Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

TAITH YN MOROCOO.

News
Cite
Share

TAITH YN MOROCOO. GAN DR. GRIFFITHS, PRESTATYN. Terfynais fy llith ddiweddaf yn hanes y noson gyntaf a dreuliasom mewn pebyll. Dygodd y noswaith hono adgofionmebyd i'n meddwl a'r modd yr hiraethwn am gael myned gyda'r Gwyddelod crwydrol a ddeuent heibio fy hen gartref gyda'u pebyll a'u ceir. Pe lIechasai rhyw ronyn o'r cariad boreuol hwnw at dy llian yn fy mynwes dileid ef am byth trwy brofiad y noson hono ar anialdir Morocco, a dad-ddewinid fi o fyd yr hud gan ffeithiau pigog a sylweddol.. Ar ol brecwest aethom i edrych o'n cwm- pas, a gwelem wastatir eang o'n blaenau ac fd a tatws yn tyfu ynddo gyda gwellt- glas a blodau. Ar un llaw yr oedd pebyll crwyn a chutiau pridd, ac ar y llaw arall fedd sant ynghydapalmwydden neu ddwy. Codasid y pebyll yn ymyl pentref, os teil- "wng o'r enw nis disgrifiaf hwnw yn bres- enol gan y dichon y caf amser cyfaddasach i wneud hyny ynolllaw. Y mae'n debyg i'r si fyned a!! an yn y gwersyll bychan, fod meddyg yn ein mintai ni, oblegid oddeutu deg o'r gloch daeth hen wr cam cloff atom a gofynodd am weled y meddyg. Drwy hap dda, yr oeddwn wedi -cadw yn fy ymyl ychydiggyffyriau sydd yn fynych yn werthfawr i ddyn ar daith, ac wedi i'n harweinydd ddo'd a.'r hen wr ataf, gofynais iddo yn nghyntaf faint oedd ei oed. Tybiais y gallai fod oddeutu triugain i mlwydd oed, ond ar ol ei holi mynai efe ei fod oddeutu chwe' chan mlwydd oed. Dy- wedais wrtho fod hyny yn anmhosibl ond mynai'r hen ddyn ei fod yn hyny. Deallais ei fod yn cyfrif ei oed wrth y lleuad: ddeu- ddeg Ileuad llawn yn y flwyddyn, ac yna cefais al'an ei fod oddeutu haner cant oed. Y petb nesaf oedd cael allan pa, beth oedd ei waeledd. Anhawdd iawn oedd cael dim atebion dealladwy drwy, ein cyfieithydd yr arweinydd gan fod hwn yu waith newydd iddo. Modd bynag, wedi awr o holi a chroesholi daethum i ryw fath o benderfyn- iad beth fyddai'n debygol o wneud lies iddo, ac yn ol fy arfer ysgrifeaais ar ddarn o bapur yr hyn a dybiaswn a roddwn iddo yna dodais y papur ar ystol drithroed yn fy jmyl ac aethum i'r babell i geisio y cyffyr- iau. Pan ddaethum yn ôl, gwelais er fy syndod yr hen wr yn gwthio y papur gy- maint ag a fedrai i'w enau gyda'i ddwy law, tra y gwaeddai yr arweinydd, Poera'r peth allan! Poera,! Poera nerth esgyrn ei ben. Ond yn ofer acam ddimy gwaeddai cnoai yr hen Arab y papur gyda mileindra dyn ar newynu, ac wedi ei ddygn giioi llyn- codd y lwmp meddal gan edrych fel pe buasai'u yn dweud/i bader." Cododd i fyny wedyn a pharatodd i ffarwelio a mi gan ddiolch yn fawr am y "moddion," a bydau mawr a gafodd yr arweinydd i gael ganddo gredu nad oedd y feddyginiaeth ddim yn y papur. Nid yw'r hanes hwn yn debyg o beri dim syndod i'r sawl wyr hanes y gelfyddid feddygol yn Morocco, oblegid paradwys y cwac yw y wlad: dewiniaid a seintiau gydasndd llysiau, golhvng gwaed a sarparilla sy'n gwella bobpeth" yno. Croen sych neidr sydd feddyginiaeth an. ffaeledig, neu groen y chameleon at dwym- ynod, a haiarn poeth at friwiau. Dodir weithiauadnod o'r Koran wedi ei hysgrf. enu ar ddarr o bapur o amgylch gwddf y dyn claf. Gan fod astudio y corph dynol yn cael ei wahardd gan eu crefydd gellir dychmygu y sefyllfa y mae Haw feddygin- iaeth ynddi yn y wlad. Edrychir ar dori aelodermwyn achub bywyd fel peth dych- rynllyd, a gwall fyddai gan yr Arabiaid sydd o fewn cyrhaedd i feddvgon Europe aidd farw mewn pangfeuydd dirdynol na thori yr byn a fo'n peryglu eu bywyd. Y canlvnaid yw, er fod niweidiau mynych yn cael eu hachosi yn Morocco, yn enwedig drwy ffrwydriad dryll neu rhywbetb o'r fath, eto ychydig o ddynion a welir wedi eu hanafu, ac y mae yr ychydig a welir yn edrych yn druenus, oblegid i'w dwylaw gael eu tori ymaith gan y dienyddiwr ac i'w gwaed gael ei atal rhag llifo gyda phyg berwedig.

[No title]

Advertising

TRO YN YR ALB A N.

OYMREIGIAETII.