Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

BRECH Y FUWCH (COW POX).

News
Cite
Share

BRECH Y FUWCH (COW POX). YR hen bobl, sydd yn alluog i alw i gof y fath olwg arw, greithiog, oedd i'w gweled ar wynebau hen ac ieuainc mewn cynnulleidfaoedd, er's triugain o flynyddoedd yn ol, yn unig all ddwyn tystiolaeth gyf- lawn i effeithioldeb a rhinweddoldeb brech y fuwch, fel ei gelwir, er attal y galanasdra angeuol ac anffurfiol oedd yn cael ei achosi gan y frech wen, yr hon nid yw, hyd yma, wedi llwyr gilio o'n gwlad, ond nid yn debyg mor ddinystriol i fywydau a phrydferthwch wynebau ag oedd o fewn cylch ein cof. Yn awr, gelwir sylw pawb o ddar- llenwyr y DYDD, nas gwyddant yn barod, pa fodd y darganfyddwyd BRECH Y FUWCR. Fel a ganlyn y bu, o gylch y flwyddyn 1776, lai na chan' mlynedd yn ol. Yr oedd gwr ieuanc o'r enw Edward Jen- ner, wedi gosod ei hun i fyny fel meddyg, yn nhref farchnad Berke- ley, yn swydd Gaerloyw, ac yn llettya mewn lie yr oedd llawer iawn o wartheg yn cael eu godro, gan feibion a merched, y rhai oedd oil o'r bron wedi cael yr hyn a elwid elwy'r godro-rhyw chwydd mawr yn y dwylaw, ac archollion dyfnion yn tori yn y chwydd, fel nas gallesid ymaflyd yn y tethau nac mewn dim arall. Yr oeddid yn deall fod y chwydd yn cael ei achosi gan ryw wenwyn oedd mewn rhyw godenau bychain, fyddai ar amserau ar dethau y gwartheg. Yr oedd yn beth cyffredin y pryd hwnw i impio y frech ar feibion a merched, fel y byddis yn bresenol yn -'inoculato' brech y fuwch ar blant ac eraill; ac yn gymaint a bod y frech wen yn drom iawn yn y parthau hyny, cynnygiodd y Doctor Jenner, fel ei gelwid, roddi y frech wen ar y personau oedd o dan glwyf y godro, o herwydd nas gallasent wneud a'u dwylaw, ac wedi ei rhoddi arnynt, deallodd nad oedd hi yn gweithio dim, yr hyn a barai iddo ryfeddu yn fawr. Ond wrth ymddyddan a rhyw wreigan o'i gydnabyddiaeth, hi a ddywed- odd wrtho, iddi hi ddeall hyny, trwy brofiad personol a gweledigol, er's hir amser, na wnelai- y frech un amser wneud ei gwaith ar neb o'r rhai y byddai clwy' y godro arnynt; ac yn mhellach, hi a ddy- wedai, nas gwyddai am neb a'r frech wen wedi dyfod arnynt os byddent wedi cael clwy' y godro yn drwm. Ar unwaith meddyliodd y meddyg ieuanc fod rhywbeth felly yn bod. Mynodd 'analyso' y crawn ar byrsau y gwartheg, a meddyliodd pa fodd y gallesid ei drosglwyddo oddiar dethau y gwartheg i gyrff dynion. Y prawf cyntaf a wnaeth o hono oedd ar y 14eg o Fai, 1796, ar fachgen wyth oed, trwy gymeryd ychydig o'r crawn, nid o un o'r chwysigenau ar deth buwch, ond oddiar law un o'r merched godro, yr hon a weith- iodd yn rhagorol, ar y laf o Gorphenaf canlynol; rhoddodd y frech wen drachefn arno, yr hon ni effeithiodd ddim arno. Mewn can- lyniad i hyny, dechreuodd y Doctor wneud ei brofion a'i feddwl yn fwy cyhoeddus. Amlygodd yr hyn a wnaeth ac a gafodd allan i'w hen feistriaid, y Doctoriaid Hunter a Cline o Lundain, ond ei wawdio a'i ddirmygu yn fawr a gafodd 'poor' Jenner; er hyny, ni roddodd ef i fyny, ond ysgrifenodd draethawd ar y ffeithiau, yr hyn a ennill- odd iddo lawer o bleidwyr gwresog; ac yn mhen un flwyddyn yr oedd dros driugain a deg o brif feddygon y deyrnas, y brif ddinas yn benaf, yn cyhoeddus arwyddo eu cydsyniad ag ef. Ond y cyn- nyg nesaf a ddyfeisiodd ei wrthwynebwyr, pan nas gallasent gelu y y ffaith, oedd ei yspeilio ef o'r darganfyddiad, yn yr hyn y methas- ant yn llwyr; ond yr oedd anrhydedd a gwobrwyon erbyn hyny yn dylifo ar ben Jenner o bob cyfeiriad, a llwythid ef 4 theitlau anrhyd- eddus gan brif ysgolion Ewrop. Ymofynodd ymerawdwr Rwssia am ymgom bersonol ag ef yn y fl. 1814, a chynnygiodd iddo y teitl ag oedd ar law ei uchelder i'w anrhydeddu ag ef; a pha ryfedd, gan ei fod wedi darganfod moddion mor effeithiol er lleihau effeithiau ni- weidiol yr haint fwyaf dinystriol, ar brydferthwch a bywydau, ag oedd yn bod yr amseroedd hyny. Yn y fl. 1802, gwobrwyodd y Senedd Brydeinig ef a £10,000, a'r fl. 1807, ag ugain mil o bunnau. Saif enw Edward Jenner yn uchel iawn mewn llawer o wledydd tramor, a dywedir fod y 14eg o Fai bob blwyddyn yn cael ei chadw yn ddydd gwyl yn Prwssia—Gwyl Jenner. Bermo, Mehefin 30. J. J.

Y TYWYDD A'R CNYDAU.

NitoglfrUm Cramor*

[No title]