Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

LLANGATHEN, YN YSTRAD TYWI.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

LLANGATHEN, YN YSTRAD TYWI. SYE, —Ada^orwyd yr Eglwys hon ar y 7fed o'r mis hwn, pryd hefyd y cysegr- wyd tir newydd at gladdu. Pregethwyd ar yr achlysur gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi, a chan amryw offeiriaid eraill. Gyda golwg ar gysegru ('consecration'), ei ystyr eglwysig ydyw neillduo tir at gladdu neu addoli. Gweithred gyfreithiol ydyw y weithred, a ellid wneud, ac a wneir yn fynych gan yr Esgob yn ei swyddfa gartref, sef rhoddi a derbyn ac arwyddo y 'conveyance.' Dim mwy a dim llai. Nid yw arfer gwasanaeth crefyddol ond peth damweiniol, ac a ellid ei hebgor; a'r gwasanaeth hwnw pan y'i harferir, sydd yn gynnwysedig mewn darllen eyfran o air Duw, yn nghyda gweddio. Dim mwy, dim llai, dim amgen. Mewn llith arweiniol yn y DYDD, ryw dair wythnos yn ol, dywedwyd fod yr Eglwys yn arfer halen wrth gysegru!! a hyn a ddywedwyd, nid mewn an- wybodaeth, ond gydag amcan i dwyllo dynion gwellt. Mae yn debyg fod traethu man-gelwyddau o'r natur hyn yn fanteisiol er dal i fyny ragfarn y bobl yn erbyn yr hen Eglwys; ond byddai yn dda i chwi ddal mewn cof fod "dydd" arall! Gwnewch fawr, druain, o'r man gelwyddau hyn, mae eu dydd hwy bron ar ben; canys mae yr ysgolfeistr allan! Beth bynag, er mwyn cymeriad y wasg Gymreig, byddai gwell genyf ymbwyllo; canys mae yr holl gornorio tragwyddol yma yn ddigon a gyru pob dyn o deimlad cyffredin i droi at y Saeson am dipyn o bwyll, cymedroldeb, a chymydogaeth dda. Dywedais mai trosglwyddiad ('conveyance') ydyw prif elfen 'consecration' yn ei ystyr eglwysig; canys mae yn mryd yr Eglwys trwy yr oesoedd, fod y gladdle i aros hyd yn oes oesoedd yn nawdd i gyrff y saint: mae hyn yn erthygl yn ei chredo hi; canys oes y bryniau yw ei hoes hi, a hyny a fydd iddi er holl fygythion a thrydar giwion ieir y dyddiau enbyd hyn. Gyda golwg ar fynwentydd yr Ymneillduwyr, gall pleidlais y 'trustees,' neu eiddo y gynnulleidfa, ei dodi ar ffair 'auction' unrhyw ddydd; ond nid felly beddrod yn nghysgod y clochdy. Yr eiddoch, J EGLWYSWK. [Gan fod Eglwyswr yn ei ystyried yn 'matter of justice' i ni gyhoeddi ei lythyr 'all of it,' yr ydym yn gwneud hyny; ond y mae 'justice' yn galw arnom i ddwevd gair yn ei gyleh. 1. Os ystyr eglwysig y gair cysegru ydyw "neillduo tir at gladdu neu addoli, dim mwy, dim llai, dim amgen," gall Ymneillduwr wneud hyny gystal ag Eglwyswr; a gall hau mymryn o halen ar wyneb y tir, os bydd yn dewis, heb fynu ceiniog o dreth i brynu yr halen. Ond yr oedd holl deidiau a nein- iau Eglwyswr yn credu ac yn dysgu fod rhyw gysegredigrwydd "mwy," ac "amgen," ac uwch na chysegriad YmneillduoI yn perthyn i swyddogaeth urdd Esgob. 2. Awgryma Eglwyswr fod yr Ymneillduwyr yn arfer "traethu man-gel- wyddau" er dal i fyny ragfarn y bobl yn erbyn yr hen Eglwys. Na, yn wir, nid oedd dim eisieu traethu "man-gelwyddau," yr oedd digon o fras wirion- eddau i gael eu traethu am anghyfiawnder yr Eglwys, ac am Phariseaeth anoddefadwy ei chiwion dandi. 