Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

OYMREIGIAETII.

News
Cite
Share

OYMREIGIAETII. [GAN Y PBIFATHBAW M. D. JONES.] Yn y cynoesoedd, gwahoddodd Gwrtheyrra. brenin y Prydeiniaid y Seison Hengist a Horsa a'u canlynwyr drosodd o'r cyfandir i Frydain i'w gynorthwyoyn erbyn rhuthr- gyrchiadau y Brithwyr a'r Ysgotiaid, ac wedi iddynt gystwyo y gelynion hyny yn effeith- iol, a derbyn y tal adaawedig, yn He ymadael fel dynion genest, wrth weled lie mor ddy- munol yn ein hynys, penderfynasant nid yn unig gadw'r arian a dderbyniasänt am eu gwasanaeth, ond hefyd droi ar y rhai a'u cyflogasant, a lledrata pob peth a fedrent oddiarnynt. Lladdodd y Seison ganoedd o filoedd o'n hynafiaid o bryd i bryd, ac o'r diwedd meddianasarit yr oil o Brydain Fawr, a thrwy foddion anonest a llofruddiog cy- ffelyb yn nhreigliad amser goresgynasaut yr Iwerdaon, a chymerasant hi yn Uadronllyd oddiar y brodorion, yr hyn nid yw ond enw arall ar y gwaith a wneir gan leidr penheol, ond ar raddfa eangach o lawer. Dan arweiniad gwahanol ladron dyegybledig a elwir cadfridogion y goresgynwyd yr India Favcr, Awstralia, Ynysoedd New Zealand, gwahanol ranau o'r America, ac yn olaf oil o Affrica., Iley bu Cymro o'r enw John Row- lands, yr hwn a. wadodd ei genedl, yn eu har- wain. Y mae y Cymro yma yn awr yn galw lei hun wrth yr enw Sacsdnaidd Stanley. Syniadau paganaidd sydd gan bobl o'i ddos- parth ef am gysegrwydd bywyd, a hawliau dynioa o bob lliw ac iaith. Edrychant gyda. dirmyg ar y gcrchymynion, "Perchwch bawb," Cerwch eich gelynion, a bendith- iwch y rhai a'ch melldithiant," a char dy gymydog fel ti dy hun." Dyma'r rheolau a fuont yn llusern i draed yr Ysgotyn a'r Cristion Livingstone. Nid oes gan genhedl- oedd pagan-ryfelgar Ewrop fwy o hawl ranu Affrica rhyngddynt, nag sydd gan an- wariaid Affrica i oresgyn Ewrop, ac yn hyn o beth y penpaganiaid yw'r Europeaid. Heb ddyweud ei bader, y mae lleidr penheol, am ei fod yn arfog, yn cael cyfle i yspeilio'r teithiwr. Drwy alw ar eu duwiau Thor a Iau, ac ymarfogiyn y modd mwyaf mileinig,. rhuthrodd y Seison ar y Prydeiniaid, ac wedi llofruddio miloedd o'r trigolion, lled- ratasant eu gwlad oddiar y gweddill. Drwy godi a chadw byddin a llynges nad oes ei bath yn y byd at yr alwad o dywallt gwaed^, ac wedi i esgobion Eglwys Loegr eu ben- dithio, a lIunio gweddiau am eu llwyddiant ar Dduw pob tangnefedd, yr hwn a anfon- odd ei Fab i geisio ac i gadw pechaduriaid,, y mae Llywodraeth Prydain yn cael rhyw gyfle llofruddiog parhaol i ymosod ar wa. hanol wledydd, a'u lledrata oddiar y bro- dorion, ac ymffrostia y Seison wedi hyny nad yw'r Haul byth yn machlud ar lyw- odraeth Victoria, a thybiant eu hunain yn brifGristionogion y byd! Nid rhyfedd fod y Gwyddel yn gwrthryfela yn erbyn hyn, a'r Cymro yn gwrthod ta!u degwm am fod esgobion yn dyweud Duw yn rbwydd iddynt," ac ni ryfeddwn weled ceahedloedd goresgynedig yn cyfuno i beidio talu trethoedd i gynal rhyfelwyr goresgynol. Mae cyrph o bobl dan yr un rhwymau. moesol yn hollol at eu cyd-ddynion ago unigolion, ac nid oes rhyddid moesol i lywodratth wneud dim at eu cydgreadur- iaid a fyddai yn wahtrddedig i unrhyw berson ei wneud at ei gymydog Yn ein dyddiau ni, nid yw Seison yn goresgyn tiriogaethau yn Nghymru, am fod y gWhith wedi ei hen orphen ers canrifoeddy ond y maent drwy wthio crefydd sefydledig arnom am oresgyn Y mneillduaeth C) mru. Maent hefyd am oresgyn ein hiaith drwy wthio y Seisonaeg gyda phob moddion treis. iol i ddifodi y Gymraeg, ac y mae llawer iawn o Gymry yn eu helpu yn y mater yma, a He bynag y llwyddIr, y mae'r effeithiau yn ddeifiol i rinweddau Cymreig. Mae sir Frycheiniog yn ymdrechgar i ckoi ei him yr un peth a sir Faesyfed, y sir fvyaf an- wybodus o efengyl, ac isaf ei moesau yn Nghymru. Y mae sir Fynwy hefyd wedi bod yn brasgamu yn yr un cvfeiriad, ond y mae rhamau o hono y dyddiau hyn yn ymystwrian i dalu sylw i'r hen iaith Gym- raeg, o dan arweiniad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Profiad Cymra yw fodei Seis- nigo yn ei phaganeiddio. Yr eglwysi mwy- af anwybodus yn Nghymru yw'r eglwysi Seisonaeg bach sydd yn ein plith, ac y mae eglwysi Cymreig fei rbeol yn mhellaeh yn mlaen mewn gwybodaeth Feiblaidd ar eglwysi Seisnig. Ymfoneddieeiddio yw prif nod y Cymry a adawant eglwysi Cymreig i ymaelodi mewn capeli Seisonaeg, a magu yspryd mawreddog a balch, ac y mae y bobl a wnant hyn yn cymeryd y capel Seisonaeg yn borth i fyned i Eglwys Loegr. Ymffrostid eleni yn yr Undeb Cymreig Cynulleidfaol fod Anibyniaeth yn gallu gwneud darpariaeth ar gyfer y crach- od heisnig sydd yn Nghymru gystai ag Eglwys Loegr, yr hyn sydd gyfeiliornad mawr. Ysgol baratoawl i fyned i Eglwys

UNDEB CYNULLEIDFAOL LLOEGR…