Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

OBERAMMERGAU.

News
Cite
Share

OBERAMMERGAU. GAN DR. E. PAN JONES. Pentref bychan yw SOberammergau yn nghesail yr Alps. Ymrana yr enw yn naturiol i dri darn, Ober, ammer, gau. Ys- tyr y cyntaf yw uchel neu uchaf, yr ail sydd enw ar afon fechan, y trydydd a saif am gwm neu gymydogaeth, fel mai y cyfieithiad o'r enw fyddai," Cwm-nant-uchaf." Cymer- af yn ganiataol dy fod di ddarllenydd, yn gystal a minau wedi clywed a gweled llawer am y lie hwn acam y Passion Play," fydd y brodorion yn actio yn y lie drwy hyd y tymor haf bob deng mlynedd. Yr oedd arnaf flys garw myned i gael golwg arno yn 1880, end drwy nad oeddwn ond newvdd ddychwelyd yr ameer hwnw o'm gwib cldwy. reiniol, a rbyw amgylcbiadau eraill yn cau am danaf, rhaid oedd boddloni heb ei weled, a rhoddais heibio y meddwl yn dawel ond nid heb obeithio y byddai y byd yn well erbyn 1890, ond yn lie gwella aeth y byd yn waetb, a cbyn fod baner y deng mlynedd wedi myned heibio yr oedd gobaith myned i Ofeprammergau wedi llwyr ddiflanu. Yr oedd yr amgylchiadau yn dduach nag erioed, a'r tymor actio yn mron rhedeg i'r pen, os na cbawswn ei weled eleni teimlwn nad oedd gobaith am ei weled byth, ond ar y tywyllwch du fe dorodd y wawr, a hi a aeth yn oleuni mwy. Nid wyf yn gwybod i mi erioed weled well engraifft o'r awr dywyllaf yr awr nesaf i'r dydd." Wedi cyr. baedd o'm cyfaill, Mr Ed. J. Williams,yma o Patagonia, He y mae wedi bod er ys deng mlynedd, ac wedi llwyddo yno yn mhell y tu hwnt i'w gyfoediou o'i genedl ei ban. Mae arnaf flys myned i weled y Cyfandir yna," ebe fe, "a fedrwch chwi ddyfod ar yr OlwyG. a bod oddicartref am ddau Sabboth, fe ofalaf fi am yr ager ond i chwi ofalu am y llyw." Deuaf," meddwn. Gwyddwn y cawswn bob peth gan yr eglwys os tybid y byddai hyny yn tueddu i'm dedwyddu. Clywodd Mr T. C. Johnson, Caer am ein bwriad ac ymunodd a ni yn yr ymdaith. Boom ar y mor nos Iau, ac yn y tren o fore dydd Gwener hyd brydnawn dydd Sadwrn, heb dynu ein besgidiau nac ymuniawni ein fferau, a phob un yn myned ac yn cysgu, yn cysgu ac yn, myned. Ni buom yn hir cyn taro ar gwmni o gyffelyb feddwla niein hunain, ac erbyn cyraedd Cologne gellid dweyd wrthym gyda phriodoldeb, pan na fyddem yn gwybod y ffordd, Canlynwch y erowd. Cawsom ychydig- fynudau o seib- iant yn Mianich, prifddinas Bavaria, i gael tamaid, ac oddiyno yn mlaen olwynaw yn union i ddanedd yr Alps. Credem fwy nag awr eyn i ni gyrhaedd pen y daith y rhaid fod yno dunnel, ond myned yn mlaen oedd y tren drwy fylchau a thoriadau ar i fyny o byd, nes y cawsom ein hunain ya Oberau, rhwng mynyddoedd pigdyrog uwch o lawer na'r Wyddfa, am ben y rhai yr oedd capiau gwynion o eira oesol. Yr oedd y ffordd o Oberau i fyny wedi ei thori drwy ddanedd creigiau rhamantus ac ysgythrog. Yr oedd mor igim ogam, yn ol a blaen, fel y dy- wedid wrthym, nad oedd y ffprdd pe gall- asem fyned yn weddol unionsyth, fawr dros dair milldir, ond fod y pellder wrth fyned o gwmpas ynei gwneud yn fwy na chwe' milldir, ac er myned o gwmpas nid oedd genym ond ffordd a.rw. Nid oedd Oberau, cyn agor y ffordd haiarn yno, ond pentref byehan^ gwledig dros ben, a'r bob! yn trigo yn ddiofal heb negesau rhyngddynt