Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

TRAETHODAU.

News
Cite
Share

TRAETHODAU. ADDYSG A'R DOSPARTH GWEITHIOL. Y MAE addysg yn y blynyddau diweddaf wedi cael cryn lawer o sylw y wladwriaeth ac nid heb eisieu ychwaeth. Yr oedd yn llawn bryd codi y safon-yr oedd yn llawn bryd symud am byth yr hen drefn o gyfranu addysg. Yn yr hen amser y drefn oedd, gosod rhyw hen gyfaill a fyddai yn rhy hen i ddilyn yr aradr yn ysgolfeistr, pa un hynag a fyddai ynddo gymhwysder ai peidio. Yn yr adeg hono, yr oedd moesoldeb yn ofnadwy 0 isel-anwyhod- aeth yn Iledu ei hesgyll duon uwchben ein hen wlad anwyl; ond gwnawd cynnyg ar symud yr aflwydd ac ar ol ymdrech egniol, wrol, a maith, llwyddwyd yn yr amcan trwy sefydlu y gyfundrefn bresenol. Dodwyd addysg y wladwriaeth ar sylfaen hollol newydd a diogel. Darfu i'r llywodraeth osod y standard mewn man diogel; ac yn fuan iawn cafwyd Uu o ysgolfeistriaid o'r iawn ryw at y gwaith. Nid gwehilion y wladwriaeth, ond y goreuon— dynion a merched a rhywbeth heblaw hunan yn eu penglogau. Y mae y peiriant nerthol hwn wedi bod am beth amser ar waith ac y mae wedi gweithio yn ardderehog — gweithio i bwrpas. Erbyn hyn, y mae y Code wedi bod yn llwyddiannus i godi safon moesoldeb ein gwlad—i ddyrchafu rhinwedd, a llesoli y wladwriaeth yn mhob modd. Wel, 'ie, ond beth am hyny ? Ie, dyna y pwnc, a phwnc pwysig ydyw hefyd. Gofyniad yw a ddylai gael sylw pob gweithivvr trwy Gymru oil. Y gwir yw, y mae y wladwriaeth yn meddwl ei bod wedi codi y dune yn rhy uehel-eu bod yn rhwym o ostwng standard addysg yn yr ys- goldai gtvladwriaethol. Y maent yn goly^u cael math o free trade mewn addysg, yr hyn ar unwaith sydd yn uieddu i ddinystrio addysg ein gwlad. Nid ydym yn gwybod yn iawn beth yw amcan y Ilywodraeth-y mae yn rhwym o fod yn un o ddau beth naill ai er mwyn cynnilo yr arian, neu ynte, ei bod yn ofni fod addysg yn annghyfaddasu bachgen y gweithtwri wneyd ei waith. Mewn perthynasi'r draul.yr ydym yn meddwly dylid oddau ddrwg, os drwg hefyd, ddewis y lleiaf. Pa un oreu gwario ychydig arian er mwyn addysgu plant y dosparth gweithiol, ai ynte eu goddef i dyfu i fyny mewn anwybodaeth ac anfoesoldeb. Bu amser ar ein gwlad pan yr oedd y llywodraeth yn amcanu at leihau trosedd trwv garcharu a dienyddio y troseddvvyr; ond gwawriodd cyf- nod newydd—darfu i'r llywodraeth droi eu meddwl at gyfranu addysg ac yn enw syn- wyr cyffredin, pa un oreu gwario yehydig arian i addysgu ybobl, ai ynte gwario symiau mawrion mewn adeiladu carchardai, a goresgyn ein gwlad gyda'r pethau a elwir Peelers." O'n rhan ni, yr ydym yn credu bod llawn ddigon o'r giwaiddyn ein gwlad yn barod: yr ydym yn credu y gwna un ysgolfeistr mewn pentref neu dref fwy o waith na hanner cant o honynt. Y mae trosedd bob amser yn myned law yn Haw gydag anwybodaeth lie bynag y ceir anwybodaeth, fe geir yno hefyd ddigonedd o drosedd. A ydyw addysg yn rhwystr iddynt i lanw eu gwahanol sefylltaoedd mewn bywyd? A ydyw y glowr yn waelach glowr o herwydd ei fod yn gwybod rhywbeth yn nghylch ffurf- iad y ddaear, a'r modd y mae y gwahanol stratas yn gorwedd ar eu gitydd ? Na, yr yr ydym yn credu yn ddiysgog mai pafwyaf o