Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

CYFARFODYDD DIWYGIADOL,

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFARFODYDD DIWYGIADOL, Y MAE rhai Rhyddfrydwyr da, boneddigaidd, yn ammheu eu buddioldeb, ac ambell un yn dadleu yn eu herbyn, gan farnu ac awgrymu y gwnant o leiaf bedwar o ddrygau. 1. Y cynhyrfant y Toriaid i wasgu ac i fygwtli, i gynllwyn ac i I screwio' yn waeth nag erioed. Prinyrydymynmeddwl y gall hyny fod; oblegid y mae y Toriaid wedi gwneud eu goreu, neu yn hytrach eu gwaethaf, drwy y blynyddoedd. Y maent wedi bod yn bygwth ac yn denu bob yn ail drwy eneuau eu mamau, a'u gwragedd, a'u merched, a'u cariadon: y maent wedi bod yn trin ac yn bygwth drwy eneuau eu caplaniaid, a'u ficer- iaid, a'u harchddeoniaid, a thrwy eneuau eu hysgrifenyddion a'u eyfreithwyr, drwy eneuau stiwardiaid eu tiroedd, a goruchwyl- wyr eu tai, a'u stablau, a'u kenels; a thrwy eneuau ceidwaid eu hadar, a'u pysgod, a'u ewningod. Y maent wedi bod yn bygwth felly yn eu dull mwyaf diwyd, dideimlad, a digywilydd, a hyny am flynyddoedd lawer cyn bod dim son—o leiaf yn Nghymru- am Gyfarfodydd Dbwygiadol." Nid oes dim modd iddynt fygwth yn gyfrwysach, na gwasgu yn drymach, na screwio yn dynach nag y maent wedi wneud. Y maent wedi gweithio eu screw' i'w nerth eithaf. Nid allant fod yn waeth yn y dyfodol nag y maent wedi bod yn y tymrnorau a aethant heibio: gan hyny, cynnaliwn ein eyfarfodydd, cynhyrfer y wlad i'w gwrth- sefyll, areithier yn erbyn eu gormes. Y mae yn bosibl y gellir ysigo peth ar iau eu caethiwed, a thori ambell un o gil- ddannedd eu traha. 0 leiaf, nid oes dim modd drwy unrhyw "gyfarfodydd" eu gwneud yn waeth, nac yn fwy gormesol nag y maent wedi bod. 2. Dywedir fod y Rhyddfrydwyr, wrth gynnal eu cyfarfodydd, yn dadguddio eu hamcanion a'u cynlluniau, ac yn egluro eu hymrwymiadau a'u hymroadau i ymgais am ddiwygiad. Wel, oni ddylid gwneud hyny? Yr ydym yncredu ibd ein hegwydd- orion yn rhai da, a theg, ac uniawn; gan hyny, dylem wneud ein goreu i'w hegluro a'u hamddiffyn.. Yr ydym yn credu bod ein hamcanion yn ganmoladwy, yn gyson a, gwladgarwch ac a Christionogaeth; gan hyny, arddelwn ein hegwyddorion, a chy- hoeddwn ein hamcanion mewn ysbryd rhydd a boneddigaidd, ond mewn geiriau eglur, ac mewn dull cyhoeddus a gwyneb- agored. Yr ydym yn teimlo awydd penderfynol i weithio allan ein hegwyddorion a'n hamcanion a chaed ein cyc/-weithwyr a'n gwrth-weitfawjv wybod ein bod am ymroi ati. Yr ydym wedi bod yn rhy wasaidd, yn rhy ddyoddefus, yn rhy ddystaw, ac yn rhy lonydd. Nid ydym wedi ennill dim mewn un modd drwy hyny. Yr ydym yn hytrach wedi nychu ein nerth, a lliesu ein hysbryd. Gan hyny, hoed i nigydymegnio i gynnyg ftbrdd fwy effeithiol, a mwy cyhoeddus i bleidio ein hegwyddorion. 3. Gwrthwynebir ein cyfarfodydd cyhoeddus, oblegid meddylir yr arddangosant nad ydym ddim yn bollol o'r un farn, nac yn gwbl o'r un ysbryd, nac o'r un gynlluniau. Gall hyny fod. 0 Gall nad ydym ddim yn gweled lygad yn llygad am bob peth ond yr ydym yn bur agos yr un farn am y ddwy egwyddor fitwr, Z5 am y ddau policy' pwysig ydynt yn awr o flaen y wlad. Yr ydym yn hollol gyd-olygu fod POLICY GLADSTONE yn fwy unol ag egwyddorion iawnderau gwladol a chrefyddol, yn fwy cydfynedol ag ysbryd ac a chynnydd yr oes, yn fwy tebyg i dawelu a dyrchafu ein gwlad, ac yn fwy tueddol i buro a lleshau yr Eglwys, ac i anrhydeddu y goron, ac i gadarnhau yr orsedd, na pholicy Disraeli a'i gydswyddwyr o geisio cadw i