Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

ETHOLIAD BWRDD YSGOL ABEB-FFRAW.

News
Cite
Share

ETHOLIAD BWRDD YSGOL ABEB- FFRAW. MEISTR A GWAS TW YMGODYMU. Yr oedd yma ddisgwyliad mawr ers amser maith am yr etholiad, ac fel yr oedd yr adeg yn nesau yr oedd y dyddordeb yn cynyddu a bygythion dirif yn cael eu cyhoeddi uwchben y ffermwyr druan na byddai ganddynt na rhan na chyfran yn y bwrdd newydd, ond y byddai yn hollol o dan lywodraeth y dosbarth gweithiol, ond yn hyn fe'i siomwydyn aruthr, ni ebawsant gymaint ag un gweithiwr i fewn, dyma fel y maent yn sefyll—un clerigwr, pedwar o ffermwyr, un gwrboneddig, ac un gwerthwr cywionieir, ac yr oodd y diweddaf hwn yn addaw bendithion fyrdd os y byddai iddo gael ei ethol, cawn weled beth a ddeillia oddiwrtho. (Y mae yn holiol anailuog i ar- wyddo ei enw). Yn sicr y mae y dosbarth gweithiol yn y lie hwn wedi cael eu harwain i foleddu syniadau hynod o eitbafol ac an- ghyfreithlon hefyd, credwyf, dyma rai honynt, laf, ond iddynt gael mwyafrif ar y bwrdd y byddent at eu rhyddid i anfon eu plant neu beidio i'r ysgol, ac yn ail y gallasent orfodi y trethdalwyr i ddilladu y cyfrylf just fel y buasent hwy yn dewis. A;, iawn bynynaP Trwyf yn be jol bleidiol i'r dos- barth gweithiol gael eu hiawnderau, ond y mae myned i ryw eitbafrwydd fel yna yn ormod i'w ddioddef. Canol y ffordd ydyw y diogelaf a'r debycaf o'n harwain i'r hapys- rwydd y maent yn d^beu cymaint am dano. Rhaid i mi gael dWend gymaint a hyn, mai Mr Jones, Bodfeirig, aeth i fewn fwyaf an- rhydeddus o'r oil. Gwelwch ei fod yn ail ar y rbestr, ac heb ofyn am gymaint ac un vote. Dyma fel y safent:— Parch J Richards.240 Clerigwr J R Jones .163 Ffarmwr Mr E Thomas .161 eto Mr W Owen .147 eto Mr J Williams ..140 Gwrboneddig Mr J Roberts 135 Ffarmwr Mr T Hughes 117 Gweithiwr Mr T Owen. Ill Ffarmwr Mr W Williams.105 Labrwr Mr T Williams 99 Ffarmwr MrO Jones. 80 Labrwr Tr oedd 11 yn ymgeisio, pryd mae 7 oedd yn eisieu. T Owen, yr 8fed ar y list fusai i fewn yn 7fed oni bai fod yna amrai o'r papurau pleidleisiau wedi eu difetha gan bobl anllythyr- enog nad ymostyngent i ofyn cyfarwyddyd gan neb. Ofni yr oedd pawb y buasai yma derfysg noswaith y polio; ond yn hyny fe'n siomwyd, aeth pobpeth heibio yn hynod o dawel oddigerth ychydig o blantos yn gwaeddi. ~Gohebydd.

Advertising