Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

,CgfarfiJibgjb-ir,

News
Cite
Share

araeth ddigrif a phwrpasol, nr H Ddyledswydd yr eglwys, Gristionogol at rr Ysgol Sabbothol." Yna galwwyd ar y brawd Stephen Picton yn mlaen, i,ddarlunio "Cwyn yr Am- ddifad wedi colli ei, Fam." Gwefrodd y testun, llais, a medr- nsrwydd y brawd hwn yr holl (gynnulleidfa, nea oedd llygaid pawb yn ffynnonau o ddagrau trwy yr holl gapel. Yna, trosglwyddwyd y gwobrwyon o'r gadair, gydag anerchion pwrpasol, ilr ymapismvr ]I,Vddianntis mewn darllen, y borell a'r prydnawn. oFeiblau a Tliestamentau, a chydnabyddwyd yr vsgol yn dtliolchgar iawn gan y eyfryw oedd yn eu derbyn. Yna canwyd mawl, a therfvnwyd y cyfarfod trwy weddi gàn y brawd Mr. Morris, Blue Boar. Darperid tua 600 o draeth- odau gan yr ysgol, er rhoddi traethawd yn galenig i bawb oedd yn y capel y noson hono ac 0, mor ddiolchfcar yr oedd pawb yn derbyn ei r8dd wrth ymadael, ac yn hiraethu am gael y fath gyfarfod yn ebrwydd etto. Teilwng yw sylwi, fod llafur a llwyddiant yr ysgol hon wedi bod yn helaeth iawn y flwydd- yn ddiweddafyn mbob ystvr; i'r Arglwydd y byddo y diolch am ei nawdd. Anrhegodd yr ysgol yr eglwys y flwyddyn ddi- weddaf a llestri cymmundeb hardd a gwasanaetbgar iawn. Yr oedd gwertb yr anrhecr hon yn llawev ond er hyny, yr oedd yn ei rhoddi yn hollol ewyllvsgar. • Hefyd, anrhegodd yr ysgol yr areitbfa newydd, ar adagoriad y capel, a Beibl Dwv- ieithawg prydferth annghvffredin, yn gystal ag amrai bethau ereill llai eu gwerth. Hefvd, anrhegodd ei hun, ei holl blant, ali charedigion, A gwledd dda ode, yn yr haf ddiweddaf; ac yn Nadolig, fel y nodwyd. rhoddodd i bobaelod perthynol iddi rhyw lyfryn buddiol yn galenig, a thract i bob gwrandawwr yn ygynnnlleidfa. Gall fod rhai yn synu, pa le y mne hi yn cael pres i bob peth syndod yw. gan nad oes yma neb eyf- oethog iawn. Y dirgelwch yw hyn, ei bod yn dwyn yn mlaen ei holl waitb wrth reol dda, a cbydaffyddlondebmawr. Trefn a ffyddlondeb sydd yn gwnevd yr holl waith. Yr un fath a'r Wesleyaid yn casglu at en Cenadaeth, casglir yn yr vsgol hon yu rheolaidd bob mis trwy y flwyddyn ac yn gyflfredin, nid oes arni ddiffvg na llyfrau at ei gwasanaeth e: hnn, nac arian yn ei thrysorfa. Llwydd mawr a fyddo ar ysefydliad clodwiw hwn trwy y eyfanfyd mawr i gyd, medd-OMICRON. ORDEINIAD GWEINIDOG HILL PARK, H IYI,FFORDD.- Yn gymmaint a bod achos y Bedyddwyr Cymreig yn Hill Park, HwJnbrdd, yn ac wedi bod yn gynnydd mor rha. gorol, mae yr angen o gael gweinidog i'w plith wedi cael ei deimlo er's amser bellacb. Rhoddwyd arddangosiad o'r teimlad liwnw oddeutu blwyddyn yn ol. trwy roddi galwad i un o fyfyrwyr Athrofa Hwlffordd i ddyfod i'w gwasan aethu, yr hwn yn awr sydd yn weinidogyn Llangendeyrn ond nid allai efe gydsynio a'u cais. Yna rhoddwyd gal- wad unfrydol i'r Brawd teilwng Henry Harries, o Ath- rofa Pontypool, adeg ordeiniad yr hwn a gymmerodd le ar y Sul, Rhagfyr 23ain. Yn y boreu pregethwyd gan y brawd F. Evans (cydfyfyriwr iddo), a'r Parch. C. Grif- fiths, Seion, Merthyr. Am ddau, gan y Parch. C. Grif- fiths, a Dr. Thomas, Pontypool. Ac am chwech cym- merodd y cwrdd ordeinio le, pryd y pregethodd y Pareh. C. Griffiths ar Natur Rglwys yna rhoddodd y gofyniadau arferol o flaen y gweinidog ieuanc, y rhai a atebwyd- yn foddhaol iawn, a dyrchafwyd gweddi trosto gan ei ben Athraw. Wedi hyn pregethodd y Parch. Ddr. Thomas i'r Gweinidog. Yr oedd hwn yn enwedig yn gwrdd gwir effeithiol; y brodyr oll yn ymddangos yn llaw ei Meistr. Cynnaliwyd cyfarfodydd nos Lun, a thair gwaith ddydd Mawrth (dydd Nadolig), yn mha rai pregethodd y Brodyr F. Evans, a H. W. Hughes, o Athrofa Pontypool; Owen Griffiths, Blaenconin W. Jenkins a T. Davies, Hwlffordd. Cyrddau da iawn oil. Hyfryd -ydyw liysbysu fod petliau dymunol i'w ddys%wyl oddiwrth yr undeb hwn ac—ust! mae yr awen yn dweyd rhywbeth:—■ Yn