Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

OYMKU FYDD.

News
Cite
Share

OYMKU FYDD. Ar edyn chwim dychymyg clir, Ehedais i'r mynedol dir; I chwilio drwy ei diroedd pell Er gwybod a fu amser gwell, Ar Gymru nac y sydd: Ac ar wybrenau oesoedd gynt, Gweddillion en gorphenol hynt Yn amlwg mewn llythyrenau aur, CanfyddwQ ffarf y frawddeg glaer :— Cymru Fydd, Cymru Fydd." Tra syllwn ar y geiriau hyn, Daeth sain ymchwyddol dros y bryn- Ac yn y sain mi dybiwn fod Syniadau gwlad yn ceisio d'od 0 rwymau trais yn rhydd Ac wrth glustfeinio tua'r lie, Mi glywwn lais fel taran gre' Yn bloeddio yn Gymraeg i gyd Y geiriau glywwyd gan y byd- Cymru Fydd, Cymru Fydd." Yn ol dychwelais gyda brys, Ganholi pawb mewn Llan a Llys, Am ragolygon Cymru Mn, Dyfodol fywyd Gwlad y Gân, „ Pan ddaw y bob! yn rhydd: A'r hen a'r ieuanc yn gytun, Yr uchelwr a'r isel un, Yn rhwydd atebent i fy nghais, Fob un mewn penderfynol lais,— Cymru Fydd, Cymru Fydd." Ar hyn edrychais yn y blaen. I'r gwagle sydd byth byth ar daen A gwelais oesoedd fyrdd yn d'od 0 un i un, fel saeth at nod, O'r gwyll i olsu dydd Ac ar wybrenau oesau fil, Canfyddwn enw hoff em hil; A'm gobaith glybu uchel lef Yn adsain dros ororau nef-- Cymru Fydd, Cymru Fydd." R. J, DERFEL.

UNDED CYNULLEIDFAOL LLOEGR…