a neb yn y wlad. Nid oedd yno ond ychydig o dai a'r rhai hyny yn ddigon hynafol yr olwg. Er pan agorwyd y ftordd haiarn yno y mae y lie yn gwisgo gwedd ieuanc. Yr oedd yn yr orsaf oddeutu 60 o gerbydau yn cyfarfod y tren y prydnawn hwaw, ac felly yn cyfarfod pob tren drwy y dydd, ac un o'r pethau cyntafaglywsom oedd fod Oberammergau mor llawn fel nad oedd gobaith i ni am lety. Yr oeddym wedi bod yn cyd-deithio drwy nos Wener a dydd Sadwrn a dyn ieuanc o Frankfort, gan yr hwn yr oedd rhyw gysyllt- iad a'r lie, yr hwn oedd wedi sicrhau gwely iddo ei hun, drwy lythyr, er ys mis, addawodd i ni ran o'i ystafell ef, cyn y caem fod ar yr heol. Erbyn cyraedd y lie, yr oedd yn fyw ferw yno, fel ffair, yn llawn pobl o agos bob rhan o'r byd gwareiddiedig, a thai o'r byd anwaraidd hefyd. Yr oedd yr amrywiaeth gwisgoedd,a'r ieithoedd, a'r lliwiau yn ddydd- orol, pob un yn siarad ei iaith ei hun, yn yr hon y ganed ef. Deallasom yn fuan fod yr boll leoedd cysgu rheolaidd wedi eu hen gymeryd, a dyna lie yr oeddym ni i'll tri, yn gystal a liawer eraill, yn edryeh yn wirion dros ben, beb wybod i ba le i droi am gysgod. Yr oedd yno ganoedd na fedrent ddyweud gair wrth y bobl, na deall gair a ddywedid wrthynt. Yr oedd tai Pedr," "■ Pilat," loan," Thomas," Judas," "Caiaphas," ac Annas," wedi eu cymeryd drwy lyth- yrau, ac yr oedd ty y "Crist" wedi ei gymeryd dros y tymor. Yr oedd y Crist, mfddid, yn siarad Seisneg. Yr oedd un gwely yn nhy Mair," gwely wedi ei drefnu yn y gegin, gallasem gael hwnw, ond nid yw gwelyau y wlad ond prin ddigon i un dyn, chwaethach tri, ac ni byddai yn agos digon i'n cyfeillion sydd yn meddu corpholaeth o'r maintioli uwchraddol, rhaid oedd i ni gael tri gwely. Cymerwyd y gwely yn y gegin, yn nhy Mair, gan, Saesnes un ieithog, a thalodd am dano 4s., cyn cael caniatad i roddi arno bwys ei phen. O'r diwedd, hysbyswyd ni y caem fyned i'r ysgoldy. Yr oedd yno ystafell fawr eang, y meinciau,y byrddau,a'r desciau,wedi eu taflu allan ery bore,mewr. trefn i'w throi yn ystafell wely am nos Sadwrn, a nos Sul. Yr oedd yno, yr wyf yn meddwl, ch wech gwely bychan, nid anhebyg i flwch cul cauedig yn rhestr o gwmpas, fel pe buasem mewn hospital. Credem ar y deehreu, ein bod yn myned i gael y rhan bono o'r ysgoldy i gyd i ni ein hunain. Yr oeddym yn flinedig, heb gysgu er ys dwy noswaith, ac yn meddwl codi yn fore dranoeth. Aethom 1 orphwysoyn gynar, ond rywbryd oddeutu canol nos, dyna guro wrth y ddor, yr oedi yno foneddwr o'r Eidal wedi cerdded dros yr Alps, yn crefu am gael dyfod i mewn i orphwyso. Yr oedd Mr Johnson yn cysgu yn drwm pan ddaeth i fewn, ac ni wyddai ddim am dano, nes ei weled yn symud yn y bore, pryd y tynodd wyneb, hawddach ei ddychymygu ha'i ddar- lunio. "Beth," meddaj, "omd tri oeddym yn myned i orphwyso, pwy yVp ac o ba 'e y daeth y pedwerydd?" Pa ryffdd i Nebuchodonezzar ddychrynu wrth weled pedwar yn y ffwrn, pan na wyddai efe end am dri. Yr ysgolfeistr, Joseph Gruber, oedd arweinydd yr orchestra, ond nid oedd ganddo ef ddarpariaeth i ni gael "tamaid," rhaid oedd myned i dy arweinydd y cor, Jacob Rutz, i fwyta. Dymunwn ddyweud fan bon, cyn symud, mewn llythyrenau breision, "Beware of Jacob Rutz." Yr oeddym i fynu yn y bore