Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

NEWYDPION CYMREIG

News
Cite
Share

NEWYDPION CYMREIG BANGOR.—Nos Lun, cynbaliwyd cyfarfod blyn- yddol cangben Bangor o'r Feibl Gymdeithas Frutan- aidd a Thramor yn y Penrhyn Ball. Cadeirydd, Parch Daniel Rowlands, M.A., gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a Pbrifathraw y Coleg formal aidd. Anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. Puleston Jones, gweinidog yMethodistiaid Calfin- aidd Seisnig; Parch. John yPilliams, cyn weinidog y Methodistiaid (J&lfbaidd yn y Tabernacl; Parch. W. Saunders, gweinidog y Bedyddwyr Seisnig a Mri. T. Lewis, A.S. (M.C.), Henry Lewis (M.C.), a J. Williams (W.), Lodwig Villa. Cynrychiolwyd y fam gymdeithas gan y Parch. Thomas Gray, gweini- dog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Manchester, yr hwn wrth ddechreu araeth ragorol a draddododd mewn hwyl da, ddywedo&d mai dyma y cyfarfod lluosocaf y cafodd ef y fraint o'i anerch o blaid y feibl gymdeithas y flwyddyn bresenol. Yr oedd yn ddiweddar yn Liverpool, ac nid oedd yn ei -wrando yno ybedwaredd ran o'r hyn oedd yno yn y Penrhyn Hall. Yr oedd y cynulliad nos Lun oddeutu 250 yn wyr, gwragedd a phlant. Yr oedd gwenidogion y Wesleyaid yn amlwg yn eu habsen- oldeb, a'r un modd gweinidogion yr Anibynwyr a gweinidog y Bedyddwyr Cymreig. Nid oedd neb ychwaith o gleriywyr yr Eglwys Sefydledig yn y cyfarfod. Methodistiaid Calfinaidd oeddent ar y Uwyfan ond y ddau frawd a enwyd, a gwneid i fyny gorpb y gynulleidfa o aelodau yr enwad par- chus hwnw. Nos Sul diweddaf rhoddodd y Parch Dan Davies, gweinidog y Bedyddwyr, rybudd i'r eglwys yn Penuel, y byddai yn tori ei gysylltiad fel fweinidog y Sul olaf o'r flwyddyn bresenol. Mae ffr Davies, wedi bod am oddeutu tair-ar-ddeg o flynyddoedd yn weinidog yn Penuel, ac yn ystod yr amser hwnw wedi bod yn bur lwyddianus, ac wedi derbyn i'r eglwys drwy fedydd nifer luosog iawn. Efe a'r Parch M. 0. Evans, (cyn-weinidog Pendre) a gychwynasant yn gyhoeddus y symudiad i gael Eisteddfod i Fangor. Goh. CEINEWTDD.—Yr Tsgol Ganolradd. Dysglaer iawn yw ein rhagolygoa am gael ysgol ganolraddol wedi ei sefydlu yn ein plitb. Y mae tir ddigon, yn y safie oreu, at wasanaeth y pwyllgor, ac y mae yn mhell dros fil o bunau eisoes wedi eu haddaw tuag at adeiladu ysgoldy. Y mae natur ei hunan fel pe wedi bod ar ei goreu i gymhwyso'r Ceinewydd i dderbyn y fath sefydliad. Tuag at sefydlu ysgol- oriaethau ynddi, cynhelir eisteddfod o'r radd flaenaf yma tua'r ail wythnos yn mis Awst nesaf. Capel Towyn.- Y n ol eu harfer bu myfyrwyr o'r gwahanol golegau yma yn casglu yn ystod misoedd yr haf. Gwledd fras a gawsom gan y dyn ieuanc o Aberhonddu. Boddlonwyd ni hefyd yn fawr gan y gwr ieuane or Bala. Dioddefodd casgliad Caer- fyrddin ostyngiad difrifol eleni, ond y mae yn bosibl y codir ef y flwyddyn nesaf os danfonir bon- eddigeiddrwydd o'r radd uwoh i'w gy.rchu.-Goh. CoBttroBTB.