Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Y GYNNWYSIAD. I
Y GYNNWYSIAD. I pjgwyddiadau, &c., 1 Trseddall a Damweiniau :— Carchara gliiwyr mewn mwnglawdd yn Wigan 2 YstormaralI. 2 Xrychineb mewn gwaith glo yn Ten-y-graig 2 y Br,Nvdlysoedd 2 Dr. Price 0 tlaen yr ynadon. 2 Telegrams o'r Telegraph Office 3 Hiaesioa am Eifionydd no on 3 A. B. 0. 3 gjaecllgaethan, &0., no n. 4 pAf Ertbyglau 4 Jfawjrddlon Cymrelg 5-6 Marchnadoedd » Goheblaethau 7 llysbysiadau 7-8
[No title]
Y dydd o'r bhen, rhoddai Iarll CAWDOR ganmoiiaeth uehel i Mr. GLADSTONE am ei hennodiadau eglwysig.' Gellid tybio ar ei al,b,: Tyd,liaeth ei fod yn ei hystyried yn gryn huaanymwadiad ynddo ef i wneyd yr addefiad hwu ond pa ham, nia gallwn ddyfalu, Er yn wrthwynebwr hollol i Mr. GLADSTONE mewn ystyr boliticiidd,' meddai, I nis gallaf lai na'i ediiaygu ar gyfrif y boen a gymmerir ganddo i clivtilio am glerigwyr gwir deilwng i'w dyroh- atu i fywiolaethau Eglwysig.' Ar y Haw Mall, yr ydym ninnau, er yn cyd-redeg a. Mr. LADSTONE mewn ystyr boliticaidd, yn ystyr- led mai y pennodiadau eglwysig hyn ydyw yr elfen wanaf' yn ei holl weithrediadau cy- kosddua. Onid Defodwyr, neu o leiaf IU chel- Eglwyswyr, ydyw naw yn mhob deg o'r rhai a ddyrchafir' ganddo Onid oes yn mysg o'erigwyr Efaugylaidd y Sefydliad rai yn teilyngu dyichafiad yn llawn cystal ag yn mhlith y blaid arall 1
[No title]
Ar ol lur ymgyndynu, syrthiodd y dir- f i wywyr o'r Transvaal i mewn a chynnygion laril DERBY yn nghylch y llinell derfyn; a clian mai hyn ydoedd yr asgwrn cynnhen rliyngddynt, gellir disgwyl eu gweled beHach VO dychwelyd vn ol i'w gwlad. Gan nad pa feadith arall a gawsant trwy eu hymweliad a Purydaiu teimlwn yn hyderus eu bod wedi eu hargylioeddi nas goddefir i'w cydwladwyr, yiuddwyn megys cynt, yn ol eu tueddiadau creulawn tuag at y brodorion. Os ceir eu bod yn y dyfodol yn eu saethu fel bwystfilod SwyiliioDj ae yn nadratta eu meddiannau Oddi arnyut, bydd ein Llywodraeth, ni a obeitbiwn, yn galw yr awdurdodau yn ddiat- reg, nid yn unig i attal y creulondeb, ond cosbi y creuloniaid hefyd. Ac onid ydoedd yn Hawn bryd rhoddi terfyn ar y fath ysgeler- derau ] Dysged y Bwriaid ymddwyn yn deilwng rhagll aw.
[No title]
Bwriada Mr. ARTHUR ARNOLD, A.S. alw y Wywodraeth mor gynted ag y caiff gyfleusdra at ua pwnc ag y mae gwir angen ei wyntyllio. Pn fydd aelad a Dy y Cyffredin yn cym- meryd swydd barhaol dan y Llywodraeth yr arfer gysson ydyw iddo roddi ei aelodaeth yn y Ty i fyny, a pheidio bod mwyach yn ddeddf- wneuthurwr. Ond, pan ddigwydda aelod o Dy yr Arglwyddi gael cynnyg ar, a derbyn swydd o'r fath, gall ef barhau i gadw ei aelodaeth. Teimla Mr. ARNOLD yn gryf yn eabyn gwneyd y gwahaniaeth hwn rhwng aelodau y ddau Dy. Nid y diwygiad y myn- ai efe ei weled yn cael ei roddi mewn gweith- rediad, hyd yr ydym ni yn ei ddeall, ydyw diddymmu y rheol yn ei pherthynas a'r Ty isaf, ond, yn hytrach ei rhoddi mewn grym mewn cyssylltiad a swydd garwyr pendefig- aidd y Ty uchaf. Diau nad oes un rheswm i'w ddwyn yn mlaen dros wneuthur y fath wahaniaeth rhwng ein seneddwyr a'u gilydd, a chymmeradwywn waith yr aelod anrhyd- eddus dros Salford yn cyhoeddi cad yn ei erbyn.
