Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
ELUSENDOD THOMAS HOWELL, 1540.…
News
Cite
Share
ELUSENDOD THOMAS HOWELL, 1540. 0 BWYS I YMNEILLDUWYR CYMRU I (Parhad.) Drwy y gyfraith bwriedir sefydlu ysgolion y" Esgobaeth Liandaf, a digon rhyfedd, darperir drwY ddosran 2 fod holl Esgobaeth Llandaf i gael ei chy(l rif o fewn Cymru. Yr oedd y ddarpariaeth hon1 gynnwys, megys rhwng cromfachau, Sir Seisn1,g Mynwy, fel pe nad Sir Fynwy oedd y rhanilil (district) arbenig i'r hwn y perthynai blaenoriaetb hawliau pan olygid pennodi maes neillduol er ey¡¡1' hwysiad cyffredinol yr elusendod. Pa fodd bynøg, gan nad yw derbyniad i'r ysgolion wedi ei gyfyn?1! i blant genedigol yn Ngbymru, ond yn agored blant a enir yn unrhyw fan, ac heb roddi btaenof iaeth bersonol na lleol (oddigerth mewn cyssyllti^ a pherthynasau y sefydlydd), y mae y yn gymhwysiadol yn unig at leoldeb yr ysgolion orchymynid i fod yn Nghymru ac y mae y ddør' pariaeth yn ddisynwyr, yn gymmaint a'i fod, gy^?/ un eithriad, wedi ei ddeddfu yn gyffredinol fod1 ysgolion a sefydlir i gael eucyfyngu o fewn terfyi911 presenol Esgobaeth Llandaf. 00 Dywedir yn yr un dosran na sefydlir amgenl111 ysgol, o gynnyrch yr elusendod crybwylledig, y hwnt i derfynau presenol Esgobaeth Llandaf. It oedd ysgolion, hyny yw, mwy nag un, i gaele: sefydlu yn Morganwg a Mynwy, ac ond un y t í allan i'r terfynau a enwwyd. Yn ol dosran 4, y mae esgob yr esgobaeth i tod ? yn gadeirydd yn holl gyfarfodydd y llywyddion. A ganlyn sydd ddyfyniad o lythyr Esgob LID", daf, a gyhoeddwyd dan y dyddiad Rhagfyr 1859 :— Y mae dMy ysgol, un yn Llandaf, a'rna!!y" Ninbych, wedi eu hadeiladu ar gynllun eang. d' Ar y 29ain o Dachwedd diweddaf, trosghvyd wyd yr ysgol yn Llandaf, gan y Draper's CompatlY' drosodd i'r llywyddion lleol, pa rai sydd 15 n3e"" rhifedi — Esgob yr Esgobaeth yn llywydd ac f gadeirydd y Board, ea officio-ae ar y laf o RagfY cymmerwyd yr unrhyw gamrau yn Ninbych. Yn ysgol Llandaf addysgir, dilledir, a chynne'1 deg ar hugain o ferched amddifaid—y gair golygu, ar ol y cynllun, blant sydd wedi colli n8' ai tad a main, neu un o'r ddau, ac er budd y cy' ryw, sefydlir gan y Draper's Company fund if gwadduli. Yn ychwanegol at y rhai hyn, derblolf i fewn, a rhoddir iddynt addysg rhad, cyffelyb i I hyn a rotldir i'r amddifaid, Pay Boarders, heb dros ddeg ar hugain mewn rhifedi, pa raisy^'f dalu am eu He, golchiad eu dillad, a'u cynnaliaet'1' y cyfryw symiau blynyddol ag a dybia y yn gyfaddas. Hefyd, derbynir o ferched haddysgu, fel ysgolheigion dyddiol, am ychydig dA, y cyfryw nifer ag a bennodir gan iiY llywyddion 0 bryd i bryd. g Can ei fod yn ddymunol rhoddi hysbysiadc)* redinol o natur y ddysgeidiaeth a bennodir gap cynllun, er cyfarwyddyd i'r sawl a wneyd cais am uderbyniad merched arnddifa'" fewn, yr wyf yn erfyn caniatad i ychwanegu Doer' y 44ain a'r 46ain o'r cynllun. Dosran 44. Dysgir yn yr ysgolion Egwydd0' ion y Grefydd Gristionogol, Darllen, Y:sgrifeI' '1 Rhifyddeg, Qramadeg Saesonaeg, Daeareg, By* graffiaeth, Hanesyddiaeth, Elfenau Seryddi»e' Llysleuaeth Garddol, Cerddoriaeth, Ffrancaeg: Darluniadaeth, a'r cyfryw bethau ereill ag a orc ymynir gan y llywyddion o bryd i bryd." fj Dosran 46. Y dysgir i bob merch wnio a allan, a gwneyd i fyny eu dillad eu hunain, f naill ai yn unigol neu mewn dosparthiudau, yn w. cyfarwyddyd y prif faethwraig (matron) a cogyddiaeth teuluol (domestic cookery) i gynn fj( o ferched, ar y sefydliad, ag a bennodir gan y P faethwraig. Bydd i'r Draper's Company enwi yr o'r ymgeiswyr a gymmeradwyid gan y llywydd' Ueol, Nis derbynir yr un eneth cvn ei i
PETHAU CARTREF.