Hill y Park, y marc tra mawr-o gael Bugeiliwr a blaenawr, Yn wych gyrhaeddwyd yn awr, Ag arfaeth wir ragorfawr. Y briodas 'n addas weinyddwyd,—do, Ar y dydd a nodwyd Ac huten hwyliau gafwyd, Dawiol fawl—ysbrydol fwyd. Anhawdd ydyw braidd enwi-Hill y Park, 'Does dim help am dani, V I A'i adael heb gael nodi, Y brawd offeryn y bri:— Rowlands, fe wnaeth wroli-yn llewaidd, Er cael lie ;iddoli, Yn y Bryn, trwy wawd a bri, LIu dynol ellid enwi. Ei gu nodwedd i'r gweinidog-etyb, Etto yn gyfochrog, Ys haeledd ei wraig selog, 'Nail sydd, dros grefydd y grog. Yr eglwys haedda fawrglod-oll hefyd, Am ei llafur hynod, I fy lor clau mwy fo'r clod, Filwaith na'r gwychaf aelod. I Harries a'i ddoniau hyrwydd—i ]awn Dda lenwi ei fawrswydd, Yn llawn boed dan nawdd a llwydd Athraw mawr perffeithrwydd. Hwlffordd. BitAwn. CEFNMAWR.—Aijoriad Addoldy,-y Cefnmawr sydd le poblogaidd yn Swydd Ddinbych. Y mae achos y Bedydd- wyr wedi hen wreiddio yn y lie, ac wedi dal ac ennill tir trwy y blynyddoedd. Yma y bu yr enwog Evan Evans, wedi hyny o Gaerludd (ac o fendigedig goffndwriaeth), yn weinidog. Ar ei ol ef y daeth yr Hybarch Ellis Evans yma, lie y bu yn hynod o lafurus a llwyddiannus am dros ddeusfain o lfynyddoedd. Yn ngwyneb dyfodiad prydnawn dyddiau, a'u gyssylltiadau poenus, penderfynodd yr eg- lwys barchus sicrhau iddo ei gynnaliaeth hyd ddivvedd ei oes, yr hyn a ddylai fod yn efelychiad i lawer o eglwysi. Mewn canlyniad i hyn, rhoddwyd galwad i'r Brawd ieuanc anwyl, y Parch. Abel J. Parry, o Athrofa Pontypwl, i gymmeryd gofal yr eglwys; ac ymddengys fod hyn oil yn ol dewisiad y Nefoedd. Y mae yr achos wedi cynnyddu yn fawr o dan ei ofal, fel ag yr aeth yr hen le yn rhy fach, a bu raid adeiladu tabernacl newydd, o gylch banner milltir oddiwrth yr hen dy, yr hwn sydd yn werth rhwng pob peth o gylch pumtheg cant o bunnoedd. Well done! Bwriedir cynnal addoliad o hyn allan yn yr hen dernl a'r newydd, y gan roddi fwy o fanteision crefyddol i'r Saeson lluosog a. gylcliynant y lie. Y mae Mr. Parry a'i eglwys yn gweithio yn dda, a Duw yn eu llwyddo. Wedi cael y capel newydd yn barod, cynnaliwyd ynddo gyfarfodydd agoriadol ar y Sabboth a'r Llun, Rhagfyr 16eg a'r 17eg, pryd y gwein- yddwyd fel y canlyn :—Dydd Sabboth, am hanner awr wedi deg, darllenodd a gweddiodd y Parch. A. J. Parry, gweinidog y lie; a phregethodd yr Hybarch Ellis Evans, a'r Parch. T. Jones, Chepstow, brawd anwyl, genedigol yn y lie, ac yn un o aelodau henaf yr eglwys yn y Cefnmawr. Hir y cofir am y ddau batriarch, a'u pregethau priodol a dylanwadol wrth agor y capel, yn gystal a gweddi effeithiol Mr. Parry. Am ddau, declireuodd y Parch. Samuel Hughes, Llangollen; a phregethodd y Parch. H. Jones, Llangollen; yn Seisneg, a T. E. James, Castellne d, yn Gymraeg. Am 6, pregethodd Jones, Glynceiriog, ac Howells, Cefnbychan. Yr un pryd, yn yr hen gapel, pregethodd James, Castellnedd, a Jones, Chepstow. Dranoeth, am 10, decbreuodd y Parch. H. Jones, Llan- gollen a phregethodd y Pat'cbedigion Williams, o'r Garth, a Robinson, Llansilin. Am 2, dechreuodd y Parch. J. Jones, Glynceiriog a phregethodd y Parched- igion Jones, Chepstow, yn Seisneg, a Prichard, Llangollen, yn Gymraeg. Am 6, dechreuodd y Brawd Rowlands, Capelgwyn, Mon; a phregethodd y Parchedigion R* Lloyd, o Athrofa Hwlffordd; W. Roberts, Rhos, a T. E. James, Castellnedd. Yn yr hen gapel, yr un pryd, gweddiodd y Parch. T. Jones, Chepstow; a phregethodd Jones, Llangollen, a Robinson, Llansilin. Yr oedd dylan- wad y pregethau, gwenau Duw, a lluosogrwydd y gwran- dawwyr, ac astudrwydd teilwng y gwrandawiad, yn gwneyd y lie yn dra chysurus i'n golwg a'n teimlad. Ymddygodd y cyfeillion yn hynod o garedig i'r lluaws dyeithriaid, ac yr oedd t^ a bwrdd Mr. Jonathan Jones, a'i deulu anwyl, fel trwy y blynyddoedd, yn agored led y pen. Teyrnased yr Arglwydd yma yn oes oesoeda, Amen.—>COFNODYDD»