Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

RUMNI A'R GYMMYDOGAETH.

News
Cite
Share

RUMNI A'R GYMMYDOGAETH. Rhyfedd y cyfnewidiadau Nid oes ond megys ddoe er pan y daeth y Parch. D. R. Jones o Lan- gefni, i fod yn weinidog i Penuel; ond erbyn heddyw, y mae Mr. Jones, Penuel, yn Mr. Jones, Abercarn. Llwydd iddo yn ei le newydd. Nos Fawrth, Chwefror lleg, yngynnullodd cyn- nulleidfa luosog o gyfeillion eu diweddar weinidog yn nghyd yn Penuel, er dangos eu serch a'u parch iddo ar ei ymadawiad, trwy ei anrhegu a'r swm o ddeunaw gini, mewn alwar tlws, o wneuthuriad Miss M. Edwards. Wedi dewis y Parch. W. Grif- fiths, Gosen, i'r gadair, cafwyd anerchiadau gan y Parchedigion E. Howells, Pontlotyn J. Davies, Abercarn R. Ellis, Sirhowy D. R. Jones; a J. P. Williams. Mae Mr. Jones wedi ymadael, a'i gymmeriad yn ucbel yn y lie fel cyfaill trwyadl, a phregethwr o'r dosparth blaenaf. Hyderwyf yr ymddyga eghvys Penuel yn ddoeth yn newisiad olynydd iddo—un teilwng o'r eglwys a'r weinidog- aeth Gristionogol. Mae champion y daenell wedi myned i raddau o dan gwmwl yma yn bresenol. Tebyg fod deddf yr aelodau wedi bod yn ei boeni yn o ddwys, a'i fod wedi ei gaethiwo i ddeddf pechod. Byddai ynbri- odol iddo ymestyn at groeshoelio'r cnawd, ei -wyniau, a'i chwantau." Mae ytna un peth ag sydd yn effeithioyn niweid- iol iawn ar ein Hysgolion Sul, sefgormes eglwysig. Y maentyn gorfodi y plant a arferant fod yn yr ysgol ddyddiol i ddyfod i'w Ysgol Sabbothol, neu foddanwgysbrydiondrwg y lie. Y mae y lie hwn wedi curl-nid ei feiiditiiio-ond ei felldithio gan ormes a phla yr Eglwys Wladol, fel y mae yn anhawdd i Ymneillduaeth fyw a bodoli; ond ein penderfyniad yw, mynwn fyw a bodoli, ac yn nerth ein Duw, ni awn onward, onward, to blood, cyn rhoddi fyny y maes. Er ei bod wedi llanw ei rhengau a niferi o Judasiaid Ymneillduol, pa rai sydd wedi ymwerthu i gyflawnu pob budrwaith er tnwyn tamaid o fara etto, ni lwydda yr un offeryn a lunir i'n herbyn tra Duw trosom. Yr oedd un o'r gweilch hyn yn ddiweddar yn sefyll yn ymyl y Pab Taenellu, i fod yn dad bedydd i faban rhyw Wyddeles o'r lie; ond er cymmaint i'w eu hym- drech i'w ddal i fyny, i lawr y daw-i lawr y delo gyda brys.

ADRODDIADAU BWRDD MASNACH.

CASGLIADAU AT CARMEL. II

PELLEBYR Y MOR WERYDD.

ARDDANGOSIAD MAWR 1862.

HANESION CYFFREDINOL.

COFFADWRIAETH Y DDWY FIL.