—Nos Lun, Hydref 6ed, cynhaliodd Eglwysi Salem, Coedpoeth, a Seion, Talwra eu cymanfa ganu yn nghapel Salem, Coedpoeth. Dechreuodd Mr William Jones, Brymbo. Cad- eiriodd Mr Thomas Jones, (Canrhawdfardd), Coedpoeth. Arweiniodd y Parch W, G. Richards, Llanarmon. Nid oedd wedi cael ond byr rybudd fod y gorchwyl yn disgyn ar ei ysgwydd ef, ond clywsom ur sydd yn meddu barn addfed am gymwysherau arweinydd da yn dweud, iddo gyflawiii ei waith fel un o feistriaid y gynulleidfa. Canwyd St. Bride's, St. Magnus, Tadmor, Dyffryn Baca, Maggie, Bryniau Caersalem, Pen Nebo, Goggerddan, Y Delyn Aur, aIr Anthem Cenwch Fawl (W. Ellis), Coedpoeth. Trodd y gymanfa allan yn fwy llwyddianus na dysgwyliadau y mwyaf hyderus. Mae canu cynulleidfaol y cylch hwn yn cael sylw neillduol y dyddiau hyn. Pe cawsem gymanfa ganu rhwng holl eglwysi y cylch, byddai swn y canu ar ddydd y gymanfa i'w glywed hyd yn mhell. Ni phetrusem brophwydo llwyddiant Cymanfa o'r fath. Ein gwaith o hyn allan fydd ymsefydlu ar y twr i wylio symudiadau y teimlad hwn sydd yn ein plith.—Gwyliwr. GLYN EBBW.—Cawsom rhagorfreintiau bendith- fawr yn y dref yma ddydd Sul, y 5ed cyfisol. Yr oedd rhai o'r prif ddoniau y Bedyddwyr wed. cwrdd yn Nebo. Yr oedd eu cyfarfod-baner-l blynyddol y Sul, a Sul gwerthfawr yn ei freintiau oedd e hefyd; y Parch D S Davies, Login, Sir Gaerfyrddin a'r Parch J 0 Hughes, Caersalem, Victoria, oedd yn gwasanaethu. Pe nas gwelswn Mr Davies yn y pulpud, credaswn ar unwaith wrth ei lais nefolaidd mae Dr Herber Evans oedd yno, ac y mae ei lais treiddiedig yn berwi y gynulleidfa, ac yn wir nid oes achos i ofidio yr aiff neb i gysgu tra bydd Mr Davies wrth ei waith. Am 2 o'r gloch cawsom bregeth Seisnig gan J, O Hughes, Victoria. Y r oedd yn dda, ond pe yn Gymraeg buasai wedi dodi y lie ar dAn. Rhanodd ei destyn fel yma: "Y Gwaredwr yn dysgu" Calonau yn llosgi." Ar ei ol cawsom bregeth Gymraeg gan D S Davies. Yr oedd ei galon ef ar dta yn barod, a dechreuodd arllwys allan rbuadrau o bethau rhyfedd am allu Duw i achubypenafo bechaduriaid. Ei bwnc oedd hyn Colled ac enill Paul." Dywedodd nad oedd mur pechod pob pecbadur mor gadarn a'i gilydd. Ergyd bach a dyr ambell fur, ond yr oedd muriau ofnadwy i gael eu tori cyn achub Paul. Y mur cyntaf, Mur cenedlgarwch. Yr oedd y mur hwn yn gadarn iawn. Mur arali, Mur crefyddgarwch. Yr oedd wedi ei godi gyda'i grefydd hyd nes y credir na allesid byth ei newid, ond y gallu mawr. Mur diweddaf, Mur hunangarwch. Yr oedd yn hawlio ei fod wedi ei ddysgu braidd yn well na neb. Cefais i fy nghodi wrth draed Gamaliel, doctor o'r gyfraith; ond y diwedd am dani yw hyn, Ni fernais i mi wybod dim, ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio;" a dywedai yn ddigon croch am y cyfnewidiad feI yma, "Nid oes arnaf gywil- ydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi." "Colled ac enill Paul" oedd ei bwnc. A dyma ddywedai Paul am y cyfnewidiad, "Yr wyf yn cyfrif pob peth yn dom ac yn golled, fel yr enillwn Grist." Credaf y gwelir ffrwyth mawr ar ol y Sab- both diweddaf. Yr oedd yn eithaf amlwg fed y Llais ddistaw fain i'w glywed yn y