[No title]
Achos difrifol mewn gwirionedd oedd yr un y gwnaed dyfarniad ynddo yn mrawdlys Chelmsford ddydd Sadwrn. Yn mis Tach- wedd diweddaf, yr oedd ffermwr o'r enw ROWLEY mewn anhawsderau; ac er mwyn ymryddhau oddi wrthynt, fel y tebygai, efe a benderfynodd roddi ei ydlan ar dan, ac yna hawlio y mil punnan am ba rai yr oedd efe wedi ei hyswirio. Gydag ef yn y cynghrair diegwyddor yr oedd ei wraig. Yn wir, hi a roddodd y lie yn weithredol ar dan, canys yr oedd efe, yn gyfrwys, wedi myned i Lun- dain y noson hono, rhag ennyn drwgdybiaeth am dano. Gwnaed y gwaith gan y ddynes mor effeithiol, hefyd, fel y didystriwyd holl gynnyrch y gadlas. Y ty yn unig a arbed- wyd. Dadguddiwyd yr ystryw dwyllodrus i'r heddgeidwaid gan ddyn o'r enw HEDGES, i'r hwn y bu ROWLEY mor anwyliadwrus ag ymddiried y gyfiinach. Modd bynag, rhodd- wyd pum mlynedd o benyd-wasanaeth iddo ef, a blwyddyn o lafur caled i'r wraig.
[No title]
Taera y Toriaid mai unig amcan y Rhydd- frydwyr yn cyffroi y deyrnas gyda Mesur Helaethiad yr Etholfraint ydyw ennill chwaneg o bleidleisiau iddynt eu hunain. Ped ensyniem ninnau, mai eu cred mai Rhyddfrydwyr fydd yr Etholwyr newyddion ydyw yr achos eu bod hwythau am wrthwyn. ebu y mesur a'u holl egni, a fyddai ganddynt rywbeth i'w ddyweyd yn erbyn ? Ond, cam- ddarluniad dybryd a gwirfoddol ar ameanion y Weinyddiaeth ydyw yr haeriad digywilydd hwn. Gyda Mr. CHEETHAM, A.S. yn Accring- ton, dywedwn, gan nad pa un o'r ddwy blaid fydd yn debyg o fanteisio arno, Idylid ei basio, am fod eyfiawnder yn galw am dano.' Gwir mai y Rhyddfrydwyr a ennillodd fwyaf ar fesurau y Diwygiad yn 1832, ac 1867; ac hwyrach mai hwynthwy fydd ar eu hennill ar hwn yn ogystal. Ond nid hynyna ydyw y cwestiwn meddwn, etto. Syched y Tot laid y llwch o'a llygaid; boed iddynt garthu rhag- farn o'u calonnau hefyd; ac yna ymroddi i wneyd yr hyn sydd onest a chyfiawn gan nad pwy fydd ar es fantais.
[No title]
Methu dyfod i benderfyniad pa fodd i Metha dyfoil i benderfyniad fodd i I weithredu ynglyn â.'r Soudan ydyw profedig-! aeth bresennol Llywodraeth Twrci. Gwir fod y Weinyddiaeth, mewn cyfarfod a gyn- naliwyd ganddi yr wythnos cyn y ddiweddaf, wedi tynu allan ffurf o gylchlythyr i'w anfon allan at holl wledydd Ewrop, i brotestio yn erbyn gwaith Prydain yn cynghori, neu yn hytrach yn gorfodi, yr Aipht i roddi y dir- iogaeth i fyny i'r MAHDI,' am nad oes gan y Rhaglaw hawl i ollwng gafael o unrhyw ran o'i deyrnas heb ganiatad ei benadur. Ond, er fod y llythyr wedi ei ysgrifenu, gwrthoda y Sultan roddi ei enw wrtho, am nas gall efe wneyd ei feddwl i fyny ar briodoldeb y peth. Yr hyn a wneir yn y dyddiau hyn ydyw, ymgynghori' a'r amrywiol lysgenhadon sydd yn Nghaer Cystenyn ar y pwngc, ond heb gael' gweledigaeth eglur' etto. Nid ydynt er hyny, meddir, wedi rhoddi i fyny bob bwriad o anfon byddin drosodd; a chondemn- iant y Rhaglaw yn d6st am ei wlaneneidd- iwch.' Da i TEWFIK PASHA yn awr fod aden Prydain yn gysgod drosto. Ei ddiswyddo a gawsai yn ddiseremoDi, oni bae hyny.