fyny orthrwm anghyfiawn a niweidiol yr Eglwys Sefydledig yn yrlwerddon; a chroch-waeddi, 'No Popery,' a chynnyg gwadd- oli 1 Popery' ar yr un pryd, ac â'r un anadl. Yr ydym yn cyd- olygu fod anghysondeb felly yn warth i lywodraeth ein gwlad, ac yn annheilwng o ysbryd yr oes. Ac os na byddwn yn hollol gydolygu yn ein cyhnadleddau a'n cyfarfodydd am bob manylion, am yr ail bethau bychain, bydd hyny yn.elfen o fywyd ynddynt, ac yn amlygiad o onestrwydd calon, a rhyddfrydigrwydd meddwl. Ni raid i ni ddim ofni dyryswch yn ein gwersyll wrth agor ein hamcan, ac wrth egluro ein hegwyddorion. Gwersyll ein gwrth- ZD Z5 wynebwyr Hydd yn dyrysu pan y maent weithiau am waddoli y Pabyddion, ac weithiau am eu diraddio; weithiau am drymliau eu trethoedd Eglwysig, ac weithiau am eu gollwng oil ymaitli gyda'r gwynt; weithiau am lethu y drefn wirfoddol, ac weithiau am ei chanmol; weithiau am agor y prif ysgolion i Ymneilldu- wyr, ac weithiau am gau drws pob athrofa a phob swyddfa yn eu herbyn; weithiau am ddadlu dros apostolaeth cyflawn urdd- au eu Heglwys, a phryd arall am gydnabod fod urddau Y mneill- duaeth mor apostolaidd a'r rhai mwyaf seneddol a brenliinol. Nid yn ein gwersyll ni, ond yn ngwersyll y Toriaid y mae y dyryswch; ac y mae y dyryswch mor fawr nes ydyw yn wendid ac yn warth i lywodraeth Prydain Fawr. 11. Dadleuir nad ydyw "Cyfarfodydd Diwygiadol" ddim erioed wedi gwneud rhyw lawer o les yn y byd. Ydynt, yn wir, lawer iawn o les yn mhob gwlad, ac yn rnhob oes. Gwnaeth- ant les yn amser Debora a Barac, yn amser Samuel a Dafydd, yn amser Hezeciah, Josiah, a Daniel j yn amser Demosthenes a Cicero, yn amser Pedr ac loan, a Paul a Silas, yn amser TadclU yr Eglwys a Diwygwyr yr Eglwys, yn amser Knox a Luther, yn nyddiau Cobden, a Peel, a Palmerston, a Miall, a Wardlaw, a Chalmers. Ac y maent yn gwneud lies yn awr, yn y dyddiau hyn, gyda phob diwygiad a gwelliant. Y mae y cyfarfodydd amaethyddol yn lleshau amaethyddiaeth; y cyfarfodydd hynaf- iaethol yn egluro hynafiaethau; y cyfarfodydd celfyddydol yn cywreinio y celfyddydau ) cyfarfodydd y gwyddonau cymdeitli- asol yn gloywi y gwyddonau; ac felly gwna cynnadleddau a chyfarfodydd y Rhyddfrydwyr gryfhau achos rhyddid a thegwch. a Y r ydym wedi bod mewn dau gytartod, a gwnaeth pob uii o r ddau les mawr. Yr oedd y cyntaf yn gynnadledd o gynnvych- iolwyr a gyfarfu yn Nolgellau bythefnos yn ol. Ennynodd hwnw dan bywyd drwy Feirion. Sicrhaodd gyd-ddealltwriaeth, ac arweiniodd i gydweithrediad. A buom nos Fevcher diweddaf mewn cyfarfod cyhoeddus yn Nhowyn; lie y cafwyd 1 lawer o oleuni ar bynciau pwysfawr y dydd, a llawer o gymhelliadau i fod yn wrol ac yn gydwybodol; ac o annogaethau i fod yn ddi- ola ymmod, ond ynfoneddigaidd. Dangosodd Dr. Pughe, y cadeirydd, ei ochr mewn ychydig eiriau. Tarawodd y Gohebydd ryw bump o'i hoelion wyth ar eu pen, a hyd adref. Eglurodd Morgan Lloyd ei bynciau pwysig yn bur fanwl; 6nd aeth dros faes llawer rhy lydan, a chymerodd felly ormod o amser. Dar- llenwyd llythyr oddiwrth Mr. Soden, yn arwyddo ei benderfyn- iad i gefnogi y Rhyddfrydwyr, yr hyn a roddodd nerth i bob calon oedd yno. Siaradodd Mr. Cotterell yn byawdl ac i'r pwrpas; ac yr oedd appeliadau yr hen frawd Simon Jones at .gydwybodau yr etholwyr yn wir effeithiol; ond ei fod dipyn yn rhy arw ei eiriau. Yr oedd tan wedi ennyn yn ei fynwes tra yr oedd yn myfyrio, a rhedodd y tan hwnw drwy ei holl gyfan-. soddiad; a llefarodd a'i dafod, ac yn wir a'i draed/a'i ddwy]aw,