News
Cite
Share
dressing-room, a thaflu allan bob peth a welwch yno ond crib a brush. Os oes ar eich merched eisieu gwynebau lliwgar ac iachus, y moddion goreu a allant gael byth yw, codi yn foreu, digon o awyr iacb, ac ymolchi dair gwaith y dydd mewn dwfr oer; ac os oes rhaid cael rhywbeth i dyneru a phrydferthu gwallt, melyn *y wedi ei gymmysgu yn dda mewn dwfr twym yw y peth goreu byth. Ond o'm ran fy hun, fe fyddai yn fwy dewisol genyf gael yr wy gyda'r coffi i'm boreufwyd na'i gael yn y dressing-rooin. Ond beth dal siarad, mae'n fwy na thebyg fod yn well gan lawer rian dlos fod hebddo ar y bwrdd, er mwyn ei gael yn y toilet J" Yr hyn a ofynir yn lied gyffredin yw, A ydyw yn iawn i ferched ieuainc ddilyn fashion y dydd mewn gwisgoedd ? ac wrth osod hyna i lawr, mae yn ofynol sylwi yn gyntaf fod yn rhaid i bob dyn ddilyn y fashion; neu fod yn wrthddrych dirmyg y lluaws, oblegid nid oes gan unigolion ond y peth nesaf i ddim i wneyd a chwaeth y dydd. Felly, y pwne i'w benderfynu yw, beth yw dyledswydd y ferch ieuanc ? Pa un ai dilyn fashion yr oes ? ai ynte ymfoddloni i fod yn wrthddrych dirmyg y Iluaws ? Heb fyned i ddadleu y pwnc yn bersonol, yr wyf yn beiddio datgan -fy marn, mai dyledswydd pob un yw dilyn fashion y dydd mewn gweddeidd-dra canys er i ferch ieuane fod yn angyles mewn rhin- weddau, os bydd yn wahanol ei gwisg i bawb o'i hamgylch, dirmygir hi, fel un hunanol, neu fel un anwybodus o arferion cymdeithas dda. Yr hyn a ystyrir yn well dressed yw gwisgo yn y fath fodd na fydd dim yn y wisg yn tynu sylw. Gwisgwch fel na byddo neb i'ch gweled." Dywedai Dr. Johnson wrth gymmeradwyo gwisg rhyw foneddiges, I am sure that she was well dressed, for I cannot tell what she had on." Ond er nad ellir yn briodol gondemnio unig- olion am ddilyn y ffasiwn, fe ddylid condemnio y cyfanswni am yr hyn sydd yn annaturiol, gwageddus, a niweidiol. Un o'r pethau mwyaf gwrthun a arferir yn ngwisgoedd merched yn bresenol yw, y crinoline. Mae ei banes yn llygredig, ei ddyben yn wageddus, a'i effeith- iau yn niweidiol! Mae yn fwy na thebyg na fyddai hanes yr hydra-headed-monster hwn yn beth hollol gydnaws a chwaeth darllenwyr SEREN CYMRU. Y mae yn y byd er ys oesoedd; wedi treulio y rhan flaenaf o'i ddyddiau yn y Balls a'r Theatres; ond erbyn heddyw, nid oes ty yn y deyrnas nad yw ef wedi cael ei ben i mewn; mae hyd y nod morwynion cvflog, merched factories a'r tips glo, yn credu yn benderfynol na fedrnnt hwy, na neb arall, wneyd hebddo; ac mae llawer mam oedranus, a welwyd er ys ycbydig amser yn ol yn barod i'w hyrddio ef i'r tan, ond erbyn heddyw yn dechreu ei wisgo ef eu hunain a rhyfedd mor gywrain y maent yn dadleu drosto ef/'Mae yn wasanaethgar i gadw y gwisgoedd o'r llwch, dal y dillad yn sefyd- log, ac y mae e'n airy ac wrth eu clywed yn siarad, fe fyddaf fi yn cael fy nhemtio i ofyn iddynt yn ddystaw, Paham y rhaid iddynt hwy gael mwy o awyr na'u mamau ? Yn wir, os na chymmer chwyldroad buaii le ynfortress y crinoline, mae yn rhaid i gyf" newidiad gymmeryd lie yn ngherbydau y rheil- ffyrdd a gwaeth n&'r cwbl, fe fydd yn rhaid i'r Board of Health fyned i'r draul o helaetbu ystrydoedd y dref hon, o herwydd nis gall dau grinoline basio eu gilydd ar y palmant J a chan fod y lie hwn mor goelgrefyddol, byddaf yn cael llawer o ddifyrwch weithiau