[No title]
Diod-yr unig elyn ofnadwy iawn sydd gan Frydain i'w ofni.' Er ein bod mewn en- bydrwydd oddi wrth heintiau a chlefydon; er y gallai daeargrynfaau wneyd dinystr annaele arnom; ae er nad ydym yn gwbl ddiberygl oddi wrth ymosodiadau gelynion milwraidd arnom oddi allan, 'yr unig elyn ofnadwy sydd genym i'w ofni ydyw y ddiod.' Aw- dwr y frawddeg gynnwysfawr hon yw y Due o Albany, mab ieuengaf y Frenhines. A fyddai yn ormod ynom ddyweyd na thraeth- wyd mwy o wir mewn llai o le gan dywysog erioed ? Arwydd dda ydyw fod gwr o ddyl- anwad y due yn meddu llygad digon craff i weled ein perygl penaf fel gwladwriaeth, a chalon ddigon gwrol i wneyd ei oreu i'w wrth- sefyll. Ni a obeithiwn-fod y Due o Albany yn ddirwestwr ymarferol, ae os ydyw, bydd ei esiampl yn debyg o gael ei dilyn gan liaws yn y cylchoedd uchel y mae yn troi ynddynt. Byddai hanner dwsin o'r fath yn I d*r o nerth' i achos sobrwydd. Yn Liverpool, ddydd Sadwrn diweddaf, wrth ranu gwobrwyon i blant ysgolion dyddiol y dywedodd y geiriau la ddyfynwyd, pryd y rhoddodd hefyd, gan- moliaeth uehel i'r ymdrecbion a wneir i sef- ydlu cocoa rooms, a thafarnau coffi' yn ein, prif drefydd.
[No title]
Ni welwyd y blaid Ryddfrydig yn fwy un- ol ar unrhyw fesur erioed nag y mae hi yn awr ar gwestiwn helaethiad yr etholfraint; a phe digwyddai y fath beth (o'r hyn nad oes y perygl lleiaf) ag i'r Weinyddiaeth newid ei meddwl, a pheidio dwyn ei mesur arno i mewn yn yr eisteddiad fydd yn dechreu yr wythnos nesaf, ni raid petruso dyweyd y byddai yn ddigon i'w dymchwelyd bendram- wnwgl, ac i ddinystrio pob mymryn o ddy- lanwad a fedd yn y wlad. Nid ar egwyddor y mesur yn unig y mae y blaid yn ucol, chwaith; ond ar ei fanylion yn ogystal. Fel y dywedodd Mr. LEAKE, A. S., yn Rochdale, nos Sadwrn diweddaf, 'Nid oes un Rhyddfrydwr yn ei synwyr nad yw yn awr yn barod i gyn- nwys yr Iwerddon o fewn y mesur.' Buwyd unwaith yR ofni llawer ar y pen hwn, ac hefyd ynglyn a chwestiwn 'y rhydd-ddeiliad deugain Bwllt'. Hyd yn oed ynglyn â'r 'creaduryn' hynod hwn, ffynna barn unfryd yn awr. Ar yr ammod, ei fod yn cael ei gadw rhag meddu nifer aneirif o bleidleisian -'y ffagodau', fel eu gelwir—mewn amryfal fannau.
