Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

YR EGLWYSI ANNIBYNOL GWEINIAID…

News
Cite
Share

YR EGLWYSI ANNIBYNOL GWEINIAID YN ARFON. MR. GOL.Gan fy mod yn credu fod y mater hwn yn teilyngu mwy o sylw nag a, delir iddo, ac am fod y Gymanfa wrth y drws, pryd y bydd,rhyw siarad yn nghylch amgylchiadau yr achos yn y Sir, dymunaf am gwr bychan o'ch DYDD gwerthfawr i ddwyn y mater i sylw. Y mae amryw eglwysi gweiniaid yn y Sir, a dylid darparu ar eu cyfer yn hytrach na'u gadael i nychu y naill flwyddyn ar ol y llall. Nid digon ydyw dweyd wrth ychydig gyfeillion mewn cymydogaeth am ymffurfio yn eglwys, a chodi capel, ac estyn ychydig gy- mhorth at dalu y ddyled, ac yna gadael i'r eyfeillion hyny ymrwyfo oreu y gallont trwy anhawsderau na wyr ond y profiadol am danynt; ond dylai fod genym ryw ddarpariaeth at estyn cynnorthwy effeithiol iddynt hyd nes y byddont yn alluog i fyned yn mlaen hebddo. Yn wir, y mae gweled ambell eglwys yn fyw, wrth ystyried y rhwystrau yr aeth trwyddynt, yn nesaf peth i wyrth. Pan yr ystyriom amled y Sabbathau gweigion, a'u bod yn byw ar y dosbarth gwanaf o bregethwyr, a'r prinder aelodau at gynnal cyfarfodydd gweddi ar y cyfryw Sabbathau, a neb i'w harwain yn y cyfeillachau crefyddol, &c., onid yw yn syndod eu bod yn fyw, a bod yr olwg sydd arnynt gystal ag ydyw? Wrth ystyried y pethau uchod fel y dylid eu hystyried, onid oes angen am wneud rhyw ddarpariaeth ar gyfer lleoedd o'r fath? Yr wyf yn gwybod fod llawer o'r eglwysi gweiniaid wedi bod yn edrych gyda r dyfalwch mwyafat adeg cychwyniad y Cyfarfodydd Chwarterol, gan obeithio y deuai rhywbeth oddiyno fuasai yn gyfnerthiad a chysur iddynt; ond rhaid dweyd i'w dysgwyliadau droi yn siomedig hyd yma, er fod y peth wedi bod dan sylw. Diweddodd mewn siarad, a dim ond hyny. Yr unig feddyginiaeth ar gyfer hyn fydd cael trysorfa at gynnorthwyo lleoedd gweiniaid i gael gweinidogaeth fwy sefydlog. Addefir genym nad all yr un eglwys Annibynol lwyddo tra yn amddifad o weinidogaeth sefydlog. Os ydyw hyn yn wir am yr eglwysi cryfaf, y mae yn fwy felly am y rhai gweiniaid; ac hyd nes y gwnelom ryw- beth at gynnorthwyo y rhai gweiniaid, ni byddwn yn gyson a ni ein hunain. Ac yn fy myw nis gallaf weled dim ar y ffordd i gael hyn oddiamgylch, ond yn unig ffurfio pwyllgor at ddwyn hyn yn mlaen. A beth fyddai yn haws ei wneud yn y Gymanfa na hyn? Gwelaf fod cyfeillion rhyddid yn ffurfio pwyllgorau er cynnorthwyo achos rhyddid, ac yn agor trysorfa ar gyfer y rhai sy'n dyoddef yn eu hamgylchiadau oddiwrth orthrymwyr, am farnu drostynt hunain ar adeg etholiadau, a da y maent yn wneud; ond credwyf fod yr achos hwn yn fwy teilwng o sylw na hwynt oil. Gadawer i grefydd gael ei hawliau yn gyntaf, yna gwaith hawdd fydd cael y byd i'w le yn wleidyddol a chym- deithasol. Deallwyf fod S20 wedi eu gadael mewn ewyllys at gynnorthwyo lleoedd gweiniaid perthynol i'r Annibynwyr yn y Sir, ac nad yw yr arian hyny wedi bod o fawr wasanaeth i'r lleoedd gweiniaid, os dim, er y flwyddyn 1862; felly, ond cael gafael ar y rhai hyn, dyma j3120, heb son am y llog, at ddechreu trysorfa; a gwn deimladau amryw o eglwysi cryfion y Sir, y carent wneud rhywbeth yn y cyfeiriad yma. Am hyny, frodyr, er mwyn anrhydedd crefydd a lies yr eglwysi gweiniaid, gwneler rhywbeth yn y Gymanfa neu yn y cyfarfodydd chwarterol. SION 0 ElFION.

AT OLYGYDD Y "DYDD."

AT MR. EVANS,

"CREIGIAU CYMRU A'U PRESWYLWYR."

Y TYWYDD SYCH PRESENOL A ST.…

CYLCHWYL LENYDDOL TRAWSFYNYDD.