wrth glywed y bobl yn dyfeisio arwydd o beth yw y crino- line! Myn rhai o'r llanciau mai arwydd ydyw fod y merched yn myned yn fwy cyfrwys— cylcho eu hunain rhat? i ryw ill-bred fellows ymosod arnynt; ereill a farnant ei fod yn arwyddo cwymp Pabyddiaeth, a rhvddid Itali; ond mae y lleill yn barnu nad yw yn arwyddo dim ragor na bod mwy yn dyfod i'r byd nag sydd yn myned allan o hono. Ond yn ddiweddar, gwnaeth chwech o ddy- eithriaid eu hymddangosiad yn y dref hon, na wyddai neb eu bod yn dyfod a chan nad oedd eu perthynasau yn foddlon eu cadw, fe orfod- wyd ar yr hen wr parchus a elwir Gweithdy'r Undeb i osod ei law yn ddwfn yn ei logell i gyfranu at eu hangenrheidiau. Ond yn hyt- rach na chodi rhagor o lwch wrth geisio profi gosodiad Mr. Squint, fe ddywedwn fel hyn:- 1. Fod y merched wrth wisgo dau wyneb, yn ceisio twyllo'r cyhoedd. 2. Fod pwy bynag sydd yn ceisio twyllo y cyhoedd, yn sicr o dynu eu hunain i warth. 3. Fod y merched trwy hyny ynsicr odynu eu hunain i warth. 'I I" .1 Us Dyad rnyw un mor ystyrnig a metnu canfod nerth y casgliad yna, darllened y Ilythyr a ganlyn, yr hwn a anfonwyd i mi yr wythnos daiweddaf gan gyfaill ag y mae genyf bob ymddiried yn ei dalent a'i eirwiredd :— SYR,—Er gwaethaf yr holl rybyddion parhaus ag y mae y cyhoedd wedi ei gael rhag yr injurious imitations," a'r "spurious deceivers," sydd yn rhodio o amgylcti gwtad a thref, mae yn ymddan- gos i mi nad yw y bobl ddim banner digon gwyliad- wrus etto. Fe daflwyd y dref hon i gyffro annghyffredin y dydd o'r blaen mewn perthynas i ryw ferch faleis- ddrwg yn twyllo bachgen ieuanc. Fel hyn y bu Fe ddaeth y ferch i'r lie hwn er ys ychydig amser yn ol yn y cymroeriad o first rate lady; a chan ei bod o edrychiad lied brydferth, fe ddaeth arnryw o wyr ieuaine yn mlaen i gynnyg rhoddi modrwy am ei bys; a'r canlyniad fu, iddi dderbyn cynnyg un o honynt, a phennodi, heb lawer o seremoni, yn nghylch y pwnc. Ond O Syr, y noswaith hono, ar ol myned i'r ystafell wely, dyna'r wraig ieuanc yn ymaflyd yn ei gwallt du modrwyog, a'i dynu ymaith, a'i roddi ar y bwrdd ac ar ol byny, yn agor ei genau, ac yn tynu ei dannedd yn rhydd. a'u taflu i lestr a dwfr, ac yntau yn edrych arni fel peth gwirion ac yna fe'i gwelai yn cydio mewn un o'i breichiau. 1 0 heaven! keep me!' ebe yntau. I O! don't be afraid, my dear! I have only one arm, you see,' ebe hithau, gan dynu y Hall i ffwrdd, a'i rhoi o'r neilldu ac wedi hyny yn ymaflyd mewn un llygad, a'i dynu ffwrdd fel marblen. I In the name of all the, gods what is the matter?' ebai fe, ac allan ag ef, fel cath o dan, fel na welodd neb o hono am ddyddiau lawer; ac y mae hyd etto heb ddyfod ato ei hun yn iawn-mae yn crynu, gwaeddu, ac yn gweled y blue pan fyddo yn eithaf effro. Ac yn wir, mae yn anhawdd gwybod pa un ai chwerthin al wylo sydd yn briodol wrth weled amgylchiad o'r fath ond beth bynag, mae yn llefain yn uchel wrth bawb am fod ar eu gwyliadwriaeth rhag y dygwydd iddynt beth a fyddo gwaeth. Yr eiddoch yn serchog, E. R. P." Gan fy mod yn sier y medr fy narllenwyr dynu y gwersi moesol allan o ryw amgylch- iadau noethion fel ag y nodwyd, ni ychwanegaf yn bresenol, ragor na hysbysu mai enw yr ystwff hwn yn y farchnad yw Etiquette for Ladies," a gofaled y cyssodydd, os myn ef, am beidio ei lychwino wrth ei werthu, onite —— SpiNTHER.