Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

DADL Y 'BALLOT.'

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

DADL Y 'BALLOT.' RHESYMAU DROSTI. Y MAE pob gwlad yn cael ei hynodi a'i gwahaniaethu oddiwrth wledydd eraill gan ei deddfau, ei chyfansoddiad, a'i harferiadau. Y mae yn wir fod llawer o bethau yn perthyn yn gyffredin yn y naill wlad a'r Hall i'w gilydd. Y mae hyny yn bod o herwydd fod dyn yn debyg iddo ei hunan yn mhob gwlad. A phan y mae dyn yn cael ei osod yn y cyffelyb amgylchiadau, y mae yn dwyn y cyffelyb ymddangosiad; ac y mae, i raddau helaeth, ei ddull o fyw, ei gynnydd, ei lywodraeth, a'r deddfau dan ba rai y mae yn byw, yn codi o'r sefyllfa y mae efe wedi ei osod ynddi. Ond nid ydym yn tybied fod y tebygolrwydd naturiol hwn, yn annibynol ar wybodaeth o ffeithiau, yn gallu arwain dynion i ddarganfod deddfau cyffredinol, deddfau ag sydd yn perthyn i bob oes a gwlad. Heb wybodaeth o ffeithiau hanesyddol pob gwlad a chenedl, nis gall dynion gael eu harwain i ganfod deddfau cyffredinol; ac o herwydd hyn y mae cymaint o ffug a chrebwyll yn perthyn i gyfansoddiad gwladol pob teyrnas. Y mae deddfau ein gwlad wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau yn yr oes hon; ac nis gallwn ddysgwyl llyw- odraeth berffaith ond yn raddol, fel ag y bydd ffeithiau yn d'od i'r golwg. Fel hyn y darfu Lycurgus effeithio cyfnewidiad hollol ar gyfansoddiad gwladol Sparta. Cymerodd sylw o ffeithiau, ac adeil- adodd ei wleidyddiaeth ar y ffeithiau hyny. Y mae y 'ballot' heb dd'od yn ffaith etto yn ein gwlad ni, nis gwyddom yn sicr pa effaith a ddichon gynnyrchu yma; ond yr ydym yn cael ein tueddu i farnu mai gwell ydyw cael y 'ballot' na bod hebddi, gan yr ystyriaethau canlynol:— 1. Y mae pleidleisio drwy y ballot, J neu ryw ttordd guddledlg gyffelyb i hyny, yn gydweddol a hanesiaeth boreuaf y gwledydd enwocaf, a'r teyrnasoedd cryfaf a mwyaf goleuedig. Yr oedd y Senedd a sefydlwyd gan Solon, yr hon oedd o bump i chwe' chant o aelodau, wedi ei hethol drwy y 'ballot.' Yr oedd y 'ballot' yn Rhufain hefyd; pan oeddynt yn cysegru teml Jupiter, drwy y 'ballot' y dewiswyd Horatius i wneud hyny. 2. Y mae cyfatebolrwydd rhwng y 'ballot' ag arferiad ysbrydol- iaeth yr Hen Destament, o drosglwyddo gwybodaeth drwy gyfrwng yr "Urim" a'r "Thummim." Y defnydd a wneid o'r Urim a'r Thummim oedd, ymgynghori a Duw mewn amgylchiadau dyrys a phwysig, mewn perthynas i'r genedl a'r Sanhedrim. Yr oedd tair careg gan yr offeiriad, ac ar un o honynt yr oedd ïe, ac ar y llall nage, a'r drydedd heb un math o atebiad. Yr oedd y genedl yn cael meddwl Duw drwy y goelbren, Diar. xviii. 