Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
THE NORTH WALES COUNTIES LUNATIC ASYLUM, DENBIGH. WANTED, an Assistant MEDICAL OFFICER (Registered) for this Asylum. He must be unmarried, and produce testimonials of good moral character. The Salary to commence at R80 a year, with rooms in the House, board and washing. A knowledge of the Welsh Language is indispensable. Information as to the duties may be obtained of the Superintendent. Canditates are requested to forward their applications, with testimonials, stating age, &c., addressed to the Chairman of the Committee of Visitors, under cover, to me at the Asylum, on or before FRIDAY, the 31st instant. By Order, JOHN ROBINSON, July 10th, 1868. Clerk to the Visitors.
AT EIN GOHEBWYR.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. T. T.—Y mae eich cynnygiad am i Undeb Annibynol Cymreig gael ei ffurfio ar gynllun yr English Congregational Union, yn deilwng o ystyriaeth blaenoriaid ein heglwysi. Gallai fod o les mawr yn sefyllfa bresenol Cymru. Gallai fod Cyfarfod- ydd Mai yr Undeb yn Metropolis Cymru, neu yn un o drefydd mwyaf y Dywysog- aeth; a gallai y Cyfarfodydd Hydrefol fod yn y De a'r Gogledd bob yn ail, fel yr awgrymwch. Wrth gwrs, dyiai gwyr lleyg yn gystal a gwyr lien fod ar y Pwyll- gor; a gallai yr Undeb, os caiff ei ffurfio, gael Year Boole, a hanes ei weithrediadau. A byddai yn dda genym hefyd weled yn Nghymru Gynghrair Efengylaidd," neu gynnadledd o weinidogion a swyddogion eglwysig, yn cyfarfod yn achlysurol er cydymannog i gariad a chydweithrediad o blaid teyrnas y Gwaredwr. Mrs. J. a Mtiri.—Da, iawn genym ein bod wedi ennill eich meddwl da, a'ch gair da drwy yr ychydig a ddywedasom o blaid Hawliau Merched. Dylech gael eich hawliau; a dylech ymbarotoi i'w derbyn a'u defnyddio. Chwychwi ydyw hanner y teulu, a hanner y wlad, a hanner y byd. Y.mae yn deg iawn i chwi gael eich cylch, ac y mae yn bwysig iawn i chwi ei lenwi. Y mae dyrchafiad a llwyddiant ein gwlad, a lledaeniad gwareiddiad a chrefydd drwy'r byd, yn ymddibynu mwy ar eich gofal a'ch llafur chwi, nag y mae neb yn ddychymygu. R. T. R.—Yr oedd Samuel yr Herald yn haeddol o'ch cerydd am ysgrifenu mor frwnt danfugenw. Y mae dau neu dri eraill heblaw chwi am roddi tipyn o gerydd iddo am ei dro bychan isel; ond dichon mai hogyn bychan ydyw ac na wnaiff ef ddim tro bach felly byth mwy. Y mae llawer yn dweyd y dylasai Gol. mawr yr Herald ddysgu gwell manners iddo; ond nid yw pobl fawr ddim yn cadw bob amser at reolau good manners. Ymofynydd.—Dymuna gael gwybod a yw Seryddiaeth Robert Roberts, Caergybi, ar werth gan rai o lyfrwerthwyr Cymru.
YR ETHOLIAD DYFODOL.
News
Cite
Share
YR ETHOLIAD DYFODOL. UN o'r adegau pwysicaf yn y wlad hon yw amser etholiad ein cynnrychiolwyr i'r Senedd. Mae yn rhy amlwg fod gormod o ddifaterwch ac esgeulusdra wedi bod yn mhlith y Oymry fel cenedl, yn nglyn a'r mater pwysig hwn, trwy yr oesoedd. Mae hi yn ddigon o wirionedd fod cenedl y Cymry yn rhagori mewn llawer o rinweddau,-y maent yn dawel, gonest, a chrefyddol, efallai uwchlaw un genedl arall; ond hyd yma rhaid addef nad ydynt erioed wedi dyfod allan fel gwleidiadwyr goleuedig, pen- derfynol, a grymus, i honi eu hawliau, a mynu teimlo eu dylan- wad yn ffurfiad a gweinyddiad eyfreithiau ein teyrnas. Beth bynag yw yr achos o hyn, dyna yw y ffaith. Pan y mae tair rhan o bedair o drigolion y wlad yn Ymneillduwyr goleuedig a phenderfynol, os nad rhagor, yn deall ac yn gallu iawn-brisio rhyddid gwladol a chrefyddol cystal a neb, etto