feddwl a deflir i'w gorchwylion, mai goreu oll y gwneir y gwaith. Y mae y dyn yna sydd yn gwybod rhywbeth yn gallu gw ei waith yn llawer iawn gwell na i gymmy difeddwl ac anwybodus. Nid peiriant ydy dyn i weithio o'r naill ddiwrnod i r llall he fod gancJdo reswm am hyny. Dylai y medd fyned gyda'r llaw ac nid oes dwywaith D fyddai gwedd newydd ar bethau. < Y mae yllywodraeth yn haeddu pob peth and canmoliaeth am ei hytngais bresenol i ostwng safon dysgeidiaeth. Pwy sydd yn cyfrafl at addysg ? A dosparth uchaf cymdeithas Ai mawrion ein gwlad ? Nage, meddaf, ytc* dwy bunt o hob tair punt sydd yu myned 1 logell John Bull yndyibdoddtwrthydospart" gweithiol. Dywedwn yn hyf, }n ddifloesgoii ac yn ddigon uehel, fod yn gywilydd wyoeb. fod John Bull yn edrych mor gilwgus ar 1 dosparth gweithiol. Os ydyw y gweithiwr v cyfranu cymmaint at y dorth, dylai gael eira o honi Dylai y dosparth gweithiol gae1 addysg dda a dyna beth sydd yn arddercho): -y mae y gweithiwr yn gwybod pa Codd 1, wneyd defnydd o r addysg ar ol ei gael. oder i fyny mewn pentref ddwy ysgol ysg0 wael ac ysgol wych-un am geiniog yn y wythnos, a'r Hall am dair ceiniog yr wythnoSj ac mi a fentraf ddweyd y byddai yr ysgol wae yn wag, a'r ysgol ddrud yn llawn cyn pen X chwech mis. Y mae y gweithiwr yn gwybo gwerth addysg yn ei blant, er nad ydyw | wybodus ei hunan. Os ydyw plant y gweithiwr i gael eu hadd- ysgu o gwbl, dylent gael eu haddysgu yn Y modd aoreu. Rhodder iddynt yr addysg oreUt os ydynt i gael eu haddysgu o gwbl. Onia ydyw plant y dosparth gweithiol yn werth haddysgu? Ydynt, meddaf, yn deilwngoj meistriaid a'r ysgolion goieu. A ydyw pla°A y middle class, fel eu gelwir, o weU defnydd na phlant y lower classes, fel eu cam-enwir ? Nac ydynt; ond y maent yn werth deg o honyoj yn ami. Doder y clodhopper o'r wlad wrth ochr y bachgen ag sydd wedi ei eni a 11 wy arian yn ei geg, a mentraf ddweyd y gall y crwt troednoeth ddysgu cymmaint ag yntaU, os nad mwy. Y mae o gystal defnydd ag yntau, ac yn deilwng o gael cystal addysg ag ef yn mhob modd. Fe ddylai y bachgenyfl tlawd yn ogystal ar cyfoethog wybod beth y*v yr achos ei fod yn cael yr anwyd, a chael golwg ar wneuthuriad ei ranau mewnol, er mwyn iddo wybod beth sydd niweidiol i'w iechyd a'i gysur yn y byd. Fe ddylai y forwyn wybod am gyfreithiau combustion, er mwyn el galluogi i gynneu tan yn briodol. Dylai wybod rhywbeth hefyd am awyriad (ventilation), a chael rheswm paham y maent yn agor rhaft uchaf y ffenestr i ollwng yr awyr afiach allan, a'r rhan isaf i ollwng awyr iach i mewn. Pan y mae bachgenyn tlawd yn dangos awydd a chwaeth at ffurfio rhyw gynlluniau newyddioo, fe ddylai gael dysg er inwyn dadblygu y gallaoedd hyny. Gallwn ni wneyd cadair freichiau yn well o'r hanner na'r Frenchman; ond nis gaUwn" wneyd rhyw bethau bach chwaethus gystal ag ef; ac a wna rhyw un i ni gredu nad oes gan fechgyn ieuainc ein gwlad ni gymmaint o dalent a phlentyn y Frenchman? Oes, gymmaint bum waith! Os oes genym, ynté, y bechgyn talentog hyn yn ein gwlad, paham na bai defnydd yn cael el wneyd o honynt? Y mae yna dalent yo mhlith y dosparth gweithiol, ac addysg yfl unig a all ei dadblygu.

- EGLWYSIG.