[No title]
Yn mysg y Hiaws haeriadau ynfyd a wnaed gan Arglwydd RANDOLPH CHURCHILL yn ei araeth ddiweddaf, dywedodd nad ydyw y fyddin Brydeinig mewn gwirionedd yn werth siarad yn ei chylch, chwaithach rhoddi ym- ddiried ynddi, gan mor aneffeithiol ydyw. Nid ydym yn deall fod gan ei arglwyddiaeth unrhyw alluoedd neillduol i farnu, na man- teision arbenig i wybod, am nerth na medr ein byddin. Ar y llaw arall, medda y Cad- fridog Arglwydd WOLSELEY y naill ar Hall; a thystiai efe, mewn cyfarfod a gynnaliwyd yn Llundain nos Sadwrn diweddaf, fod 'y fyddin yn awr, a chymmeryd swyddog am swyddog, a dyn am ddyn, yn fwy effeithiol nag ydoedd cyn rhyfel y Crimea.' Un bai yn unig a berthyn iddi, medd yr awdurdod uchaf a feddwn ar faterion milwraidd :—rhy fychan o 'wyr traed' sydd genym. Nid ydym ni yn myned i ddyweyd gair y naill ffordd na'r llall ar y mater, wrth gwrs, ond yn unig awgrymu mai gair y cadfridog a ddylid ei dderbyn ar gwestiwn o fath hwn, yn hytrach nag eiddo blaenor y bedwaredd blaid,' yr hwn nas gwyr ddim am yr hyn y baldorddai mor dafodrydd yn ei gylch.
[No title]
Pan oedd ein llywodraeth yn darostwng gwrthryfel ARABI PASHA cofus gan ein dar- llenwyr fod y Cadben PALMER wedi ei anfon i anialwch Sinai gydag un neu ddau o swydd- ogion Prydeinig eraill, i geisio cael gan y pennaethiaid Arabaidd i beidio rhoddi eu cynnorthwy i'r gwrthryfelwyr. Er fod Mr. PALMER wedi treulio blynyddoedd yn mysg Ismaeliaid y diffaethweh, ac yn wastad ar y telerau mwyaf cyfeillgar gyda hwy, etto pan yn cychwyn i'r ymdaith hon meddiannid ef gan deimladau drwg-ddaroganiadol na phrof- odd mo honynt erioed yn flaenorol. Ysywaeth, sylweddolwyd ei ofnau. Bradlofruddiwyd el yn ysgeler, er mwyn cael meddiant o'r arian: oedd ganddo. Dywedir fod y Cadfridog GORDON, hefyd—y dewraf yn mysg dewrion -yn cael ei feddiannu gan deimladau argoel- us cyffelyb yn y dyddiau hyn. Ni a obeith- iwn na sylweddolir ei ofnau ef, pa fodd bynag. Ond pan gofiom nad oes ganddo ddim llai na chan mil o bunnau yn ei logell, a'i fod yn anturio i ganol dyhirogod nas gellir ymddir- ied y gronyn lleiaf ynddynt, heb unrhyw os- gordd i'w amddiffyn, rhaid addef fod ei sef- yllfa yn un wir beryglus.
[No title]
Yr ydys wedi cynnefino bellach a Byddin yr Rhuban Glas, Y Temlwyr Da, a Byddin yr Iachawdwriaeth,' fel cymdeithasau daionus a llwyddiannus yn brwydro yn egnïol yn erbyn meddwdod. Ond nid pawb hwyrach sydd yn hysbys o'r symmudiad sydd wedi ei gychwyn yn y deyrnas hon er's blwyddyn neu ddwy, dan yr enw Y Groes Wen.' Cy- hoedda y gymdeithas hon ei rhyfel yn erbyn gelyn arall llawn mor beryglus a meddwdod, a llawer mwy ffiaidd, ac anhawdd ym- godymu ag ef. Anniweirdeb ydyw yr hyn y eyfeiriwn ato. Addefir gan bawb sydd wedi talu sylw i'r cwestiwn fod y pechod aflan hwn yn uwch ei ben yn Mhrydain yn awr nag y bu erioed. Dywedir fod heddgeid- waid Liverpool yn adnabod o leiaf deuddeng mil o fenywaid sydd yn butteiniaid cyhoeddus a digywilydd yn y ddinas hono. Cyffelyb ydyw yn mhob tref arall hefyd, yn ol ei maint. Nis gall ffaith o fath hon lai na chynnyrchu difrifwch yn mhob dyn a dynes ystyriol; a'n dymuniad rhwydd-galon ydyw am i lwydd- iant mawr fod ar ymdrechion 'Byddin y Groes Wen.'
