Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

YMGOM

News
Cite
Share

YMGOM RHWNG Y "DYDD" A THENANT. DACW y ddau yn cyfarfod wrth yr ysgubor uehaf; a dacw y tenant blinedig yn eistedd i lawr yn nghysgod yr haul, ar drothwy y beudy; a dacw y DYDD yn sefyll yn o ben-uchel ar ei gyfer, ac yn agor ei enau :— DYDD. n,. gehyf dy gyfarfod, fy hen gymydog. Y mae genyt ti dyddyn cryno yma, mewn lie iach; ond fod golwg isel ar y enydau ar y tywydd sych yma. TENANT. Y mae'r sychder wedi bod yn ein herbyn eleni; cawn gryn golled yn y cnydau. Yr oeddwn i a'r teulu wedi gweithio yn galed drwy y tymmor braenaru a hau; ond ni thai i ni rwgnach yn erbyn trefn fawr Rhagluniaeth. Y mae hi wedi bod yn dda wrthym; a dylem ei chanmol, ac ymddiried ynddi. DYDD. Ie, da iawn i ni ydyw cydnabod Rhagluniaeth yn ein holl ffyrdd. Gwneud ein dyledswydd ddylai fod ein gofal blacn. af ni, a gadael y canlyniadau i ofal Rhagluniaeth. TENANT. Yr wyf fi wedi bod drwy fy holl fywyd yn ceisio dysgu y wers bwysig yna; ac yr oedd iy mam yn arfer myned drosti bob bore a phob nos, pan yr oeddwn i a'm brodyr a'm chwiorydd yn blant bychain gartref. A oes dim newydd genyt ti i'w ddweyd i ni heddyw ? DYDD. Nid oes dim byd neillduol. Nid oes neb yn holi na son y dyddiau hyn am ddim, ond am yr etholiadau sydd yn ymyl. A ydyw y pwnc hyny o ryw bwys yn dy olwg di? TENANT. Nac ydyw, yn wir, ddim yn rhyw bwnc o 'interest' mawr i mi. DYDD. Pa fodd felly] A ydyw achos dy wlad—achos rhyddid a llwyddiant ac anrhydedd dy wlad, yn cael dim lie ar dy feddwl di ? TENANT. Ydyw ond nid oes genyf fi ddim byd, neu y nesaf peth i ddim byd, i'w wneud er lies fy ngwlad. DYDD. Paid a dweyd felly. Oes genyt ti yr un bleidlais i'w' rhoddi yn etboliad seneddwr ? TENANT. Oes, ond buasai cystal genyf fod hebddi. DYDD. Paham y dywedi hyny1? Y mae genyt ti yr un hawl yn hyny o fraint ag sydd gan dy feistr tir, neu bendefig mwyaf urddasol dy gymydogaeth a dylit gofio hyny, a meddwl am dy gyfrifoldeb i dy wlad, ac i dy Dduw, ac i dy gydwybod. A wyt ti yn bwriadu pleidleisio yn yr etholiad nesaf? TENANT. Ham, hem, hwm. DYDD. Beth wyt ti yn feddwl wrth dy "Hwm, ham, hem?" TENANT. Hie, haec, hoc, huw, hujus, huwgo. DYDD. Gad yna dy Latin, a dy lol. Dywed i mi a wyt ti yn bwriadu votio yn yr etholiad nesaf? TENANT. Ydwyf, hwyrach. DYDD. Pwy gaiff dy < vote' di; dros bwy yr wyt ti am bleidleisio ? TENANT. Dyn fy meistr. Rhaid i mi votio yr un ffordd a fy meistr. DYDD. Wyt ti yr un egwyddorion politicaidd, neu yr un gredo gwladol a dy feistr? A wyt ti o'r farn fod policy' dy feistr a'i ddyn yn deg ac yn gyfiawn, yn unol ag egwyddorion rhyddid gwladol a chrefyddol; ac yn tueddu at les y wlad, a llwyddiant achos cariad a chrefydd ? "TENANT. 