyniad oedd na chafodd un o'r corau chwareu teg i ganu. Yn nghanol y dwndwr hwn, diangodd y cadeirydd, gan fod ei iechyd yn rhy wael i'w iilluogi i aros yn b.*y mewn lie o'r fatb. Ychwan- egu 0 hyd oedd y cynhwrf, er y gwnelai gwahanol lefarwyr bob ymdrech i'w dawelu. O'r diwedd, cododd y Parch. D. R. Jenkins, offeiriad Llanllwch, a chan esgyn i ben y piano oedd ar yr esgynlawr, efe a ddariithiaiy dorf anesmwyth, ond yn bollpl •>fer, gan y gwaeddai un o'r fan hyn, a'r Ilall o'r fan draw, a'r trydydd o acw, Beth i chi well <0 bregethu fan yna?" Dewch lawr yma, fl-eirad Llanllwch." "Beth allwn ni help." Shnt up, ifeirad," &c. Erbyn hyn yr oedd y gynnulleidfa yn foddfa o chwys, a'r muriau yn rhedeg o ddwfr. Vr oedd anadl y llu yn myned allan i'r heol drwy y fienestri fel colofnau o fwg, yr hyn a acbosai i lawer gredu fod y lie ar dan. O'r diwedd, dvgwyd y lie i dipyn o drefn gan yr heddgeidwad William Woozley, yr hwn a weithiodd ei ffordd jdrwy lawer 0 rwystrau i ganol y gynnulleidfa, gan beru i bawb eistedd lawr. Arol hyn, aethpwyd yn mlaen a gwaith y cyfarfod yn weddol bach dan yr amgylch- iadau er fod llawer o oedi yn cymqieryd lie drwy fod yr esgyolawr yn llawn o bobl, yr hyn a achosa i gryn ofid i'r gwahanol gorau. Wedi dweyd cymlnaint a hyna am yr ystafell a'r gynnulleidfa, dechreuwn etto gyda'r decbreu. Am saith o'r gloch cymmerwyd y gadair gan Dr. Lloyd, yr hwn mewn araeth fer yn Seisnig a Qhymraeg a erfyniai ar y gynnulleidfa i fod yn ddystaw, canys heb hyny ni allent fwynhau cerdfi- oriaeth. Eu clustiau yn unig oedd ef am gael. Wedi eistedd o'r Doctor parchus, anerchwyd y qyfarfod gan y beirdd. Daeth Mr. W. Perkins, tpyfyriwr yn y Coleg Presbyteraidd, yn mlaen, ac a draddododd yr englynion canlynol Mae hanesion am hen oesau—oil yn Llu mewn Eisteddfodau I Coethi 'u iaith gaeth weithiau, Canent ac unent i'w gwau. j. I'r lIe hwn daw'r llu heno-i glywed Yn glau beraidd dono, Yn y llys yma'n lleisio, 'l' I ',1 A:u sain frwd swnia y fro. Ha! dwym Eisteddfod yma—y dref hon Y dorf fawr a gana ,r.t Ganeuon ceinion s'n gwna Ii:; 1'" {¡p.l; 'Garugwyl gorau Gwalia. — ENGLYN I GWILYM MAI. Gwilym Mai amlwg welir,—Bardd uchel Broydd iach Deheudir; Hoyw gyfaill gu gofir Ar lechres hanes yn hir. ENGLYN I DR. LLOYD (Y CADEIEYDD.) Doctor Lloyd yw ein llywjdd,—Gwron A gara 'i wlad beunydd Mae yn ddoeth—mwynaidd ieithydd, 01 oesau ddeil les ei ddydd. Yna cododd GwiIym Mai, a eban. droi ei wyneb at y cadeirydd, a draddododd yr englynion can- lynol :—• I'r Doctor Lloyd heb oedi,-y canaf Acenion o fawrfri, Ac addas yw cyhoeddi Y lion wr ddoi'n llyw i m. Heinif y daeth mewn henoed,-a llawen Yn llywydd ysgafndroed; Ni ddeuai gwg yn ddioed, Na digtor o lyii Doctor Lloyd. Dirwyned pedair einioes—i'n Llywydd, Gwellhaed bob drygfoes Na ddeled unrhyw dduloes ■: >n: I'w gwrdd 'nol gwella ei goeo. Erfyniwn ei wir fwyniant,—a siriawl Gysuron a llwyddiant; Boed i'r cawr fyw'n bedwar cant, Yna deled llawn daliant.

MERTHYR1 TYDFIL A'l HAMGYLCH-…