nid yw yn ym- ddangos eu bod erioed wedi dychwelyd cymaint ag un Ymneill- duwr i'w cynnrychioli yn y Senedd. Ac nid hyny yn unig, ond y mae llawer o wledydd a bwrdeisdrefi llawn o Ymneillduwyr, wedi bod trwy y blynyddoedd yn euog o'r aiferiad anghyson o ddychwelyd y Ceidwadwyr mwyaf culfarn, a gelynion penaf pob rhyddid, yn wladol a chrefyddol, i'w cynnrychioli yn y Senedd. Mewn gwirionedd, y mae yr ymddygiad hwn o eiddo Rhydd- frydwyrac Ymneillduwyr Cymru, wedi bod, ac yn parhau i fod, yn destun syndod a galar i Ryddfrydwyr ac Ymneillduwyr Lloegr; ond gobeithir fod yr amser wedi dyfod, pryd y tynir y gwarth hwn oddiar ein gwlad. Gallai mai y prif achos o'r difaterweh hwn gyda materion gwladol yn mhlith y Cymry fel cenedl, yw y diffyg sydd wedi bod yn yr ymdrech i'w haddysgu yn egwyddorion gwleidiadaeth Ryddfrydig, ac yn neillduol y syniadau hyny a goleddir yn eu plith, sef nad yw y pwnc yn perthyn cymaint iddynt hwy, ac nad oes unrhyw bwys neillduol yn nglyn a'r fath symudiadau; ac uwchlaw y cyfan, nas gallant hwy wneuthur nemawr, os dim, y naill ffordd na'r Hall gyda gwleidyddiaeth. Ond pan oleuir meddwl y Cymry yn iawn am eu dyledswydd, y darbwyllir hwynt yn llwyr am bwysigrwydd y pwnc, a'u dyledswydd arben- ig hwy i weithredu er ei gyrhaedd, y mae ynddynt ddigon o eiddgarwch, digon o wroldeb i wynebu unrhyw anhawsder, a digon o gydwybod er peri iddynt barhau yn yr ymdrech nes dwyn allan farn i fuddugoliaeth. Er prawf o hyn, edrycher ar eu dewrder, eu dyfalbarhad, a'u cydwybodolrwydd yn ymladd eu ffordd dros burdeb ac ysbrydolrwydd crefydd, a'u hymneill- duaeth oddiwrth gysgadrwydd, difrawder, llygredigaeth, a gau- egwyddorion y grefydd wladol. Do, fe ddyoddefodd llawer o'r Cymry yn yr hen oesoedd fwy o ddirmyg, erledigaeth, colledion, a eharcharau yn achos eu crefydd oddiwrth glerigwyr ac uchel- wyr ein tir, nag a feiddiant gynnyg yn awr ar Ymneillduwyr y Dywysogaeth, er maint eu gofid, eu galar, a'u digofaint llidiog wrth weled egwyddorion rhyddid gwladol yn ffynu, ac yn neill- duol wrth glywed bloeddio i'r gad i dynu i lawr uchelfeydd llygredig y grefydd wladol, a setydlu yr egwyddor fawr, deg, a chyfiawn o gydraddoldeb crefyddol yn ein plith. Mae helaeth- iad yr etholfraint, a'i hestyniad i feddiant dosbarth lluosocach o drigolion y wlad nag o'r blaen, bob amser yn peri echrys-fraw ac oergri yn ngwersyll y Ceidwadwyr, yn neillduol y clerigwyr. Pan basiwyd ysgrif y Diwygiad Seneddol yn 1832, yr hwn a estynai yr hawlfraint etholiadol i ddosbarth lluosog o'r trigolion nas meddent hyny o'r blaen; pan ddeffrodd Ymneillduwyr ein teyrnas o ddifrif i wrthwynebu talu y dreth Eglwys; pan gwt- ogwyd ar Eglwys yr Iwerddon trwy dori ymaith ddau o'i harchesgobion, a deg o'i hesgobion, a chymeryd swm dirfawr o'i chyllid i'w ddefnyddio at achosion eraill; ac yn enwedig pan y dywedodd Iarll Grey yn Nhy yr Arglwyddi, ei bod hi yn hen y bryd i esgobion Eglwys Loegr, yn Lloegr a Chymru, drefnu eu tai, syrthiodd braw echrys i fynwes y clerigwyr. Ac ar yr am- gylchiad hwn, gan gymaint braw ac ofn colli gobaith eu huwch- afiaeth a'u helw, fe ymgasglodd rhyw rifedi penodol o honynt yn nghyd i dy y Parch. Hugh J ames Rose, yn Hadleigh, Suffolk, i gymeryd i ystyriaeth pa foddion a ellid ei ddefnyddio er lluddias i ryddid crefyddol i ffynu, a darostwng yr Ymneillduwyr ac Ymneillduaeth yn y wlad, ac er diogelu a dyrchafu Eglwys Loegr. Yn y gynnadledd urddasol, glerigol hon, gwelid y gwyr enwog a dysgedig Froude, Keble, Percival, a Newman; ac mewn cysylliiad