0 'r nefoedd fawr! Nac ydwyf fi, yn wir: nid wyf fi ddim mor anwybodus ac ynfyd a hyny ychwaith. Y mae fy meistr a'i ddyn wedi bod yn gweithio yn gyfrwys ac yn greulawn drwy eu holl oes, nid er lies eu gwlad, nid er dedwyddwch a dyrchafiad eu cenedl, ond er elw i'w dosbarth eu hunain, ac er crafangu trwy drais i'w Heglwys eu hunain. Y maeRt wedi bod bob amser yn erbyn masnach rydd, addysg rydd, pleidlais rydd, a chrefydd rydd. DYDD. A wyt ti wedi arfer votio dros bethau felly, ac a wyt ti am votio dros y fath ddynion etto ? TENANT. Y1 hwm beth wyt ti yn ofyn? DYDD. Gofyn, a ydwyt ti am votio dros ddynion felly etto? Ateb fi yn eglur, heb ddim hwmio? TENANT. Ydwyf: rhaid i mi wneud hyny. Hawdd i ti siarad a holi. Yr wyt ti yn ddyn rhydd, hyf, tafodog. Ond dichon pw baet ti yn fy lie i, na byddit ti ddim gwell na minnau. Rhaid i mi votio yr un ochr a fy meistr tir. DYDD. Pa "raid" hyny? Tydi bia dy 'vote.' Tydi sydd i'w rhoddi. Yr wyt yn gyfrifol am dani. Ac y mae yn un o rwymedigaethau pwysicaf dy fywyd. A elli di votio dros ddyn dy feistr yn ol barn dy gydwybod? TENANT. Nac allaf, yn wir. Y mae fy nghalon yn cael ei chlwyfo bob tro y meddyliaf am fy I vote.' DYDD. Paham yr wyt ti felly yn ceisio mygu llais dy gyd- wybod, ac yn clwyfo dy galon? Oni ddywedaist ti yn y dechreu mai gwers fawr dy fywyd oedd ceisio gwneud dy ddyledswydd, a gadael y canlyniadau i ofal Rhagluniaeth. Paham nad ym- roddit i sefyll yn wrol a diymmod i wneud dy ddyledswydd wrth bleidleisio ? TENANT. Y mae arnaf ormod o ofn fy meistr. Bydd yn sicr o'm troi o fy ffarm, os votiaf yn groes i'w ewyllys ef. DYDD. A wyt ti yn sicr o hyny ? Dichon dy fod yn ei gam- ddeall,-dy fod yn dychymygu ei fod yn waeth nag ydyw. Y mae Ilawer arglwydd tir yn y dyddiau hyn yn cyhoeddi perffaith ryddid i'w holl denantiaid i votio yn hollol yn ol dewisiad eu calonau. Dichon fod dy feistr dithau yn foddlon i hyny. Pa fodd y gwyddost ti yn amgenach 1 TENANT. Gwn, yn wir, yn burion. Y mae wedi ymffrostio ar ginio yn ddiweddar fod ganddo ef ddeunaw a deugain o votes' yn hollol at ei archiad; a fy vote' i ydyw un o honynt. Ac y mae gwraig a chwaer, a modryb a mam fy meistr wedi bod drwy yr ardal yma yn ddiweddar yn dweyd yn mhob man y rhaid i ni oil votio dros ddyn fy meistr ac y mae y steward' mawr uchaf wedi gorchymyn i'r steward' bach isaf i'n rhybuddio ni y rhaid i ni votio yr un ochr a meistr; a rhaid i mi wneud hyny neu golli y ffarm. DYDD. A fyddai ddim yn well i ti gael nawdd y ballot,er i ti gael votio yn ddystaw, yn ol dy gydwybod ? TENANT. Na fyddai, diolch i ti. Y I fallot' faw! Dichon y gallai fod o. les i rywrai yn rhywle; ond ni byddai o ddim lies i ni yma. Onid ydyw y I steward' wedi erchi i ni fod oil yn Yard y Tori Hotel am ddeng mynyd cyn deg fore yr etholiad, a bydd capten, a chorpol, a thwrne, a heliwr ein meistri i'n cyfarfod yno, ac i'n marchio gyda'n gilydd oddiynoat y bwth i roddi ein pleidlais i'w ddyn; ac yr ydym oil wedi dysgu dweyd ei enw ifain-, Gwyn ac ni bydd dim i ni wneud ond gwaeddi yn eu clyw oil—Tory for ever; mi vote for Tory; neu ynte, rhaid i ni ysgyrnygu yn eu gwyneb oil, fel y gwnaeth Simon Jones yn Nhowyn, a gwaeddi, "Y d -1 a'ch cipio chwi oil i'ch lie eich hun; a'r d-l a gipio y cowardiaid yn un I troop' o'r ffordd ar eich liolau chwi. IVcyth—- yr eloch. chwi oil gyda'ch gilydd, ac yn boeth ulw y "b'och'chwi; mifynaf fi votio yn ol fy nghydwybod; ac mi wnaf hyny heddyw yn