cyn saith o'r gloch, yr hyn ar fore Sul, o standpoint Cymreig, oedd yu: godi bore, ond druain o honom, yr oedd y pentref yn orlawn, fel heolydd Merthyr a Dowlais, ar nos Sadwrn. Yr oedd y gwas- anaeth drosodd yn yr eglwys am saith, a'r chwareudy yn cael ei agor. Mae yr urdd offeiriadol yn dra lluosog ar y cyfandir bob amser, ond ni welais i erioed gynifer o honynt mewn mor lleied o le a'r Sabbath hwnw. Yr oeddym yn myned i'r chwareudy oddeutu chwarter cyn wyth o'r gloch, aeth heibio i ni ddau hogyn, yn arwain asyn, o liw goleulwyd. Gofynais i ba le yr oeddid yn myned a'r anifail, } wythau a atebasant, "ar gefn hwn yinae Crist yn myned i farch- ogaeth i Jerusalem." Taniwyd gwn am 8 o'r glochyn y cae gerllaw, acar unl,waith dynar orchestra yn dechreu, wedi iddynt ddistewi, daeth y cor i'r stage, deg o fechgyn, a phed- air-ar-ddeg o ferched,deuai deuddeg o honynt o bob oehr i'r stage, a chilient yn eu hol drachefn, yr un fath i bob ochr ar ol canu. Gwneir y cwmni i fyny o oddeutu 41 o ber- sonau, yn gosod allan gymeriadau adnabyddus yn nglyn a banes prawf a chroeshoeliad Crist, beblaw llu mawr o wyr, gwragedd, a phlant, y cor a'r orchestra,—yn gosod allan y tyrfaoedd yn Jerusalem ar yr wyl. Dywedid eu bod i gyd oddeutu 220 yn y cwmni. Buont wrthi yn ddibaid, o wyth y bore, hyd ychydig wedi deu- ddeg, yna cawsom awr i giniaw, a thrachefn, o chydig wedi un, hyd yn agos 5-30, beb adael i ni odid eiliad i edrych o'n eyleh. Yr oedd y gynulleidfa, meddid, oddeutu 8000, a thrwy yr oriau hyny i gyd, yr oeddynt mor ddistaw, fel y gellid clywed pin yn disgyn. A phan fyddai un yn gofyn rbyw eglurhad i'w gymydog mor ddistaw ag y gallai, ceid gweled y cymydogion yn, edrveh fel mellt i'r cyfeiriad hwnw. Nid yn fynych y gwelais i gymaint o wylo mewn eyfarfod o fath yn y byd, a phan drywanwyd ystlys y croeshoeliedig," yr oedd y pryder wedi codi i'r fath eitbafion, fel y gwaeddodd r'bai allan, O peidiweb, ddyn," Nid wyf yn cofio i mi deimlo cymaint o awydd erioed i wneud rhywbeth dros lesu, a gwn na ddarfuli mi erioed ddeall amgylchiadau y croeshoeliad, a'r arwain o lys i lys, fel yn y chwareudy, yn Oberammergau. Dywedir fod yr holl actwyr, y qantorion, a'r cerddorion, i gyd wedi eu geni a'u magu yn y lle,-nad oes yn eu plith yr un professional, a dyna sydd yn rhyfedd, fod cwmni o bobl wledig y tu allan i gylcb gwar- eiddiad trefig a dysgedig, wedi gallu meistroli y fath ddarn o chwareuaetb, yr hwn sydd yn tynu y fatb gynulleidfaoedd yn nghyd, y fath, na thynir gan unrbyw gwmni o'r fath yn y byd. Yr oedd pris y tocynan yn amrywio o 2s, i 10s., ac yr oedd pob lie yno yn llawn. Bydd genyf air ar y Play ryw dro eto, a hwyr- ach y gosudaf mewn gwisg Gymreig o flaen y darllenydd cyn hir. Prynais y copi gore sydd ar gael ohono yn yr Almanaeg. Dywedid wrthym, fod llyfr Stead arno, wedi cael ei wahardd, a methodd yr un ohonom ni gael copi o hono yn un man. E. P. JONES. O. Y.—Cynygir Llyfr, Hanes Bywyd Glad- stone, yn wobr am y Cyfieithiad gore o'r enw, Passion Play," neu yntau y term gore am ddynwarediad o holl hanes y Prawf a'r Croes- hoeliad, rhaid i'r enw fod yn fyr ac yn bersein- iol. Gellir eu hanfon ar post card o hyn i ddiwedd y mis hwn. E. P. J.

YMLADD A FFOI.