cyfarfodydd. Mawr y llawenydd fyddai gweled llu yn d'od i gredu yn yr un Gwr a'r apostol Paul.Dydd Llun, y 6ed cyfisol, yr oedd Gwyl Flynyddol Gobeithlu y Plant yn Libanus, Pontygof, a gwledd iawn a gafodd y plant, o dan arweiniad y brodyr ffyddlon canlynolY Llywydd, Mr John Powell, Heol Iago, a David Jones, Heol Libanus; y chwar- euwr, y brawd ieuanc Willie Jenkins, o Heol Prydferth. Yn y prydnawn, yr oedd y byrddau wedi eu gosod yn ddestlus iawn, ac yr oedd bon- eddigion a boneddigesau ddigon i edrych ar ol y plant. Yn gofalu am y byrddan yr oedd y bonedd- igesaa caulynolMiss Mary Davies, Ida place; Miss Mary Jones, Heol Libanus; a Miss Sarah Callum ac yr oedd cynorthwywyr gan bob un o ohonynt Ar ol clirio y byrddau, cafwyd cyfar- fod dyddorol iawn gan y plant, a chaed cadeirydd enwog iawn yno hefyd, sef Mr Groves, llyw- ydd neu gadeirydd y Cynghor Sirol; ac yr oedd yn fraint anrhaethol i gael dyn mor enwog i dd'od i ganol y plant. Siaradodd yn wresog iawn ar y daioni y mae Gobeithlu y Plant ynei wneud ttwy y byd. Tynodd sylw y cyfarfod at Undeb Gobeithluoedd Cymru a Lloegr. Dywedai fod tua dwy filiwn o aelodau yn perthyn iddynt yn Llun- dain. Ychydig fisoedd yn ol cynhaliwyd Bazaar mawr yn Llandain, er cynorthwjo y dosbarth yma, a gwnaethant o bedair i bum mil o bunau; a'r peth dynodd fwyaf o sylw yno oedd stall Gymreig, a bono yn cael ei chynrychioli gan Gymry trwyadl | ac yn siarad Cyjpraeg yno wrth werthu Wei, un o'r ddwy oeJT yno yn yr hen wisg Gymreig oedd Mifs A Davies, merchMr Jonathan Daviea, Ida place, Glyn Ebbw. Ni ddywedodd y cadeirydd hyny, ond dylasai wneud. Dywedodd am bob. peth arall am dano ef ei hun, felly y mae clod dauddyblyg i Libanus, Pontygof, fod un o'r ysgol hon yn c«el yr urddas o gynrychioli hen Gymru, Gwlad y Gan yn y Bazaar mawr y Gobeithluoedd rhwng Cymry a'r Seison. Cafwyd anerchiad dy- ddorol iawn gan y brawd 0 Jones; ar ei ol caed anerchiad gan y brawd Mr Jonathan Davies; mae ef yn ddirwestwr selog iawn. Siaradodd yn fyr, i bwrpas, yn oleu, ac yn eglur, a pbob gair fel cleddyf dau tiuiog, yn tori ar y dde a'r aswy. Rhagor o'i fath ef sydd ei eisieu. Bu Mr Powell yn dyweyd fel arfer mai efe yw tad y Gobeithlu yma. Dyn iawn yn y lie iawn yw efe, agobeithiaf y caiff oes hir eto i wneud rhagor o les. Yn wir, Mr Go1.. dyma y gwy-ith a ddylai pob eglwys er wneud, sef magu y plant i fyny yn llwyrymwrth- odwyr, yna byddai gobaith cryf am yr oes nesaf i fod yn ddynion sobr. Y gyteddach a'r meddwi sydd yn awr: y mae yn ofnadwy 'Does neb ond Duw ei hunan yn gwybod faint y drwg. Cafwyd. canu ac adroddiadau gan y plant fel y canlyn:— R Jones,IM Roberts, P Williams, M Jones, A Wil- liams, M Smith, Denis Jones, E Williams, H Jamisj, ac yn wir nis gallaf lai na diolch i'r dynion ieuainc am eu cymhorth gyda y gwaith, sef David Roberts, W Rhymni Jones, David Davies, gohebydd y Tyst a'r Dydd. Anwyl rieni, gadeweh i ni wneud ein goreu i gefnogi y sefydliad gogoneddus hwn. Dim ond i ni gael ein plant i lwyr ymwrthod a'r glwy- byroedd poethion, yna wrth gael plant sobr, y mae gobaith am ddynion da. Bendith fo gyda dirwest- aeth, yw dymuniad-Ehedydd Wyn. HENRYD aBB CoNwy.