a. hwynt, os nad yn bresenol gyda hwy, yr oedd Dr. Pusey. Ac yn y cyfarfod hwn, penderfynwyd ar gyhoeddi y traethodau hyny a elwir mewn ffordd o hynodrwydd—"Traeth- odau Rhydychain," y rhai sydd yn llawn gyforiog o egwyddorion Pabyddol, a gwrthwynebol i egwyddorion y diwygiad Protest- anaidd; a dyma yr adeg a dyma yr achlysur i sefydlu yr heresi Babyddol yn Eglwys Loegr, yr hon a elwir "Puseyaeth," (oddi- wrth enw Dr. Pusey), yr hon, erbyn heddyw, mewn ychydig uwchlaw 30 o flynyddoedd, sydd wedi llwyr a hollol ddirywio rhyw ddosbarth dirfawr o glerigwyr ac eraill yn Eglwys Loegr, oddiwrth Brotestaniaeth at Babyddiaeth, yn ei holl hagrweh ritiwalaidd. Ac os oedd y mesurau ag oeddynt ar droed mewn cysylltiad ag ysgrif Diwygiad Seneddol yn 1832, yn creu y fath gynhwrf a braw yn ngwersyll y Torïaid a'r clerigwyr, beth na ellir ddysgwyl oddiwrthynt yn bresenol, pan y mae yr ethol- fraint wedi ei hestyn mor eang ag i fod yn bleidlais dy-yddol ('household suffrage'); pan y mae y dreth Eglwys orfodol wedi ei dilëu; pan y mae Ty y Cyffredin wedi cyhoeddi ei benderfyn- iad, y rhaid agor Prifysgolion Rhydychain a Chaergrawnt i bawb fel eu gilydd, yr Ymneillduwyr yn gystal ag Eglwyswyr; ac yn enwedig pan y mae cynnrychiolwyr y bobl yn y Senedd, trwy fwyafrif grymus, wedi selio dadwaddoliad a dadgysylltiad Eglwys yr Iwerddon? Pan y mae yr holl fesurau. pwysig uchod, (oddi- gerth, fe ddichon, pwnc y dreth Eglwys), megys yn tafoli yn y glorian, ac yn aros penderfyniad yr etholiad nesaf er gwybod pa un ai eu llindagu, eu damsang, a'u gwrthod, gan Dy yr Ar- glwyddi, y Ceidwadwyr, a'r clerigwyr, ynte mynu eu pasio gan fwyafrif "digonol" yn Nhy y Cyffredin, fel na faidd yr esgobion y a holl Arglwyddi Ceidwadol y Ty Uchaf eu gwrthwynebu. A ellwch chwi, Ryddfrydwyr, Ymneillduwyr, a hoffwyr crefydd ysbrydol, beidio a dyfod allan fel un gwr i'r ymdrech sydd ger- llaw1 Gwregyswch lwynau eich meddwl, a byddweh wyr yn yr ymosodiad. Gwneir pob ymdrech a all cyfoeth, bygwth, a hud- oliaeth ddwyn o amgylch, eu rhoddi i weithredu arnoch; ond ystyriwch bwysigrwydd yr amgylchiad, ymunwch a'ch gilydd i weithredu, a byddwch benderfynol yn eich ymdrechion, a bydd y fuddugoliaeth yn fuan yn eich llaw. Cewch glywed, mae'n ddiau, lawer o edliwiadau gan eich gwrthwynebwyr, y Ceidwad- wyr a'r clerigwyr, fod mesurau Gladstone, ag sydd eisoes o flaen sylw y cyhoedd, yn agor ffordd i Babyddiaeth i lifo dros ein teyrnas, i ddadymchwelyd y cyfansoddiad Prydeinig, ac i beryglu gorsedd ein Brenhines, &c.; ond na ofelwch am yr un o'r pethau hyn, canys gwyddis yn rhy dda o ba gyfeiriad y maent yn dyfod, a pheth yw y gau amcanion mewn golwg wrth eu cyhoeddi. Mae amgylchiadau yr amserau y fath fel y maent yn gofyn i Rydd- frydwyr, nid yn unig i fod yn unol a'u gilydd, ac yn benderfynol i gydweithredu a'u gilydd yn wyneb llawer o wrthwynebiadau a all gyfodi yn eu herbyn, ond dylent hefyd arfer llawer o bwyll, arafwch, a doethineb yn eu gweithrediadau. Mae llawer o fes- urau gwerthfawr y dysgwylir eu cael mewn canlyniad i'r hel- aethiad diweddaf a wnaed yn hawlfreintiau etholiadol ein gwlad; ond er mor werthfawr ac angenrheidiol y mesurau dysgwyliedig hyny, na fydded i etholwyr Cymru golli eu golwg ar brif bwnc y dydd ar esgynlawr yr etholfa, sef dadwaddoliad a dadgysyllt- iad Eglwys yr Iwerddon a'r llywodraeth. Dyma brif bwnc gwladwriaethol y dydd, pwnc nas gall holl elyniaeth y Ceidwad- wyr, a holl gyfrwysdra gwenwynig y clerigwyr trwy y deyrnas, ei gadw i lawr, na'i guddio o'r golwg.