[No title]
Yn yr oedran cynnarol o un mlwydd ar ddeg a deugain, collodd Ynys Mon, ddydd Llun diweddaf, un o'i phendefigion mwyaf adnabyddus trwy farwolaeth-sef, Syr RICH- ARD LEWIS MOSTYN WILLIAMS-BULKELEY, Barwnig, o Fryn y Barwn, ger Beaumaris. Perthynai yr ymadawedig i un o hen deulu- oedd mwyaf urddasol y Dywysogaeth aelodau yr hwn sydd wedi bod yn llanw agos bob swydd gyhoeddus o'i mewn er's pum can mlynedd. Efe oedd yr unfed barwn ar ddeg o'r llinach. Yn y flwyddyn 1534, yr I urdd. wyd' y barwnig cyntaf. Hyd farwolaeth tad y pendefig sydd yn awr newydd ein gadael, i'r blaid Ryddfrydig-neu, yn hytrach, i'r Chwigiaid—y rhoddai teulu Bryn y Barwn eu cefnogaeth wresog; ond etholiad cyffred- inol 1874, mynodd ef ddyfod allan yn ym. geisydd i'r Ceidwadwyr, yn erbyn Mr. RICH- ARD DAVIES, A. s., am gynnrychiolaeth M6n; tra y rhoddai ei dad (yr hwn na bu farw hyd y flwyddyn ganlynol), ei gefnogaeth i Mr. MORGAN LLOYD yn y bwrdeisdrefi. Wedi ei drechu y pryd hwnw, modd bynag, cadwodd Syr RICHARD ei hun allan o'r holl frwydrau politicaidd.
[No title]
Nos Lun, cynnelid gyl fawr gan Geidwad- wyr Treffynon, a rhag ofn na fuasai gan y doniau lleol ddigon i'w ddyweyd, penderfyn- wyd cael Mr. CECIL RAIKES yno. Wrth gwrs, Did oedd pall ar lithrigrwydd ei dafod f. Y pwngc a roddwyd iddo i'w brofi yd- oedd fod y llywodraeth bresennol yn annheil- Wil" o ymddiried y wlad; ac wrth gwrs, ffwnaeth hyny er boddlonrwydd iddo ei hun, ac argyhoeddiad i'r brodyr,' trwy haeru, yn y ile cyntaf, os bydd y Cadfridog GORDON yn ilwyddiannus yn y Soudan, mai am fod y llywodraeth wedi taflu y cynlluniau oedd gan- ddi chwe mis yn ol i'r pedwar gwynt y bydd efe felly, yn yr ail lie ei bod wedi gorfod newid ei meddwl, neu, a defnyddio ei ymad- rodd llednais ef tynu ei chyrn ati,' ar fesur lLDERT yn yr India, hefyd, nad oes un lyw- odraeth wedi bod erioed yn Mrydain ag y mae y gwaith o 'dynu ei chyrn ati' yn fwy cyn- netin iddi (os felly, gyda'r eithriad o Weinydd- iaeth Arglwydd BEACONFIELD, Mr. RAIKES); ac yn y pedwerydd lie, y mae ei hymddygiad- au hug at Guinea Newydr1, a threfedigaethau Awstraliii, yn ei dangos allan fel un hollol an- nhriilwDg o unrhyw ymddiried., Ag ysbwrial, hawdd gweled trwyddo, o'r fath yna y cadarn- lieid Ceidwadwyr Treffynnon yn y ffydd!
[No title]
Gresynus genym orfod cofnodi fod yr hyn sydd yn debyg iawn o droi allan yn llofrudd- iaeth o'r fath fwyaf bwystfilaidd wedi ei ddar- ganfod yn Rhymni. Prydnawn Sabboth diweddaf, daethpwyd o hyd i gorph gwnied- ydd o'r enw WILLIAM JONES yn gorwedd mewn ffos yn ymyl capel Penuel, ac olion camdriniaeth anfad arno. Yr oedd ei ben a'i wyneb wedi eu tori a'u dryllio yn ddychryn- llyd, a phob path yn dangos mai dan ddwy- law llofrudd y collasai y truan ei fywyd. Oherwydd rhywbeth neu gilydd, ar Wyddel o'r enw PATRICK CALLAGHAN y syrthiodd ammheuaeth. Ni bu yr heddgeidwaid ond ennyd fer yn cael gafael arno. Wrth gwrs, gwadai ei fod yn gwybod dim am yr anfad. waith; ond yn ei feddiant, cafwyd rhai nwyddau ag y gwyddid eu bod yn eiddo y dyn llofruddiedig: ac os myn efe glirio ei hun, rhaid iddo roddi cyfrif boddhaol am y pethau hyn yn gyntaf.