3. Awgryma Eglwyswr mai "dynion gwellt," hawdd eu twyllo, ydyw Ym- neillduwyr. Os ydynt mor hawdd eu twyllo, y mae yn rhyfedd na buasai yr Eglwys yn medru eu twyllo i'w chorlan; ond y gwir yw, y maent yn rhy hen i gymeryd eu twyllo, yn rhy gryfion i gymeryd eu llusgo yn groes i'w hew- yllys, ac yn rhy luosog i gael eu llosgi o'r ffordd. Nid ellid cynnyg eu llosgi yn awr heb roddi y byd ar dan. 4. Y mae yr Eglwyswr yn coffa i ni, y man-gelwyddwyr," fod dydd arall i ddyfod. Dylai yntau gofio hyny hefyd, a chofio ar yr un pryd na bydd dim derbyn wyneb i'r Eglwyswr mwy na rhyw un arall yn y dydd hwnw. 5. Cwyna yr Eglwyswr fod yr Ymneillduwyr yn "cornorio yr Eglwys yn dragwyddol;" ond y ffaith yw, yr Eglwys sydd wedi bod yn cornorio; ac y mae wedi bod yn cornorio yr Ymneillduwyr yn bur drwm am oesoedd wrth gasglu ei threthoedd; ond bydd llai o gornorio o hyn allan. Y mae cyrn Eg- lwys yr Iwerddon i gael eu tori, ac y mae Eglwys Loegr yn tynu ei chyrn ati yn o gyflym; a bydd hyny er anrhydedd a chysur iddi,-ennilla mewn dylan- wad moesol a duwiol lawer mwy nag a fedrai ennill drwy nerth ei chyrn. 6. Ceisia yr Eglwyswr ein dychrynu trwy waeddi fod "yr ysgolfeistr allan." Y mae allan, ond nid yr Eglwys ddarfu ei anfon allan,-nid o fodd yr Eglwys yr aeth allan; ond aeth heb ei chenad, ac heb ei gwaethaf. 'Policy' yr Eglwys o'r dechreuad, a 'pholicy' ei mam o'i blaen, oedd ceisio rhwystro yr ysgolfeistr i fyned alia." Gwyr y byd oil pwy oedd hen "fammaeth duwioldeb" yn ol crefft yr Eglwys. Er gwaethaf yr Eglwys yr aeth yr hen efengylwyr allan i ddysgu y genedl yn nyddiau y diwygwyr. Heb waethaf yr Eglwys yr ym- deithiodd yr Ysgol Sul drwy holl gylchoedd y Dywysogaeth. Nid o'r Eglwys, beth bynag, y daeth addysgiad y genedl Gymreig; ac y mae dipyn yn ysmala i glywedciwdandilleiaf yr Eglwys yn bygwth yr "ysgolfeistr" ar gIwion Y mneillduaeth. 7. Ymffrostia yr Eglwyswr fod claddfeydd yr Eglwys i aros hyd yn oes oesoedd i fod yn nawdd i gyrff y saint. Yr wyf yn addef nad yw mynwentydd Ymneillduwyr ddim i aros i fod yn nawdd i gyrff y saint yn oes oesoedd." 'Idea' ardderchog ydyw fod claddfeydd yr Eglwys i fod yn nawdd i gyrff ei saint "yn oes oesoedd." Caiff claddfeydd saint yr Ymneillduwyr eu chwalu yn hir iawn cyn hyny, end byddant yn nawdd ddiogel iddynt hyd ganiad udgorn y codi; ond bydd beddau saint yr Eglwys yn nawdd i'w cyrff "yn oes oes- oedd." Yn hyny o beth y maent yn rhagori ar feddau yr Ymneillduwyr. Ni bydd eu beddau hwy yn werth dim ar ol yr adgyfodiad; ond bydd cyrff yr Ymneillduwyr mor bell o gyrhaedd yr 'auction' hyd fore y codi ag y bydd cyrff yr Eglwyswyr. 8. Ymffrostia yr Eglwyswr fod sefydlogrwydd tragwyddol yn nghysgod y clochdy. 16, diogelwch tragwyddol yn nghysgod y clochdy! Ceisiwyd rhoddi y '39 articles' yn nghysgod y clochdy, ond daeth corwynt drwy lawer clochdy i'w chwalu oddiyno i bedwar gwynt y nefoedd. Ymladdodd y dreth yn ofnadwy am gael aros yn oes oesoedd yn nghysgod y clochdy, ond bu farw dan gysgod y clochdy; ac y mae ei bedd yn awr yn nghysgod y clochdy, a chaiff gof-farmor ar ei bedd ar draul treth wirfoddol yr Ymneillduwyr. 9. Ymffrostia yr Eglwyswr fod ei Eglwys yn "hen." Ped addef em ei bod cyn hyned a Harri Dew, ni byddai hyny ddim yn hen iawn. Yr oedd ei mam yn hjTi na hyny. 10. Ymffrostia mai "oes y bryniau" ydyw oes ei Eglwys. Wei, y mae Ym- neillduwyr yn ddigon ewyllysgar iddi gael "oes y bryniau," os bydd am fyw yn onest ac yn gymydogol; ond os bydd am barhau i ymwthio i dai ei chymyd- ogesau i ddygid bwyd a dillad i'w phlant mawr moethus, ni bydd dim "oes y bryniau" i beth felly. Boed oes y bryniau i'w gweithgarwch rhydd, ac i'w haelioni gwirfoddol. Boed iddi fod yn gangen enwog o 'volunteers' yr Oen, a boed iddi ymdaith yn amlder ei grym yn nghanol byddinoedd y groes i ennill y byd i gofleidio Cristionogaeth; ond diflaned ei thrais a'i thraha a'i Phari- seaeth o flaen awelon gwawr y milflwyddiant, a blodeued a llawenyched dan wenau adfywiol Haul cyfiawnder.-GoL.]

DINBYCH.

FFESTINIOG.

ABERYSTWYTH.

CAERFYRDDIN.

BALA.