18. Dosbarthwyd yr holl dir drwy y goelbren; a daeth y goelbren i arferiad yn y llys gwladol, ac i benderfynu materion pwysig rhwng dynion a'u gilydd, megys mewn "rhanu meddiannau," &c. Pwnc mawr rhyddid ydyw cael dynion i ddatgan eu barn, nes cael cyd-ddealltwriaeth cyffredinol o sefyllfa meddwl gwlad at y mater. Y mae y 'ballot' yn rhoddi cyf- leusdra teg i'r mudan ofnus i lefaru; ac mewn pleidleisio, clywir llais y mudan mor effeithiol a llais y gwr a'i het yn ei law, ac yn gwaeddi, Syr Watkin for ever." 3. Y mae y 'ballot' yn fwy cydnaws ag athroniaeth y gweithred- iadau galluocaf mewn natur, gwleidyddiaeth, a moesoldeb. Heb eu gweled, ac heb swn na thrafferth y mae galluoedd cryfaf natur yn gweithredu yn gyffredin. Ac hefyd, daeth y dylanwad mawr y mae Gladstone wedi ei gario ar y wlad, nid drwy swn, a chyhoeddi, a ffwdan, ond meddyliwyd y cynllun yn dawel a dirgelaidd, yn ngwaelodion meddyliau mawrion yr anturiaethwr. Ac wedi iddo ffurfio a chaboli y cynllun, taflwyd ef yn addfed gerbron y wlad, yn ei liw a'i lun prydferth ei hun, nes tynu sylw yr holl wlad ato ar unwaith. Yr oedd yn nerthol, am mai creadur a grewyd ac a gabolwyd yn y dirgel ydoedd. Y mae hanes ffurliadau cynlluniau y diwygwyr goreu yn dwyn tystiolaeth i werth 'system' y 'ballot.' Y mae y moesol hefyd yn dangos fod dylanwad a gallu mawr yn yr hyn a wneir heb ei weled. Y mae rhywbeth yn fwy cysegredig, dwfn, a dwyfol yn y dirgelaidd, dirodres, a'r dihunan. Methodd rhwygiad y creigiau a chael yr hen Elias o'r ogof. Yr oedd mawr- edd Jezebel wedi myned rhyngddo a mawredd Duw, fel y mae mawredd y 'landlord' wedi myned rhwng y tenant a mawredd rhydd- id; ond dyma y llais dystaw main dirgelaidd yn ei godi ar ei draed, ac yn peri iddo rodio i enau yr ogof. Y mae yn rhaid cael y 'ballot' i ddysgu llawer Cristion gwan i godi a cherdded. Ac ond iddo gael y 'ballot' i dori y garw, a dechreu myned ar ffordd rhyddid, efallai y gallai wneud y tro hebddo ar ol hyny. Er hyny, credwn fod yn well i'r cryf rodio wrth y 'ballot' na bod hebddo. Mae dylanwad y 'system' yn gryfach na'r un wrthwynebol. Y dylanwad cryfaf a berthyn i'r bywyd ydyw yr un digyffro. Nid y dylanwad a ym- drechir ei adael ar y teulu ydyw y cryfaf, ond dylanwad yr ymddyg- iadau dystaw, rheolaidd, a diymdrech. Y pethau na byddwn yn meddwl am i neb gymeryd sylw o honynt, y rhai hyny sydd yn ffurfio nodwedd yr oes ddyfodol. Fel hyn yr edrychwn ar y 'ballot.' Y mae y 'system' ynddi ei hunan yn fwy cydnaws & 'systems' y pethau cryfion a nerthol yn gyffredin. 4. Y mae peryglon y pleidleiswyr yn llai gyda'r 'ballot,' pan nad oes un egwyddor yn cael ei bradychu drwy bleidleisio a'r 'ballot' mwy nag hebddi. Ychydig wyr y dyn dibrofiad, ag sydd yn rhydd oddiwrth y perygl, am deimladau tad i chwech neu saith o blant, pan yn cael ei fygwth gan ei dirfeddiannydd am na b'ai yn pleid- leisio yr un ffordd ag ef. Pe buasai y 'ballot' yn bradychu ein hegwyddorion, ni buasem yn dywedyd gair o'i phlaid; ond mae y dyn a bleidleisio a'r 'ballot' yn dangos ei hun mor egwyddorol a'r llall. Penygraig; Caerfyrqpin. J. JERVIS.

BHESYMATX YN EI HEBBYN.