Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y RHYFEL YN AMERICA.

News
Cite
Share

Y RHYFEL YN AMERICA. Mae y newyddion diweddaraf o America yn bwysig, er yn fyr. Dyddiadau i lawr hyd y 18fed o Chwefror aroddant ar ddeall fod y Gwrthryfelwyr yn Amddiffynfa Don- nelson, y rhai a lywyddid gan y Cadfridog- ion Buckner, Bush rod, a Johnson, wedi gorfod rhoddi fyny y lie ar yr 16eg i'r Un- debwyr, ar ol tri diwrnod o frwydr caled. Drwy y fuddugoliaeth hon, cymmerodd yr Undebwyr bumtheg mil o garcharorion, a swm anferth o arlwyon rhyfel. Diangodd y bradwr, y Cadfridog Floyd, gyda phum mil o wyr yn ystod y nos. Y mosodwydar Amddiffynfa Donnelson o'r afon gan chwech o wn-fadau, y rhai a ddy- oddefasant yn fawr cyn llwyddo yn eu hamcan yn erbyn yr Amddiffynfa. Tra yr oedd y gwn-fadau yn ymosod ar y lie o'r afori, yr oedd y milwyr yn ymosod ar, ac yn cymmeryd y maes-weithiau neu y ffos- gloddiau; ond yn ystod yr ymosodiad, darfu i'r Gwrthryfelwyr gymmeryd un magnelfa berthynol i'r Undebwyr, yr hon a ennillwyd yn ol drachefn. Tybir fod yr Undebwyr yn rhifo oddeutu deugain mil, a bod tri chant wedi cael eu lladd, chwe chant wedi eu harcholli, a chant ar goll. Nid oeddys yn gwybod yn iawn beth oedd rhif y Gwrthryfelwyr. Mae eu colledion hwythau wedi bod yn fawr. Rhaid fod byddin go luosog ganddynt cyn y gall- esid cymmeryd pumtheg mil o houynt yn garcharorion. Mae y Cadfridog Grant, yr hwn a ar- weiniai yr Undebwyr, wedi cael ei godi un ris ar raddfa dyrchafiaeth, fel cydnabydd- iaeth am ei wrold-er a'i lewder fel llywydd. Mae y fuddugoliaeth a ennillodd ar y Gwrth- ryfelwyr yn Amddiffynfa Donnelson wedi achosi llawenydd mawr drwy yr aU o'r Tal- eithiau Gogleddol. Mae parotoadau yn cael eu gwneyd i glodfori y fuddugoliaeth drwy yr holl wlad. Derbyniwyd y newydd o'r fuddugoliaeth yn y Congress gyda banllefau brwdfrydig o gymmeradwyaeth. Mae y Commander Foote wedi cychwyn o Donnelson gyda dau o wn-fadau a chwech o fortar-faaau i fyny i'r afon Cumberland, i gymmeryd Clarksfield, yn nhalaeth Ten- nessee. Dysgwylid i'r Gwrthryfelwyr ym- ladd yn mhellach yn Clarksfield. Y maent wedi ymadael yn llwyr o Bowling Green, ac yn lied debyg eu bod wedi yrngasglu yn eu holl rym ar afon Cumberland. Y mae wvth milofilwyr yr Undeb, dan arweiniad y Cadfridog Buell, wedi ymgasglu hefyd ar lanau yr afon Cumberland a bydd i'r Cadfridogion Undebol, gyda'u gwahanol fyddinoedd, gychwyn ar Nashville drwy Franklin. Bryseb o Amddiffynfa Monroe a rydd ar ddeall fod mynegiad o Norfolk yn hysbysu fod brwydr wedi dygwydd ger Savannah, a'i bod yn debyg fod y lie hwnw wedi ei gym. meryd. Yn Missouri, yr oedd yr Undebwyr yn parhan i erlyn y Cadfridog Price. Yr oeddynt wedi dkl amryw swyddogion, a nifer fawr o filwyr cyffredin perthynol i fyddin Price.

FFRAINC.

ERLIDIGAETH YN TUSCANY.

TY Y CYFFREDIN.