-Dydd lau, Hydref Ofed, yn nghapel yr Anibynwyr yn y lie uchod, y mwynbaodd deiliaid yr Ysgol Sul ac eraill wledd dda o de a bara brith. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan y boneddigesau canlynol,Miss Roberts,. Tynyffrith; Miss Jones, Cyllgwynion; Misa Hughes, Shop Miss Owen, Acre Miss Roberts, Gwernfelin; a Miss Edwards Marchlyn. Yn yr hwyr traddododd y Parch W. Griffith,Niwbwrch,ei ddarlith odidog ar Walter Caradog a'i amserau." Yr oedd yr hin yn braf, y cynulliad yn lluosog a'r darlithydd yn ei hwyliau goreu. Cadeiriwyd yn ddeheuig:a doniol gan y Parch Ellis Jones, Conwy. Wedi talu y diolchiadau arferol, ymadawodd pawb, a hyny mewn awydd mawr am de a darlith yn fuan etto.—Jos. LLANFAIRCAEREINION.—Siloh a Penuel.-Dydd- iau Mercher a Iau, Hydref 8fed a'r 9fed, cynhal- iwyd cyfarfodydd ordeinio Mr John Rhydderch, o Goleg y Bala, i gyflawn waith y weinidogaeth yn yr eglwysi uchod. Nos Fercher pregethwyd yn Penuel gan y Parch. J. Davies, Abercwmboy yn Siloh gan y Parch. G. P. Thomas, Aberhosan yn Llanfair gan y Parchn. D. S. Davies, Llanbrynmair, ac R. Roberts, Rhos. Dydd Iau, am ddeg, cymer- odd yr ordeinio Ie; pryd y dechreuwyd gan y Parch. R. H. Parry, Pontrobert. Pregethwyd ar natur eglwys gan y Prifathraw M. D. Jones, yna Jgofyn- wyd y gofyniadau arferol gan y Parch. R. Roberts,. Rhos, y rhai a atebwyd yn gryno a phwrpasol gan y brawd ieuanc. Qffrymwyd yr urdd weddi gan y Parch. D. S. Davies, a phregethwyd siars i'r gweinidog gan y Parch. J. Davies, Abercwmboy, ac i'r eglwys gan y Parch. 0, J. Owen, Ponkey. Am ddau dechreuwyd gan y Parch. M. Isaac (B), Llan- fair, a phregethwyd gan y Parchn. D. S. Davies,. Llanbrynmair, a J. Davies, Abercwmboy. Am chwech dechreuwyd gan y Parch. D. Morgan, Pen- arth, a phregethwyd gan y Parcbn. G. P. Thomas, Aberhosan, ac R. Roberts, Rhos. HeblaW y rhai a enwyd gwelais yn bresenol y Parchn. C. Evans, Foel; T. P. Evans, Bwlchyffridd; J. Evans (M.C.), Llanfair; R. Watkin (M.C.), Horeb; R. Lewis (W.), Llanfair; Mri. S. Roberts, Trallwm Wil- liam Theodore, Llanfair, ac amryw frodyr parchus o Forganwg. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol, a thywydd hyfryd a dymunol, a gobeithio y bydd i'r Arglwydd fendithio y cyfarfodydd i fod o les i'r gweinidog ieuanc a'r eglwysi yn y lie yw dymuniad —Oswyn. PONTROBERT.-Darlith.N os Fawrth, Hyd. 7, btb y Parch R. Roberts, Rhosllanerchrugog, yn y lie ucbod yn traddodi darlith ar y testyn, Mynydd- oedd Tanllyd." Yr oeddy ddarlith o ran cyfan- soddiad, traddodiad, ac amcan ei haddysg, yn wir garapus. A credaf pe traddodid mwy o dda^ithiau o nodwedd yr uchod y cyfodid ehwaeth yr ieuenctyd oddiwrth yr isel a'r gwageddol at yr uchel a'r sylweddol. Llywyddwyd yn hynod ddoeth gan y Parch R. H. Parry, gweinidog Anibynwyr y lie. Y prydnawn o flaen y ddarlith yr oedd te a bara brith yn addoldy A..

TRO YN YR ALB A N.